Tafarn Barmouth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Tafarn Barmouth''' oedd un o bedair tafarn ar brif stryd pentref [[Llanllyfni]]. Safai ar gornel y lôn sydd yn arwain heibio i ble mae’r [[Ysgol Llanllyfni|ysgol gynradd]] heddiw, a chyferbyn â [[Capel Salem (MC), Llanllyfni|Chapel Salem]]. Dichon mai gwasanaethu rhan uchaf y pentref a’r tyddynnod gerllaw ydoedd. | '''Tafarn Barmouth''' oedd un o bedair tafarn ar brif stryd pentref [[Llanllyfni]]. Safai ar gornel y lôn sydd yn arwain heibio i ble mae’r [[Ysgol Llanllyfni|ysgol gynradd]] heddiw, a chyferbyn â [[Capel Salem (MC), Llanllyfni|Chapel Salem]]. Dichon mai gwasanaethu rhan uchaf y pentref a’r tyddynnod gerllaw ydoedd. | ||
Roedd y dafarn yn agored erbyn 1851 pan geir manylion am y tafarnwr yn y Cyfrifiad. Yr adeg honno, Mary Edwards, 43 oed, oedd yn cadw’r dafarn, a Mary Edwards arall, pymtheg mlynedd yn iau yno hefyd – rhaid tybio mai mam a merch oedd y ddwy hyn. Am ryw reswm, nid yw’r Barmouth yn cael ei nodi yn nogfennau Cyfrifiad 1871 ond, erbyn 1881, Hugh Williams, saer maen, oedd yn cadw’r dafarn fel ffordd o ennill mwy o arian. Erbyn y 1890au, roedd plaid Dirwest yn gryf trwy'r fro, a gwrthwynebwyd adnewyddu trwydded y dafarn ym 1892 er i'r ynadon yn y Llys Drwyddedu ei chaniatáu (o un pleidlais yn unig), ac fe arhosodd ar agor.<ref>''North Wales Chronicle'', 17.9.1892, t.6</ref> Ymhen naw mlynedd, Owen Hughes, chwarelwr 26 oed, oedd y landlord, ac ym 1901, y landlord oedd John Roberts, masnachwr glo 34 oed. <ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1841-1901</ref> | |||
Pan ddaeth yr amser i ynadon y sir adnewyddu trwyddedau tafarndai fis Mawrth 1909, ni soniwyd am Dafarn Barmouth, a dywedwyd yn y llys mai tair tafarn oedd yn y pentref, sef [[Tafarn y King's Head]], y [[Tafarn y Cwari|Quarryman’s Arms]] a [[Tafarn y Ffort|Thafarn y Ffort]].<ref> | Pan ddaeth yr amser i ynadon y sir adnewyddu trwyddedau tafarndai fis Mawrth 1909, ni soniwyd am Dafarn Barmouth, a dywedwyd yn y llys mai tair tafarn oedd yn y pentref, sef [[Tafarn y King's Head]], y [[Tafarn y Cwari|Quarryman’s Arms]] a [[Tafarn y Ffort|Thafarn y Ffort]].<ref>''North Wales Express'', 12.3.1909, t.3</ref> Mae’n amlwg felly fod y dafarn wedi ei chau am y tro olaf rywbryd rhwng 1901 a 1909, a hynny'n ôl pob tebyg ym 1903 pan fu'r ynadon yn gwrthod adnewyddu sawl trwydded yn yr ardal. Erbyn hynny roedd y Barmouth wedi ei phrynu gan gwmni Greenall Whitley.<ref>''Gwalia'', 10.3.1903, t.8</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:37, 13 Tachwedd 2023
Tafarn Barmouth oedd un o bedair tafarn ar brif stryd pentref Llanllyfni. Safai ar gornel y lôn sydd yn arwain heibio i ble mae’r ysgol gynradd heddiw, a chyferbyn â Chapel Salem. Dichon mai gwasanaethu rhan uchaf y pentref a’r tyddynnod gerllaw ydoedd.
Roedd y dafarn yn agored erbyn 1851 pan geir manylion am y tafarnwr yn y Cyfrifiad. Yr adeg honno, Mary Edwards, 43 oed, oedd yn cadw’r dafarn, a Mary Edwards arall, pymtheg mlynedd yn iau yno hefyd – rhaid tybio mai mam a merch oedd y ddwy hyn. Am ryw reswm, nid yw’r Barmouth yn cael ei nodi yn nogfennau Cyfrifiad 1871 ond, erbyn 1881, Hugh Williams, saer maen, oedd yn cadw’r dafarn fel ffordd o ennill mwy o arian. Erbyn y 1890au, roedd plaid Dirwest yn gryf trwy'r fro, a gwrthwynebwyd adnewyddu trwydded y dafarn ym 1892 er i'r ynadon yn y Llys Drwyddedu ei chaniatáu (o un pleidlais yn unig), ac fe arhosodd ar agor.[1] Ymhen naw mlynedd, Owen Hughes, chwarelwr 26 oed, oedd y landlord, ac ym 1901, y landlord oedd John Roberts, masnachwr glo 34 oed. [2]
Pan ddaeth yr amser i ynadon y sir adnewyddu trwyddedau tafarndai fis Mawrth 1909, ni soniwyd am Dafarn Barmouth, a dywedwyd yn y llys mai tair tafarn oedd yn y pentref, sef Tafarn y King's Head, y Quarryman’s Arms a Thafarn y Ffort.[3] Mae’n amlwg felly fod y dafarn wedi ei chau am y tro olaf rywbryd rhwng 1901 a 1909, a hynny'n ôl pob tebyg ym 1903 pan fu'r ynadon yn gwrthod adnewyddu sawl trwydded yn yr ardal. Erbyn hynny roedd y Barmouth wedi ei phrynu gan gwmni Greenall Whitley.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma