Hugh Beaver Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Hugh Beaver Roberts''' (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor, er iddo hanu o Sir y Fflint. Bu'n byw am gyfnod helaeth ym Mhlas Llanddoged ger Llanrwst. Daeth yn berchennog ar Ystad Croesor, gan ddatblygu'r pentref, ac adeiladu Tramffordd Croesor i gludo llechi o'im chwarel o a chwareli eraill y dyffryn.<ref>Gwefan Heneb, [http://www.heneb.co.uk/hlc/ffestiniog/ffest11.html], cyrchwyd 7.1.2022</ref>
Roedd '''Hugh Beaver Roberts''' (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor. Er iddo gael ei eni yng Nghilcain, Sir y Fflint, cartref ei dad, Hugh Roberts, oedd tŷ o'r enw Glan-y-Fenai, Llandegfan. Roedd teulu ei fam, Anne Beaver, yn byw yn Glyn Garth.<ref>Cyfarwyddiadur Kelly, 1901; J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.134. </ref> Priododd ym 1848 â Harriet Wyatt (ganed 1822), merch James Wyatt, Plas Gwynant, Llandygái. Yn ddyn teulu, bu'n byw yn Wellfield House, Bangor gyda'i wraig, tri mab a merch, pedair morwyn ac athrawes breifat ar gyfer y plant.<ref>Cyrfifiad Bangor 1861</ref> Erbyn 1871, roedd wedi symud gyda'i wraig a'i ferch i Milverton, Swydd Warwig, er ei fod yn dal yn gofrestrydd Llys Profiant Bangor. Yn ddiweddarach, golygodd ei holl ddiddordebau busnes amrywiol ei fod yn gorfod byw oddi cartref am gyfnodau, gan aros mewn llety ym Marylebone, Llundain.<ref>Cyfrifiad St Marylebone, Llundain, 1881,1891</ref> Bu farw ei wraig Harriet ym 1899.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.134. </ref> Erbyn 1901 roedd yn lletya yn Green Bank, Bangor.<ref>Cyfrifiad Bangor 1901</ref>  Fe'i claddwyd ym mynwent Llandegfan, nid nepell o gartref ei deulu.<ref>Archifdy Ynys Môn, Cofrestr plwyf Llandegfan, 1903</ref>


Fel dyn busnes a chyfalafwr, roedd yn edrych am gyfleoedd i fuddsoddi, ac mi gymerodd ddiddordeb yn [[Chwarel Braich]] ar lethrau [[Moel Tryfan]] ym 1868, gan ei redeg wedyn dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]], oherwydd (mae'n debyg) ei awydd i gael gwell ffordd o symud llechi o'i chwarel at y farchnad. Roedd ei brofiad gyda Thramffordd Croesor, a'i gysylltiad â'r rheilffordd gul a oedd wedi cyrraedd [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn|Bryngwyn]] yn help iddo weld potensial am gysylltu Chwarel Braich â rhwydwaith tramffyrdd ucheldir [[Uwchgwyrfai]].
Bu'n ynad heddwch mewn tair sir, ac yn ddirprwy arglwydd raglaw dros Sir Feirionnydd.<ref>Cyfarwyddiadur Kelly, 1901</ref>
 
Daeth yn berchennog ar Ystad Croesor, gan ddatblygu'r pentref ac adeiladu Tramffordd Croesor i gludo llechi o'i chwarel ei hun a chwareli eraill y dyffryn.<ref>Gwefan Heneb, [http://www.heneb.co.uk/hlc/ffestiniog/ffest11.html], cyrchwyd 7.1.2022</ref>
 
Fel dyn busnes a chyfalafwr, roedd yn edrych am gyfleoedd i fuddsoddi, a chymerodd ddiddordeb yn [[Chwarel Braich]] ar lethrau [[Moel Tryfan]] ym 1868, gan ei rhedeg wedyn dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]], oherwydd (mae'n debyg) ei awydd i gael gwell ffordd o symud llechi o'i chwarel at y farchnad. Roedd ei brofiad gyda Thramffordd Croesor, a'i gysylltiad â'r rheilffordd gul a oedd wedi cyrraedd [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn|Bryngwyn]], yn help iddo weld potensial i gysylltu Chwarel Braich â rhwydwaith tramffyrdd ucheldir [[Uwchgwyrfai]].


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:39, 5 Mehefin 2022

Roedd Hugh Beaver Roberts (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor. Er iddo gael ei eni yng Nghilcain, Sir y Fflint, cartref ei dad, Hugh Roberts, oedd tŷ o'r enw Glan-y-Fenai, Llandegfan. Roedd teulu ei fam, Anne Beaver, yn byw yn Glyn Garth.[1] Priododd ym 1848 â Harriet Wyatt (ganed 1822), merch James Wyatt, Plas Gwynant, Llandygái. Yn ddyn teulu, bu'n byw yn Wellfield House, Bangor gyda'i wraig, tri mab a merch, pedair morwyn ac athrawes breifat ar gyfer y plant.[2] Erbyn 1871, roedd wedi symud gyda'i wraig a'i ferch i Milverton, Swydd Warwig, er ei fod yn dal yn gofrestrydd Llys Profiant Bangor. Yn ddiweddarach, golygodd ei holl ddiddordebau busnes amrywiol ei fod yn gorfod byw oddi cartref am gyfnodau, gan aros mewn llety ym Marylebone, Llundain.[3] Bu farw ei wraig Harriet ym 1899.[4] Erbyn 1901 roedd yn lletya yn Green Bank, Bangor.[5] Fe'i claddwyd ym mynwent Llandegfan, nid nepell o gartref ei deulu.[6]

Bu'n ynad heddwch mewn tair sir, ac yn ddirprwy arglwydd raglaw dros Sir Feirionnydd.[7]

Daeth yn berchennog ar Ystad Croesor, gan ddatblygu'r pentref ac adeiladu Tramffordd Croesor i gludo llechi o'i chwarel ei hun a chwareli eraill y dyffryn.[8]

Fel dyn busnes a chyfalafwr, roedd yn edrych am gyfleoedd i fuddsoddi, a chymerodd ddiddordeb yn Chwarel Braich ar lethrau Moel Tryfan ym 1868, gan ei rhedeg wedyn dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, oherwydd (mae'n debyg) ei awydd i gael gwell ffordd o symud llechi o'i chwarel at y farchnad. Roedd ei brofiad gyda Thramffordd Croesor, a'i gysylltiad â'r rheilffordd gul a oedd wedi cyrraedd Bryngwyn, yn help iddo weld potensial i gysylltu Chwarel Braich â rhwydwaith tramffyrdd ucheldir Uwchgwyrfai.

Cyfeiriadau

  1. Cyfarwyddiadur Kelly, 1901; J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.134.
  2. Cyrfifiad Bangor 1861
  3. Cyfrifiad St Marylebone, Llundain, 1881,1891
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.134.
  5. Cyfrifiad Bangor 1901
  6. Archifdy Ynys Môn, Cofrestr plwyf Llandegfan, 1903
  7. Cyfarwyddiadur Kelly, 1901
  8. Gwefan Heneb, [1], cyrchwyd 7.1.2022