Camdda'r Bwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 3: Llinell 3:
Mae'r ffermdy, a adeiladwyd mae'n debyg yn y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn sefyll ar lethr i'r gorllewin o bentref Clynnog ac yng nghysgod y gefnen uchel sy'n ymestyn o Glynnog i gyfeiriad [[Gurn Goch]]. Mae golygfeydd ysblennydd oddi yno dros [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]] ac Ynys Môn. Ychydig o dir sy'n perthyn i'r fferm bellach, ond ar un adeg roedd yn dyddyn sylweddol.  
Mae'r ffermdy, a adeiladwyd mae'n debyg yn y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn sefyll ar lethr i'r gorllewin o bentref Clynnog ac yng nghysgod y gefnen uchel sy'n ymestyn o Glynnog i gyfeiriad [[Gurn Goch]]. Mae golygfeydd ysblennydd oddi yno dros [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]] ac Ynys Môn. Ychydig o dir sy'n perthyn i'r fferm bellach, ond ar un adeg roedd yn dyddyn sylweddol.  


Am nifer o flynyddoedd bu amryw o fyfyrwyr [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]], a gynhelid yn yr Ysgoldy, sydd bellach yn gartref i [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai|Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai]], yn lletya yng Nghamdda'r Bwth. Daeth un ohonynt yn un o ysgolheigion amlycaf Cymru yn hanner cyntaf yr 20g, sef Yr Athro [[Syr Ifor Williams|Ifor Williams]], a wnaeth waith arloesol yn dehongli'r farddoniaeth Gymraeg gynharaf a thestunau rhyddiaith yr Oesoedd Canol. Un arall a fu'n lletya yng Nghamdda'r Bwth oedd yr heddychwr a'r newyddiadurwr Percy Ogwen Jones, tad y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones a Geraint Percy Jones.  
Am nifer o flynyddoedd bu amryw o fyfyrwyr [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]], a gynhelid yn yr Ysgoldy, sydd bellach yn gartref i [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai|Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai]], yn lletya yng Nghamdda'r Bwth. Daeth un ohonynt yn un o ysgolheigion amlycaf Cymru yn hanner cyntaf yr 20g, sef Yr Athro [[Syr Ifor Williams|Ifor Williams]], a wnaeth waith arloesol yn dehongli'r farddoniaeth Gymraeg gynharaf a thestunau rhyddiaith yr Oesoedd Canol. Yn wir, Camdda'r Bwth oedd prif 'neuadd breswyl' Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, a dywed Percy Ogwen Jones yn ei atgofion am ei gyfnod yn yr Ysgol yr arferai hanner dwsin o fyfyrwyr letya'n gyson yng Nghamdda'r Bwth (roedd hyn ym mlynyddoedd cynnar yr 20g).


Oddeutu 1970 cafodd Camdda'r Bwth beth anfarwoldeb yn un o gerddi troeon trwstan [[Wil Parsal]] yn ''Yr Herald Cymraeg''. Bryd hynny Ifan Pritchard y gof a'i wraig, Laura, oedd yn byw yno ac un diwrnod, tra oedd y ddau'n cael cyntun bach ar ôl cinio, gwelodd un o'r gwartheg fod drws y cefn yn agored a daeth i mewn i'r gegin ac achosi tipyn go lew o lanast! Daeth y stori i glyw Wil Parsal a'r wythnos ganlynol yn yr ''Herald'' ymddangosodd y gân ddoniol "Mw-tel Camdda'r Bwth" (arferai Ifan a Laura Pritchard gadw ymwelwyr gwely a brecwast bryd hynny). Dyma dri phennill i flasu:
Oddeutu 1970 cafodd Camdda'r Bwth beth anfarwoldeb yn un o gerddi troeon trwstan [[William Jones (Wil Parsal)]] yn ''Yr Herald Cymraeg''. Bryd hynny Ifan Pritchard y gof a'i wraig, Laura, oedd yn byw yno ac un diwrnod, tra oedd y ddau'n cael cyntun bach ar ôl cinio, gwelodd un o'r gwartheg fod drws y cefn yn agored a daeth i mewn i'r gegin ac achosi tipyn go lew o lanast! Daeth y stori i glyw Wil Parsal a'r wythnos ganlynol yn yr ''Herald'' ymddangosodd y gân ddoniol "Mw-tel Camdda'r Bwth" (arferai Ifan a Laura Pritchard gadw ymwelwyr gwely a brecwast bryd hynny). Dyma dri phennill i flasu:


   A'm gwared! Wel, sôn am alanst,  
   A'm gwared! Wel, sôn am alanst,  

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:57, 7 Chwefror 2023

Ffermdy ar gyrion Clynnog Fawr yw Camdda'r Bwth, neu Camfa'r Bwth.

Mae'r ffermdy, a adeiladwyd mae'n debyg yn y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn sefyll ar lethr i'r gorllewin o bentref Clynnog ac yng nghysgod y gefnen uchel sy'n ymestyn o Glynnog i gyfeiriad Gurn Goch. Mae golygfeydd ysblennydd oddi yno dros Fae Caernarfon ac Ynys Môn. Ychydig o dir sy'n perthyn i'r fferm bellach, ond ar un adeg roedd yn dyddyn sylweddol.

Am nifer o flynyddoedd bu amryw o fyfyrwyr Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, a gynhelid yn yr Ysgoldy, sydd bellach yn gartref i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn lletya yng Nghamdda'r Bwth. Daeth un ohonynt yn un o ysgolheigion amlycaf Cymru yn hanner cyntaf yr 20g, sef Yr Athro Ifor Williams, a wnaeth waith arloesol yn dehongli'r farddoniaeth Gymraeg gynharaf a thestunau rhyddiaith yr Oesoedd Canol. Yn wir, Camdda'r Bwth oedd prif 'neuadd breswyl' Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, a dywed Percy Ogwen Jones yn ei atgofion am ei gyfnod yn yr Ysgol yr arferai hanner dwsin o fyfyrwyr letya'n gyson yng Nghamdda'r Bwth (roedd hyn ym mlynyddoedd cynnar yr 20g).

Oddeutu 1970 cafodd Camdda'r Bwth beth anfarwoldeb yn un o gerddi troeon trwstan William Jones (Wil Parsal) yn Yr Herald Cymraeg. Bryd hynny Ifan Pritchard y gof a'i wraig, Laura, oedd yn byw yno ac un diwrnod, tra oedd y ddau'n cael cyntun bach ar ôl cinio, gwelodd un o'r gwartheg fod drws y cefn yn agored a daeth i mewn i'r gegin ac achosi tipyn go lew o lanast! Daeth y stori i glyw Wil Parsal a'r wythnos ganlynol yn yr Herald ymddangosodd y gân ddoniol "Mw-tel Camdda'r Bwth" (arferai Ifan a Laura Pritchard gadw ymwelwyr gwely a brecwast bryd hynny). Dyma dri phennill i flasu:

  A'm gwared! Wel, sôn am alanst, 
    'Roedd llyn mawr o ddŵr ar y llawr,
  Ei chynffon oedd yn y "sink unit",
     A'i thrwyn mewn tun bisged go fawr.
  Waeth heb na manylu dim rhagor,
     A gorau po leiaf i'w ddweud;
  Mae gennych chi syniad fel finnau
     Am lanast all mw-mw ei wneud. 
   Difrifol i'r eitha, ddarllenwyr;
      'Roedd yma sefyllfa bur dlws;
   Rwy'n deall mai hefo fforc dostio
      Y gyrrodd hi'r mw-mw drwy'r drws.[1] 

Cyfeiriadau

  1. Parsal Wil. Cerddi Wil Parsal, (Caernarfon, Gwasg yr Herald, 1972), t.142