Hynt Gwerinwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cyfrol hunangofiannol o waith John Williams (J.W. Llundain) yw ''Hynt Gwerinwr'' a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 1943. Roedd J.W. yn frawd hŷn i'r hanesydd W. Gi...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Cyfrol hunangofiannol o waith John Williams (J.W. Llundain) yw ''Hynt Gwerinwr'' a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 1943. Roedd J.W. yn frawd hŷn i'r hanesydd W. Gilbert Williams ac fe'i ganed yn Nhŷ'r Capel, Rhostryfan ar 22 Medi 1872. Yn y gyfrol cawn ganddo dipyn o gefndir bro ei febyd ac fel y dechreuodd y chwareli llechi ar y llethrau uwchlaw gael eu datblygu a'u ehangu. Mae'n ymdrin tipyn â'i rieni gan ddisgrifio sut y daeth ei dad yn ddyn diwylliedig er iddo ddechrau gweithio yn Chwarel y Cilgwyn cyn bod yn ddeg oed. Fel ei fab, Gilbert, yn ddiweddarach, cyfrannodd John Williams, y tad, erthyglau i ''Cymru'' O.M. Edwards, gan gynnwys hanes ei flynyddoedd cyntaf yn y chwarel ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  
Cyfrol hunangofiannol o waith [[John Williams (J.W. Llundain)]] yw ''' ''Hynt Gwerinwr'' ''' a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 1943.<ref>John Williams (J.W. Llundain), ''Hynt Gwerinwr'', (Lerpwl, Rhagfyr 1943).</ref> Roedd J.W. yn frawd hŷn i'r hanesydd [[W. Gilbert Williams]] ac fe'i ganed yn Nhŷ'r Capel, [[Rhostryfan]] ar 22 Medi 1872. Yn y gyfrol cawn ganddo dipyn o gefndir bro ei febyd ac fel y dechreuodd y chwareli llechi ar y llethrau uwchlaw gael eu datblygu a'u ehangu. Mae'n ymdrin tipyn â'i rieni gan ddisgrifio sut y daeth ei dad yn ddyn diwylliedig er iddo ddechrau gweithio yn [[Chwarel Cilgwyn]] cyn bod yn ddeg oed. Fel ei fab, Gilbert, yn ddiweddarach, cyfrannodd John Williams, y tad, erthyglau i ''Cymru'' O.M. Edwards, gan gynnwys hanes ei flynyddoedd cyntaf yn y chwarel ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  

Ymdrinia J.W yn ''Hynt Gwerinwr'' hefyd â diffygion affwysol y drefn addysgol a fodolai pan oedd yn blentyn a'r Seisnigrwydd cibddall a di-ystyr a wthiwyd arno ef a'i gyd-ddisgyblion yn Ysgol Rhostryfan. Gadawodd yr ysgol yn dair ar ddeg oed heb i'w awydd am addysg gael ei fodloni o gwbl ac aeth gyda'i dad i weithio i Chwarel y Braich rhwng Moeltryfan a'r Cilgwyn. Mae ei bennod ar y chwarel yn rhoi sylw i'r dulliau gweithio gwael a hynod beryglus a geid yn y diwydiant llechi bryd hynny, yn ogystal â'r cymeriadau solet a brith a geid yno.  
Ymdrinia J.W yn ''Hynt Gwerinwr'' hefyd â diffygion affwysol y drefn addysgol a fodolai pan oedd yn blentyn a'r Seisnigrwydd cibddall a di-ystyr a wthiwyd arno ef a'i gyd-ddisgyblion yn [[Ysgol Rhostryfan]]. Gadawodd yr ysgol yn dair ar ddeg oed heb i'w awydd am addysg gael ei fodloni o gwbl ac aeth gyda'i dad i weithio i [[Chwarel y Braich]] rhwng [[Moel Tryfan]] a'r [[Cilgwyn]]. Mae ei bennod ar y chwarel yn rhoi sylw i'r dulliau gweithio gwael a hynod beryglus a geid yn y diwydiant llechi bryd hynny, yn ogystal â'r cymeriadau solet a brith a geid yno.  

Fel llawer o'i gyfoedion gadawodd gartref cyn bod yn ddeunaw oed, ym 1890, a chychwyn am Lerpwl ar stemar o Borthaethwy. Mae ei benodau am ei gyfnod yn Lerpwl, ac yn Neston ar benrhyn Cilgwri, yn rhoi golwg inni ar gadernid y gymdeithas Gymraeg, ei chapeli a'i diwylliant, a geid yn Lerpwl a'r cyffiniau bryd hynny. Eto nid oedd bywyd yn Lerpwl yn hawdd i J.W. o bell ffordd. Roedd yn cael trafferth yn aml i gael gwaith cyson ac yn gorfod newid cyflogwyr yn fynych.  

Ar union droad y ganrif, yn Ionawr 1900, symudodd i Lundain lle'r ymgartrefodd wedyn yn ardal Willesden. Gwta flwyddyn yn ddiweddarach priododd â merch o ardal Corwen a chawsant bedwar o blant. Wedi cael ei draed dano yn Llundain bu'n gweithio am flynyddoedd i gwmni toi gan ddod yn gyfrifol am drefnu a gweinyddu contractau mawr i'r cwmni a sicrhau archebion newydd iddo. Ar sail ei brofiad yn y maes dechreuodd ei fusnes ei hun ym 1923 gan ddatblygu cwmni proffidiol.

Yn fuan ar ôl symud i Lundain dywed iddo droi'n "Dori rhonc" o ran ei wleidyddiaeth a hefyd ymunodd â'r Eglwys Anglicanaidd. Ymddiddorodd yn fawr mewn cerddoriaeth a llenyddiaeth a dywed iddo gasglu llyfrgell gerddorol helaeth iawn a phrynu "Apollo Organ" i'w gartref ym 1922. Cymerodd ran amlwg yn ogystal yng ngweithgareddau Cymry Llundain, megis Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol a Chymdeithas y Cymry Ieuainc. Bu'n olygydd am flynyddoedd i ''Y Ddolen'', cylchgrawn i Gymry Llundain, a sefydlwyd yn haf 1925, a bu'n gohebu i'r ''Brython'' bob wythnos am gyfnod maith dan y pennawd "Ymhlith Cymry Llundain". Yn y papur hwnnw, a gyhoeddid yn Lerpwl, yr ymddangosodd llawer o'r deunydd a geir yn ''Hynt Gwerinwr'' yn wreiddiol.
Mae'r gyfrol yn cynnwys gwybodaeth bwysig am fywyd yn [[Arfon]] wledig yn niwedd y 19g ac am yr ymfudo mawr i ddinasoedd Lloegr a'r cymdeithasau Cymraeg grymus a ddatblygodd ynddynt. Teg yw dweud y ceir ynddi elfen bur gref o hunan-ganmoliaeth a dywed J.W. iddo sicrhau'r llwyddiannau a ddaeth i'w ran drwy lynu'n ddiwyro wrth y tair D - Diwydrwydd, Darbodaeth a Dirwest. Mae safon ei Gymraeg ysgrifenedig yn eithriadol lân a chyfoethog ac ar ddiwedd y gyfrol ceir nifer dda o'i englynion sy'n tystio ei fod yn gynganeddwr medrus. Yn eu plith mae cyfres o englynion sy'n ymdrin â gwallau cyffredin yn y Gymraeg ac mae rhai o'r rhain yn glyfar tu hwnt. Dyma un neu ddwy o enghreifftiau:
  "AMBELL I"
    Hyll ar ôl "Ambell" yw'r "i", - ac ar ôl
        Y gair "Aml" bu'n anfri;
      A mawr oedd y camwri
      A wnai hon â'n heniaith ni.
    "EMYN"
    Diamau "hwn" ydyw "Emyn", - a "hwn"
        Yw "Pennill" ac "Englyn";
      Rhyw nod ar ŵr anhydyn
      Yw rhoi "hi" am y tri hyn.
      "(G)WYNEB"
      Gwan iawn yw rhoi "G" yn "Wyneb", - yn wir
            Mae'n waeth na ffolineb;
          Ac ar lafar ddihareb
          "G" yn hwn ni cheir gan neb.
== Cyfeiriadau ==
[[Categori:Hunangofiannau]]
[[Categori:Barddoniaeth]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:34, 26 Awst 2021

Cyfrol hunangofiannol o waith John Williams (J.W. Llundain) yw Hynt Gwerinwr a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 1943.[1] Roedd J.W. yn frawd hŷn i'r hanesydd W. Gilbert Williams ac fe'i ganed yn Nhŷ'r Capel, Rhostryfan ar 22 Medi 1872. Yn y gyfrol cawn ganddo dipyn o gefndir bro ei febyd ac fel y dechreuodd y chwareli llechi ar y llethrau uwchlaw gael eu datblygu a'u ehangu. Mae'n ymdrin tipyn â'i rieni gan ddisgrifio sut y daeth ei dad yn ddyn diwylliedig er iddo ddechrau gweithio yn Chwarel Cilgwyn cyn bod yn ddeg oed. Fel ei fab, Gilbert, yn ddiweddarach, cyfrannodd John Williams, y tad, erthyglau i Cymru O.M. Edwards, gan gynnwys hanes ei flynyddoedd cyntaf yn y chwarel ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ymdrinia J.W yn Hynt Gwerinwr hefyd â diffygion affwysol y drefn addysgol a fodolai pan oedd yn blentyn a'r Seisnigrwydd cibddall a di-ystyr a wthiwyd arno ef a'i gyd-ddisgyblion yn Ysgol Rhostryfan. Gadawodd yr ysgol yn dair ar ddeg oed heb i'w awydd am addysg gael ei fodloni o gwbl ac aeth gyda'i dad i weithio i Chwarel y Braich rhwng Moel Tryfan a'r Cilgwyn. Mae ei bennod ar y chwarel yn rhoi sylw i'r dulliau gweithio gwael a hynod beryglus a geid yn y diwydiant llechi bryd hynny, yn ogystal â'r cymeriadau solet a brith a geid yno.

Fel llawer o'i gyfoedion gadawodd gartref cyn bod yn ddeunaw oed, ym 1890, a chychwyn am Lerpwl ar stemar o Borthaethwy. Mae ei benodau am ei gyfnod yn Lerpwl, ac yn Neston ar benrhyn Cilgwri, yn rhoi golwg inni ar gadernid y gymdeithas Gymraeg, ei chapeli a'i diwylliant, a geid yn Lerpwl a'r cyffiniau bryd hynny. Eto nid oedd bywyd yn Lerpwl yn hawdd i J.W. o bell ffordd. Roedd yn cael trafferth yn aml i gael gwaith cyson ac yn gorfod newid cyflogwyr yn fynych.

Ar union droad y ganrif, yn Ionawr 1900, symudodd i Lundain lle'r ymgartrefodd wedyn yn ardal Willesden. Gwta flwyddyn yn ddiweddarach priododd â merch o ardal Corwen a chawsant bedwar o blant. Wedi cael ei draed dano yn Llundain bu'n gweithio am flynyddoedd i gwmni toi gan ddod yn gyfrifol am drefnu a gweinyddu contractau mawr i'r cwmni a sicrhau archebion newydd iddo. Ar sail ei brofiad yn y maes dechreuodd ei fusnes ei hun ym 1923 gan ddatblygu cwmni proffidiol.

Yn fuan ar ôl symud i Lundain dywed iddo droi'n "Dori rhonc" o ran ei wleidyddiaeth a hefyd ymunodd â'r Eglwys Anglicanaidd. Ymddiddorodd yn fawr mewn cerddoriaeth a llenyddiaeth a dywed iddo gasglu llyfrgell gerddorol helaeth iawn a phrynu "Apollo Organ" i'w gartref ym 1922. Cymerodd ran amlwg yn ogystal yng ngweithgareddau Cymry Llundain, megis Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol a Chymdeithas y Cymry Ieuainc. Bu'n olygydd am flynyddoedd i Y Ddolen, cylchgrawn i Gymry Llundain, a sefydlwyd yn haf 1925, a bu'n gohebu i'r Brython bob wythnos am gyfnod maith dan y pennawd "Ymhlith Cymry Llundain". Yn y papur hwnnw, a gyhoeddid yn Lerpwl, yr ymddangosodd llawer o'r deunydd a geir yn Hynt Gwerinwr yn wreiddiol.

Mae'r gyfrol yn cynnwys gwybodaeth bwysig am fywyd yn Arfon wledig yn niwedd y 19g ac am yr ymfudo mawr i ddinasoedd Lloegr a'r cymdeithasau Cymraeg grymus a ddatblygodd ynddynt. Teg yw dweud y ceir ynddi elfen bur gref o hunan-ganmoliaeth a dywed J.W. iddo sicrhau'r llwyddiannau a ddaeth i'w ran drwy lynu'n ddiwyro wrth y tair D - Diwydrwydd, Darbodaeth a Dirwest. Mae safon ei Gymraeg ysgrifenedig yn eithriadol lân a chyfoethog ac ar ddiwedd y gyfrol ceir nifer dda o'i englynion sy'n tystio ei fod yn gynganeddwr medrus. Yn eu plith mae cyfres o englynion sy'n ymdrin â gwallau cyffredin yn y Gymraeg ac mae rhai o'r rhain yn glyfar tu hwnt. Dyma un neu ddwy o enghreifftiau:

  "AMBELL I"
   Hyll ar ôl "Ambell" yw'r "i", - ac ar ôl
        Y gair "Aml" bu'n anfri;
     A mawr oedd y camwri
     A wnai hon â'n heniaith ni. 

    "EMYN"
    Diamau "hwn" ydyw "Emyn", - a "hwn"
        Yw "Pennill" ac "Englyn";
      Rhyw nod ar ŵr anhydyn
      Yw rhoi "hi" am y tri hyn. 

      "(G)WYNEB"
      Gwan iawn yw rhoi "G" yn "Wyneb", - yn wir
           Mae'n waeth na ffolineb;
         Ac ar lafar ddihareb
         "G" yn hwn ni cheir gan neb. 

Cyfeiriadau

  1. John Williams (J.W. Llundain), Hynt Gwerinwr, (Lerpwl, Rhagfyr 1943).