Robert ap Meredydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 6 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Robert ap Meredydd''' (?-c.1509) yn fab i Meredydd ap Hwlcyn Llwyd, ac fel hwnnw, etifeddodd [[Glynllifon]]. Dichon iddo fod yn gefnogwr brwd yr awdurdodau Seisnig, gan iddo briodi ddwywaith, a'r ddau dro â merched o deuluoedd Seisnig a oedd wedi aetlo yng Ngogledd Cymru ac yn aelodau o'r dosbarth newydd nad oedd ymlyniad at hanes a thraddodiadau yr hen Gymry o bwys, gan fod cyfleoedd am gyfoeth a masnachu'n dod o ochri gyda'r meistri Seisnig. Y wraig gyntaf oedd Elin, merch William Bwcle neu Bulkeley o Fiwmares; a'r ail oedd Jane, merch John Puleston "Hen"  o Gaernarfon.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.262</ref> Dylid nodi fod bynnag nad oedd hyn yn golygu nad oedd y Gymraeg yn iaith bob dydd y teulu a'r plas, ond yr oedd eu gogwydd gwleidyddol yn wahanol i lawer o'u cyd-ysweiniaid.
Roedd '''Robert ap Meredydd''' (?-c.1509) yn fab i Meredydd ap Hwlcyn Llwyd, ac fel hwnnw, etifeddodd [[Glynllifon]]. Dichon iddo fod yn gefnogwr brwd yr awdurdodau Seisnig, gan iddo briodi ddwywaith, a'r ddau dro â merched o deuluoedd Seisnig a oedd wedi ymsefydlu yng Ngogledd Cymru ac yn aelodau o'r dosbarth newydd nad oedd ganddo ymlyniad at hanes a thraddodiadau yr hen Gymry o bwys, gan fod cyfleoedd am gyfoeth a masnachu'n dod iddynt trwy iddynt ochri gyda'r meistri Seisnig. Gwraig gyntaf Robert ap Meredydd oedd Elin, merch William Bwcle neu Bulkeley o Fiwmares; a'r ail oedd Jane, merch John Puleston "Hen"  o Gaernarfon.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.262</ref> Dylid nodi fodd bynnag nad oedd hyn yn golygu nad oedd y Gymraeg yn iaith bob dydd ymysg y teulu ac yn y plas, ond yr oedd eu gogwydd gwleidyddol yn wahanol i hynny o oedd yn eiddo i'w cyd-ysweiniaid. Honnir mai gwraig gyntaf Robert yw'r sawl y cyfeirir ati yn enw [[Cae Buckley / Cae Ellen Bulkeley|Cae Buckley]].<ref>Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.62</ref>


Cafodd Robert ac Elin chwe mab a phedair merch, a nifer ohonynt yn figyrau pwysig: [[Morus Glynn]], archddiacon Meirionnydd;  [[William Glynn, archddiacon|William Glynn]], archddiacon Môn; ac [[Edward Lloyd]] (m.1540), a etifeddodd Glynllifon gan fod ei frawd hŷn yn offeiriad. Mab arall oedd [[Richard Glynn]], a ddaeth i feddiant [[Plas Newydd ]], [[Llandwrog]].
Cafodd Robert ac Elin chwe mab a phedair merch, a nifer ohonynt yn bobl o bwys: [[Morus Glynn]], archddiacon Meirionnydd;  [[William Glynn, archddiacon|William Glynn]], archddiacon Môn; ac [[Edmund Llwyd]] (m.1540), a etifeddodd Glynllifon, gan fod ei frawd hŷn yn offeiriad. Mab arall oedd [[Richard Glynn]], a ddaeth yn berchennog [[Plas Nantlle]] a [[Plas Newydd|Phlas Newydd]], [[Llandwrog]].


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:27, 20 Chwefror 2024

Roedd Robert ap Meredydd (?-c.1509) yn fab i Meredydd ap Hwlcyn Llwyd, ac fel hwnnw, etifeddodd Glynllifon. Dichon iddo fod yn gefnogwr brwd yr awdurdodau Seisnig, gan iddo briodi ddwywaith, a'r ddau dro â merched o deuluoedd Seisnig a oedd wedi ymsefydlu yng Ngogledd Cymru ac yn aelodau o'r dosbarth newydd nad oedd ganddo ymlyniad at hanes a thraddodiadau yr hen Gymry o bwys, gan fod cyfleoedd am gyfoeth a masnachu'n dod iddynt trwy iddynt ochri gyda'r meistri Seisnig. Gwraig gyntaf Robert ap Meredydd oedd Elin, merch William Bwcle neu Bulkeley o Fiwmares; a'r ail oedd Jane, merch John Puleston "Hen" o Gaernarfon.[1] Dylid nodi fodd bynnag nad oedd hyn yn golygu nad oedd y Gymraeg yn iaith bob dydd ymysg y teulu ac yn y plas, ond yr oedd eu gogwydd gwleidyddol yn wahanol i hynny o oedd yn eiddo i'w cyd-ysweiniaid. Honnir mai gwraig gyntaf Robert yw'r sawl y cyfeirir ati yn enw Cae Buckley.[2]

Cafodd Robert ac Elin chwe mab a phedair merch, a nifer ohonynt yn bobl o bwys: Morus Glynn, archddiacon Meirionnydd; William Glynn, archddiacon Môn; ac Edmund Llwyd (m.1540), a etifeddodd Glynllifon, gan fod ei frawd hŷn yn offeiriad. Mab arall oedd Richard Glynn, a ddaeth yn berchennog Plas Nantlle a Phlas Newydd, Llandwrog.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262
  2. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.62