Llwyn-y-gwalch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 9 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Saif '''Llwyn-y-gwalch'''  ym mhlwyf [[Llandwrog]], ger [[Afon Llifon]]. Dyma un o gartrefi mân foneddigion [[Uwchgwyrfai]] oedd yn ddisgynyddion o'r un cyff â [[Teulu Glynllifon|theulu Glynllifon]], sef hil [[Cilmin Droed-ddu]]. Yn ôl yr hen achau, disgynnodd y teulu trwy Madog ab Ednowain, brawd sylfaenydd llinach Glynllifon, sef [[Ystrwyth ab Ednowain]]. Mab Madog oedd Morgan ap Madog, ac fe'i dilynwyd gan Gruffydd, Heilyn, Iorwerth Goch, Einion, Ednyfed a Hywel Ddu o genhedlaeth i genhedlaeth. Mab Hywel Ddu oedd Llywelyn ap Hywel Ddu, a gadawodd hwnnw ei eiddo i'w unig blentyn, Nest ferch Llywelyn. Priododd honno Ifan ap Llywelyn o Drefeilir, Ynys Môn, a chawsant nifer o blant. Gadawyd y brif ystad i'w mab hynaf, Rhys ab Ifan o Drefeilir; eiddo arall, Prysiorwerth Ucha, i'r ail fab, Maurice; a gadawyd Prysiorweth Isaf i Syr William, oedd yn offeiriad. Cafodd fab arall, Siencyn, eiddo o'r enw Carregonnen; a mab arall, Robert, Henblas. Y mab ieuengaf ond un, John, etifeddodd Bodwrdin. Roedd yr eiddo yma i gyd yn Sir Fôn, ac arwyddocaol efallai oedd y ffaith mai'r mab ieuengaf, Gruffydd, etifeddodd yr eiddo oedd gynt yn eiddo i'w fam, sef Llwyn-y-gwalch - ac efallai y gellid casglu o hyn nad oedd yr eiddo mor fawr a phwysig â holl diroedd eraill Ystad Trefeilir. Methodd Gruffydd â sefydlu llinach newydd yn Llwyn-y-gwalch oherwydd iddo farw'n ddi-blant. Dichon i Gruffydd farw yn ail hanner y 16g.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.1, 229</ref>
Saif '''Llwyn-y-gwalch'''  ym mhlwyf [[Llandwrog]], ger [[Afon Llifon]]. Dyma un o gartrefi mân foneddigion [[Uwchgwyrfai]] oedd yn ddisgynyddion o'r un cyff â [[Teulu Glynllifon|theulu Glynllifon]], sef hil [[Cilmin Droed-ddu]]. Yn ôl yr hen achau, disgynnodd y teulu trwy Madog ab Ednowain, brawd sylfaenydd llinach Glynllifon, sef [[Ystrwyth ab Ednowain]]. Mab Madog oedd Morgan ap Madog, ac fe'i dilynwyd gan Gruffydd, Heilyn, Iorwerth Goch, Einion, Ednyfed a Hywel Ddu o genhedlaeth i genhedlaeth. Mab Hywel Ddu oedd Llywelyn ap Hywel Ddu, a gadawodd hwnnw ei eiddo i'w unig blentyn, Nest ferch Llywelyn. Priododd honno Ifan ap Llywelyn o Drefeilir, Ynys Môn, a chawsant nifer o blant. Gadawyd y brif ystad i'w mab hynaf, Rhys ab Ifan o Drefeilir; eiddo arall, Prysiorwerth Ucha, i'r ail fab, Maurice; a gadawyd Prysiorweth Isaf i Syr William, oedd yn offeiriad. Cafodd fab arall, Siencyn, eiddo o'r enw Carregonnen; a mab arall, Robert, Henblas. Y mab ieuengaf ond un, John, etifeddodd Bodwrdin. Roedd yr eiddo yma i gyd yn Sir Fôn, ac arwyddocaol efallai oedd y ffaith mai'r mab ieuengaf, Gruffydd, etifeddodd yr eiddo oedd gynt yn eiddo i'w fam, sef Llwyn-y-gwalch - ac efallai y gellid casglu o hyn nad oedd yr eiddo mor fawr a phwysig â holl diroedd eraill Ystad Trefeilir. Methodd Gruffydd â sefydlu llinach newydd yn Llwyn-y-gwalch oherwydd iddo farw'n ddi-blant. Dichon i Gruffydd farw yn ail hanner y 16g., gan adael Llwyn-y-gwalch i'w frawd hynaf, sef Rhys ab Ifan o Drefeilir. Priododd mab Rhys, John ap Rhys â Jonet, ferch [[Robert ap Meredydd]]  o [[Glynllifon]], gan greu undod rhwng dwy gangen o gyff Cilmin.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.1, 67,229</ref>


Ers tair canrif a mwy, felly, mae '''Llwyn-y-gwalch''' wedi bod yn ffermdy. Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o [[Chwarel Cilgwyn|Fynydd Cilgwyn]] i lawr at y cychod yn [[Y Foryd]]; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y [[Dolydd]] a'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef [[Melin Llwyn-y-gwalch]].<ref>W. Gilbert Williams, ''Yr Herald Cymraeg'', 1938.</ref>
Ers tair canrif a mwy, felly, mae Llwyn-y-gwalch wedi bod yn ffermdy yn hytrach na phrif gartref y perchnogion. Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o [[Chwarel Cilgwyn|Fynydd Cilgwyn]] i lawr at y cychod yn [[Y Foryd]]; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y [[Dolydd]] a'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef [[Melin Llwyn-y-gwalch]].<ref>W. Gilbert Williams, ''Yr Herald Cymraeg'', 1938.</ref>


Mae sôn am Rowland Morgan, gwr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39</ref> Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, ac yn fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.<ref>LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.</ref>
Ceir sôn am Rowland Morgan, gŵr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39</ref> Roedd ei fab, John Rowland, yn achosi cryn drafferth i'r ynad lleol, [[Edmund Glynn]] yn ystod y 1650au, a cheir sôn sawl gwaith ymysg papurau'r Llys Chwarter amdano'n aflonyddu'r hwn neu'r llall.  


Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar [[Melin Llwyn-y-gwalch|felin]] yn Llwyn-y-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823.
Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, oedd erbyn hynny'n ŵr bonheddig yn byw ym Mryntirion, Bangor.<ref>LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.</ref>


Am gyfnod byr, tua 1813 hyd 1818 efallai, dyma oedd cartref plentyndod [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]] a anwyd ym [[Bodgarad|Modgarad]], ond a symudodd gyda'i deulu i [[Tyddyn Tudur|Dyddyn Tudur]] ger [[Plas Glynllifon]] maes o law.<ref>Geraint Jones, ''Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon'', (Llanrwts, 2008), t.8</ref>
Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar [[Melin Llwyn-y-gwalch|felin]] yn Llwyn-y-gwalch. Un o'r teulu. mae'n debyg oedd y John Rowland o Lwyn-y-gwalch oedd yn warden eglwys ym mhlwyf Llandwrog ym 1734.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog</ref> Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Ym 1769, ceir sôn mewn dogfen setliad wedi priodas am Lwyn-y-gwalch ynghyd â'r felin berthynol ac hefyd Gallt-y-pill (fferm nid nepell i ffwrdd) ymysg eiddo Griffith Jones, sgweiar o Fryntirion, Bangor, disgynnydd i'r Grace uchod; mae'n bur amlwg mai wedi ei osod i denantiaid oedd Llwyn-y-gwalch. Ni fu Griffith Jones fyw am hir wedi iddo briodi, fodd bynnag, ac erbyn 1775 roedd yr eiddo yn pasio i ddwylo chwaer Griffith, Grace Jones arall - er bod ei wraig Margaret Jones yn dal yn fyw.<ref>Archifdy Caernarfon, XM543/3,4</ref>  Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd wedyn. Marwodd Thomas Jones ym 1823 ac fe etifeddodd Frank Jones Walker Jones, ei fab - eto o Fryntirion - yr eiddo. Priododd hwnnw Jane Turner, merch William Turner, Parciau, Caernarfon. Bargyfreithiwr, ynad heddwch a Dirprwy Raglaw Sir Gaernarfon oedd Walker Jones, oedd yn byw yng Nghaernarfon.
 
Tua 1800 bu dyn o'r enw John Beywater yn cynnal ysgol ddyddiol mewn llofft yn Llwyn-y-gwalch, ac ymysg ei ddisgyblion oedd [[Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc)]].<ref>Hugh Jones, ''Gwyndaf Ieuanc'' (''Cymru'', Cyf.34 (1908)), tt.9-11.</ref>
 
Am gyfnod byr, tua 1813 hyd 1818 efallai, dyma oedd cartref plentyndod [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]] a anwyd ym [[Bodgarad|Modgarad]], ond a symudodd gyda'i deulu i [[Tyddyn Tudur|Dyddyn Tudur]] ger [[Plas Glynllifon]] maes o law.<ref>Geraint Jones, ''Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon'', (Llanrwst, 2008), t.8</ref>
 
Erbyn 1840 roedd y fferm, ynghyd â Gallt-y-pill a chae 2 erw o enw'r Parc ar [[Morfa Dinlle|Forfa Dinlle]], yn eiddo i Frank Jones Walker Jones, a Robert Davies oedd y tenant, yn ffermio 54 erw oedd yn gymysgedd o dir âr a thir pori. Dyma enwau'r caeau: Cae Richard Roberts, Wern y moch, Congl bach, Cae'r Sarn, Cae mawr y felin, Gors y felin, Cae ffordd, Werglodd felin, Pwll'rolwyn, Cae'r llyn, Cae y meirch, Cefn Gadlys, Llwyn, Cae'r tŷ, Cefn yr hoewal, Cae glas, Lloc a Rhos.<ref>Map a rhaniad degwm plwyf Llandwrog</ref> Roedd Robert Davies hefyd yn gweithio fel melinydd y felin oedd ar yr eiddo.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog 1841, 1851</ref>
 
Ym 1889, fe brynwyd Llwyn-y-gwalch gan [[Frederick George Wynn]], sgweiar [[Glynllifon]], am £2700. Yr oedd y fferm y pryd hynny'n 55 erw o ran arwynebedd.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6673</ref>


==Chwedl am yr enw==
==Chwedl am yr enw==

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:15, 4 Rhagfyr 2023

Saif Llwyn-y-gwalch ym mhlwyf Llandwrog, ger Afon Llifon. Dyma un o gartrefi mân foneddigion Uwchgwyrfai oedd yn ddisgynyddion o'r un cyff â theulu Glynllifon, sef hil Cilmin Droed-ddu. Yn ôl yr hen achau, disgynnodd y teulu trwy Madog ab Ednowain, brawd sylfaenydd llinach Glynllifon, sef Ystrwyth ab Ednowain. Mab Madog oedd Morgan ap Madog, ac fe'i dilynwyd gan Gruffydd, Heilyn, Iorwerth Goch, Einion, Ednyfed a Hywel Ddu o genhedlaeth i genhedlaeth. Mab Hywel Ddu oedd Llywelyn ap Hywel Ddu, a gadawodd hwnnw ei eiddo i'w unig blentyn, Nest ferch Llywelyn. Priododd honno Ifan ap Llywelyn o Drefeilir, Ynys Môn, a chawsant nifer o blant. Gadawyd y brif ystad i'w mab hynaf, Rhys ab Ifan o Drefeilir; eiddo arall, Prysiorwerth Ucha, i'r ail fab, Maurice; a gadawyd Prysiorweth Isaf i Syr William, oedd yn offeiriad. Cafodd fab arall, Siencyn, eiddo o'r enw Carregonnen; a mab arall, Robert, Henblas. Y mab ieuengaf ond un, John, etifeddodd Bodwrdin. Roedd yr eiddo yma i gyd yn Sir Fôn, ac arwyddocaol efallai oedd y ffaith mai'r mab ieuengaf, Gruffydd, etifeddodd yr eiddo oedd gynt yn eiddo i'w fam, sef Llwyn-y-gwalch - ac efallai y gellid casglu o hyn nad oedd yr eiddo mor fawr a phwysig â holl diroedd eraill Ystad Trefeilir. Methodd Gruffydd â sefydlu llinach newydd yn Llwyn-y-gwalch oherwydd iddo farw'n ddi-blant. Dichon i Gruffydd farw yn ail hanner y 16g., gan adael Llwyn-y-gwalch i'w frawd hynaf, sef Rhys ab Ifan o Drefeilir. Priododd mab Rhys, John ap Rhys â Jonet, ferch Robert ap Meredydd o Glynllifon, gan greu undod rhwng dwy gangen o gyff Cilmin.[1]

Ers tair canrif a mwy, felly, mae Llwyn-y-gwalch wedi bod yn ffermdy yn hytrach na phrif gartref y perchnogion. Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o Fynydd Cilgwyn i lawr at y cychod yn Y Foryd; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y Dolydd a'r Groeslon. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef Melin Llwyn-y-gwalch.[2]

Ceir sôn am Rowland Morgan, gŵr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.[3] Roedd ei fab, John Rowland, yn achosi cryn drafferth i'r ynad lleol, Edmund Glynn yn ystod y 1650au, a cheir sôn sawl gwaith ymysg papurau'r Llys Chwarter amdano'n aflonyddu'r hwn neu'r llall.

Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, oedd erbyn hynny'n ŵr bonheddig yn byw ym Mryntirion, Bangor.[4]

Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar felin yn Llwyn-y-gwalch. Un o'r teulu. mae'n debyg oedd y John Rowland o Lwyn-y-gwalch oedd yn warden eglwys ym mhlwyf Llandwrog ym 1734.[5] Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Ym 1769, ceir sôn mewn dogfen setliad wedi priodas am Lwyn-y-gwalch ynghyd â'r felin berthynol ac hefyd Gallt-y-pill (fferm nid nepell i ffwrdd) ymysg eiddo Griffith Jones, sgweiar o Fryntirion, Bangor, disgynnydd i'r Grace uchod; mae'n bur amlwg mai wedi ei osod i denantiaid oedd Llwyn-y-gwalch. Ni fu Griffith Jones fyw am hir wedi iddo briodi, fodd bynnag, ac erbyn 1775 roedd yr eiddo yn pasio i ddwylo chwaer Griffith, Grace Jones arall - er bod ei wraig Margaret Jones yn dal yn fyw.[6] Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd wedyn. Marwodd Thomas Jones ym 1823 ac fe etifeddodd Frank Jones Walker Jones, ei fab - eto o Fryntirion - yr eiddo. Priododd hwnnw Jane Turner, merch William Turner, Parciau, Caernarfon. Bargyfreithiwr, ynad heddwch a Dirprwy Raglaw Sir Gaernarfon oedd Walker Jones, oedd yn byw yng Nghaernarfon.

Tua 1800 bu dyn o'r enw John Beywater yn cynnal ysgol ddyddiol mewn llofft yn Llwyn-y-gwalch, ac ymysg ei ddisgyblion oedd Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc).[7]

Am gyfnod byr, tua 1813 hyd 1818 efallai, dyma oedd cartref plentyndod Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon a anwyd ym Modgarad, ond a symudodd gyda'i deulu i Dyddyn Tudur ger Plas Glynllifon maes o law.[8]

Erbyn 1840 roedd y fferm, ynghyd â Gallt-y-pill a chae 2 erw o enw'r Parc ar Forfa Dinlle, yn eiddo i Frank Jones Walker Jones, a Robert Davies oedd y tenant, yn ffermio 54 erw oedd yn gymysgedd o dir âr a thir pori. Dyma enwau'r caeau: Cae Richard Roberts, Wern y moch, Congl bach, Cae'r Sarn, Cae mawr y felin, Gors y felin, Cae ffordd, Werglodd felin, Pwll'rolwyn, Cae'r llyn, Cae y meirch, Cefn Gadlys, Llwyn, Cae'r tŷ, Cefn yr hoewal, Cae glas, Lloc a Rhos.[9] Roedd Robert Davies hefyd yn gweithio fel melinydd y felin oedd ar yr eiddo.[10]

Ym 1889, fe brynwyd Llwyn-y-gwalch gan Frederick George Wynn, sgweiar Glynllifon, am £2700. Yr oedd y fferm y pryd hynny'n 55 erw o ran arwynebedd.[11]

Chwedl am yr enw

Dywedir stori yn yr ardal i esbonio'r enw, sef bod tirfeddiannwr lleol a arferai fyw yn Grugan Wen farw ac am adael tir i'w chwe mab, gan ddyfarnu yn ei ewyllys fod ei fab Iago i gael cae, Dafydd i gael tyddyn, Siencyn i gael talar, Morgan i gael melin, ac Ifan i gael hafod gyda'r a'r gwalch (sef hogyn drygiog, ei fab arall, nad oedd yn ei gymeradwyo) i dderbyn llwyn. Mae tyddyn Cae Iago, fferm a thir Melin Forgan, fferm Hafod Ifan, fferm Tyddyn Dafydd a thir (a fu unwaith yn dyddyn ar wahân) Talar Siencyn i gyd yn ffinio ar dir Llwyn-y-gwalch heddiw. Mae Grugan Wen hefyd nid nepell o'r chwe daliad tir hyn.[12]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.1, 67,229
  2. W. Gilbert Williams, Yr Herald Cymraeg, 1938.
  3. Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39
  4. LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.
  5. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog
  6. Archifdy Caernarfon, XM543/3,4
  7. Hugh Jones, Gwyndaf Ieuanc (Cymru, Cyf.34 (1908)), tt.9-11.
  8. Geraint Jones, Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Llanrwst, 2008), t.8
  9. Map a rhaniad degwm plwyf Llandwrog
  10. Cyfrifiad plwyf Llandwrog 1841, 1851
  11. Archifdy Caernarfon, XD2/6673
  12. Hanes y Groeslon, (2000), t.15.