Ffatri Wlân Clynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 29 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Ffatri wlan Clynnog.jpg|bawd|de|400px|Hen fil Ffatri Wlân Clynnog, 1891]]
[[Delwedd:Ffatri wlan Clynnog.jpg|bawd|de|400px|Hen fil Ffatri Wlân Clynnog, 1891]]


Safai '''Ffatri Wlân Clynnog''' ym mhentrefan [[Tai Lôn]]. Mae'n sicr ei bod hi wedi ei sefydlu erbyn 1850.<ref>J. Geraint Jenkins, ''The Welsh Woollen Industry'' (Caerdydd, 1969), t.240</ref> Roedd hi'n dal i weithio tua 1910. Meddai O. Roger Owen, wrth sôn am dripiau [[Ysgol Ynys-yr-arch]] yn ei hunangofiant:
Safai '''Ffatri Wlân Clynnog''' ym mhentrefan [[Tai Lôn]]. Tröwyd olwyn ddŵr y ffatri gan [[Afon Desach]], wedi i'r dŵr gael ei droi ar hyd pinfarch neu gafn 270 metr o hyd.<ref>Gwefan Coflein, [https://coflein.gov.uk/en/site/422933/]. cyrchwyd 24.5.2021</ref>
  Cawsom hefyd fynd i wwld ffatri wlân Tai Lôn, gweld yr amryw beiriannau, a'r perchennog yn egluro i ni sut y defnyddid hwy. Olwyn ddŵr fawr oedd yn troi'r peiriananau.<ref>O. Roger Owen, ''O Ben Moel Tryfan'' (Pen-y-groes, 1981), t.24</ref>
 
Mae Sophia Pari-Jones wedi cynnwys llun o fil y felin sydd yn dangos llun y ffatri. Fe'i atgynhyrchir ar y dudalen hon.<ref>Sophia Pari-Jones, ''Echoes from a Water Wheel" (Bangor, 2011), llun rhwng tt.28/29</ref> Dyddia'r bil o 1891, ryw 20 mlynedd cyn ymweliad y Roger Owen ifanc i'r ffatri, ond mae'n bosibl bod yr engrafiad wedi ei wneud gryn amser cyn hynny. John Jones, melinydd [[Melin Faesog]] gerllaw, oedd y sawl oedd yn ddyledus i Joseph Jones, perchennog y ffatri ar y pryd.  
Mae'n sicr ei bod wedi ei sefydlu cyn 1794, gan fod "John Robert, Factory, Tai Lôn" wedi cynorthwyo John Owen, Henbant Bach, i sefydlu Ysgol Sul yn y capel a enwyd yn ddiweddarach yn [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr|"Capel Uchaf"]]. Roedd John Robert yn fab i Robert Ffoulk, y gwehydd.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog'' (Caernarfon, 1910), t.25.</ref>  Fe'i hadwaenid hefyd fel John Roberts.<ref> John Jones, FRGS, Pwllheli ''Cofiant John Jones Bryn'rodyn''(Caernarfon,1903), t.6.</ref> 
 
Ym 1841, roedd John Roberts, gwehydd  yn byw yn y "Factory" yn Nhai Lôn,<ref>Cyfrifiad plwyf Clynnog Fawr, 1841</ref> ac erbyn 1850 roedd yn fusnes digon pwysig i gael ei gyfrif mewn rhestr o felinau gwlân y sir.<ref>J. Geraint Jenkins, ''The Welsh Woollen Industry'' (Caerdydd, 1969), t.240</ref> Ym 1851, roedd John Roberts yno o hyd, ac yn cael ei ddisgrifio fel meistr-wehydd gwlân.
 
Priod John Roberts oedd Margaret Dafydd<ref>Roedd hi'n gyfnither i John Elias.  ''Cofiant John Jones Bryn'rodyn'', t.6</ref> a chawsant unarddeg o blant, yn cynnwys Y Parchedig [[John Jones, Bryn'rodyn]]. Bu rhai o'r plant yn gweithio yn y ffatri, a dyma hanes John:
''Yn fore ar ei oes aeth i Ffactri ei dad yn Nhai'r-lôn, er dysgu y grefft o wehydd; ac yn ddilynol i Ffactri Glangwna... Wedi aros am dymor (yno).. dychwelodd drachefn i'w hen gynefin, pryd y darfu iddo, mewn undeb â'i frodyr Solomon a Griffith, ail-wneyd hen Law-weithfa Tai'r Lôn yn newydd, ac hefyd adeiladu tŷ yn y pentref bychan hwn, sydd yn dwyn yr enw "Tymawr". Yn ei Ddyddiadur dyddiedig Hydref 25ain 1844 ceir y cofnodiad canlynol ganddo:
  ''Heddyw ydyw y diwrnod o flaen ffair y Borth. Darfod y stwff am bedwar o'r gloch, a thynu y torsedi o'r gwŷdd, er bod yn barod at y ffair yfory.''
  ''Y torsedi hyn oedd y cwrlidau Cymreig - nwyddau byd-hysbys - a wneid yn y llaw-weithfa honno ar gyfer ffair y Borth - ffair oedd ar y pryd yn ''centre'' masnach eang mewn nwyddau cartref."<ref>John Jones, F.R.G.S., Pwllheli, ''Cofiant John Jones, Bryn'rodyn'' (Caernarfon 1903), t.10''</ref>
 
[[Delwedd:FfatriTaiLon.jpg|bawd|400px|de|Ffatri Wlân Tai Lôn tua 1890]]
Ym mis Tachwedd 1865 perchennog y Ffatri oedd Joseph Roberts a'r deilydd oedd John Roberts.<ref>Llyfr Rhenti Plwyf Clynnog. Cyfeirir ati fel ''Factory Tainlon''</ref>
 
Yr ieuengaf o'r plant oedd Joseph Jones ac yng nghyfrifiad 1851 nid oedd sôn am Joseph, ond ddeng mlynedd yn ddiweddarach roedd yn gweithio i'w dad fel gweithiwr ffatri wlân. Yr oedd ei dad tua 74 oed ac, erbyn 1871, roedd wedi trosglwyddo'r ffatri i Joseph, a oedd wedi penderfynu am ryw reswm neu'i gilydd ddefnyddio'r cyfenw patronymig Jones yn lle Roberts - ond roedd ei dad, John Roberts, 84 oed erbyn hynny, yn dal yno. Roedd wedi colli ei wraig, ac yn cael ei ddisgrifio'n syml fel gwehydd gwlân - yn methu ymddeol yn llwyr, mae'n debyg. Yn ogystal â John Roberts, roedd pedwar o wehyddion cyflogedig yn byw yn y ffatri efo'r teulu. Ym 1891, roedd un gweithiwr yn byw yno gyda'r teulu. Ym 1901, roedd y ffatri'n dal i weithio, ond y flwyddyn honno fe ddisgrifiodd cyfrifwr y Cyfrifiad Joseph fel gwneuthurwr gwlanen ("Flannel Manufacturer").<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog Fawr, 1851-1901</ref>
 
Cyfeiria Catri Parri Huws at wraig Joseph Jones yn ei llyfr ''Sul Gŵyl a Gwaith'':
 
''Cofiaf fy mam yn adrodd hanes Elin Jones Ffatri yn mynd bob cam i Lundain. Roedd mynd i Lundain yn golygu rhywbeth tros ganrif yn ôl. Gwisgai ei siwt Gymreig. Âi â'i throell gyda hi, achos iddi gael gwahoddiad i nyddu o flaen y Frenhines Victoria...''<ref>Catrin Parri Huws, ''Sul Gŵyl a Gwaith'' (Caernarfon, 1981) tt.33-4</ref>
 
Erbyn 1911, fodd bynnag, roedd Joseph wedi marw ac yr oedd yna berchennog newydd ar fusnes y ffatri, sef John Hughes, dyn 43 oed a ddisgrifiodd ei hun ar y ffurflen Cyfrifiad fel "Ffatrwr/Masnachwr" ac yn feistr-grefftwr. Dyn o'r Bala ydoedd, ond roedd ei wraig Martha'n hanu o Fethesda.<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog Fawr, 1911</ref>
 
Ymddengys enw John Hughes yng Nghyfrifiad Gwytherin, 1891, 23 oed a dibriod, yn gweithio fel gwehydd yn Ffatri Wlân Gwytherin yn Sir Ddinbych. Roedd Robert Roberts, gwneuthurwr gwlân, yn hen lanc 55 oed ac yn dal i fyw yn Nhŷ'r Ffatri gyda'i fam, Mary Hughes, 86 oed.  Roedd Robert Roberts yn ŵr uchel ei barch ac yn flaenor yng Nhapel Cae’r Graig, cangen i Gapel Siloh, Gwytherin.....  Roedd y tri hyn yn enedigol o’r Bala.  Yn byw yno hefyd roedd Thomas Roberts, nyddwr 17 oed, o Lanfair Talhaearn, yn ogystal â’r forwyn Catherin Evans, 18 oed.  Bu farw Mary Hughes, Tŷ’r Ffatri, ym 1894 a chladdwyd hi ym mynwent Capel Siloh, Gwytherin.
Ar gyfrifon 1901 gwelwn bod Robert Roberts, y pennaeth, yn dal yng Ngwytherin, ynghyd â John Hughes a Thomas Roberts, a disgrifir hwy fel Woolen Factory men.  Roedd Martha Hughes o Fethesda yn cadw tŷ iddynt.  Dau arall a fu’n gweithio yn y ffatri wlân oedd John Owen Jones ac Evan Griffith Jones.<ref>Cyfrifiad plwyf Gwytherin, Sir Ddinbych, 1891 a 1901</ref>
Daeth amser pan nad oedd cymaint o waith yn y ffatri wlân ac, o’r herwydd, fe symudodd Robert Roberts, a John a Martha Hughes, i ffatri Wlân Tai Lôn, Clynnog Fawr, a John Owen Jones i Tŷ Newydd, Mynytho.  Evan Griffith Jones oedd yr olaf i symud tua 1921-2.  Aeth ef a’i wraig a’r mab, Emlyn, i Ddolgellau i gadw siop ddillad.  Wedi marwolaeth Robert Roberts yng Nhlynnog ym mis Hydref 1917 yn 80 oed, daeth 'nôl i Wytherin i’w gladdu gyda’i fam.<ref>Heulwen Ann Roberts, Gwytherin, ar gyfer arddangosfa yn Amgueddfa Syr Henry Jones, Mehefin 2008.</ref>
 
Fel y gwelsom uchod, yr oedd Ffatri wlân Tai Lôn yn dal i weithio ym 1911. Meddai O. Roger Owen, wrth sôn yn ei hunangofiant am dripiau yr adeg honno gan blant [[Ysgol Ynys-yr-arch]]:
  ''Cawsom hefyd fynd i weld ffatri wlân Tai Lôn, gweld yr amryw beiriannau, a'r perchennog yn egluro i ni sut y defnyddid hwy. Olwyn ddŵr fawr oedd yn troi'r peiriannau.''<ref>O. Roger Owen, ''O Ben Moel Tryfan'' (Pen-y-groes, 1981), t.24</ref>
 
Bu Catrin Parri Huws hithau ar ymweliad tebyg:
''Profiad arall oedd cael mynd o'r ysgol ar ddiwrnod braf i weld y ffatri'n gweithio. Yr oedd yno dri o ddynion wrth eu gwaith, tair o ferched o gwmpas y tŷ, a'r parlwr wedi ei droi'n siop, gyda silffoedd pwrpasol i ddal gwlanen. 'Roedd cownter hir, sisyrnau a ffon-fesurydd arno gyda hosanau wedi eu gwau, crysau gwlanen i ddynion a chrafatiau cynnes.''<ref>Catrin Pari Huws, ''Sul Gŵyl a Gwaith'' (Caernarfon, 1981) t.34</ref>
 
Mae Sophia Pari-Jones wedi cynnwys llun o fil y felin sydd yn dangos llun y ffatri. Fe'i hatgynhyrchir ar y dudalen hon.<ref>Sophia Pari-Jones, ''Echoes from a Water Wheel'' (Bangor, 2011), llun rhwng tt.28/29</ref> Dyddiad y bil yw 1891, ryw 20 mlynedd cyn ymweliad y Roger Owen ifanc â'r ffatri, ond mae'n bosibl bod yr engrafiad wedi ei wneud gryn amser cyn hynny. John Jones, melinydd [[Melin Faesog]] gerllaw, oedd y sawl oedd yn ddyledus i Joseph Jones, perchennog y ffatri ar y pryd. Sylwer ar dop y bil y rhestr o bethau yr oedd y ffatri'n eu cynhyrchu.
 
Mae'r ffatri wedi cau ers blynyddoedd lawer, ond mae'r adeiladau wedi goroesi fel tai, sef Yr Hen Felindy a Melin Wlân.




{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Melinau]]
[[Categori:Melinau]]
[[Categori:Diwydiant a Masnach]]
[[Categori:Diwydiant a Masnach]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:25, 6 Mawrth 2022

Hen fil Ffatri Wlân Clynnog, 1891

Safai Ffatri Wlân Clynnog ym mhentrefan Tai Lôn. Tröwyd olwyn ddŵr y ffatri gan Afon Desach, wedi i'r dŵr gael ei droi ar hyd pinfarch neu gafn 270 metr o hyd.[1]

Mae'n sicr ei bod wedi ei sefydlu cyn 1794, gan fod "John Robert, Factory, Tai Lôn" wedi cynorthwyo John Owen, Henbant Bach, i sefydlu Ysgol Sul yn y capel a enwyd yn ddiweddarach yn "Capel Uchaf". Roedd John Robert yn fab i Robert Ffoulk, y gwehydd.[2] Fe'i hadwaenid hefyd fel John Roberts.[3]

Ym 1841, roedd John Roberts, gwehydd yn byw yn y "Factory" yn Nhai Lôn,[4] ac erbyn 1850 roedd yn fusnes digon pwysig i gael ei gyfrif mewn rhestr o felinau gwlân y sir.[5] Ym 1851, roedd John Roberts yno o hyd, ac yn cael ei ddisgrifio fel meistr-wehydd gwlân.

Priod John Roberts oedd Margaret Dafydd[6] a chawsant unarddeg o blant, yn cynnwys Y Parchedig John Jones, Bryn'rodyn. Bu rhai o'r plant yn gweithio yn y ffatri, a dyma hanes John:

Yn fore ar ei oes aeth i Ffactri ei dad yn Nhai'r-lôn, er dysgu y grefft o wehydd; ac yn ddilynol i Ffactri Glangwna... Wedi aros am dymor (yno).. dychwelodd drachefn i'w hen gynefin, pryd y darfu iddo, mewn undeb â'i frodyr Solomon a Griffith, ail-wneyd hen Law-weithfa Tai'r Lôn yn newydd, ac hefyd adeiladu tŷ yn y pentref bychan hwn, sydd yn dwyn yr enw "Tymawr". Yn ei Ddyddiadur dyddiedig Hydref 25ain 1844 ceir y cofnodiad canlynol ganddo:
 Heddyw ydyw y diwrnod o flaen ffair y Borth. Darfod y stwff am bedwar o'r gloch, a thynu y torsedi o'r gwŷdd, er bod yn barod at y ffair yfory. 
 Y torsedi hyn oedd y cwrlidau Cymreig - nwyddau byd-hysbys - a wneid yn y llaw-weithfa honno ar gyfer ffair y Borth - ffair oedd ar y pryd yn centre masnach eang mewn nwyddau cartref."[7]
Ffatri Wlân Tai Lôn tua 1890

Ym mis Tachwedd 1865 perchennog y Ffatri oedd Joseph Roberts a'r deilydd oedd John Roberts.[8]

Yr ieuengaf o'r plant oedd Joseph Jones ac yng nghyfrifiad 1851 nid oedd sôn am Joseph, ond ddeng mlynedd yn ddiweddarach roedd yn gweithio i'w dad fel gweithiwr ffatri wlân. Yr oedd ei dad tua 74 oed ac, erbyn 1871, roedd wedi trosglwyddo'r ffatri i Joseph, a oedd wedi penderfynu am ryw reswm neu'i gilydd ddefnyddio'r cyfenw patronymig Jones yn lle Roberts - ond roedd ei dad, John Roberts, 84 oed erbyn hynny, yn dal yno. Roedd wedi colli ei wraig, ac yn cael ei ddisgrifio'n syml fel gwehydd gwlân - yn methu ymddeol yn llwyr, mae'n debyg. Yn ogystal â John Roberts, roedd pedwar o wehyddion cyflogedig yn byw yn y ffatri efo'r teulu. Ym 1891, roedd un gweithiwr yn byw yno gyda'r teulu. Ym 1901, roedd y ffatri'n dal i weithio, ond y flwyddyn honno fe ddisgrifiodd cyfrifwr y Cyfrifiad Joseph fel gwneuthurwr gwlanen ("Flannel Manufacturer").[9]

Cyfeiria Catri Parri Huws at wraig Joseph Jones yn ei llyfr Sul Gŵyl a Gwaith:

Cofiaf fy mam yn adrodd hanes Elin Jones Ffatri yn mynd bob cam i Lundain. Roedd mynd i Lundain yn golygu rhywbeth tros ganrif yn ôl. Gwisgai ei siwt Gymreig. Âi â'i throell gyda hi, achos iddi gael gwahoddiad i nyddu o flaen y Frenhines Victoria...[10]

Erbyn 1911, fodd bynnag, roedd Joseph wedi marw ac yr oedd yna berchennog newydd ar fusnes y ffatri, sef John Hughes, dyn 43 oed a ddisgrifiodd ei hun ar y ffurflen Cyfrifiad fel "Ffatrwr/Masnachwr" ac yn feistr-grefftwr. Dyn o'r Bala ydoedd, ond roedd ei wraig Martha'n hanu o Fethesda.[11]

Ymddengys enw John Hughes yng Nghyfrifiad Gwytherin, 1891, 23 oed a dibriod, yn gweithio fel gwehydd yn Ffatri Wlân Gwytherin yn Sir Ddinbych. Roedd Robert Roberts, gwneuthurwr gwlân, yn hen lanc 55 oed ac yn dal i fyw yn Nhŷ'r Ffatri gyda'i fam, Mary Hughes, 86 oed. Roedd Robert Roberts yn ŵr uchel ei barch ac yn flaenor yng Nhapel Cae’r Graig, cangen i Gapel Siloh, Gwytherin..... Roedd y tri hyn yn enedigol o’r Bala. Yn byw yno hefyd roedd Thomas Roberts, nyddwr 17 oed, o Lanfair Talhaearn, yn ogystal â’r forwyn Catherin Evans, 18 oed. Bu farw Mary Hughes, Tŷ’r Ffatri, ym 1894 a chladdwyd hi ym mynwent Capel Siloh, Gwytherin.

Ar gyfrifon 1901 gwelwn bod Robert Roberts, y pennaeth, yn dal yng Ngwytherin, ynghyd â John Hughes a Thomas Roberts, a disgrifir hwy fel Woolen Factory men. Roedd Martha Hughes o Fethesda yn cadw tŷ iddynt. Dau arall a fu’n gweithio yn y ffatri wlân oedd John Owen Jones ac Evan Griffith Jones.[12]

Daeth amser pan nad oedd cymaint o waith yn y ffatri wlân ac, o’r herwydd, fe symudodd Robert Roberts, a John a Martha Hughes, i ffatri Wlân Tai Lôn, Clynnog Fawr, a John Owen Jones i Tŷ Newydd, Mynytho. Evan Griffith Jones oedd yr olaf i symud tua 1921-2. Aeth ef a’i wraig a’r mab, Emlyn, i Ddolgellau i gadw siop ddillad. Wedi marwolaeth Robert Roberts yng Nhlynnog ym mis Hydref 1917 yn 80 oed, daeth 'nôl i Wytherin i’w gladdu gyda’i fam.[13]

Fel y gwelsom uchod, yr oedd Ffatri wlân Tai Lôn yn dal i weithio ym 1911. Meddai O. Roger Owen, wrth sôn yn ei hunangofiant am dripiau yr adeg honno gan blant Ysgol Ynys-yr-arch:

Cawsom hefyd fynd i weld ffatri wlân Tai Lôn, gweld yr amryw beiriannau, a'r perchennog yn egluro i ni sut y defnyddid hwy. Olwyn ddŵr fawr oedd yn troi'r peiriannau.[14]

Bu Catrin Parri Huws hithau ar ymweliad tebyg:

Profiad arall oedd cael mynd o'r ysgol ar ddiwrnod braf i weld y ffatri'n gweithio. Yr oedd yno dri o ddynion wrth eu gwaith, tair o ferched o gwmpas y tŷ, a'r parlwr wedi ei droi'n siop, gyda silffoedd pwrpasol i ddal gwlanen. 'Roedd cownter hir, sisyrnau a ffon-fesurydd arno gyda hosanau wedi eu gwau, crysau gwlanen i ddynion a chrafatiau cynnes.[15]

Mae Sophia Pari-Jones wedi cynnwys llun o fil y felin sydd yn dangos llun y ffatri. Fe'i hatgynhyrchir ar y dudalen hon.[16] Dyddiad y bil yw 1891, ryw 20 mlynedd cyn ymweliad y Roger Owen ifanc â'r ffatri, ond mae'n bosibl bod yr engrafiad wedi ei wneud gryn amser cyn hynny. John Jones, melinydd Melin Faesog gerllaw, oedd y sawl oedd yn ddyledus i Joseph Jones, perchennog y ffatri ar y pryd. Sylwer ar dop y bil y rhestr o bethau yr oedd y ffatri'n eu cynhyrchu.

Mae'r ffatri wedi cau ers blynyddoedd lawer, ond mae'r adeiladau wedi goroesi fel tai, sef Yr Hen Felindy a Melin Wlân.


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein, [1]. cyrchwyd 24.5.2021
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.25.
  3. John Jones, FRGS, Pwllheli Cofiant John Jones Bryn'rodyn(Caernarfon,1903), t.6.
  4. Cyfrifiad plwyf Clynnog Fawr, 1841
  5. J. Geraint Jenkins, The Welsh Woollen Industry (Caerdydd, 1969), t.240
  6. Roedd hi'n gyfnither i John Elias. Cofiant John Jones Bryn'rodyn, t.6
  7. John Jones, F.R.G.S., Pwllheli, Cofiant John Jones, Bryn'rodyn (Caernarfon 1903), t.10
  8. Llyfr Rhenti Plwyf Clynnog. Cyfeirir ati fel Factory Tainlon
  9. Cyfrifiadau plwyf Clynnog Fawr, 1851-1901
  10. Catrin Parri Huws, Sul Gŵyl a Gwaith (Caernarfon, 1981) tt.33-4
  11. Cyfrifiadau plwyf Clynnog Fawr, 1911
  12. Cyfrifiad plwyf Gwytherin, Sir Ddinbych, 1891 a 1901
  13. Heulwen Ann Roberts, Gwytherin, ar gyfer arddangosfa yn Amgueddfa Syr Henry Jones, Mehefin 2008.
  14. O. Roger Owen, O Ben Moel Tryfan (Pen-y-groes, 1981), t.24
  15. Catrin Pari Huws, Sul Gŵyl a Gwaith (Caernarfon, 1981) t.34
  16. Sophia Pari-Jones, Echoes from a Water Wheel (Bangor, 2011), llun rhwng tt.28/29