Chwarel Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae [[Chwarel Goch]] yn hen chwarel lechi ar lan orllewinol [[Llyn Cwellyn]]. Cynhyrchai lechi glas golau atyniadol, ond wrth iddynt gael eu heffeithio gan y tywydd, byddent yn troi'n liw rhwd, gan eu gwneud yn annefnyddiol ond mewn amgylchiadau arbennig lle deisyfid effaith amrwd a gwledig ar adeilad. Er bod rhyw ychydig o dystiolaeth fod y chwarel wedi dechrau trwy i bobl leol weithio ar eu liwt eu hunain yn y 18g., cychwynnodd yr ymdrech gyntaf (ar olaf) i chwarelu yno ar sail busnes sylweddol tua 1860 pan gafodd consortiwm lleol ganiatâd gan y perchnogion, sef [[Ystâd Cwellyn]], i gloddio yno. Erbyn 1865, roedd cynhyrchu wedi dechrau gyda 88 tunnel yn cael eu hallforio o harbwr Caernarfon. Sefydlwyd cwmni o'r enw ''Castell Cidwm Quellyn Slate Quarry Co.'' yr un flwyddyn. Roedd y cwmni hwn yn gyfrifol am [[Chwarel Cwellyn]] hefyd, ond ym 1868 gwahanwyd y dwy chwarel wrth i'r rheolwr, John Lloyd, adeiladydd a phensaer o Gaernarfon benderfynu nad oedd llechi Chwarel Goch yn well nag eiddo Chwarel Cwellyn; trôdd ei sylw at y chwarel honno gan dorri ei gysylltiadau efo Chwarel Goch. Sefydlodd cyd-berchennog tir y chwarel, y Parch. Phillip Williams, un o deulu [[Cwellyn]], gwmni newydd i fynd â chwarelu yn ei flaen, a chynigwyd cyfranddaliadau ynddo, er nad oedd ond un ran o chwech ohonynt wedi eu gwerthu ymhen 5 mlynedd.  
Mae [[Chwarel Goch]] yn hen chwarel lechi ar lan orllewinol [[Llyn Cwellyn]]. Cynhyrchai lechi glas golau atyniadol, ond wrth i'r tywydd effeithio arnynt, byddent yn troi'n lliw rhwd, gan eu gwneud yn annefnyddiol ond mewn amgylchiadau arbennig lle deisyfid effaith amrwd a gwledig ar adeilad. Er bod rhyw ychydig o dystiolaeth fod y chwarel wedi dechrau trwy i bobl leol weithio ar eu liwt eu hunain yn y 18g., cychwynnodd yr ymdrech gyntaf (a'r olaf) i chwarelu yno ar sail busnes sylweddol tua 1860 pan gafodd consortiwm lleol ganiatâd gan y perchnogion, sef [[Ystad Cwellyn]], i gloddio yno. Erbyn 1865, roedd cynhyrchu wedi dechrau gydag 88 tunnell yn cael eu hallforio o harbwr Caernarfon. Sefydlwyd cwmni o'r enw ''Castell Cidwm Quellyn Slate Quarry Co.'' yr un flwyddyn. Roedd y cwmni hwn yn gyfrifol am [[Chwarel Cwellyn]] hefyd, ond ym 1868 gwahanwyd y ddwy chwarel wrth i'r rheolwr, John Lloyd, adeiladydd a phensaer o Gaernarfon, benderfynu nad oedd llechi Chwarel Goch cystal ag eiddo Chwarel Cwellyn; trodd ei sylw at y chwarel honno gan dorri ei gysylltiadau efo Chwarel Goch. Sefydlodd cyd-berchennog tir y chwarel, y Parch. Phillip Williams, un o deulu [[Cwellyn]], gwmni newydd i barhau â'r chwarelu, a chynigiwyd cyfranddaliadau ynddo, er nad oedd ond un rhan o chwech ohonynt wedi eu gwerthu ymhen 5 mlynedd.  


Erbyn 1871 roedd 18 o ddynion yn gweithio yn y chwarel ond ym 1878, ar adeg o drai yn y diwydiant, aeth y cwmni i'r wal a dyna ddiwedd ar y chwarel. Ym 1945, fodd bynnag, gwerthodd etifedd Cwellyn (Stephen G. Williams o Daunton ym Ngwlad yr Haf) y safle i W. Ellis Evans a hwnnw'n gosod tomenydd y chwarel i nifer o ymgymerwyr a oedd yn awyddus i adenill llechi cochaidd "rustic" a oedd ar y pryd yn ffasiynol.<ref>Sylfaen yr erthygl hon yw'r hyn sydd ar gael yn Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.25-8</ref>
Erbyn 1871 roedd 18 o ddynion yn gweithio yn y chwarel ond ym 1878, ar adeg o drai yn y diwydiant, aeth y cwmni i'r wal a dyna ddiwedd ar y chwarel. Ym 1945, fodd bynnag, gwerthodd etifedd Cwellyn (Stephen G. Williams o Daunton ym Ngwlad yr Haf) y safle i W. Ellis Evans a hwnnw'n gosod tomennydd y chwarel i nifer o ymgymerwyr a oedd yn awyddus i adennill llechi cochaidd "rustic" a oedd yn ffasiynol ar y pryd.<ref>Sylfaen yr erthygl hon yw'r hyn sydd ar gael yn Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.25-8</ref>


Yr oedd yna dwll chwarel a oedd yn llawn dŵr erbyn i'r map Ordnans gael ei gyhoeddi ym 1888,<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf</ref> ond mae wedi ei lenwi ers blynyoedd.
Yr oedd yna dwll chwarel a oedd yn llawn dŵr erbyn i'r map Ordnans gael ei gyhoeddi ym 1888,<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf</ref> ond mae wedi ei lenwi ers blynyddoedd.




==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Chwareli]]
[[Categori:Chwareli llechi]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:57, 20 Chwefror 2022

Mae Chwarel Goch yn hen chwarel lechi ar lan orllewinol Llyn Cwellyn. Cynhyrchai lechi glas golau atyniadol, ond wrth i'r tywydd effeithio arnynt, byddent yn troi'n lliw rhwd, gan eu gwneud yn annefnyddiol ond mewn amgylchiadau arbennig lle deisyfid effaith amrwd a gwledig ar adeilad. Er bod rhyw ychydig o dystiolaeth fod y chwarel wedi dechrau trwy i bobl leol weithio ar eu liwt eu hunain yn y 18g., cychwynnodd yr ymdrech gyntaf (a'r olaf) i chwarelu yno ar sail busnes sylweddol tua 1860 pan gafodd consortiwm lleol ganiatâd gan y perchnogion, sef Ystad Cwellyn, i gloddio yno. Erbyn 1865, roedd cynhyrchu wedi dechrau gydag 88 tunnell yn cael eu hallforio o harbwr Caernarfon. Sefydlwyd cwmni o'r enw Castell Cidwm Quellyn Slate Quarry Co. yr un flwyddyn. Roedd y cwmni hwn yn gyfrifol am Chwarel Cwellyn hefyd, ond ym 1868 gwahanwyd y ddwy chwarel wrth i'r rheolwr, John Lloyd, adeiladydd a phensaer o Gaernarfon, benderfynu nad oedd llechi Chwarel Goch cystal ag eiddo Chwarel Cwellyn; trodd ei sylw at y chwarel honno gan dorri ei gysylltiadau efo Chwarel Goch. Sefydlodd cyd-berchennog tir y chwarel, y Parch. Phillip Williams, un o deulu Cwellyn, gwmni newydd i barhau â'r chwarelu, a chynigiwyd cyfranddaliadau ynddo, er nad oedd ond un rhan o chwech ohonynt wedi eu gwerthu ymhen 5 mlynedd.

Erbyn 1871 roedd 18 o ddynion yn gweithio yn y chwarel ond ym 1878, ar adeg o drai yn y diwydiant, aeth y cwmni i'r wal a dyna ddiwedd ar y chwarel. Ym 1945, fodd bynnag, gwerthodd etifedd Cwellyn (Stephen G. Williams o Daunton ym Ngwlad yr Haf) y safle i W. Ellis Evans a hwnnw'n gosod tomennydd y chwarel i nifer o ymgymerwyr a oedd yn awyddus i adennill llechi cochaidd "rustic" a oedd yn ffasiynol ar y pryd.[1]

Yr oedd yna dwll chwarel a oedd yn llawn dŵr erbyn i'r map Ordnans gael ei gyhoeddi ym 1888,[2] ond mae wedi ei lenwi ers blynyddoedd.


Cyfeiriadau

  1. Sylfaen yr erthygl hon yw'r hyn sydd ar gael yn Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.25-8
  2. Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf