Cwm Coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae'r '''Cwm Coed''' yn un o brif nodweddion Parc Glynllifon. Cwm syth tua 300 llath o hyd ydyw, ac Afon Llifon yn rhedeg trwyddo. Mae'n cychwyn w...' |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae'r '''Cwm Coed''' yn un o brif nodweddion [[Parc Glynllifon]]. Cwm syth tua 300 llath o hyd ydyw, ac [[Afon Llifon]] yn rhedeg trwyddo. Mae'n cychwyn wrth ochr ddwyreiniol [[Plas Glynllifon]], ac fe'i | Mae'r '''Cwm Coed''' yn un o brif nodweddion gerddi [[Parc Glynllifon]]. Cwm syth tua 300 llath o hyd ydyw, ac [[Afon Llifon]] yn rhedeg trwyddo. Mae'n cychwyn wrth ochr ddwyreiniol [[Plas Glynllifon]], ac fe'i tirluniwyd i fod yn rhodfa bleserus i'r sawl oedd yn byw neu'n aros yn y Plas. Yr oedd ffynhonnau (''fountains'') addurniadol y ddau ben i'r Cwm Coed, ac ar hyd ochrau'r Cwm fel blannwyd llawer o goed addurniadol ac egsotig, a sawl rhywogaeth o fambŵ, yn cynnwys bambŵ du sydd ond yn blodeuo unwaith mewn can mlynedd; fe flodeuodd tua 2001. Plannwyd llawer o goed caled yn wreiddiol ar lethrau'r cwm, coed ffawydd yn bennaf, a rhodfa o goed pisgwydd ar lawr y cwm. Ar un ochr i'r cwm, cynlluniwyd man chwarae i blant [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]] yn y 1840au, sef [[Melin y Plant]]. Yr ochr arall i'r cwm, tyllwyd ogof addurniadol gyda tho gwydr, neu "grotto", a hefyd twnel arall a arweiniai at dŷ iâ, sef rhywle dan ddaear lle gellid cadw iâ a ffurfiai ar yr afon yn y gaeaf trwy'r flwyddyn at ddibenion cegin y plas. Mae'r twneli hyn yn dal i fodoli ond cyfyngir mynediad atynt oherwydd y perygl posibl.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:20, 11 Mawrth 2021
Mae'r Cwm Coed yn un o brif nodweddion gerddi Parc Glynllifon. Cwm syth tua 300 llath o hyd ydyw, ac Afon Llifon yn rhedeg trwyddo. Mae'n cychwyn wrth ochr ddwyreiniol Plas Glynllifon, ac fe'i tirluniwyd i fod yn rhodfa bleserus i'r sawl oedd yn byw neu'n aros yn y Plas. Yr oedd ffynhonnau (fountains) addurniadol y ddau ben i'r Cwm Coed, ac ar hyd ochrau'r Cwm fel blannwyd llawer o goed addurniadol ac egsotig, a sawl rhywogaeth o fambŵ, yn cynnwys bambŵ du sydd ond yn blodeuo unwaith mewn can mlynedd; fe flodeuodd tua 2001. Plannwyd llawer o goed caled yn wreiddiol ar lethrau'r cwm, coed ffawydd yn bennaf, a rhodfa o goed pisgwydd ar lawr y cwm. Ar un ochr i'r cwm, cynlluniwyd man chwarae i blant Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough yn y 1840au, sef Melin y Plant. Yr ochr arall i'r cwm, tyllwyd ogof addurniadol gyda tho gwydr, neu "grotto", a hefyd twnel arall a arweiniai at dŷ iâ, sef rhywle dan ddaear lle gellid cadw iâ a ffurfiai ar yr afon yn y gaeaf trwy'r flwyddyn at ddibenion cegin y plas. Mae'r twneli hyn yn dal i fodoli ond cyfyngir mynediad atynt oherwydd y perygl posibl.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth bersonol