Porth Clynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 13: Llinell 13:
Erbyn hyn, mae erydiad gan y môr wedi brathu i'r tir gan adael fawr o ôl y man glanio, ond mae adfeilion bythynnod o'r enw'r Borth yno i'w gweld o hyd.
Erbyn hyn, mae erydiad gan y môr wedi brathu i'r tir gan adael fawr o ôl y man glanio, ond mae adfeilion bythynnod o'r enw'r Borth yno i'w gweld o hyd.


Ceir un neu ddau o gyfeiriadau diddorol am longau'n dod i Borth Clynnog gyda nwyddau yn nyddiaduron Eben Fardd. Ar 30 Awst 1838 mae'n sôn fel yr aeth ef i'r Borth i gyfarfod â llong a oedd wedi dod i mewn yno. Capten William Thomas oedd capten y llong fechan ac mae'n amlwg fod Eben wedi archebu papur ganddo. Gan nad oedd unrhyw un i'w weld ar ddec y llong, fe dynnodd Eben gwch bach a oedd wedi'i glymu wrth y llong i'r lan a rhwyfo ati. Ar ôl mynd ar fwrdd y llong mae'n disgrifio fel yr aeth i lawr i'r caban, a oedd mor fychan a chlos fel yr oedd bron â mygu yno. Prynodd 6 cwîr (''quire'') o bapur (roedd cwîr yn fesur o 25 dalen o bapur) gan y capten am bedair ceiniog a dimai yr un a dywed iddo roi ceiniog a dimai dros ben iddo yn y fargen! Rhwyfwyd y prydydd yn ôl i'r lan gan un o'r llongwyr. Drannoeth aeth at y llong drachefn, gyda'i ddwy ferch hynaf, Elin a Catherine, gydag ef. Dywed fod Catherine wedi dechrau crio wrth iddynt gael eu rhwyfo yn y cwch bach at y llong yng nghwmni'r capten. Drachefn, ar 29 Ebrill 1840 noda iddo fynd i lan y môr i gario potiau pridd (''earthenware'') o'r llong i'r lan. Bu'n cadw golwg arnynt drwy'r dydd am ryw reswm ac yna'u cario adref gyda'r nos. Roedd y cyfan yn ''A very hard day's work'' yn ôl Eben. Mae'n bosib iawn mai potiau pridd i'w gwerthu yn y siop a gadwai ef a Mary ei wraig yn eu cartref, Bod Gybi, oedd y rhain.  
Ceir un neu ddau o gyfeiriadau diddorol am longau'n dod i Borth Clynnog gyda nwyddau yn nyddiaduron [[Eben Fardd]]. Ar 30 Awst 1838 mae'n sôn fel yr aeth ef i'r Borth i gyfarfod â llong a oedd wedi dod i mewn yno. Capten William Thomas oedd capten y llong fechan ac mae'n amlwg fod Eben wedi archebu papur ganddo. Gan nad oedd unrhyw un i'w weld ar ddec y llong, fe dynnodd Eben gwch bach a oedd wedi'i glymu wrth y llong i'r lan a rhwyfo ati. Ar ôl mynd ar fwrdd y llong mae'n disgrifio fel yr aeth i lawr i'r caban, a oedd mor fychan a chlos fel yr oedd bron â mygu yno. Prynodd 6 cwîr (''quire'') o bapur (roedd cwîr yn fesur o 25 dalen o bapur) gan y capten am bedair ceiniog a dimai yr un a dywed iddo roi ceiniog a dimai dros ben iddo yn y fargen! Rhwyfwyd y prydydd yn ôl i'r lan gan un o'r llongwyr. Drannoeth aeth at y llong drachefn, a'i ddwy ferch hynaf, Elin a Catherine, gydag ef. Dywed fod Catherine wedi dechrau crio wrth iddynt gael eu rhwyfo yn y cwch bach at y llong yng nghwmni'r capten. Drachefn, ar 29 Ebrill 1840 noda iddo fynd i lan y môr i gario potiau pridd (''earthenware'') o long i'r lan (nid yw'n nodi ai llong Capten Thomas oedd hon). Bu'n cadw golwg arnynt drwy'r dydd am ryw reswm ac yna'u cario adref gyda'r nos. Roedd y cyfan yn ''A very hard day's work'' yn ôl Eben. Mae'n bosib iawn mai potiau pridd i'w gwerthu yn y siop a gadwai ef a Mary ei wraig yn eu cartref, [[Bod Gybi]], oedd y rhain. <ref> ''Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd'', E.G. Millward (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968), tt.88-9; t.128.</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Pysgota]]
[[Categori:Pysgota]]
[[Categori:Morwrol]]
[[Categori:Morwrol]]
[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Safleoedd nodedig]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:15, 12 Chwefror 2021

Y Borth, Clynnog, c1890

Roedd Porth Clynnog yn un o nifer o fannau dadlwytho llongau bach a gludai nwyddau (glo a chalch gan mwyaf) mor agos at y defnyddwyr ag y gallent am ganrifoedd hyd at ddechrau'r 20g. Roedd y Borth gyferbyn â Gored Beuno, craig sy'n dod i'r wyneb ar gyfnodau o drai, ychydig i'r gogledd o fferm Tŷ Coch, a diddorol yw nodi bod dau odyn galch yn cael eu nodi ar fap Ordnans 1888 dim ond tafliad carreg o hen dai'r Borth. Mae'r agosaf yn cael ei ddisgrifio fel odyn galch tra bod y llall yn "old limekiln"; mae'r gwahaniaeth yn y ddau ddisgrifiad yn arwyddocaol felly, ac yn tueddu i awgrymu bod llosgi calch yn dal i ddigwydd hyd at o leiaf 1888. Nid yw'r naill na'r llall yn cael ei enwi ar fap 1900.[1] Erbyn diwedd cyfnod yr odynnau, fodd bynnag, dywedir nad oedd y lanfa ger y Borth yn hawdd mynd ati, ac felly deuai'r glo o Aberdesach, lle 'roedd glo'n cael ei lanio mor ddiweddar â 1903.[2]

Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir Brut y Tywysogion. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw Le Geffrey wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.[3]

Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19g. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.[4]

Adroddodd John Williams (John Coed), Cowrt Bach,yr hanes hwn yn 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, Gurn Goch, yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno.

Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - efallai mai wrth geg Afon Desach neu yn Aberafon y digwyddodd hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dŵr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Gydag erydiad cyson, fodd bynnag, gellid dychmygu fod yna gei ger Y Borth a fyddai wedi rhoi digon o gysgod. Ym 1780 mae'n debyg i long gael ei hadeiladu yno, sef y Nancy, 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddo ym 1817.[5]

Erbyn hyn, mae erydiad gan y môr wedi brathu i'r tir gan adael fawr o ôl y man glanio, ond mae adfeilion bythynnod o'r enw'r Borth yno i'w gweld o hyd.

Ceir un neu ddau o gyfeiriadau diddorol am longau'n dod i Borth Clynnog gyda nwyddau yn nyddiaduron Eben Fardd. Ar 30 Awst 1838 mae'n sôn fel yr aeth ef i'r Borth i gyfarfod â llong a oedd wedi dod i mewn yno. Capten William Thomas oedd capten y llong fechan ac mae'n amlwg fod Eben wedi archebu papur ganddo. Gan nad oedd unrhyw un i'w weld ar ddec y llong, fe dynnodd Eben gwch bach a oedd wedi'i glymu wrth y llong i'r lan a rhwyfo ati. Ar ôl mynd ar fwrdd y llong mae'n disgrifio fel yr aeth i lawr i'r caban, a oedd mor fychan a chlos fel yr oedd bron â mygu yno. Prynodd 6 cwîr (quire) o bapur (roedd cwîr yn fesur o 25 dalen o bapur) gan y capten am bedair ceiniog a dimai yr un a dywed iddo roi ceiniog a dimai dros ben iddo yn y fargen! Rhwyfwyd y prydydd yn ôl i'r lan gan un o'r llongwyr. Drannoeth aeth at y llong drachefn, a'i ddwy ferch hynaf, Elin a Catherine, gydag ef. Dywed fod Catherine wedi dechrau crio wrth iddynt gael eu rhwyfo yn y cwch bach at y llong yng nghwmni'r capten. Drachefn, ar 29 Ebrill 1840 noda iddo fynd i lan y môr i gario potiau pridd (earthenware) o long i'r lan (nid yw'n nodi ai llong Capten Thomas oedd hon). Bu'n cadw golwg arnynt drwy'r dydd am ryw reswm ac yna'u cario adref gyda'r nos. Roedd y cyfan yn A very hard day's work yn ôl Eben. Mae'n bosib iawn mai potiau pridd i'w gwerthu yn y siop a gadwai ef a Mary ei wraig yn eu cartref, Bod Gybi, oedd y rhain. [6]

Cyfeiriadau

  1. Mapiau Ordnans 6", 1888 a 1900
  2. Wicipedia, Erthygl ar Pontlyfni, [1], cyrchwyd 27.02.2020
  3. David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.
  4. David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.35
  5. David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206
  6. Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, E.G. Millward (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968), tt.88-9; t.128.