Y Goeden Eirin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Tŷ ar fferm [[Hendre (Llanwnda)]] yw'r '''Goeden Eirin''', wedi ei addasu o hen feudai'r fferm. Bu'n gartref am flynyddoedd i'r ysgolhaig a'r llenor, y diweddar Athro [[John Rowlands]], ac mae ei briod, Eluned, yn byw yno o hyd. Am flynyddoedd buont yn cadw bwyty a gwesty bychan o safon uchel yn Y Goeden Eirin, gan gyflawni'r holl waith coginio ar y cyd. Roeddent yn nodedig am arbrofi gyda gwahanol gyfuniadau o fwydydd i greu seigiau arbennig, gyda gwinoedd addas i gyd-fynd â hwy. Gyda choed eirin o amgylch buarth y fferm, naturiol oedd i John ac Eluned Rowlands roi enw cyfrol eu cyfaill John Gwilym Jones ar eu cartref newydd, a addaswyd tua 1980. Mae enw'r tŷ wedi | Tŷ ar fferm [[Hendre (Llanwnda)]] yw'r '''Goeden Eirin''', wedi ei addasu o hen feudai'r fferm. Bu'n gartref am flynyddoedd i'r ysgolhaig a'r llenor, y diweddar Athro [[John Rowlands]], ac mae ei briod, Eluned, yn byw yno o hyd. Am flynyddoedd buont yn cadw bwyty a gwesty bychan o safon uchel yn Y Goeden Eirin, gan gyflawni'r holl waith coginio ar y cyd. Roeddent yn nodedig am arbrofi gyda gwahanol gyfuniadau o fwydydd i greu seigiau arbennig, gyda gwinoedd addas i gyd-fynd â hwy. Gyda choed eirin o amgylch buarth y fferm, naturiol oedd i John ac Eluned Rowlands roi enw cyfrol eu cyfaill John Gwilym Jones ar eu cartref newydd, a addaswyd tua 1980. Mae enw'r tŷ a bathodyn y bwyty, a ddylunwyd gan yr artist Syr Kyffin Williams, wedi eu hysgythru ar lechen fawr wrth geg y lôn at y tŷ.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | ||
Mae ''Y Goeden Eirin'' hefyd yn deitl i gyfrol o chwe stori fer gan yr awdur a'r dramodydd [[John Gwilym Jones]] (1904-1988) o bentref [[Y Groeslon]], gerllaw. Fe'u cyhoeddwyd ym 1946 gan Wasg Gee. Er bod y teitl fel pe bai'n cyfeirio at y goeden eirin a safai ar dir y tŷ uchod, ac a oedd yn hysbys iawn i'r awdur wrth gwrs, eto nid yw'r storïau wedi eu lleoli mewn unrhyw ardal arbennig. Ystyrid bod y storïau hyn yn torri tir newydd yn hanes datblygiad y stori fer yn y Gymraeg, gan fod elfennau megis llif-yr-ymwybod i'w gweld ynddynt, gan ymdebygu i weithiau rhai fel Virginia Woolf a James Joyce yn Saesneg. Er enghraifft, mae'r stori gyntaf yn y casgliad yn dadlennu meddyliau saith o gymeriadau mewn gwasanaeth priodas. Roedd yr awdur yn ymwybodol ei fod yn creu deunydd arloesol a gwahanol yn y Gymraeg a derbyniad cymysg a gafodd y casgliad; yn wir, roedd y wasg wedi petruso tipyn cyn cyhoeddi'r gyfrol. Roedd rhai darllenwyr yn cael trafferth i ddirnad ystyr a neges y storïau, ac mae stori olaf y casgliad, "Cerrig y Rhyd" yn ''apologia'' mewn gwirionedd gan yr awdur dros ei ddull. Cyhoeddwyd trosiad Saesneg o'r storïau, ynghyd â pheth deunydd ychwanegol (yn cynnwys storïau anghyhoeddedig) gan Meic Stephens fel ''The Plum Tree and Other Short Prose'' (Seren Classics 2004). <ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), t. 223; gwybodaeth bersonol</ref | Mae ''Y Goeden Eirin'' hefyd yn deitl i gyfrol o chwe stori fer gan yr awdur a'r dramodydd [[John Gwilym Jones]] (1904-1988) o bentref [[Y Groeslon]], gerllaw. Fe'u cyhoeddwyd ym 1946 gan Wasg Gee. Er bod y teitl fel pe bai'n cyfeirio at y goeden eirin a safai ar dir y tŷ uchod, ac a oedd yn hysbys iawn i'r awdur wrth gwrs, eto nid yw'r storïau wedi eu lleoli mewn unrhyw ardal arbennig. Ystyrid bod y storïau hyn yn torri tir newydd yn hanes datblygiad y stori fer yn y Gymraeg, gan fod elfennau megis llif-yr-ymwybod i'w gweld ynddynt, gan ymdebygu i weithiau rhai fel Virginia Woolf a James Joyce yn Saesneg. Er enghraifft, mae'r stori gyntaf yn y casgliad yn dadlennu meddyliau saith o gymeriadau mewn gwasanaeth priodas. Roedd yr awdur yn ymwybodol ei fod yn creu deunydd arloesol a gwahanol yn y Gymraeg a derbyniad cymysg a gafodd y casgliad; yn wir, roedd y wasg wedi petruso tipyn cyn cyhoeddi'r gyfrol. Roedd rhai darllenwyr yn cael trafferth i ddirnad ystyr a neges y storïau, ac mae stori olaf y casgliad, "Cerrig y Rhyd" yn ''apologia'' mewn gwirionedd gan yr awdur dros ei ddull. Cyhoeddwyd trosiad Saesneg o'r storïau, ynghyd â pheth deunydd ychwanegol (yn cynnwys storïau anghyhoeddedig) gan Meic Stephens fel ''The Plum Tree and Other Short Prose'' (Seren Classics 2004). <ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), t. 223; gwybodaeth bersonol</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:16, 5 Chwefror 2021
Tŷ ar fferm Hendre (Llanwnda) yw'r Goeden Eirin, wedi ei addasu o hen feudai'r fferm. Bu'n gartref am flynyddoedd i'r ysgolhaig a'r llenor, y diweddar Athro John Rowlands, ac mae ei briod, Eluned, yn byw yno o hyd. Am flynyddoedd buont yn cadw bwyty a gwesty bychan o safon uchel yn Y Goeden Eirin, gan gyflawni'r holl waith coginio ar y cyd. Roeddent yn nodedig am arbrofi gyda gwahanol gyfuniadau o fwydydd i greu seigiau arbennig, gyda gwinoedd addas i gyd-fynd â hwy. Gyda choed eirin o amgylch buarth y fferm, naturiol oedd i John ac Eluned Rowlands roi enw cyfrol eu cyfaill John Gwilym Jones ar eu cartref newydd, a addaswyd tua 1980. Mae enw'r tŷ a bathodyn y bwyty, a ddylunwyd gan yr artist Syr Kyffin Williams, wedi eu hysgythru ar lechen fawr wrth geg y lôn at y tŷ.[1]
Mae Y Goeden Eirin hefyd yn deitl i gyfrol o chwe stori fer gan yr awdur a'r dramodydd John Gwilym Jones (1904-1988) o bentref Y Groeslon, gerllaw. Fe'u cyhoeddwyd ym 1946 gan Wasg Gee. Er bod y teitl fel pe bai'n cyfeirio at y goeden eirin a safai ar dir y tŷ uchod, ac a oedd yn hysbys iawn i'r awdur wrth gwrs, eto nid yw'r storïau wedi eu lleoli mewn unrhyw ardal arbennig. Ystyrid bod y storïau hyn yn torri tir newydd yn hanes datblygiad y stori fer yn y Gymraeg, gan fod elfennau megis llif-yr-ymwybod i'w gweld ynddynt, gan ymdebygu i weithiau rhai fel Virginia Woolf a James Joyce yn Saesneg. Er enghraifft, mae'r stori gyntaf yn y casgliad yn dadlennu meddyliau saith o gymeriadau mewn gwasanaeth priodas. Roedd yr awdur yn ymwybodol ei fod yn creu deunydd arloesol a gwahanol yn y Gymraeg a derbyniad cymysg a gafodd y casgliad; yn wir, roedd y wasg wedi petruso tipyn cyn cyhoeddi'r gyfrol. Roedd rhai darllenwyr yn cael trafferth i ddirnad ystyr a neges y storïau, ac mae stori olaf y casgliad, "Cerrig y Rhyd" yn apologia mewn gwirionedd gan yr awdur dros ei ddull. Cyhoeddwyd trosiad Saesneg o'r storïau, ynghyd â pheth deunydd ychwanegol (yn cynnwys storïau anghyhoeddedig) gan Meic Stephens fel The Plum Tree and Other Short Prose (Seren Classics 2004). [2]