Chwarel yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 3 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Chwarel yr Eifl''' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd [[Garnfor]], yr agosaf i'r môr o driawd mynyddoedd [[Yr Eifl|yr Eifl]], y ffin rhwng Cwmwd [[Uwchgwyrfai]] a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref [[Arfon]] a Chantref Llŷn.
'''Chwarel yr Eifl''' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd [[Garnfor]], yr agosaf i'r môr o driawd mynyddoedd [[Yr Eifl|yr Eifl]], y ffin rhwng Cwmwd [[Uwchgwyrfai]] a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref [[Arfon]] a Chantref Llŷn. Mor gynnar ag 1851, pan oedd [[John Hutton]] yn rheolwr a phrin degawd ar ôl iddi gael ei chychwyn, roedd y chwarel yn weithle i 120 o chwarelwyr.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanarmon, 1851</ref>

Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn, ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd, a defnyddiwyd, enwau eraill.
Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn, ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd, a defnyddiwyd, enwau eraill.
Llinell 10: Llinell 10:

Defnyddir yr un egwyddor yn Nhrefor ynglŷn â phopeth sy'n perthyn i fywyd y Gwaith. Dyma rai ymadroddion o'u cymharu â byd y chwarel lechi - geiriau'r lechen ar y chwith a geiriau'r ithfaen ar y dde :

   chwarel                        gwaith
   chwarel                        gwaith
   chwarelwyr                   dynion gwaith
   chwarelwyr                     dynion gwaith
   lôn y chwarel               lôn gwaith
   lôn y chwarel                 lôn gwaith
   swper chwarel               bwyd gwaith
   swper chwarel                 bwyd gwaith
   caban buta'r chwarel     cwt buta'r gwaith
   caban buta'r chwarel           cwt buta'r gwaith
   corn chwarel                 corn gwaith
   corn chwarel                   corn gwaith
   offis (swyddfa)'r chwarel offis y gwaith
   offis (swyddfa)'r chwarel     offis y gwaith
   ponciau'r chwarel           ponciau'r gwaith
   ponciau'r chwarel             ponciau'r gwaith
   i ben y chwarel             i ben gwaith
   i ben y chwarel               i ben gwaith
   mynydd y chwarel         mynydd gwaith
   mynydd y chwarel               mynydd gwaith
 
Gan y gellir cyfieithu'r gair 'gwaith' i'r Saesneg naill ai fel 'quarry' neu 'work', cafwyd ambell i gamddealltwriaeth digon digri:
Gan y gellir cyfieithu'r gair 'gwaith' i'r Saesneg naill ai fel 'quarry' neu 'work', cafwyd ambell i gamddealltwriaeth digon digri:
Llinell 34: Llinell 32:
"What do you think this place is? A zoo?"
"What do you think this place is? A zoo?"

Dylid nodi fod un o lenorion amlwg y Gymraeg, [[John Emyr]], brodor o Drefor, wedi cyhoeddi cyfrol yn dwyn yr enw ''Mynydd Gwaith a Storïau Eraill".
Dylid nodi fod un o lenorion amlwg y Gymraeg, [[John Emyr]], brodor o Drefor, wedi cyhoeddi cyfrol yn dwyn yr enw ''Mynydd Gwaith a Storïau Eraill''
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Chwareli ithfaen]]
[[Categori:Chwarelydda]]
.

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:34, 27 Chwefror 2024

Chwarel yr Eifl fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd mynyddoedd yr Eifl, y ffin rhwng Cwmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref Arfon a Chantref Llŷn. Mor gynnar ag 1851, pan oedd John Hutton yn rheolwr a phrin degawd ar ôl iddi gael ei chychwyn, roedd y chwarel yn weithle i 120 o chwarelwyr.[1]

Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn, ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd, a defnyddiwyd, enwau eraill.

'Y Gwaith' fu, ac ydi, enw pobl Trefor ar y lle. Mewn cylch ehangach defnyddid 'Gwaith Llanhuar' (Llanaelhaearn), ac fel y tyfodd y chwarel aeth yn 'Gwaith Mawr Llanhuar', ac yna'n ddim ond y 'Gwaith Mawr' yn unig. Yn ddiweddarach, ar ôl adeiladu pentref Trefor, ac yna'n ystod yr ugeinfed ganrif, cyfeirid at y Gwaith fel 'Gwaith Trefor' yn unig.

Mae'n bwysig nodi mai fel 'Gwaith' y cyfeirir yn Gymraeg at chwarel ithfaen, ac nid fel 'chwarel' e.e. Gwaith Tan-y-graig ar lethr y Gurn Ddu yn Nhrefor; Gwaith Carreg y Llam yn Nant Gwrtheyrn; Gwaith Trwyn yn Llanbedrog; Gwaith Carreg yr Imbill ym Mhwllheli; Gwaith Penmaen-mawr; Gwaith y Gwylwyr yn Nefyn a Gwaith Tŷ Mawr ym Mhistyll.

Yng nghofnodion y Cwmni Ithfaen Cymreig yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyfeirir bron yn ddieithriad at 'The Works' yn hytrach na 'the quarry', ond at y perchnogion, siŵr iawn, fel y 'quarry owners'!

Defnyddir yr un egwyddor yn Nhrefor ynglŷn â phopeth sy'n perthyn i fywyd y Gwaith. Dyma rai ymadroddion o'u cymharu â byd y chwarel lechi - geiriau'r lechen ar y chwith a geiriau'r ithfaen ar y dde :

  chwarel                        gwaith
  chwarelwyr                     dynion gwaith
  lôn y chwarel                  lôn gwaith
  swper chwarel                  bwyd gwaith
  caban buta'r chwarel           cwt buta'r gwaith
  corn chwarel                   corn gwaith
  offis (swyddfa)'r chwarel      offis y gwaith
  ponciau'r chwarel              ponciau'r gwaith
  i ben y chwarel                i ben gwaith
  mynydd y chwarel               mynydd gwaith

Gan y gellir cyfieithu'r gair 'gwaith' i'r Saesneg naill ai fel 'quarry' neu 'work', cafwyd ambell i gamddealltwriaeth digon digri:

Gwan iawn oedd gwybodaeth cymeriad o'r enw Tecwyn o Lithfaen o'r iaith fain. Un diwrnod cerddodd dros y mynydd i'r Gwaith Mawr i chwilio am joban. Fe'i gwelwyd ar un o'r ponciau gan neb llai na'r Rheolwr ei hun, Mr. Darbishire, Sais uniaith.

"And what can I do for you this morning, Tecwyn."

"Please you sir," atebodd Tecwyn yn ffyddiog, wedi ymarfer ei anerchiad yr holl ffordd dros y mynydd, "I am looking for a QUARRY, as I have been on the dole for six weeks".

"What do you think this place is? A zoo?"

Dylid nodi fod un o lenorion amlwg y Gymraeg, John Emyr, brodor o Drefor, wedi cyhoeddi cyfrol yn dwyn yr enw Mynydd Gwaith a Storïau Eraill

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

.

  1. Cyfrifiad plwyf Llanarmon, 1851