Chwarel yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''Chwarel yr Eifl' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd Mynyddoedd yr Eifl, y ffi...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'Chwarel yr Eifl' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd | '''Chwarel yr Eifl''' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd [[Garnfor]], yr agosaf i'r môr o driawd mynyddoedd [[Yr Eifl|yr Eifl]], y ffin rhwng Cwmwd [[Uwchgwyrfai]] a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref [[Arfon]] a Chantref Llŷn. Mor gynnar ag 1851, pan oedd [[John Hutton]] yn rheolwr a phrin degawd ar ôl iddi gael ei chychwyn, roedd y chwarel yn weithle i 120 o chwarelwyr.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanarmon, 1851</ref> | ||
Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd a defnyddiwyd enwau eraill. | Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn, ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd, a defnyddiwyd, enwau eraill. | ||
'Y Gwaith' | 'Y Gwaith' fu, ac ydi, enw pobl [[Trefor]] ar y lle. Mewn cylch ehangach defnyddid 'Gwaith Llanhuar' ([[Llanaelhaearn]]), ac fel y tyfodd y chwarel aeth yn 'Gwaith Mawr Llanhuar', ac yna'n ddim ond y 'Gwaith Mawr' yn unig. Yn ddiweddarach, ar ôl adeiladu pentref Trefor, ac yna'n ystod yr ugeinfed ganrif, cyfeirid at y Gwaith fel 'Gwaith Trefor' yn unig. | ||
Mae'n bwysig nodi mai fel 'Gwaith' y cyfeirir yn Gymraeg at chwarel ithfaen, ac nid fel 'chwarel' e.e. [[Gwaith ithfaen Tan-y-graig|Gwaith Tan-y-graig]] ar lethr y [[Gurn Ddu]] yn Nhrefor; Gwaith Carreg y Llam yn Nant Gwrtheyrn; Gwaith Trwyn yn Llanbedrog; Gwaith Carreg yr Imbill ym Mhwllheli; Gwaith Penmaen-mawr; Gwaith y Gwylwyr yn Nefyn a Gwaith Tŷ Mawr ym Mhistyll. | |||
Yng nghofnodion y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyfeirir bron yn ddieithriad at 'The Works' yn hytrach na 'the quarry', ond at y perchnogion, siŵr iawn, fel y 'quarry owners'! | |||
Defnyddir yr un egwyddor yn Nhrefor ynglŷn â phopeth sy'n perthyn i fywyd y Gwaith. Dyma rai ymadroddion o'u cymharu â byd y chwarel lechi - geiriau'r lechen ar y chwith a geiriau'r ithfaen ar y dde : | |||
chwarel gwaith | |||
chwarelwyr dynion gwaith | |||
lôn y chwarel lôn gwaith | |||
swper chwarel bwyd gwaith | |||
caban buta'r chwarel cwt buta'r gwaith | |||
corn chwarel corn gwaith | |||
offis (swyddfa)'r chwarel offis y gwaith | |||
ponciau'r chwarel ponciau'r gwaith | |||
i ben y chwarel i ben gwaith | |||
mynydd y chwarel mynydd gwaith | |||
Gan y gellir cyfieithu'r gair 'gwaith' i'r Saesneg naill ai fel 'quarry' neu 'work', cafwyd ambell i gamddealltwriaeth digon digri: | |||
Gwan iawn oedd gwybodaeth cymeriad o'r enw Tecwyn o Lithfaen o'r iaith fain. Un diwrnod cerddodd dros y mynydd i'r Gwaith Mawr i chwilio am joban. Fe'i gwelwyd ar un o'r ponciau gan neb llai na'r Rheolwr ei hun, [[W.A. Darbishire|Mr. Darbishire]], Sais uniaith. | |||
"And what can I do for you this morning, Tecwyn." | |||
"Please you sir," atebodd Tecwyn yn ffyddiog, wedi ymarfer ei anerchiad yr holl ffordd dros y mynydd, "I am looking for a QUARRY, as I have been on the dole for six weeks". | |||
"What do you think this place is? A zoo?" | |||
Dylid nodi fod un o lenorion amlwg y Gymraeg, [[John Emyr]], brodor o Drefor, wedi cyhoeddi cyfrol yn dwyn yr enw ''Mynydd Gwaith a Storïau Eraill'' | |||
{{eginyn}} | |||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Chwareli ithfaen]] | |||
[[Categori:Chwarelydda]] | |||
. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:34, 27 Chwefror 2024
Chwarel yr Eifl fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd mynyddoedd yr Eifl, y ffin rhwng Cwmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref Arfon a Chantref Llŷn. Mor gynnar ag 1851, pan oedd John Hutton yn rheolwr a phrin degawd ar ôl iddi gael ei chychwyn, roedd y chwarel yn weithle i 120 o chwarelwyr.[1]
Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn, ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd, a defnyddiwyd, enwau eraill.
'Y Gwaith' fu, ac ydi, enw pobl Trefor ar y lle. Mewn cylch ehangach defnyddid 'Gwaith Llanhuar' (Llanaelhaearn), ac fel y tyfodd y chwarel aeth yn 'Gwaith Mawr Llanhuar', ac yna'n ddim ond y 'Gwaith Mawr' yn unig. Yn ddiweddarach, ar ôl adeiladu pentref Trefor, ac yna'n ystod yr ugeinfed ganrif, cyfeirid at y Gwaith fel 'Gwaith Trefor' yn unig.
Mae'n bwysig nodi mai fel 'Gwaith' y cyfeirir yn Gymraeg at chwarel ithfaen, ac nid fel 'chwarel' e.e. Gwaith Tan-y-graig ar lethr y Gurn Ddu yn Nhrefor; Gwaith Carreg y Llam yn Nant Gwrtheyrn; Gwaith Trwyn yn Llanbedrog; Gwaith Carreg yr Imbill ym Mhwllheli; Gwaith Penmaen-mawr; Gwaith y Gwylwyr yn Nefyn a Gwaith Tŷ Mawr ym Mhistyll.
Yng nghofnodion y Cwmni Ithfaen Cymreig yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyfeirir bron yn ddieithriad at 'The Works' yn hytrach na 'the quarry', ond at y perchnogion, siŵr iawn, fel y 'quarry owners'!
Defnyddir yr un egwyddor yn Nhrefor ynglŷn â phopeth sy'n perthyn i fywyd y Gwaith. Dyma rai ymadroddion o'u cymharu â byd y chwarel lechi - geiriau'r lechen ar y chwith a geiriau'r ithfaen ar y dde :
chwarel gwaith chwarelwyr dynion gwaith lôn y chwarel lôn gwaith swper chwarel bwyd gwaith caban buta'r chwarel cwt buta'r gwaith corn chwarel corn gwaith offis (swyddfa)'r chwarel offis y gwaith ponciau'r chwarel ponciau'r gwaith i ben y chwarel i ben gwaith mynydd y chwarel mynydd gwaith
Gan y gellir cyfieithu'r gair 'gwaith' i'r Saesneg naill ai fel 'quarry' neu 'work', cafwyd ambell i gamddealltwriaeth digon digri:
Gwan iawn oedd gwybodaeth cymeriad o'r enw Tecwyn o Lithfaen o'r iaith fain. Un diwrnod cerddodd dros y mynydd i'r Gwaith Mawr i chwilio am joban. Fe'i gwelwyd ar un o'r ponciau gan neb llai na'r Rheolwr ei hun, Mr. Darbishire, Sais uniaith.
"And what can I do for you this morning, Tecwyn."
"Please you sir," atebodd Tecwyn yn ffyddiog, wedi ymarfer ei anerchiad yr holl ffordd dros y mynydd, "I am looking for a QUARRY, as I have been on the dole for six weeks".
"What do you think this place is? A zoo?"
Dylid nodi fod un o lenorion amlwg y Gymraeg, John Emyr, brodor o Drefor, wedi cyhoeddi cyfrol yn dwyn yr enw Mynydd Gwaith a Storïau Eraill
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
.
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanarmon, 1851