Llys Baladeulyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Yr oedd '''Llys Baladeulyn''' yn un o lysoedd y Tywysog cyn 1284. Eiddo Einion ap Caradog, ewyrth i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffydd, a disgynnydd i Owain Gwynedd. Wedi i Einion farw, pasiodd Baladeulyn i ddwylo ei fab, Tudur ab Einion ap Caradog, ond ar farwolaeth hwnnw ym 1284 cipiodd brenin Lloegr, Iorwerth I, yr eiddo. Fe'i wnaed yn gartref iddo fo ei hun am gyfnod ym mis Gorffennaf 1284<ref>Neil Johnstone, ''Llys and Maerdref: The Royal Courts of the Princes of Gwynedd'' yn ''Studia Celtica'', XXXIV (2000)</ref> (tra'n goruchwylio dechrau ar adeiladu Castell Caernarfon o bosibl).Safai, mae'n bosibl, lle mae [[Plas Nantlle]] neu Tý Mawr, [[Nantlle]], heddiw, neu nid nepell o'r fan honno - er bod traddodiad arall yn dweud y safle bellach o dan domen chwarel.<ref>Thomas Alun Williams, ''Baladeulyn'' ac ''Edward 1af yn Nantlle, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#7] </ref> Mae'r enw'n cyfeirio at y ffaith fod dau lyn Nantlle yn cwrdd ychydig i'r de o'r safle.
Yr oedd '''Llys Baladeulyn''' yn un o lysoedd y Tywysog cyn 1284. Eiddo Einion ap Caradog, ewyrth i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffydd, a disgynnydd i Owain Gwynedd. Wedi i Einion farw, pasiodd Baladeulyn i ddwylo ei fab, Tudur ab Einion ap Caradog, ond ar farwolaeth hwnnw ym 1284 cipiodd brenin Lloegr, Iorwerth I, yr eiddo. Fe'i wnaed yn gartref iddo fo ei hun am gyfnod ym mis Mehefin 1284<ref>''Foedera, conventiones, literæ, et cujuscunque generis acta publica, inter reges Angliæ et alios quosvis imperatores, reges, pontifices, principes, vel communitates, ab ineunte sæculo duodecimo, viz. ab anno 1101...'' (Yr Hâg, 1739), t.232) [https://archive.org/details/fderaconventione01ryme/page/232/mode/2up]; Neil Johnstone, ''Llys and Maerdref: The Royal Courts of the Princes of Gwynedd'' yn ''Studia Celtica'', XXXIV (2000). Mae Johnstone yn dweud mai yn ystod mis Mehefin y bu Iorwerth ym Maladeulyn, ond mae'n sicr ei fod yno trwy'r rhan fwyaf o fis Mehefin 1284, gweler Henry Gough, ''Itinerary of King Edward the First throughout his reign, A. D. 1272-1307, exhibiting his movements from time to time, so far as they are recorded'' (Paisley, 1900), tt.156-7</ref> (tra'n goruchwylio dechrau ar adeiladu Castell Caernarfon o bosibl).Safai, mae'n bosibl, lle mae [[Plas Nantlle]] neu Tý Mawr, [[Nantlle]], heddiw, neu nid nepell o'r fan honno - er bod traddodiad arall yn dweud y safle bellach o dan domen chwarel.<ref>Thomas Alun Williams, ''Baladeulyn'' ac ''Edward 1af yn Nantlle, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#7] </ref> Mae'r enw'n cyfeirio at y ffaith fod dau lyn Nantlle yn cwrdd ychydig i'r de o'r safle.


Mae traddodiad yn adrodd fel y bu i fab Iorwerth a'i frenhines Mallt (Matilda) gael ei eni yn Maladeulyn, cyn gael ei gyflwyno i'r werin honedig hygoelus yng Nghaernarfon fel tywysog i Gymru nad oedd yn siarad yr un gair io Saesneg - prin yn syndod ag ystyried ei fod ond ychydig wythnosau oed!<ref>Thomas Alun Williams, ''Edward 1af yn Nantlle'', cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#7] </ref> Dichon fodd bynnag mai propaganda di-sail yw'r stori.
Mae traddodiad yn adrodd fel y bu i fab Iorwerth a'i frenhines Mallt (Matilda) gael ei eni yn Maladeulyn, cyn gael ei gyflwyno i'r werin honedig hygoelus yng Nghaernarfon fel tywysog i Gymru nad oedd yn siarad yr un gair o Saesneg - prin yn syndod ag ystyried ei fod ond ychydig wythnosau oed!<ref>Thomas Alun Williams, ''Edward 1af yn Nantlle'', cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#7] </ref> Dichon fodd bynnag mai propaganda di-sail yw'r stori.


Roedd gan y safle wrth geg rhan gulaf [[Dyffryn Nantlle]] yn gwarchod tiroedd yr arglwydd i'r gorllewin werth strategol yn yr oes pan oedd rhyfela'n fater o finteiau arfog gweddol fach a phob arglwydd â gastell bach o bren neu garreg ar ben mwnt. Nid oedd y man mor bwysig wedi i Iorwerth I sefydlu ei gestyll cadarn mewn mannau gwir strategol, a Chastell Caernarfon yn amddiffyn holl dir [[Uwchgwyrfai]].
Roedd gan y safle wrth geg rhan gulaf [[Dyffryn Nantlle]] yn gwarchod tiroedd yr arglwydd i'r gorllewin werth strategol yn yr oes pan oedd rhyfela'n fater o finteiau arfog gweddol fach a phob arglwydd â gastell bach o bren neu garreg ar ben mwnt. Nid oedd y man mor bwysig wedi i Iorwerth I sefydlu ei gestyll cadarn mewn mannau gwir strategol, a Chastell Caernarfon yn amddiffyn holl dir [[Uwchgwyrfai]].

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:46, 15 Mehefin 2026

Yr oedd Llys Baladeulyn yn un o lysoedd y Tywysog cyn 1284. Eiddo Einion ap Caradog, ewyrth i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffydd, a disgynnydd i Owain Gwynedd. Wedi i Einion farw, pasiodd Baladeulyn i ddwylo ei fab, Tudur ab Einion ap Caradog, ond ar farwolaeth hwnnw ym 1284 cipiodd brenin Lloegr, Iorwerth I, yr eiddo. Fe'i wnaed yn gartref iddo fo ei hun am gyfnod ym mis Mehefin 1284[1] (tra'n goruchwylio dechrau ar adeiladu Castell Caernarfon o bosibl).Safai, mae'n bosibl, lle mae Plas Nantlle neu Tý Mawr, Nantlle, heddiw, neu nid nepell o'r fan honno - er bod traddodiad arall yn dweud y safle bellach o dan domen chwarel.[2] Mae'r enw'n cyfeirio at y ffaith fod dau lyn Nantlle yn cwrdd ychydig i'r de o'r safle.

Mae traddodiad yn adrodd fel y bu i fab Iorwerth a'i frenhines Mallt (Matilda) gael ei eni yn Maladeulyn, cyn gael ei gyflwyno i'r werin honedig hygoelus yng Nghaernarfon fel tywysog i Gymru nad oedd yn siarad yr un gair o Saesneg - prin yn syndod ag ystyried ei fod ond ychydig wythnosau oed![3] Dichon fodd bynnag mai propaganda di-sail yw'r stori.

Roedd gan y safle wrth geg rhan gulaf Dyffryn Nantlle yn gwarchod tiroedd yr arglwydd i'r gorllewin werth strategol yn yr oes pan oedd rhyfela'n fater o finteiau arfog gweddol fach a phob arglwydd â gastell bach o bren neu garreg ar ben mwnt. Nid oedd y man mor bwysig wedi i Iorwerth I sefydlu ei gestyll cadarn mewn mannau gwir strategol, a Chastell Caernarfon yn amddiffyn holl dir Uwchgwyrfai.

Nid oedd y safle ddiarffordd o werth neilltuol i goron Lloegr, ac ar ôl Brwydrau Crécy, 1346, a Phoitiers, 1356, yn Ffrainc, fe roddwyd yr eiddo ynghyd â 6 carucate o dir i un o arwyr y brwydrau hynny, Tudur ap Goronwy neu Dudur Goch.[4] Mae carucate yn fesur tir canol-oesol sydd yn cyfateb i'r maint o dir y gallai tîm o wyth ŷch aredig mewn tymor, neu rywle oddeutu 120 erw.

Am hanes diweddarach y safle, a'r tŷ a adeiladwyd gan Tudur ap Goronwy, gweler Plas Nantlle.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Foedera, conventiones, literæ, et cujuscunque generis acta publica, inter reges Angliæ et alios quosvis imperatores, reges, pontifices, principes, vel communitates, ab ineunte sæculo duodecimo, viz. ab anno 1101... (Yr Hâg, 1739), t.232) [1]; Neil Johnstone, Llys and Maerdref: The Royal Courts of the Princes of Gwynedd yn Studia Celtica, XXXIV (2000). Mae Johnstone yn dweud mai yn ystod mis Mehefin y bu Iorwerth ym Maladeulyn, ond mae'n sicr ei fod yno trwy'r rhan fwyaf o fis Mehefin 1284, gweler Henry Gough, Itinerary of King Edward the First throughout his reign, A. D. 1272-1307, exhibiting his movements from time to time, so far as they are recorded (Paisley, 1900), tt.156-7
  2. Thomas Alun Williams, Baladeulyn ac Edward 1af yn Nantlle, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [2]
  3. Thomas Alun Williams, Edward 1af yn Nantlle, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [3]
  4. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), t.28