Elernion (tŷ a fferm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Tŷ sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw '''Elernion''', yn ardal [[Trefor]], er bod neuadd ganoloesol cynharach ar y safle. Mae'r tý presennol wedi moderneiddio'n fawr yn ystod y 20g gan golli llawer o'i nodweddion.
Tŷ sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw '''Elernion''', yn ardal [[Trefor]], er bod neuadd ganoloesol gynharach ar y safle. Cafodd y tŷ presennol ei foderneiddio'n sylweddol yn ystod yr 20g gan golli llawer o'i nodweddion cynhenid.
   
Y ddau deulu amlycaf yn ei hanes yn yr 17g oedd [[Glynniaid Glynllifon]] a [[Bryn Gwydion]] a'r Evansiaid, a oedd yn ddisgynyddion teulu stad Talhenbont yn Eifionydd. Cafwyd priodasau buddiol i'r ddwy ochr rhwng y teuluoedd hyn. Bu Richard Evans, Elernion, yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1625 - arwydd sicr o'i statws ymysg yr uchelwyr tiriog. Mae'n bosib mai ef a wnaeth lawer o'r gwaith o ailadeiladu'r hen dŷ neuadd canoloesol yn blasdy carreg cadarn gyda'i simneiau tal a nodweddai dai diwedd y cyfnod Elisabethaidd a dechrau'r cyfnod Stiwartaidd dilynol. Nid oedd gan y Richard Evans hwn fab a phriododd ei unig ferch a'i aeres â [[William Glynn]] o Lynllifon, a thrwy'r briodas hon mae'n debyg y llwyddwyd i grynhoi hen drefgordd Elernion yn un stad gryno. Mae'n debyg i William Glynn a'i wraig fyw ym mhlas Elernion ac efallai iddynt ychwanegu at y tŷ. Bu William yn Uchel Siryf ym 1634 a'i fab Richard ym 1665. Fel mwyafrif uchelwyr Sir Gaernarfon mae'n debyg iddynt gefnogi achos y brenin yn Rhyfel Cartref Lloegr, er bod tystiolaeth i filwyr y Weriniaeth fynnu llety yn Elernion ar un adeg - yn groes i ddymuniadau'r perchennog mae bron yn sicr.

Llinell 13: Llinell 13:
[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Tai nodedig]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:22, 28 Ionawr 2023

Tŷ sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw Elernion, yn ardal Trefor, er bod neuadd ganoloesol gynharach ar y safle. Cafodd y tŷ presennol ei foderneiddio'n sylweddol yn ystod yr 20g gan golli llawer o'i nodweddion cynhenid.

Y ddau deulu amlycaf yn ei hanes yn yr 17g oedd Glynniaid Glynllifon a Bryn Gwydion a'r Evansiaid, a oedd yn ddisgynyddion teulu stad Talhenbont yn Eifionydd. Cafwyd priodasau buddiol i'r ddwy ochr rhwng y teuluoedd hyn. Bu Richard Evans, Elernion, yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1625 - arwydd sicr o'i statws ymysg yr uchelwyr tiriog. Mae'n bosib mai ef a wnaeth lawer o'r gwaith o ailadeiladu'r hen dŷ neuadd canoloesol yn blasdy carreg cadarn gyda'i simneiau tal a nodweddai dai diwedd y cyfnod Elisabethaidd a dechrau'r cyfnod Stiwartaidd dilynol. Nid oedd gan y Richard Evans hwn fab a phriododd ei unig ferch a'i aeres â William Glynn o Lynllifon, a thrwy'r briodas hon mae'n debyg y llwyddwyd i grynhoi hen drefgordd Elernion yn un stad gryno. Mae'n debyg i William Glynn a'i wraig fyw ym mhlas Elernion ac efallai iddynt ychwanegu at y tŷ. Bu William yn Uchel Siryf ym 1634 a'i fab Richard ym 1665. Fel mwyafrif uchelwyr Sir Gaernarfon mae'n debyg iddynt gefnogi achos y brenin yn Rhyfel Cartref Lloegr, er bod tystiolaeth i filwyr y Weriniaeth fynnu llety yn Elernion ar un adeg - yn groes i ddymuniadau'r perchennog mae bron yn sicr.

Daeth cangen Glyniaid Elernion i ben yn y ddeunawfed ganrif. Yr olaf ohonynt oedd Ellen Glynn, a sefydlodd yr elusendai yn Llandwrog sy'n dwyn ei henw o hyd. Ar ei marwolaeth aeth Elernion yn eiddo i'w chyfnither, Catherine Goodman, a oedd yn ferch i fasnachwr o Fiwmares. Priododd Catherine wedyn â William Wynne o stad Y Wern, Penmorfa. Gosodwyd Elernion i nifer o wahanol denantiaid yn ystod y 18g. Bu Richard Nanney, rheithor Clynnog-fawr a phregethwr grymus a oedd yn gwyro at y Methodistiaid, yn byw yno am gyfnod yn nechrau'r 18g ac yn ôl yr Asesiad Treth Tir y tenant ym 1770 oedd un John Griffith. Ym 1785 gwerthwyd Elernion, ynghyd â fferm Penllechog gerllaw (lle roedd hefyd un o felinau'r hen drefgordd), gan stad y Wern i stad y Weirglodd Fawr (Broom Hall yn ddiweddarach), a ddaeth yn un o stadau mwyaf Eifionydd erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.[1]

Ym 1950 prynwyd fferm Elernion gan Charles S. Darbishire, Plas yr Eifl, Trefor. Penodwyd beiliff i ofalu am y fferm ac, ysywaeth, cafodd yr hen dŷ o'r unfed a'r ail ganrif ar bymtheg ei dynnu i lawr i bob pwrpas a'i foderneiddio'n sylweddol. Ers blynyddoedd bellach mae'r tŷ wedi ei rannu'n ddwy uned ac oddeutu deg mlynedd ar hugain yn ôl daeth y fferm i ben fel uned amaethyddol gyda'r tir yn cael ei rannu a'i werthu i wahanol berchnogion newydd.

Cyfeiriadau

  1. Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, (Penrhyndeudraeth, 1972), tt.12-16. Seiliwyd llawer o'r sylwadau uchod ar wybodaeth am Elernion (yn Saesneg) a anfonwyd at Mr a Mrs Darbishire, Plas yr Eifl, Trefor gan W. Ogwen Williams, cyn archifydd Sir Gaernarfon a darlithydd yng Nholeg y Brifysgol, Aberystwyth; gweler hefyd, Colin A. Gresham, Eifionydd, (Caerdydd, 1973), t.134.