John Huws (Bardd y Gwrych): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 3: Llinell 3:
Fe'i ganwyd ym 1808. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yn dad i deulu o gryddion yn y fro. Un o'r rheini oedd ei fab, y cerddor a'r cyfansoddwr dawnus, [[William John Hughes]], Siop Goch, [[Trefor]] (Manchester House wedi hynny) (1846-93).  
Fe'i ganwyd ym 1808. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yn dad i deulu o gryddion yn y fro. Un o'r rheini oedd ei fab, y cerddor a'r cyfansoddwr dawnus, [[William John Hughes]], Siop Goch, [[Trefor]] (Manchester House wedi hynny) (1846-93).  


Pan na fyddai esgidiau ganddo i'w gwneud neu eu trwsio, byddai'n ymroi i 'farddoni' h.y. rhigymu, gyda rhai o'i gerddi yn ddigon doniol a diniwed, ond eraill yn bur gas a mileinig. Dyma enghraifft, sef 'cwpled' o ran o'i ymgais mewn cyfarfod o Gymdeithas Lenyddol Capel y Babell, Llanaelhaearn.
Pan na fyddai esgidiau ganddo i'w gwneud neu eu trwsio, byddai'n ymroi i 'farddoni' h.y. rhigymu, gyda rhai o'i gerddi yn ddigon doniol a diniwed, ond eraill yn bur gas a mileinig. Dyma enghraifft, sef 'cwpled' o ran o'i ymgais mewn cyfarfod o Gymdeithas Lenyddol [[Capel Babell (MC), Llanaelhaearn]].


  ''Milgi main bolwyn brith''
  ''Milgi main bolwyn brith''

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:43, 10 Chwefror 2020

Fel yr awgryma "Bardd y Gwyrch", enw barddol John (Siôn) Hughes (1808-1904), bardd talcen slip, neu fardd tîn clawdd, ydoedd. Yn Llanaelhaearn y trigai.

Fe'i ganwyd ym 1808. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yn dad i deulu o gryddion yn y fro. Un o'r rheini oedd ei fab, y cerddor a'r cyfansoddwr dawnus, William John Hughes, Siop Goch, Trefor (Manchester House wedi hynny) (1846-93).

Pan na fyddai esgidiau ganddo i'w gwneud neu eu trwsio, byddai'n ymroi i 'farddoni' h.y. rhigymu, gyda rhai o'i gerddi yn ddigon doniol a diniwed, ond eraill yn bur gas a mileinig. Dyma enghraifft, sef 'cwpled' o ran o'i ymgais mewn cyfarfod o Gymdeithas Lenyddol Capel Babell (MC), Llanaelhaearn.

Milgi main bolwyn brith
Hir ei gefn a main ei wrych.

Dyma fel y dywed y bardd Cybi amdano yn ei lyfr Beirdd Gwerin Eifionydd :

Os am weled Siôn yn ei ogoniant, [yna] mewn Cwrdd Cystadleuol neu ar y llwyfan gwleidyddol amdani. Mae ei ymfflamychiadau yn y naill a'r llall yn anfarwol, ac yn lleng ar dafod yr oror hyd y dydd hwn.

Gwas ffarm yn dod ag esgidiau i Siôn i'w trwsio, gan ei siarsio i wneud y peth rhataf posib iddynt. Roedd yr esgidiau yn drybola o faw. Meddai'r crydd :

Ym Mhenllechog mae hwsmon rhyfadd,
Ac ar ei 'sgidia mae gwall ymgeladd...

Yn ystod etholiadau byddai'n colli arno'i hun yn llwyr, ac yn ymroi i gyfansoddi penillion dilornus am ei elynion gwleidyddol (y Toriaid, wrth gwrs):

Pe cawn i wn dau faril
A bwledi mawr o swêj,
Mi saethwn Ellis Nanney
I lawr o ben y stêj! 

Bu farw Bardd y Gwrych ym 1904 yn 96 mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn.