Carmel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
==Lleoliad== | ==Lleoliad== | ||
Mae tua milltir i'r dwyrain o'r [[Y Groeslon|Groeslon]] i fyny'r allt sy'n arwain at y mynydd ac ar lethrau isaf [[Mynydd Cilgwyn]]. Casgliad o dai chwarelwyr a godwyd yn wreiddiol ar y comin ydyw, ychydig yn uwch na llidiart y mynydd ar ben y lôn o'r Groeslon (y mae tŷ o'r enw "Llidiart y Mynydd" yno o hyd). Saif ar groesffordd lle mae'r ffordd o waelodion plwyf [[Llandwrog]] i'r [[Fron]] yn croesi'r lôn o bentref [[Pen-y-groes]] i gyfeiriad [[Rhosgadfan]]. | Mae tua milltir i'r dwyrain o'r [[Y Groeslon|Groeslon]] i fyny'r allt sy'n arwain at y mynydd ac ar lethrau isaf [[Mynydd Cilgwyn]]. Casgliad o dai chwarelwyr a godwyd yn wreiddiol ar y comin ydyw, ychydig yn uwch na llidiart y mynydd ar ben y lôn o'r Groeslon (y mae tŷ o'r enw "Llidiart y Mynydd" yno o hyd). Saif ar groesffordd lle mae'r ffordd o waelodion plwyf [[Llandwrog]] i'r [[Fron]] yn croesi'r lôn o bentref [[Pen-y-groes]] i gyfeiriad [[Rhosgadfan]]. Mae'r tai hynaf (ar wahân i hen dyddynod gwasgaredig) yw'r tai teras sydd yn wynebu'r môr y ddwy ochr i lôn y Fron, sef Rhes Pisgah a Rhes Carmel. | ||
==Addysg== | |||
Tyfodd y pentref yn sylweddol rhwng 1890 a 1910, a chodwyd ysgol ar gyfer babanod yn unig yn ystod y 1890au - roedd plant yn mynychu [[Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon]]. Bu'r ysgol (wedi'i helaethu i gymryd plant hyd at 11 oed) yno nes iddi gael ei huno ag [[Ysgol Bro Lleu]] ar safle [[Ysgol y Groeslon]] yn 2016. | |||
==Busnesau ac adnoddau lleol== | ==Busnesau ac adnoddau lleol== | ||
Tan yn bur ddiweddar, bu ddwy siop gyffredinol, swyddfa bost, siop nwyddau haearn a becws yn y pentref, ond mae pob un wedi cau erbyn hyn - yr olaf i'w chau oedd Siop Doris, tua 2015 | Tan yn bur ddiweddar, bu ddwy siop gyffredinol, swyddfa bost, siop nwyddau haearn a becws yn y pentref, ond mae pob un wedi cau erbyn hyn - yr olaf i'w chau oedd Siop Doris, tua 2015. Roedd modurdy hefyd yn y pentref, ac mae honno'n dal yn agored ar gyfer trwsio ceir (sef "Garej Robin Alun"), fel mae busnes werthu glo. | ||
Busnes newydd ffyniannus yw ysgol yrru lorïau a chwmni bysiau. | |||
==Crefydd== | |||
Mae'r pentref yn cael ei enw ar ôl [[Capel Carmel (MC)]]. Chwalwyd y capel mawr gwreiddiol gan godi capel newydd ar safle'r festri. Capeli eraill y pentref oedd [[Capel Pisgah (A), Carmel|Capel Pisgah]], sef capel yr Annibynwyr, a [[Capel Pisgah (BN), Carmel|Chapel Pisgah]] arall gan y Bedyddwyr Neilltuol. Mae mynwent gan Gapel Pisgah a cheir yma hefyd fynwent a gynhelir gan y Cyngor Cymuned, gyda rhan wedi ei chysegru gan yr Eglwys yng Nghymru tua 1980. Bellach, trowyd Pisgah yn fflatiau, ac mae hen gapel Pisgah y Bedyddwyr Neilltuol yn cael ei ddefnyddio gan fudiad Uniongred. | |||
==Enwogion y pentref== | ==Enwogion y pentref== | ||
Ymysg y rhai a hanai, neu sy'n hanu, o Garmel y mae'r ddau frawd | Ymysg y rhai a hanai, neu sy'n hanu, o Garmel y mae'r ddau frawd | ||
* Syr [[Thomas Parry]], academig a llyfrgellydd | * Syr [[Thomas Parry]], academig a llyfrgellydd | ||
* [[ | * [[Gruffudd Parry]], awdur ac ysgolfeistr | ||
a pherthynas iddynt: | |||
* [[Dafydd Glyn Jones]], darlithydd a chyd-olygydd ''Geiriadur yr Academi''. | * [[Dafydd Glyn Jones]], darlithydd a chyd-olygydd ''Geiriadur yr Academi''. | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:47, 23 Tachwedd 2019
Mae Carmel yn bentref ym mhlwyf Llandwrog.
Lleoliad
Mae tua milltir i'r dwyrain o'r Groeslon i fyny'r allt sy'n arwain at y mynydd ac ar lethrau isaf Mynydd Cilgwyn. Casgliad o dai chwarelwyr a godwyd yn wreiddiol ar y comin ydyw, ychydig yn uwch na llidiart y mynydd ar ben y lôn o'r Groeslon (y mae tŷ o'r enw "Llidiart y Mynydd" yno o hyd). Saif ar groesffordd lle mae'r ffordd o waelodion plwyf Llandwrog i'r Fron yn croesi'r lôn o bentref Pen-y-groes i gyfeiriad Rhosgadfan. Mae'r tai hynaf (ar wahân i hen dyddynod gwasgaredig) yw'r tai teras sydd yn wynebu'r môr y ddwy ochr i lôn y Fron, sef Rhes Pisgah a Rhes Carmel.
Addysg
Tyfodd y pentref yn sylweddol rhwng 1890 a 1910, a chodwyd ysgol ar gyfer babanod yn unig yn ystod y 1890au - roedd plant yn mynychu Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon. Bu'r ysgol (wedi'i helaethu i gymryd plant hyd at 11 oed) yno nes iddi gael ei huno ag Ysgol Bro Lleu ar safle Ysgol y Groeslon yn 2016.
Busnesau ac adnoddau lleol
Tan yn bur ddiweddar, bu ddwy siop gyffredinol, swyddfa bost, siop nwyddau haearn a becws yn y pentref, ond mae pob un wedi cau erbyn hyn - yr olaf i'w chau oedd Siop Doris, tua 2015. Roedd modurdy hefyd yn y pentref, ac mae honno'n dal yn agored ar gyfer trwsio ceir (sef "Garej Robin Alun"), fel mae busnes werthu glo.
Busnes newydd ffyniannus yw ysgol yrru lorïau a chwmni bysiau.
Crefydd
Mae'r pentref yn cael ei enw ar ôl Capel Carmel (MC). Chwalwyd y capel mawr gwreiddiol gan godi capel newydd ar safle'r festri. Capeli eraill y pentref oedd Capel Pisgah, sef capel yr Annibynwyr, a Chapel Pisgah arall gan y Bedyddwyr Neilltuol. Mae mynwent gan Gapel Pisgah a cheir yma hefyd fynwent a gynhelir gan y Cyngor Cymuned, gyda rhan wedi ei chysegru gan yr Eglwys yng Nghymru tua 1980. Bellach, trowyd Pisgah yn fflatiau, ac mae hen gapel Pisgah y Bedyddwyr Neilltuol yn cael ei ddefnyddio gan fudiad Uniongred.
Enwogion y pentref
Ymysg y rhai a hanai, neu sy'n hanu, o Garmel y mae'r ddau frawd
- Syr Thomas Parry, academig a llyfrgellydd
- Gruffudd Parry, awdur ac ysgolfeistr
a pherthynas iddynt:
- Dafydd Glyn Jones, darlithydd a chyd-olygydd Geiriadur yr Academi.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma