Morris William Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Fe'i ganwyd yn [[Tan'rallt|Nhan'rallt]] ger [[Llanllyfni]] ym 1892 a phan yn faban naw mis oed fe gollodd ei dad mewn damwain angheuol yn Nhwll [[Chwarel Dorothea]], y chwarel lechi fawr yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Collodd ei fam ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd ei addysg yn [[Ysgol Llanllyfni]] ac yn [[Ysgol Ganol Pen-y-groes]], ond methodd y prawf meddygol i gael mynediad i'r Brifysgol a chafodd le yn y Coleg Normal ym Mangor. Oddi yno aeth yn athro i Ochr y Penrhyn (Penrhynside) ger Llandudno, ac yna i ysgol yr ''Higher Grade'' yng Nghaernarfon. Ei symudiad nesaf oedd i fod yn brifathro [[Ysgol Ynys yr Arch]], [[Pant-glas]]. | Fe'i ganwyd yn [[Tan'rallt|Nhan'rallt]] ger [[Llanllyfni]] ym 1892 a phan yn faban naw mis oed fe gollodd ei dad mewn damwain angheuol yn Nhwll [[Chwarel Dorothea]], y chwarel lechi fawr yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Collodd ei fam ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd ei addysg yn [[Ysgol Llanllyfni]] ac yn [[Ysgol Ganol Pen-y-groes]], ond methodd y prawf meddygol i gael mynediad i'r Brifysgol a chafodd le yn y Coleg Normal ym Mangor. Oddi yno aeth yn athro i Ochr y Penrhyn (Penrhynside) ger Llandudno, ac yna i ysgol yr ''Higher Grade'' yng Nghaernarfon. Ei symudiad nesaf oedd i fod yn brifathro [[Ysgol Ynys yr Arch]], [[Pant-glas]]. | ||
Priododd ag athrawes o [[ | Priododd ag athrawes o [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]], Esther Parry, Hafodlas Uchaf, yr hon a fu farw ym 1972. Cawsant ddau o blant sef Dr.Meira Pritchard, Pen-y-groes a Dr. Elwyn Jones, Gwalchmai, Ynys Môn. Ym 1930 enillodd radd B.Sc. (allanol) dan Brifysgol Llundain. Bu'n ysgolfeistr ysgol [[Trefor]] o fis Medi 1928 hyd ei farwolaeth o'r cancr yn anterth ei ddyddiau ar y 30ain o Fehefin 1946. Fe'i claddwyd ym [[Mynwent Tai Duon]], Pant-glas, yn ôl ei ddymuniad. | ||
Bu'n flaenor a thrysorydd yng [[Capel Gosen (MC), Trefor|Nghapel Gosen (M.C.)]] ac ar ei ddyfodiad i Drefor penderfynodd ddysgu chwarae'r corned a dod yn aelod o [[Seindorf Arian Trefor]]. Bu hefyd yn arwain [[Côr Plant Trefor]] yn llwyddiannus am flynyddoedd. <ref>Geraint Jones '' 'Rhen Sgŵl'' (1978)</ref> | Bu'n flaenor a thrysorydd yng [[Capel Gosen (MC), Trefor|Nghapel Gosen (M.C.)]] ac ar ei ddyfodiad i Drefor penderfynodd ddysgu chwarae'r corned a dod yn aelod o [[Seindorf Arian Trefor]]. Bu hefyd yn arwain [[Côr Plant Trefor]] yn llwyddiannus am flynyddoedd. <ref>Geraint Jones '' 'Rhen Sgŵl'' (1978)</ref> |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:44, 29 Awst 2019
Prifathro Ysgol Trefor o 1928 tan 1946 oedd Morris William Jones.
Fe'i ganwyd yn Nhan'rallt ger Llanllyfni ym 1892 a phan yn faban naw mis oed fe gollodd ei dad mewn damwain angheuol yn Nhwll Chwarel Dorothea, y chwarel lechi fawr yn Nyffryn Nantlle. Collodd ei fam ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd ei addysg yn Ysgol Llanllyfni ac yn Ysgol Ganol Pen-y-groes, ond methodd y prawf meddygol i gael mynediad i'r Brifysgol a chafodd le yn y Coleg Normal ym Mangor. Oddi yno aeth yn athro i Ochr y Penrhyn (Penrhynside) ger Llandudno, ac yna i ysgol yr Higher Grade yng Nghaernarfon. Ei symudiad nesaf oedd i fod yn brifathro Ysgol Ynys yr Arch, Pant-glas.
Priododd ag athrawes o Dal-y-sarn, Esther Parry, Hafodlas Uchaf, yr hon a fu farw ym 1972. Cawsant ddau o blant sef Dr.Meira Pritchard, Pen-y-groes a Dr. Elwyn Jones, Gwalchmai, Ynys Môn. Ym 1930 enillodd radd B.Sc. (allanol) dan Brifysgol Llundain. Bu'n ysgolfeistr ysgol Trefor o fis Medi 1928 hyd ei farwolaeth o'r cancr yn anterth ei ddyddiau ar y 30ain o Fehefin 1946. Fe'i claddwyd ym Mynwent Tai Duon, Pant-glas, yn ôl ei ddymuniad.
Bu'n flaenor a thrysorydd yng Nghapel Gosen (M.C.) ac ar ei ddyfodiad i Drefor penderfynodd ddysgu chwarae'r corned a dod yn aelod o Seindorf Arian Trefor. Bu hefyd yn arwain Côr Plant Trefor yn llwyddiannus am flynyddoedd. [1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Geraint Jones 'Rhen Sgŵl (1978)