Pont Betws Garmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif '''Pont Betws Garmon''' ar ffin Uwchgwyrfai, dros Afon Gwyrfai, yn cysylltu hen blwyfi Betws Garmon a Llanwnda. Ym 1776, adroddwyd w...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:37, 5 Gorffennaf 2019
Saif Pont Betws Garmon ar ffin Uwchgwyrfai, dros Afon Gwyrfai, yn cysylltu hen blwyfi Betws Garmon a Llanwnda.
Ym 1776, adroddwyd wrth y Llys Chwarter fod yr hen bont yn "annigonol, yn anghyfleus ac angen ei hatgyweirio", a rhoddwyd contract i Henry Parry, saer melinau, o Foel-y-don, Ynys Môn, i'w hailadeiladu'n llwyr, gan ei lledu. Pont saith bwa oedd hi, ac yr oedd angen lledu'r ddau fwa mawr i 18, codi dau fwa newydd mwy, un ar bob ochr i'r bwáu mawr, a thri bwa llai ar lan Llanwnda o'r afon, 6, o led yr un. Y gost am y gwaith hwn oedd £250.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
Archifdy Gwynedd, XPlansB/168