Owen Wynne Jones (Glasynys): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Yr oedd '''Owen Wynne Jones''', sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol '''Glasynys''' (4 Mawrth 18284 Ebrill 1870), yn fardd, yn...'
 
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu rhai manylion teuluol a chyfeiriad at gyfrol o'i farddoniaeth
 
(Ni ddangosir y 18 golygiad yn y canol gan 6 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Yr oedd '''Owen Wynne Jones''', sy'n fwy adnabyddus dan ei [[enw barddol]] '''Glasynys''' ([[4 Mawrth]] [[1828]] – [[4 Ebrill]] [[1870]]), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhŷ'n y Ffrwd, [[Rhostryfan]] yn un o bum plentyn ac yn 10 oed aeth i weithio yn y chwarel. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.
[[Delwedd:Revd_Owen_Wynne_Jones_(Glasynys,_1828-70)_NLW3365408_Cropped.jpg|bawd|300px|de|llun John Thomas, LLGC]]


'''I'w barhau'''
Yr oedd '''Owen Wynne Jones''', sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol '''Glasynys''' (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhyn-y-ffrwd, [[Rhostryfan]] yn un o bum plentyn John ac Anne Roberts<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1841</ref>. Roedd y teulu'n mynychu [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]]. Yn ddeng mlwydd oed aeth i weithio yn y chwarel – roedd y teulu bryd hynny yn byw yn [[Rhosgadfan]], mewn tŷ o'r enw Borthdwr. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed aeth i [[Ysgol Bron-y-foel]] fel disgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi Caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion [[Ysgol Gynradd Clynnog Fawr|Clynnog Fawr]] hyd 1855 (ac Eben Fardd yn gymydog iddo), ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trodd at wasanaethu yn yr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd ''Y Glorian''.  Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadog gan briodi Puah Jones (Roberts gynt), gweddw Thomas Jones o westy'r Sportsman.<ref>''[https://www.google.co.uk/books/edition/Gwaith_barddonol_Glasynys/_jdyKqWEGMQC?hl=&gbpv=1 Gwaith Barddonol Glasynys]'', gol. Owen M. Edwards (Gwrecsam: Hughes a'i Fab, 1898), t. iv.</ref> Symudodd y ddau i Dywyn Meirionnydd yn 1869 ond bu farw Glasynys o fewn ychydig fisoedd. Nid oedd plant o'r briodas. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.472</ref>
 
Fe'i cofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Cyhoeddodd O. M. Edwards gasgliad o'i farddoniaeth yn 1898 dan yr enw ''[https://www.google.co.uk/books/edition/Gwaith_barddonol_Glasynys/_jdyKqWEGMQC?hl=&gbpv=1 Gwaith Barddonol Glasynys]'' (Gwrecsam: Hughes a'i Fab). Ysgrifennai Glasynys at y wasg leol dan y ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan", yn benodol pan oedd yn ysgrifennu am fywyd gwerin y wlad a straeon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn dipyn o arloeswr. Dichon mai'r llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, ''Straeon Glasynys''<ref>(Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)</ref> ac efallai tudalennau ''Cymru Fu'' yw'r prif ffynonellau o'i waith rhyddiaith sydd bellach yn weddol hawdd cael gafael arnynt.
 
I gyrraedd Ty'n-y-ffrwd, Rhostryfan, rhaid troi ar y dde am [[Rhos-isaf|Ros-isaf]] yng nghanol y pentref ac ymlaen am hanner milltir nes gweld y tŷ ar y dde. Mae yno lechen ar fur y tŷ yn coffáu'r bardd, llenor, hynafiaethydd ac offeiriad. Fe'i darparwyd trwy law Cymdeithas Lenyddol Capel Horeb ym 1928.<ref> ''Cyfres Teithiau Llenyddol Cymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru: 11. Dyffryn Nantlle, Dewi R. Jones''.</ref>
 
Brawd iddo oedd yr asiant chwarel a'r bardd gwlad [[William John Roberts (Llwydlas)]].<ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'' (Pen-y-groes, 1872), t.87.</ref> Diddorol yw sylwi fod un brawd wedi mabwysiadu cyfenw'r tad tra bo'r llall wedi glynu at hen arfer patronymig o dderbyn enw bedydd y tad fel sail i gyfenw'r mab.
 
==Cyfeiriadau==
 
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Awduron]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:52, 9 Mehefin 2026

llun John Thomas, LLGC

Yr oedd Owen Wynne Jones, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Glasynys (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhyn-y-ffrwd, Rhostryfan yn un o bum plentyn John ac Anne Roberts[1]. Roedd y teulu'n mynychu Capel Horeb (MC), Rhostryfan. Yn ddeng mlwydd oed aeth i weithio yn y chwarel – roedd y teulu bryd hynny yn byw yn Rhosgadfan, mewn tŷ o'r enw Borthdwr. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed aeth i Ysgol Bron-y-foel fel disgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi Caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion Clynnog Fawr hyd 1855 (ac Eben Fardd yn gymydog iddo), ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trodd at wasanaethu yn yr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd Y Glorian. Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadog gan briodi Puah Jones (Roberts gynt), gweddw Thomas Jones o westy'r Sportsman.[2] Symudodd y ddau i Dywyn Meirionnydd yn 1869 ond bu farw Glasynys o fewn ychydig fisoedd. Nid oedd plant o'r briodas. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.[3]

Fe'i cofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Cyhoeddodd O. M. Edwards gasgliad o'i farddoniaeth yn 1898 dan yr enw Gwaith Barddonol Glasynys (Gwrecsam: Hughes a'i Fab). Ysgrifennai Glasynys at y wasg leol dan y ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan", yn benodol pan oedd yn ysgrifennu am fywyd gwerin y wlad a straeon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn dipyn o arloeswr. Dichon mai'r llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, Straeon Glasynys[4] ac efallai tudalennau Cymru Fu yw'r prif ffynonellau o'i waith rhyddiaith sydd bellach yn weddol hawdd cael gafael arnynt.

I gyrraedd Ty'n-y-ffrwd, Rhostryfan, rhaid troi ar y dde am Ros-isaf yng nghanol y pentref ac ymlaen am hanner milltir nes gweld y tŷ ar y dde. Mae yno lechen ar fur y tŷ yn coffáu'r bardd, llenor, hynafiaethydd ac offeiriad. Fe'i darparwyd trwy law Cymdeithas Lenyddol Capel Horeb ym 1928.[5]

Brawd iddo oedd yr asiant chwarel a'r bardd gwlad William John Roberts (Llwydlas).[6] Diddorol yw sylwi fod un brawd wedi mabwysiadu cyfenw'r tad tra bo'r llall wedi glynu at hen arfer patronymig o dderbyn enw bedydd y tad fel sail i gyfenw'r mab.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1841
  2. Gwaith Barddonol Glasynys, gol. Owen M. Edwards (Gwrecsam: Hughes a'i Fab, 1898), t. iv.
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.472
  4. (Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)
  5. Cyfres Teithiau Llenyddol Cymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru: 11. Dyffryn Nantlle, Dewi R. Jones.
  6. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), t.87.