Pengwern: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Pengwern''' yn fferm fawr a saif ar iseldir plwyf [[Llanwnda]] i'r gogledd o'r ffordd rhwng Caernarfon a [[Llandwrog]]. Arferai fod yn blasty lle trigai teuluoedd dylanwadol yn y sir.
Mae '''Pengwern''' yn fferm fawr a saif ar iseldir plwyf [[Llanwnda]] i'r gogledd o'r ffordd rhwng Caernarfon a [[Llandwrog]]. Arferai fod yn blasty lle trigai teuluoedd dylanwadol yn y sir.


Mae'n bosibl mai'r dyn cynharaf y mae sôn amdano'n byw yn y Pengwern oedd un Dafydd ap Siencyn a gafodd ei erlyn ym 1330 am fasnachu y tu allan i dref Caernarfon (lle oedd gan y Saeson a setlwyd yno fonopoli o'r fasnach leol). Nid yw'n hollol glir a oedd teulu'r Wynniaid, a ddaeth i fyw yn y Pengwern, yn ddisgynyddion i'r gŵr hwnnw, ond mae sicrwydd ynglŷn â'r olyniaeth. Madog ab Ieuan ap Gruffydd ab Ieuan yn wreiddiol o Blas-du, Llanarmon, Eifionydd oedd yn byw yno tan ei farwolaeth rywbryd cyn 1547. Yn y man, etifeddodd ei fab, William ap Madog, Bengwern, gan fynd ati i helaethu ffiniau'r ystâd, a hynny yn erbyn hawliau perchnogionystadau Coed Alun, [[Glynllifon]] a {{Plas Newydd|Phlas Newydd]]. Cafodd lawer o ymosodiadau ac achosion llys yn ei erbyn ond daliai ei afael ar y tiroedd ehangach. Roedd ganddo fab a merch, Huw Gwyn (m.1623) a Sioned (a briododd John ap Wiliam Gruffydd o'r Nant, Betws Garmon, sylfaenydd teulu Rowlands, Plas Tirion). Priododd William Pugh Gwyn, ei fab, ferch o Ynys Môn, Margred Holland, ac ar  ol marwolaeth Huw Pugh Gwyn, ail-briododd ag Owen Meredydd o'r [[Mynachdy Gwyn]], [[Clynnog Fawr]]. Dyma adeg adeiladu melin newydd, [[Melin y Bont-faen]] ar yr ystâd.
Mae'n bosibl mai'r dyn cynharaf y mae sôn amdano'n byw yn y Pengwern oedd un Dafydd ap Siencyn a gafodd ei erlyn ym 1330 am fasnachu y tu allan i dref Caernarfon (lle oedd gan y Saeson a setlwyd yno fonopoli ar y fasnach leol). Nid yw'n hollol glir a oedd teulu'r Wynniaid, a ddaeth i fyw yn y Pengwern, yn ddisgynyddion i'r gŵr hwnnw, ond mae sicrwydd ynglŷn â'r olyniaeth. Madog ab Ieuan ap Gruffydd ab Ieuan, yn wreiddiol o Blas-du, Llanarmon, Eifionydd, oedd yn byw yno tan ei farwolaeth rywbryd cyn 1547. Yn y man, etifeddodd ei fab, William ap Madog, Bengwern, gan fynd ati i helaethu ffiniau'r ystâd, a hynny yn erbyn hawliau perchnogion ystadau Coed Alun, [[Glynllifon]] a [[Plas Newydd|Phlas Newydd]]. Cafodd lawer o ymosodiadau ac achosion llys yn ei erbyn ond daliai ei afael ar y tiroedd ehangach. Roedd ganddo fab a merch, Huw Gwyn (m.1623) a Sioned (a briododd John ap Wiliam Gruffydd o'r Nant, Betws Garmon, sylfaenydd teulu Rowlands, Plas Tirion). Priododd William Pugh Gwyn, ei fab, ferch o Ynys Môn, Margred Holland, ac ar  ôl marwolaeth Huw Pugh Gwyn, ail-briododd ag Owen Meredydd o'r [[Mynachdy Gwyn]], [[Clynnog Fawr]]. Dyma adeg adeiladu melin newydd, [[Melin y Bont-faen]] ar yr ystâd.


Oherwydd i Huw Gwyn farw a'i weddw'n ail-briodi, cafwyd ffrae am flynyddoedd ynglŷn â pherchnogaeth yr ystâd. Yn y diwedd cafodd teulu Mynachdy Gwyn y Pengwern a rhan o'r tiroedd, a wyrion Huw Pugh Gwyn ran arall o'r eiddo sef [[Plas Llanwnda]]. Nid oedd perthynas waed i Madog ab Ieuan bellach yn byw yn y Pengwern. Yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r ystad bellach, ac yn eiddo i deulu Meredydd, oedd y Pengwern, y Geufron, Tŷ'n Rhos, Tŷ Cerrig a Thŷ'n Lôn. John Meredydd oedd y sgweiar erbyn hynny (neu'n fuan wedyn), a chododd dŷ newydd yn y Pengwern. Chwalwyd y tŷ hwnnw mor ddiweddar â 1906 oherwydd ei waliau trwchus, ffenestri bychain a lloriau isel ac anwastad (yn ôl W Gilbert Williams, oedd yn gyfarwydd a'r tŷ fel prifathro'r ysgol leol ar y pryd. Bu farw Sion (neu John) Meredydd ym 1700, gan gael ei gladdu yn [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]]. Ceir rhai trawstiau o'r hen dŷ yn y tŷ newydd. Olynwyd John Meredydd gan ei fab Hwmffre, a'i fab yntau, Hwmffre arall, oedd un o ddynion pwysicaf yn y sir, yn Uchel Siryf yn 1734, ac yn ynad heddwch. Meurig Meredydd oedd yr olaf o sgweiriaid y Pengwern, ystâd sylweddol erbyn hynny ym mhlwyf Llanwnda a'r gymdogaeth. Priododd aeres Meurig, Anna Maria, â John Mostyn o Segrwyd, Dinbych. Bu farw honno ym 1823, a gwerthwyd yr ystâd yn ffermydd unigol.
Oherwydd i Huw Gwyn farw a'i weddw'n ail-briodi, cafwyd ffrae am flynyddoedd ynglŷn â pherchnogaeth yr ystâd. Yn y diwedd cafodd teulu Mynachdy Gwyn y Pengwern a rhan o'r tiroedd, ac wyrion Huw Pugh Gwyn ran arall o'r eiddo, sef [[Plas Llanwnda]]. Nid oedd perthynas waed i Madog ab Ieuan bellach yn byw yn y Pengwern. Yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r ystad bellach, ac yn eiddo i deulu Meredydd, oedd y Pengwern, y Geufron, Tŷ'n Rhos, Tŷ Cerrig a Thŷ'n Lôn. John Meredydd oedd y sgweiar erbyn hynny (neu'n fuan wedyn), a chododd dŷ newydd yn y Pengwern. Chwalwyd y tŷ hwnnw mor ddiweddar â 1906 oherwydd ei waliau trwchus, ffenestri bychain a lloriau isel ac anwastad (yn ôl [[W. Gilbert Williams]], oedd yn gyfarwydd a'r tŷ fel prifathro'r ysgol leol ar y pryd). Ceir rhai trawstiau o'r hen dŷ yn y tŷ newydd.


{{eginyn}}
Codwyd [[Melin Wnda]] ar dir oedd yn eiddo i'r Pengwern ym 1663; ar dafod leferydd fe'i gelwid yn "Felin Pengwern".
 
Bu farw Siôn (neu John) Meredydd ym 1700, ac fe'i gladdwyd yn [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]]. Olynwyd John Meredydd gan ei fab Hwmffre, a'i fab yntau, Hwmffre arall, a oedd yn un o ddynion pwysicaf yn y sir. Bu'n Uchel Siryf ym 1734, ac roedd yn ynad heddwch. Meurig Meredydd oedd yr olaf o sgweieriaid y Pengwern, a oedd yn ran o ystâd nid ansylweddol erbyn hynny ym mhlwyfi [[Llanwnda]] a Chlynnog Fawr yn bennaf. Priododd aeres Meurig, Anna Maria, â John Mostyn o Segrwyd, Dinbych. Bu farw honno ym 1823, a gwerthwyd yr ystad yn y man yn ffermydd unigol.<ref>Seiliwyd yr erthygl yn y ffurf gychwynnol hon ar W. Gilbert Williams, ''Hen Deuluoedd Lanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800)'', Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon (Cyf.4, 1942-3), tt.19-34.</ref>
 
Ym 1828, cynhaliwyd ocsiwn o ran helaeth o'r ystâd oedd yn perthyn i deulu Pengwern, a cheir manylion am y ffermydd a'u maint yn hysbyseb yr arwerthwr. Dyn o'r enw Mr Edwardes, twrnai o Ddinbych, oedd yn gweithredu ar gyfer gwerthu'r ystâd (a rhyw Mr Payne o Ddolgellau oedd yr arwerthwr). Mae hyn yn gyson â'r ffaith fod perchnogaeth wedi symud i ddwylo etifeddion Mostyniaid Segrwyd, Dinbych.<ref>''North Wales Chronicle'', 28.8.1828, t.1</ref>  Rhoddir y mesuriadau arwyneb yn ôl nifer yr erwau, rhydau (4 rhwd ym mhob erw) a stangau (''poles'') (40 stang ym mhob rhwd):
{| class="wikitable"
|+ Arwerthiant 1828
|-
! Eiddo !! Tenant !! Erwau !! Rhydau !! Stangau
|-
| '''PLWYF CLYNNOG'''
|-
| Mynachdy Gwyn || John Jones || 447 || 3||18
|-
| Bron yr Erw|| William Williams || 13 || 1 || 27
|-
| Bron yr Erw Bach || Thomas Evans || 5 || 1 || 16
|-
| Cefn neu Gae Pwsant || Thomas Williams || 14 || 3 ||23
|-
| Cae Glas || David Thomas || 15 || 2 ||33
|-
| 2 grofft ym mhentref Clynnog || Mrs Thomas || 0 || 0|| 17
|-
| '''PLWYF LLANWNDA'''
|-
|Pengwern, bwthyn Tŷ Newydd, odyn galch ayb|| Humphrey Williams || 92 || 2 || 16
|-
|Glanyrhos ||M Owen || 64 || 3 || 19
|-
| Geufron || Hugh Hughes || 55 || 1 || 18
|-
| Cae Elen Bwcle || William Evans || 7 || 1 || 26
|-
| Bwlch y Pengwern Bacha Chae Tŷ'n y Lôn || Morgan Jones || 5 || 2 ||33
|-
| Llety Fadog || R a J Jones || 2 || 1 || 24
|-
|Lleiniau || Robert Evans|| 12 || 2|| 29
|-
| Tŷ Cerrig || Robert Jones ||  3 || 1 || 0
|-
| '''PLWYF LLANFAGLAN'''
|-
| Dyraniad tir ar dir Pant || heb denant || 0 || 3 || 36
|-
| '''PLWYF LLANDWROG'''
|-
| Parsel o dir ar Forfa Dinas Dinlle || H Williams|| 16 || 1 || 2
|-
|Parsel arall o dir ar Forfa Dinas Dinlle || H Williams || 18 || 2 || 10
|-
| '''PLWYF LLANAELHAEARN'''
|-
| Pentrebach a hanner yr hawl i ddyraniad tir 12e 2r 8s ar Gefn Rhos || Thomas Roberts || 76 || 2 || 21
|-
| Tanygors a thraean o hanner arall yr hawl i'r dyraniad tir uchod || Ellen Evans || 30 || 3 || 4
|-
| Terfyn y ddau blwyf a'r ddau draean arall o'r hawl i'r dyraniad tir uchod || Griffith Jones || 25 || 1 || 13
|-
| '''PLWYF LLANFIHANGEL-Y-PENNANT'''
|-
|Tyddyn y Famaeth, gyda Weirglodd Fawr a thir a elwir yn Ffridd Ucha || R Owen a G Griffith || 31 || 0 || 22
|-
| Pantglas, heblaw am Weirglodd Fawr ond gyda thir a elwir yn Ffridd bella|| Gaynor Griffith || 53 ||1 || 28
|-
| Gadlas a thir a elwir yn Ffridd Ucha || John Williams || 4 || 1 || 17
|}
 
 
 
 
 
 
==Cyfeiriadau==
 
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Plastai]]
[[Categori:Plastai]]
[[Categori:Ystadau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:04, 12 Ionawr 2026

Mae Pengwern yn fferm fawr a saif ar iseldir plwyf Llanwnda i'r gogledd o'r ffordd rhwng Caernarfon a Llandwrog. Arferai fod yn blasty lle trigai teuluoedd dylanwadol yn y sir.

Mae'n bosibl mai'r dyn cynharaf y mae sôn amdano'n byw yn y Pengwern oedd un Dafydd ap Siencyn a gafodd ei erlyn ym 1330 am fasnachu y tu allan i dref Caernarfon (lle oedd gan y Saeson a setlwyd yno fonopoli ar y fasnach leol). Nid yw'n hollol glir a oedd teulu'r Wynniaid, a ddaeth i fyw yn y Pengwern, yn ddisgynyddion i'r gŵr hwnnw, ond mae sicrwydd ynglŷn â'r olyniaeth. Madog ab Ieuan ap Gruffydd ab Ieuan, yn wreiddiol o Blas-du, Llanarmon, Eifionydd, oedd yn byw yno tan ei farwolaeth rywbryd cyn 1547. Yn y man, etifeddodd ei fab, William ap Madog, Bengwern, gan fynd ati i helaethu ffiniau'r ystâd, a hynny yn erbyn hawliau perchnogion ystadau Coed Alun, Glynllifon a Phlas Newydd. Cafodd lawer o ymosodiadau ac achosion llys yn ei erbyn ond daliai ei afael ar y tiroedd ehangach. Roedd ganddo fab a merch, Huw Gwyn (m.1623) a Sioned (a briododd John ap Wiliam Gruffydd o'r Nant, Betws Garmon, sylfaenydd teulu Rowlands, Plas Tirion). Priododd William Pugh Gwyn, ei fab, ferch o Ynys Môn, Margred Holland, ac ar ôl marwolaeth Huw Pugh Gwyn, ail-briododd ag Owen Meredydd o'r Mynachdy Gwyn, Clynnog Fawr. Dyma adeg adeiladu melin newydd, Melin y Bont-faen ar yr ystâd.

Oherwydd i Huw Gwyn farw a'i weddw'n ail-briodi, cafwyd ffrae am flynyddoedd ynglŷn â pherchnogaeth yr ystâd. Yn y diwedd cafodd teulu Mynachdy Gwyn y Pengwern a rhan o'r tiroedd, ac wyrion Huw Pugh Gwyn ran arall o'r eiddo, sef Plas Llanwnda. Nid oedd perthynas waed i Madog ab Ieuan bellach yn byw yn y Pengwern. Yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r ystad bellach, ac yn eiddo i deulu Meredydd, oedd y Pengwern, y Geufron, Tŷ'n Rhos, Tŷ Cerrig a Thŷ'n Lôn. John Meredydd oedd y sgweiar erbyn hynny (neu'n fuan wedyn), a chododd dŷ newydd yn y Pengwern. Chwalwyd y tŷ hwnnw mor ddiweddar â 1906 oherwydd ei waliau trwchus, ffenestri bychain a lloriau isel ac anwastad (yn ôl W. Gilbert Williams, oedd yn gyfarwydd a'r tŷ fel prifathro'r ysgol leol ar y pryd). Ceir rhai trawstiau o'r hen dŷ yn y tŷ newydd.

Codwyd Melin Wnda ar dir oedd yn eiddo i'r Pengwern ym 1663; ar dafod leferydd fe'i gelwid yn "Felin Pengwern".

Bu farw Siôn (neu John) Meredydd ym 1700, ac fe'i gladdwyd yn Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda. Olynwyd John Meredydd gan ei fab Hwmffre, a'i fab yntau, Hwmffre arall, a oedd yn un o ddynion pwysicaf yn y sir. Bu'n Uchel Siryf ym 1734, ac roedd yn ynad heddwch. Meurig Meredydd oedd yr olaf o sgweieriaid y Pengwern, a oedd yn ran o ystâd nid ansylweddol erbyn hynny ym mhlwyfi Llanwnda a Chlynnog Fawr yn bennaf. Priododd aeres Meurig, Anna Maria, â John Mostyn o Segrwyd, Dinbych. Bu farw honno ym 1823, a gwerthwyd yr ystad yn y man yn ffermydd unigol.[1]

Ym 1828, cynhaliwyd ocsiwn o ran helaeth o'r ystâd oedd yn perthyn i deulu Pengwern, a cheir manylion am y ffermydd a'u maint yn hysbyseb yr arwerthwr. Dyn o'r enw Mr Edwardes, twrnai o Ddinbych, oedd yn gweithredu ar gyfer gwerthu'r ystâd (a rhyw Mr Payne o Ddolgellau oedd yr arwerthwr). Mae hyn yn gyson â'r ffaith fod perchnogaeth wedi symud i ddwylo etifeddion Mostyniaid Segrwyd, Dinbych.[2] Rhoddir y mesuriadau arwyneb yn ôl nifer yr erwau, rhydau (4 rhwd ym mhob erw) a stangau (poles) (40 stang ym mhob rhwd):

Arwerthiant 1828
Eiddo Tenant Erwau Rhydau Stangau
PLWYF CLYNNOG
Mynachdy Gwyn John Jones 447 3 18
Bron yr Erw William Williams 13 1 27
Bron yr Erw Bach Thomas Evans 5 1 16
Cefn neu Gae Pwsant Thomas Williams 14 3 23
Cae Glas David Thomas 15 2 33
2 grofft ym mhentref Clynnog Mrs Thomas 0 0 17
PLWYF LLANWNDA
Pengwern, bwthyn Tŷ Newydd, odyn galch ayb Humphrey Williams 92 2 16
Glanyrhos M Owen 64 3 19
Geufron Hugh Hughes 55 1 18
Cae Elen Bwcle William Evans 7 1 26
Bwlch y Pengwern Bacha Chae Tŷ'n y Lôn Morgan Jones 5 2 33
Llety Fadog R a J Jones 2 1 24
Lleiniau Robert Evans 12 2 29
Tŷ Cerrig Robert Jones 3 1 0
PLWYF LLANFAGLAN
Dyraniad tir ar dir Pant heb denant 0 3 36
PLWYF LLANDWROG
Parsel o dir ar Forfa Dinas Dinlle H Williams 16 1 2
Parsel arall o dir ar Forfa Dinas Dinlle H Williams 18 2 10
PLWYF LLANAELHAEARN
Pentrebach a hanner yr hawl i ddyraniad tir 12e 2r 8s ar Gefn Rhos Thomas Roberts 76 2 21
Tanygors a thraean o hanner arall yr hawl i'r dyraniad tir uchod Ellen Evans 30 3 4
Terfyn y ddau blwyf a'r ddau draean arall o'r hawl i'r dyraniad tir uchod Griffith Jones 25 1 13
PLWYF LLANFIHANGEL-Y-PENNANT
Tyddyn y Famaeth, gyda Weirglodd Fawr a thir a elwir yn Ffridd Ucha R Owen a G Griffith 31 0 22
Pantglas, heblaw am Weirglodd Fawr ond gyda thir a elwir yn Ffridd bella Gaynor Griffith 53 1 28
Gadlas a thir a elwir yn Ffridd Ucha John Williams 4 1 17




Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd yr erthygl yn y ffurf gychwynnol hon ar W. Gilbert Williams, Hen Deuluoedd Lanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800), Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon (Cyf.4, 1942-3), tt.19-34.
  2. North Wales Chronicle, 28.8.1828, t.1