Tŷ Cnap: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Hen fferm yn ymestyn at ryw 34 erw oedd '''Tŷ Clap''' neu Tŷ Cnap - mae'r sill;afiad yn amrywio gydol y 19g.. Bu'n rhan o Ystad Plas-yn-Bont tan tua 1819, pan chwalwyd yr ystad honno.<ref>W. Gilbert Williams, ‘’Hen Deuluoedd Llanwnda. II. Lewisiaid Plas-yn-Bont’’, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf. 5 (1944), t.41</ref> Erbyn adeg y map degwm, tua 1840, Anne Ellis, gweddw John Ellis o Ryllech, Llannor<ref>Am hanes y teulu, gweler erthygl ar..."
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:18, 4 Rhagfyr 2025

Hen fferm yn ymestyn at ryw 34 erw oedd Tŷ Clap neu Tŷ Cnap - mae'r sill;afiad yn amrywio gydol y 19g.. Bu'n rhan o Ystad Plas-yn-Bont tan tua 1819, pan chwalwyd yr ystad honno.[1] Erbyn adeg y map degwm, tua 1840, Anne Ellis, gweddw John Ellis o Ryllech, Llannor[2] oedd y perchennog a Richard Williams oedd y tenant.[3] Ym 1851, Richard Morris, dyn 76 oed o Benmorfa a'i fab, Morris Prichard oedd yn ffarmio Tŷ Cnap (sic).

Gwerthwyd y fferm gan y trigiannydd olaf, John Jones, ym 1898.[4] Fe'i lleolid y tŷ ar safle uwchbwn pentref Y Bontnewydd lle codwyd plasty Fron Dinas tua 1900 yn arddull celf a chrefft pensaernïaeth y cyfnod, wedi i'r perchennog newydd ddymchwel hen dŷ a elwid yn Dŷ Cnap.[5] Bu'n wersyll carcharorion rhyfel ar ôl 1943 lle arhosai milwyr y gelyn ac a weithiai ar ffermydd yr ardal wedi i'r rhyfel ddod i ben. Wedi hynny, defnyddid yr adeilad fel clwb gwlad, sef Clwb Fron Dinas.

Prynwyd yr adeilad wedi i'r clwb gau gan Bryn Terfel fel cartref iddo ef ei hun a'i deulu, ac fe chwalwyd olion y cytiau lle bu'r carcharorion yn byw, ailwampio'r tŷ gwreiddiol a chodi adeilad cerdd ar wahân. Addaswyd yr adeilad yn gartref moethus iawn[6] adferwyd fersiwn ar yr enw gwreiddiol yr eiddo hefyd, sef Tŷ Cnap. Dichon bod y perchnogion newydd yn barnu bod Tŷ Clap yn enw rhy amryd![7]

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, ‘’Hen Deuluoedd Llanwnda. II. Lewisiaid Plas-yn-Bont’’, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf. 5 (1944), t.41
  2. Am hanes y teulu, gweler erthygl ar Cefn Hendre yn Cof y Cwmwd
  3. Map Degwm plwyf Llanwnda. "Tŷ Clap" oedd y sillafiad ar y map
  4. 'North Wales Express, 7.10.1898, t.4
  5. Gwefan Coflein, [1], cyrchwyd 4.12.2025; mapiau Ordnans 1888 a 1900
  6. Cyhoeddusrwydd gan Haf Jones a Pegler,asiantwyr tai [2], cyrchwyd 4.12.2025
  7. Gwybodaeth leol a phersonol