Railway Inn, Pant-glas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Tafarn Pant-glas''' oedd yr adeilad cyntaf ym mhentref Pant-glas wrth deithio o gyfeiriad Llanllyfni ar y lôn bost i Dremadog. Safai wrth ochr...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| (Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Tafarn Pant-glas''' oedd yr adeilad cyntaf ym mhentref [[Pant-glas]] wrth deithio o gyfeiriad [[Llanllyfni]] ar y lôn bost i Dremadog. Safai wrth ochr [[Capel Pant-glas (A)]]. Roedd y safle’n un | '''Tafarn y Railway, Pant-glas''' oedd yr adeilad cyntaf ym mhentref [[Pant-glas]] wrth deithio o gyfeiriad [[Llanllyfni]] ar y lôn bost i Dremadog. Safai wrth ochr [[Capel Pant-glas (A)]]. Roedd y safle’n un manteisiol iawn ar gyfer tafarn. Er mai [[Pen-y-groes]] oedd y man lle newidid ceffylau'r goets fawr yn ôl pob sôn, dim ond 7 milltir o Gaernarfon oedd y pentref hwnnw. Roedd Pant-glas, ar y llaw arall, yn union hanner y ffordd - ac roedd yno ardal eang o ffermydd a thyddynnod hefyd a fyddai’n edrych ar y dafarn fel eu man yfed a hamddena cyn dyddiau’r mudiad dirwest! | ||
== Testun y pennawd == | |||
Roedd y dafarn wedi ei hagor cyn 1841. Y flwyddyn honno, Howel Griffith, gŵr 30 oed o blwyf cyfagos Dolbenmaen, oedd y tafarnwr. Mae’n debyg bod y dafarn yn waith ychwanegol i Howel Griffith a’i wraig Jane; ym 1845 mae cofnod ar gael sydd yn profi ei fod hefyd yn denant ar tua 7 erw o dir a rannwyd yn 4 cae ger y dafarn. Y perchennog oedd un John Jones, a oedd hefyd yn landlord fferm Pant-glas – er nad oedd yn byw yn yr un o’r ddau le.<ref>Map a Rhestr Bennu’r Degwm, plwyf Clynnog Fawr, 1845</ref> | |||
Dichon i Howel Griffith symud tua 1845-6 i ffermio Eisteddfa ger [[Nasareth]] ac, erbyn 1851, gŵr o Lanystumdwy’n wreiddiol o’r enw Griffith Griffiths, 30 oed, a’i wraig, Jane Griffiths arall, oedd y tafarnwr a’r ffermwr. Symudodd y teulu hwnnw, hefyd, gan mai Griffith Owen, 64 oed, o Lanystumdwy a’i wraig ifanc, Jane Owen, oedd yn cadw’r dafarn ym 1861. Ym 1868, gŵr o'r enw Harry Jones oedd y tafarnwr.<ref>''Slater's Commercial Directory'', (Manceinion a Llundain, 1868), t.587 </ref> Erbyn 1871, saer coed, John Thomas, 32 oed, oedd yn cadw’r dafarn gyda’i wraig Margred, ond cyn 1880 roedd y teulu hwn hefyd wedi symud i ffwrdd.<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1841-71</ref> | |||
David Jones oedd y tafarnwr erbyn 1880, ond ni fu 1880 yn flwyddyn dda iddo. Ddwywaith yn ystod y flwyddyn bu o flaen ei well ar gyhuddiad o werthu diod gadarn i rai dan oed. Ar yr ail achlysur, cafwyd dirwy drom o £5 a chostau a nodwyd ei bechod ar ei drwydded, sef caniatáu i rywun brynu diod i dri bachgen rhwng 10 a 15 oed - a gwaeth na hynny, ef ei hun wnaeth “sbeicio” diodydd y bechgyn gyda gwirodydd nes iddynt fynd oddi yno’n chwil gaib, a phawb yno’n cael hwyl fawr am eu pennau.<ref>''Wrexham and Dendighshire Advertiser'', 2.1.1880, t.7; ''North Wales Express'', 1.10.1880, t.8</ref> Nid yw’n syndod felly bod tenant newydd yn y dafarn erbyn 1881, sef David Roberts.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 9.7.1881</ref> Ysywaeth, nid oedd hwnnw fawr gwell o ran cadw at y deddfau trwyddedu. Ym 1883, cafodd ei ddirwyo am agor y dafarn erbyn 5.40 p.m. ar Ddydd Gwener Groglith, pan nad oedd tafarnau'n cael agor tan chwech yr hwyr.<ref>''North Wales Express'', 6.4.1883, t.8</ref> | |||
Y tenant a arhosodd hwyaf yn y dafarn oedd Francis W. Griffith, gŵr o blwyf Llanllyfni a aned tua 1864, ac a oedd wedi cyrraedd yno erbyn 1891, gan ei ddisgrifio ei hun fel ffarmwr a thafarnwr.<ref>Cyfrifiad plwyf Clynnog 1891</ref> Roedd yn dal yno hyd 1903 o leiaf ac enillodd beth clod iddo ei hun mewn sioeau amaethyddol yn y cylch.<ref>''Gwalia'', 14.8.1900, t.7; ''North Wales Express'', 3.7.1903, t.5</ref> Dichon iddo farw fis Chwefror 1906 a hynny yn Ninbych - sydd yn codi’r cwestiwn a oedd problemau meddyliol ganddo, gan mai yno yr oedd ysbyty meddwl Gogledd Cymru.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 27.2.1906, t.8</ref> Parhaodd ei wraig i gadw’r dafarn hyd 1909 o leiaf <ref>''Gwalia'', 8.2.1909, t.4</ref>. Erbyn mis Awst y flwyddyn ganlynol, yr oedd gŵr o’r enw Owen Jones yn rhedeg y lle.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 24.8.1909, t.5</ref> Disgrifiodd ei hun fel ffarmwr a thafarnwr. Dyn o Lanllyfni ydoedd, a aned tua 1869; Cymro uniaith ydoedd, er bod ei wraig Magi â gallu yn y ddwy iaith.<ref>Cyfrifiad plwyf Clynnog 1911</ref> Roedd y teulu’n dal yn y dafarn ym 1918 pan hysbysodd y cyhoedd trwy gyfrwng nodyn yn y papur lleol ei fod o ac Owen Jones arall, ffarmwr Glan’rafon gerllaw’r dafarn, yn mynd i godi’r pris am wasanaeth eu baedd i 4 swllt!<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 30.4.1918, t.1</ref> | |||
Y tenant a arhosodd hwyaf yn y dafarn oedd Francis W. Griffith, gŵr o blwyf Llanllyfni a aned tua 1864, ac a oedd wedi cyrraedd yno erbyn 1891, gan ddisgrifio ei hun fel ffarmwr a thafarnwr.<ref>Cyfrifiad plwyf Clynnog 1891</ref> Roedd yn dal yno hyd 1903 o leiaf ac enillodd beth | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Tafarndai]] | [[Categori:Tafarndai]] | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:04, 22 Hydref 2025
Tafarn y Railway, Pant-glas oedd yr adeilad cyntaf ym mhentref Pant-glas wrth deithio o gyfeiriad Llanllyfni ar y lôn bost i Dremadog. Safai wrth ochr Capel Pant-glas (A). Roedd y safle’n un manteisiol iawn ar gyfer tafarn. Er mai Pen-y-groes oedd y man lle newidid ceffylau'r goets fawr yn ôl pob sôn, dim ond 7 milltir o Gaernarfon oedd y pentref hwnnw. Roedd Pant-glas, ar y llaw arall, yn union hanner y ffordd - ac roedd yno ardal eang o ffermydd a thyddynnod hefyd a fyddai’n edrych ar y dafarn fel eu man yfed a hamddena cyn dyddiau’r mudiad dirwest!
Testun y pennawd
Roedd y dafarn wedi ei hagor cyn 1841. Y flwyddyn honno, Howel Griffith, gŵr 30 oed o blwyf cyfagos Dolbenmaen, oedd y tafarnwr. Mae’n debyg bod y dafarn yn waith ychwanegol i Howel Griffith a’i wraig Jane; ym 1845 mae cofnod ar gael sydd yn profi ei fod hefyd yn denant ar tua 7 erw o dir a rannwyd yn 4 cae ger y dafarn. Y perchennog oedd un John Jones, a oedd hefyd yn landlord fferm Pant-glas – er nad oedd yn byw yn yr un o’r ddau le.[1]
Dichon i Howel Griffith symud tua 1845-6 i ffermio Eisteddfa ger Nasareth ac, erbyn 1851, gŵr o Lanystumdwy’n wreiddiol o’r enw Griffith Griffiths, 30 oed, a’i wraig, Jane Griffiths arall, oedd y tafarnwr a’r ffermwr. Symudodd y teulu hwnnw, hefyd, gan mai Griffith Owen, 64 oed, o Lanystumdwy a’i wraig ifanc, Jane Owen, oedd yn cadw’r dafarn ym 1861. Ym 1868, gŵr o'r enw Harry Jones oedd y tafarnwr.[2] Erbyn 1871, saer coed, John Thomas, 32 oed, oedd yn cadw’r dafarn gyda’i wraig Margred, ond cyn 1880 roedd y teulu hwn hefyd wedi symud i ffwrdd.[3]
David Jones oedd y tafarnwr erbyn 1880, ond ni fu 1880 yn flwyddyn dda iddo. Ddwywaith yn ystod y flwyddyn bu o flaen ei well ar gyhuddiad o werthu diod gadarn i rai dan oed. Ar yr ail achlysur, cafwyd dirwy drom o £5 a chostau a nodwyd ei bechod ar ei drwydded, sef caniatáu i rywun brynu diod i dri bachgen rhwng 10 a 15 oed - a gwaeth na hynny, ef ei hun wnaeth “sbeicio” diodydd y bechgyn gyda gwirodydd nes iddynt fynd oddi yno’n chwil gaib, a phawb yno’n cael hwyl fawr am eu pennau.[4] Nid yw’n syndod felly bod tenant newydd yn y dafarn erbyn 1881, sef David Roberts.[5] Ysywaeth, nid oedd hwnnw fawr gwell o ran cadw at y deddfau trwyddedu. Ym 1883, cafodd ei ddirwyo am agor y dafarn erbyn 5.40 p.m. ar Ddydd Gwener Groglith, pan nad oedd tafarnau'n cael agor tan chwech yr hwyr.[6]
Y tenant a arhosodd hwyaf yn y dafarn oedd Francis W. Griffith, gŵr o blwyf Llanllyfni a aned tua 1864, ac a oedd wedi cyrraedd yno erbyn 1891, gan ei ddisgrifio ei hun fel ffarmwr a thafarnwr.[7] Roedd yn dal yno hyd 1903 o leiaf ac enillodd beth clod iddo ei hun mewn sioeau amaethyddol yn y cylch.[8] Dichon iddo farw fis Chwefror 1906 a hynny yn Ninbych - sydd yn codi’r cwestiwn a oedd problemau meddyliol ganddo, gan mai yno yr oedd ysbyty meddwl Gogledd Cymru.[9] Parhaodd ei wraig i gadw’r dafarn hyd 1909 o leiaf [10]. Erbyn mis Awst y flwyddyn ganlynol, yr oedd gŵr o’r enw Owen Jones yn rhedeg y lle.[11] Disgrifiodd ei hun fel ffarmwr a thafarnwr. Dyn o Lanllyfni ydoedd, a aned tua 1869; Cymro uniaith ydoedd, er bod ei wraig Magi â gallu yn y ddwy iaith.[12] Roedd y teulu’n dal yn y dafarn ym 1918 pan hysbysodd y cyhoedd trwy gyfrwng nodyn yn y papur lleol ei fod o ac Owen Jones arall, ffarmwr Glan’rafon gerllaw’r dafarn, yn mynd i godi’r pris am wasanaeth eu baedd i 4 swllt![13]
Cyfeiriadau
- ↑ Map a Rhestr Bennu’r Degwm, plwyf Clynnog Fawr, 1845
- ↑ Slater's Commercial Directory, (Manceinion a Llundain, 1868), t.587
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1841-71
- ↑ Wrexham and Dendighshire Advertiser, 2.1.1880, t.7; North Wales Express, 1.10.1880, t.8
- ↑ Caernarvon and Denbigh Herald, 9.7.1881
- ↑ North Wales Express, 6.4.1883, t.8
- ↑ Cyfrifiad plwyf Clynnog 1891
- ↑ Gwalia, 14.8.1900, t.7; North Wales Express, 3.7.1903, t.5
- ↑ Yr Herald Cymraeg, 27.2.1906, t.8
- ↑ Gwalia, 8.2.1909, t.4
- ↑ Yr Herald Cymraeg, 24.8.1909, t.5
- ↑ Cyfrifiad plwyf Clynnog 1911
- ↑ Yr Herald Cymraeg, 30.4.1918, t.1