Record of Caernarvon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 22 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''The Record of Caernavon''' yw'r enw a roddwyd ar gyfrol o drawsysgrifiadau o ddogfennau sy'n dyddio o'r 14g a 15g ac sydd yn ymwneud â hen dywysogaeth Gwynedd dan ei rheolwyr Seisnig newydd wedi buddugoliaethau Iorwerth I, ac a gyhoeddwyd ym 1838 gan Syr Henry Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig.<ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696.'' (Llundain, 1838)</ref> Efallai y rhan bwysicaf yw'r ''Extentae'', sef Stentau (neu gofrestrau rhenti a dyletswyddau ynghlwm wrth ddaliadaeth o dir), yn cynnwys ''Extenta comites de Caernarvon; facta per Johannem de Delves'' (Stent o Sir Gaernarfon a wnaed gan John de Delves); fe'i wnaed ym 1352. Mae tri neu bedwar o gopïau o'r Stentau hyn, gan gynnwys un ymysg archifau Baron Hill yn Archifdy Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae cynnwys y gyfrol brintiedig wedi ei chopio oddi wrth llawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, llsg. Harley 696.
'''The Record of Caernarvon''' yw'r enw a roddwyd ar gyfrol o drawsysgrifiadau o ddogfennau sy'n dyddio'n bennaf o'r 14g a 15g ac sydd yn ymwneud â hen dywysogaeth Gwynedd dan ei rheolwyr Seisnig newydd wedi buddugoliaethau Iorwerth I. Fe'i cyhoeddwyd ym 1838 gan Syr Henry Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig.<ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696.'' (Llundain, 1838)</ref> Efallai mai'r rhan bwysicaf yw'r ''Extentae'', sef Stentau (neu gofrestrau rhenti a dyletswyddau a oedd ynghlwm wrth ddaliadaeth o dir), yn cynnwys ''Extenta comites de Caernarvon; facta per Johannem de Delves'' ([[Stent Uwchgwyrfai 1352|Stent o Sir Gaernarfon]] a wnaed gan John de Delves); fe'i gwnaed ym 1352. Mae tri neu bedwar o gopïau o'r Stentau hyn, gan gynnwys un ymysg archifau Baron Hill yn Archifdy Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae cynnwys y gyfrol brintiedig wedi ei chopïo o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, llsg. Harley 696.


Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen hwyr) wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Yr arfer ymysg clercod gweinyddol oedd talfyrru'r hyn yr oeddent yn ei ysgrifennu gymaint ag yr oedd modd, er mwyn arbed amser a deunydd drud ysgrifennu, ond y canlyniad yw fod angen deall yr holl arwyddion talfyrru yn ogystal â'r iaith. Heddiw byddai golygydd yn ymestyn y talfyriadau, ond mewn oes mwy academig (ymysg y deallusion) lle 'roedd pawb oedd â lefel weddol dda o addysg yn deall Lladin yn rhwydd.
Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen o Oes y Tuduriaid) wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Yr arfer ymysg clercod gweinyddol oedd talfyrru'r hyn yr oeddent yn ei ysgrifennu gymaint ag yr oedd modd, er mwyn arbed amser a deunydd drud ysgrifennu, ond y canlyniad yw fod angen deall yr holl arwyddion talfyrru yn ogystal â'r iaith. Heddiw byddai golygydd yn ymestyn y talfyriadau, ond mewn oes fwy academaidd (o ran y deallusion beth bynnag) lle 'roedd pawb oedd â lefel weddol dda o addysg yn deall Lladin yn rhwydd, ni ystyriwyd hynny mor bwysig â chyfleu'n union yr hynny oedd ar dudalen y llawysgrif.
 
Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr<ref>A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" ''(Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn''), (1971-2) tt.150-272</ref> ac mae rhagair a throednodiadau yn y cyfieithaid yn help i ddeall y ddogfen ar gyfer Sir Gaernarfon hefyd. Fodd bynnag, hyd y gwyddys, nid oes cyfiithiad wedi ei wneud o Stent Sir Gaernarfon. Mae'n brosiect gan '''Gof y Cwmwd''' felly i gyhoeddi cyfieithiadau o'r darnau sydd yn ymwneud ag [[Uwchgwyrfai]] o dipyn i beth, gan roi'r cyfieithiadau mewn erthygl gyda'r bennawd [[Stent Uwchgwyrfai 1352]] ac hefyd mewn erthyglau am y trefgorddi unigol (gan fod y Stent yn ymdrin â;r cwmwd trefgordd wrth drefgordd).
 
===Cyfiethiad o destun Stent 1352===
 
DINLLE
 
Mae yn y drefgordd hon saith gwely o dir rhydd a elwir yn '''Gwely Wyrion Einion, Gwely Wyrion Morgeneu, Gwely Wyrion Rhawd, Gwely Wyrion Ystrwyth, Gwely Wisgiaid, Gwely Hebogothion''' a '''Gwely Bowynied'''.
 
Ac mae Llywelyn ap Ednyfed Gronw ap Tudur ac eraill yn etifeddion '''Gwely Wyrion Einion''' uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 6s. 1c.
Cyfanswm blynyddol: 24s. 4c.
Ac mae ganddynt dair felin a elwir Melin Gafelog, Melin Meredydd a Melin Ednyfed. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r cwmwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol.
 
A Hywel ap Iorwerth, Eden ap Einion ac eraill yw etifeddion '''Wely Wyrion Morgeneu''' uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 6½c.
Cyfanswm blynyddol: 42s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae gan denantiaid y gwely hwn eu melin eu hunain a elwir Melin Heilin ac mae’r rhain â dyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Y maent yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
 
A Rhys Mynyth, Cad’ ap Rhys ac eraill yw etifeddion '''Wely Wyrion Rhawd''' uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 3s. 7c.
Cyfanswm blynyddol: 14s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud bod ganddynt eu melin eu hunain a elwir Melin Madog, a rhai’n dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
 
A Tudur Goch ap Gronw, Ieuan ap Griffith Fychan ac eraill yw etifeddion '''Wely Wyrion Ystrwyth''' uchod. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 45s. 2c.
Ac mae ar bawb o’r Gwely hwn ddyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae chwe bufedd o dir siêd yn ôl amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Llywelyn ap Morgant sydd yn awr yn nwylo Tudur Goch trwy siartr ein harglwydd Tywysog presennol. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14c. sy’n cynwysedig yn y taliad dywededig o 11s. 3½c. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 12c.
Cyfanswm blynyddol: 12c.
 
A Heilin ap Ednyfed, Gronw ap Ednyfed, Gronw a Rhys meibion Iorwerth Crach ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir '''Gwely Wisgiaid'''. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 7s. 5¾c.
Cyfanswm blynyddol: 29s. 11c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae rhai yn dweud fod y Gwely hwn yn rhydd o [fynychu] melin yr Arglwydd  ac eraill yn cadw rhag gwneud a.y.b. Ac y mae yn y dywededig Wely Wisgied dwy fufedd a hanner o dir siêd a ddaeth oddi wrth Heilin ap Cad’ sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid talu 3½c. bob tymor fel rhan o daliad uchod y Gwely. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 5c.
Cyfanswm blynyddol: 5c. [sic]
A Tegwared Goch, Hywel ap Ieuan ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir '''Gwely Hebogothion'''. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 4s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 19s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud eu bod yn rhydd i fynychu unrhyw felin o gwbl yn ôl eu dewis a.y.b. a rhai yn dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
 
Ac yn y gwely uchod a elwir '''Gwely [Wyrion] Ystrwyth''' y mae parsel o tir siêd a ddaeth oddi wrth Gronw Henseil sydd yn cynnwys chwe firgat o dir yn ôl yr amcangyfrif ac sydd yn nwylo’r arglwydd wedi i’r tenant hwnnw eu gadael i orwedd yn fraenar ers dwy flynedd. Ac arferid talu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor 7c. A gynhwysid yn y taliad uchod o 4s. 10¼c. Ac yn y gwely hwnnw y mae chwe firgat o tir siêd yn ôl yr amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Ieuan Kenny ac sydd yn nwylo’r arglwydd am y rheswm uchod. Ac y mae yn y gwely hwnnw hanner bufedd o dir yn ôl yr amcangyfrif sydd yn tir siêd a ddaeth oddi wrth Meurig ap Philip ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac y mae’r tiroedd uchod a.y.b.
 
A Ieuan ap Griffith ap Bleddyn, Ieuan ap Gwilym Du ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir '''Gwely Bodwyniod'''. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 2s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 11s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd gan nad oes ganddynt felin yn y Cwmwd dan sylw. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b.
 
Ac yn y drefgordd hwn y mae naw rhan o wely a elwir '''Gwely Wyrion Iorwerth''' sydd â degfed rhan ohoni yn Isgwyrfai fel sydd yn cael ei ddangos dan drefgordd Treflan. A Griffith ap Madog, Ieuan ap Llywelyn ac eraill yw etifeddion ohono. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 21s. 2c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac o fewn y naw ran o ddeg o’r gwely hwn yn mae un fufedd o tir siêd a gafwyd oddi wrth Tegwared Goch Bastard sydd yn awr gan Tegwared Moel. Ac fe delir 2c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 4c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac y mae yn y naw rhan o’r gwely hwn hanner bufedd o dir siêd o dir a ddaeth oddi wrth Griffith ap Cyfnerth sydd gan Tegwared uchod yn yr un ffordd. Ac fe delir 1c. ym mhob un o’r pedwar tymor a sydd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 2c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac mae trydedd ran o wely a elwir yn '''Gwely Cynwrig ap Tregir''' yn y drefgordd hon. Ac etifeddion hwnnw yw Dafydd Fychan a Ieuan a Hywel ei frodyr ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 6c.
Cyfanswm blynyddol: 2s. 0½c.
a’r dimai hwnnw’n cael ei gynnwys yn nhaliadau’r gwely hwn gan nad oes modd ei rannu’n bedwar. Telir hwn a.y.b. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd yn y Cwmwd hwn ac yng Nghwmwd Isgwyrfai. Ac maent â dyletswydd mynychu melin yr arglwydd isod yn y Cwmwd hwn.
 
Ac yn yr un drefgordd y mae pumed ran o wely a elwir yn '''Gwely Pyll ap Tregir'''. Ac etifeddion hwnnw yw Einion ap Tudur, Gwerfyl ferch Gwenllian ferch Hywel ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 9c.
Cyfanswm blynyddol: 3s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin Arglwydd y Tywysog o fewn y Cwmwd hwn. Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae o fewn y dywededig bumed ran o’r Gwely hwnnw dair bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Tegwared ap Adda Goch. Ac mae’r rhain yn dal yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid yn y gorffennol dalu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delid 14c. yn y Cwmwd hwn adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel.
Cyfanswm blynyddol: 14c.
Ac yn yr un drefgordd y mae hanner gwely a elwir '''Gwely Ednowain ap Tregir'''. Ac etifeddion hwnnw yw Gronw ap Heilin, Ieuan Goch ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s.8½c.
Cyfanswm blynyddol: 22s.10c.
Ac y mae o fewn yr hanner o’r gwely hwnnw un fufedd o dir siêd yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Gwyn ap Gronw ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd yn arfer talu ym mhob un o’r tymhorau hynny a.y.b. y tâl yr arferid ei gynnwys yn nhaliadau y gwely. Ac yn yr hanner o’r un gwely un fufedd arall yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Heilin ap Ieuan a Tegwared ap Ieuan. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir 2c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac mae’r hanner hwnnw [yn golygu bod] dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd  fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. A thelir 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol.
 
Ac yn yr un drefgordd y mae trydedd ran  gwely a elwir '''Gwely Cyfnerth ap Tregir'''. Ac etifeddion hwnnw yw Einion Of, Iorwerth ap Einion ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod yn y Cwmwd hwn 12c.
Cyfanswm blynyddol: 4s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] arglwydd y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. . Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b  A’r drefgordd gyfan hwn yn talu 4c. ar gyfer twnc yn ychwanegol at yr hyn a delir yn ôl y stent  adeg y Pasg a gŵyl Sant Mihangel mewn rhannau cyfartal.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac arferai pawb, boed yn rhydd neu’n gaeth yn y Cwmwd hwn, dalu 6s.8c. adeg gŵl yr Holl Seintiau at ddefnydd Maenor Caernarfon yr arglwydd.
Cyfanswm blynyddol: 6s.8c.
Wedyn, fe gyflwynodd amryw o denantiaid cymydau Isgwyrfai ac Uwchgwyrfai amryw o ddeisebau ynglŷn ag achosion difrifol i John de Delves y dirprwy Ustus ym mhresenoldeb yr Archwiliwr presennol parthed taliadau annheg gan y gwelyau uchod yn y Cymydau hyn. Daethpwyd i benderfyniad, o flaen yr arglwydd ddirprwy ac Archwiliwr Trysorlys yr arglwydd Dywysog yng Nghaernarfon fis Ionawr 1353, ym mhresenoldeb Llysoedd y Cymydau hyn a gyfarfu efo’i gilydd oherwydd yr achos hwn a thrwy eu dyfarniad, nad oes gofyn ar y rhan honno sydd gan Wely Cynwrig ap Tregir yn Ninlle yng Ngwmwd Uwchgwyrfai dalu taliadau bob blwyddyn yn y pedwar tymor arferol ond 2s. lle [nodir] yn y stent newydd hwn 2s.0½c. y flwyddyn ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Pyll ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 2s.6c. lle [nodir] 3s. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Ednowain ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 8s. lle [nodir] 22s.10c. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Cyfnerth ap Tregir dalu ond 2s.2c lle [nodir] 4s. yn yr un stent. Ac oherwydd hyn mae’r pedwar Gwely uchod sydd â gofynion yn ôl y stent newydd uchod i dalu 31s.10½c. sydd yn 17s.2½c. o daliad blynyddol yn ormod, nid oes ond 14s.8c. yn daladwy bob blwyddyn. A chan ei fod yn ddigon eglur ac yn cael ei ddatgan mai yng Nghwmwd Isgwyrfai y mae gofyn i’r gwelyau hynny a Gwely Wyrion Iorwerth yn nhrefgordd Treflan am dalu’r 17s.2½c. dywededig yn flynyddol i’r arglwydd. Gorchmynnir hyn trwy ganiatâd y dirprwy uchod a’r Archiliwr ac wedyn ni thelir i Ringyll y Cwmwd hwn y 17s.2½c. uchod am y cyfnod a fu, oedd yn ormod i’w dalu gan y gwelyau hynny; ond telir [y swm hwnnw] wedyn i Ringyll Isgwyrfai fel y datganwyd uchod.
 
''Cyfanswm blynyddol: £11.19s.9c.''
''Cyfanswm tir siêd, twnc a chnhaliaeth y Faenor 10s.3c.''


Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr<ref>A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" ''(Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn''), (1971-2) tt.150-272</ref> ac mae rhagair a throednodiadau yn y cyfieithiad yn help i ddeall y ddogfen ar gyfer Sir Gaernarfon hefyd. Fodd bynnag, hyd y gwyddys, nid oes cyfieithiad wedi ei wneud o Stent Sir Gaernarfon. Cynhaliwyd prosiect gan '''Gof y Cwmwd''' felly i gyhoeddi cyfieithiadau o'r darnau sydd yn ymwneud ag [[Uwchgwyrfai]], gan roi'r cyfieithiadau mewn erthygl gyda'r pennawd [[Stent Uwchgwyrfai 1352]] a hefyd mewn erthyglau am y trefgorddau unigol (gan fod y Stent yn ymdrin â'r cwmwd drefgordd wrth drefgordd).


Yn yr un gyfrol brintiedig mae copïau o ddogfennau eraill o'r un cyfnod sydd yn sôn am ardrethi a dyletswyddau ac mae rhai yn taflu mwy o olau ar y trefniadau yn Uwchgwyrfai. Mae '''Cof y Cwmwd''' yn cynnwys cyfieithiadau o'r darnau hyn hefyd. I weld y cyfieithiadau, cliciwch ar y dolennau hyn a fydd yn mynd achi at y didalen berthnasol, yn ôl yr hyn yr ydych am ei weld: [[Stent Uwchgwyrfai 1352]], [[Siarter Eglwys Clynnog Fawr]], [[Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm]] a‎‎ [[Cyfrif Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, 1398]].


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Hanes]]
[[Categori:Trethi a thollau]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Dogfennau ac adysgrifau gwreiddiol]]
[[Categori:Dogfennau ac adysgrifau gwreiddiol]]
[[Categori: Trethi a thollau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:20, 31 Hydref 2024

The Record of Caernarvon yw'r enw a roddwyd ar gyfrol o drawsysgrifiadau o ddogfennau sy'n dyddio'n bennaf o'r 14g a 15g ac sydd yn ymwneud â hen dywysogaeth Gwynedd dan ei rheolwyr Seisnig newydd wedi buddugoliaethau Iorwerth I. Fe'i cyhoeddwyd ym 1838 gan Syr Henry Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig.[1] Efallai mai'r rhan bwysicaf yw'r Extentae, sef Stentau (neu gofrestrau rhenti a dyletswyddau a oedd ynghlwm wrth ddaliadaeth o dir), yn cynnwys Extenta comites de Caernarvon; facta per Johannem de Delves (Stent o Sir Gaernarfon a wnaed gan John de Delves); fe'i gwnaed ym 1352. Mae tri neu bedwar o gopïau o'r Stentau hyn, gan gynnwys un ymysg archifau Baron Hill yn Archifdy Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae cynnwys y gyfrol brintiedig wedi ei chopïo o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, llsg. Harley 696.

Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen o Oes y Tuduriaid) wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Yr arfer ymysg clercod gweinyddol oedd talfyrru'r hyn yr oeddent yn ei ysgrifennu gymaint ag yr oedd modd, er mwyn arbed amser a deunydd drud ysgrifennu, ond y canlyniad yw fod angen deall yr holl arwyddion talfyrru yn ogystal â'r iaith. Heddiw byddai golygydd yn ymestyn y talfyriadau, ond mewn oes fwy academaidd (o ran y deallusion beth bynnag) lle 'roedd pawb oedd â lefel weddol dda o addysg yn deall Lladin yn rhwydd, ni ystyriwyd hynny mor bwysig â chyfleu'n union yr hynny oedd ar dudalen y llawysgrif.

Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr[2] ac mae rhagair a throednodiadau yn y cyfieithiad yn help i ddeall y ddogfen ar gyfer Sir Gaernarfon hefyd. Fodd bynnag, hyd y gwyddys, nid oes cyfieithiad wedi ei wneud o Stent Sir Gaernarfon. Cynhaliwyd prosiect gan Gof y Cwmwd felly i gyhoeddi cyfieithiadau o'r darnau sydd yn ymwneud ag Uwchgwyrfai, gan roi'r cyfieithiadau mewn erthygl gyda'r pennawd Stent Uwchgwyrfai 1352 a hefyd mewn erthyglau am y trefgorddau unigol (gan fod y Stent yn ymdrin â'r cwmwd drefgordd wrth drefgordd).

Yn yr un gyfrol brintiedig mae copïau o ddogfennau eraill o'r un cyfnod sydd yn sôn am ardrethi a dyletswyddau ac mae rhai yn taflu mwy o olau ar y trefniadau yn Uwchgwyrfai. Mae Cof y Cwmwd yn cynnwys cyfieithiadau o'r darnau hyn hefyd. I weld y cyfieithiadau, cliciwch ar y dolennau hyn a fydd yn mynd achi at y didalen berthnasol, yn ôl yr hyn yr ydych am ei weld: Stent Uwchgwyrfai 1352, Siarter Eglwys Clynnog Fawr, Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm a‎‎ Cyfrif Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, 1398.

Cyfeiriadau

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838)
  2. A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" (Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn), (1971-2) tt.150-272