Henry Howell Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Gwasanaethai'r '''Dr Henry Howell Parry''' (1835-1907) fel meddyg a llawfeddyg ardal [[Dyffryn Gwyrfai]] am lawer o flynyddoedd wedi iddo gael ei hyfforddi yn Digbeth, Birmingham. Yn wir, enwodd dai a godwyd ganddo ym mhentref [[Y Bontnewydd]] yn "Digbeth Terrace", a'i dŷ ei hun yn "Digbeth House" -  a godwyd rywbryd cyn 1871.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1871</ref>
Bu '''Dr Henry Howell Parry''' (1835-1907) yn gwasanaethu fel meddyg a llawfeddyg ardal [[Dyffryn Gwyrfai]] am lawer o flynyddoedd ar ôl iddo gael ei hyfforddi yn Digbeth, Birmingham. Yn wir, enwodd dai a godwyd ganddo ym mhentref [[Y Bontnewydd]] yn "Digbeth Terrace", a'i dŷ ei hun yn "Digbeth House" -  a godwyd rywbryd cyn 1871.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1871</ref>


Fe'i ganed yn Llwyn Angharad, [[Llanwnda]] ym 1835, yn ail o bedwar mab i wehydd, William Parry. Brawd iddo oedd y bardd [[Gwilym Droed-ddu]]. Mae'n debyg iddo fynychu ysgol fach a gynhelid yng Nglanrhyd Bach, cyn i honno symud i [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]]. Ym 1843, roedd yn un o ddisgyblion cyntaf [[Ysgol Gynradd Bontnewydd|Ysgol Y Bontnewydd]]. Ar ôl cael ei hyfforddi'n feddyg ym Mirmingham, dychwelodd i'w fro enedigol, gan ymsefydlu yn y Bontnewydd, lle bu'n gweithio fel meddyg, a hynny am weddill ei oes hyd ei farwolaeth ym 1907.
Fe'i ganed yn Llwyn Angharad, [[Llanwnda]] ym 1835, yn ail o bedwar mab i wehydd, William Parry. Brawd iddo oedd y bardd [[Gwilym Droed-ddu]]. Mae'n debyg iddo fynychu ysgol fach a gynhelid yng Nglanrhyd Bach, cyn i honno symud i [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]]. Ym 1843, roedd yn un o ddisgyblion cyntaf [[Ysgol Gynradd Bontnewydd|Ysgol Y Bontnewydd]]. Ar ôl cael ei hyfforddi'n feddyg ym Mirmingham, dychwelodd i'w fro enedigol, gan ymsefydlu yn Y Bontnewydd, lle bu'n gweithio fel meddyg am weddill ei oes hyd ei farwolaeth ym 1907.


Priododd Elizabeth Hughes, Wernlas Ddu, [[Rhostryfan]] ym 1873..<ref>Cofrestr briodasau plwyf Llanwnda, 1873</ref>  Roedd hi'n 15 mlynedd yn iau nag ef, ond bu farw ar ôl geni eu mab John Henry Howell Parry. Ymhen amser, etifeddodd John Wernlas Ddu, lle bu'n dilyn y proffesiwn o hyfforddwr ceffylau.<ref>Cofrestr priodasau plwyf Llanwnda, 1912</ref>  
Priododd ag Elizabeth Hughes, Wernlas Ddu, [[Rhostryfan]] ym 1873.<ref>Cofrestr briodasau plwyf Llanwnda, 1873</ref>  Roedd hi 15 mlynedd yn iau nag ef, ond bu farw ar ôl geni eu mab John Henry Howell Parry. Ymhen amser, etifeddodd John y Wernlas Ddu, lle bu'n dilyn gyrfa fel hyfforddwr ceffylau.<ref>Cofrestr priodasau plwyf Llanwnda, 1912</ref>  


Erbyn 1891 roedd wedi ail briodi gyda Margaret Ellen, merch o blwyf  Llanbeblig 25 mlynedd yn iau nag ef. Bu farw 5 Ebrill 1907 ar ôl cael strôc yn ei gartref.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'' 5.4.1907, t.8</ref> Gadawodd eiddo gwerth £1952.<ref>''North Wales Express'' 17.5.1907, t.3</ref>Roedd Mrs Parry'n dal i fyw yn Digbeth House tan o leiaf 1921.
Erbyn 1891 roedd Dr Parry wedi ail-briodi gyda Margaret Ellen, merch o blwyf  Llanbeblig 25 mlynedd yn iau nag ef. Bu farw 5 Ebrill 1907 ar ôl cael strôc yn ei gartref.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'' 5.4.1907, t.8</ref> Gadawodd eiddo gwerth £1952.<ref>''North Wales Express'' 17.5.1907, t.3</ref>Roedd Mrs Parry'n dal i fyw yn Digbeth House tan o leiaf 1921.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:24, 23 Medi 2024

Bu Dr Henry Howell Parry (1835-1907) yn gwasanaethu fel meddyg a llawfeddyg ardal Dyffryn Gwyrfai am lawer o flynyddoedd ar ôl iddo gael ei hyfforddi yn Digbeth, Birmingham. Yn wir, enwodd dai a godwyd ganddo ym mhentref Y Bontnewydd yn "Digbeth Terrace", a'i dŷ ei hun yn "Digbeth House" - a godwyd rywbryd cyn 1871.[1]

Fe'i ganed yn Llwyn Angharad, Llanwnda ym 1835, yn ail o bedwar mab i wehydd, William Parry. Brawd iddo oedd y bardd Gwilym Droed-ddu. Mae'n debyg iddo fynychu ysgol fach a gynhelid yng Nglanrhyd Bach, cyn i honno symud i Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda. Ym 1843, roedd yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Y Bontnewydd. Ar ôl cael ei hyfforddi'n feddyg ym Mirmingham, dychwelodd i'w fro enedigol, gan ymsefydlu yn Y Bontnewydd, lle bu'n gweithio fel meddyg am weddill ei oes hyd ei farwolaeth ym 1907.

Priododd ag Elizabeth Hughes, Wernlas Ddu, Rhostryfan ym 1873.[2] Roedd hi 15 mlynedd yn iau nag ef, ond bu farw ar ôl geni eu mab John Henry Howell Parry. Ymhen amser, etifeddodd John y Wernlas Ddu, lle bu'n dilyn gyrfa fel hyfforddwr ceffylau.[3]

Erbyn 1891 roedd Dr Parry wedi ail-briodi gyda Margaret Ellen, merch o blwyf Llanbeblig 25 mlynedd yn iau nag ef. Bu farw 5 Ebrill 1907 ar ôl cael strôc yn ei gartref.[4] Gadawodd eiddo gwerth £1952.[5]Roedd Mrs Parry'n dal i fyw yn Digbeth House tan o leiaf 1921.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1871
  2. Cofrestr briodasau plwyf Llanwnda, 1873
  3. Cofrestr priodasau plwyf Llanwnda, 1912
  4. Caernarvon and Denbigh Herald 5.4.1907, t.8
  5. North Wales Express 17.5.1907, t.3