Maen Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
ar ddolen i wefan allanol un cromfach sgwar, yn hytrach na dwy. Dwy ar ddolen fewnol.
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 12 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Casgliad o dai yw '''Maen Coch''' ar yr hen briffordd rhwng Ffingar ([[Llanwnda]]) a [[Dolydd]]. Yn wreiddiol dim ond un fferm, Cefn Coch, a  oedd yma, ond rhwng 1840 a 1900 codwyd fferm Cefn-coch (ar dir hen ddaliad Garth-y-glo), dau dŷ moel a dau fwthyn dan yr un to - y 'Maen Coch' gwreiddiol. Yn gynnar yn yr 20fed ganrif codwyd dau bâr o dai sylweddol wedyn nes ffurfio cymuned fach.
Casgliad o dai yw '''Maen Coch''' ar yr hen briffordd rhwng [[Ffingar]] ([[Llanwnda]]) a [[Dolydd]]. Yn wreiddiol dim ond un fferm, Cefn Coch, a  oedd yma, ond rhwng 1840 a 1888  dau fwthyn dan yr un to - y 'Maen Coch' gwreiddiol; a chyn 1900 codwyd codwyd dau dŷ moel. Yn gynnar yn yr 20fed ganrif codwyd dau bâr o dai sylweddol wedyn nes ffurfio cymuned fach.<ref>[https://places.library.wales/search/53.093/-4.279/17? alt=&page=1&refine=&query=Llanwnda&sort=score&order=desc&rows=100&parish_facet%5B%5D=Llanwnda Gwefan Llyfgell Genedlaethol Cymru]</ref> Ar draws y ffordd i Gefn Coch, ceir fferm hynafol Cefn Hendre, a elwid yn wreiddiol yn Cefn Cil Tyfu. Y tu hwnt i'r fferm yr oedd melin a wasanaethai'r ardal yn y Canol Oesoedd, sef [[Melin Cil Tyfu]]. Ar ochr y lôn tua 200 llath i'r gogledd o Faen Coch saif tŷ sylweddol [[Y Bryn]]; enw gwreiddiol y tŷ hwn oedd 'Fern Villa', a godwyd gan Mr Tanner, gorsaf-feistr y [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru|Lein Fach]] yng  [[Gorsaf reilffordd Dinas|Ngorsaf Cyffordd Dinas]].<ref>Traethawd eisteddfodol c1950 gan John Hughes, Llain Fadyn; mewn dwylo preifat</ref> Fe godwyd [[Fern Villa]] ar safle tŷ hen dyddyn Cae Sais, tŷ a elwid yn aml yn [[Bryn Crach]].<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. 1af, 1888</ref>


==Ffynonellau==
{{eginyn}}
*Gwefan Llyfgell Genedlaethol Cymru: [https://places.library.wales/search/53.093/-4.279/17?alt=&page=1&refine=&query=Llanwnda&sort=score&order=desc&rows=100&parish_facet%5B%5D=Llanwnda]


==Cyfeiriadau==


{{cyfeiriadau}}


[[Categori: Pentrefi a threflannau]]
 
 
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:22, 13 Medi 2024

Casgliad o dai yw Maen Coch ar yr hen briffordd rhwng Ffingar (Llanwnda) a Dolydd. Yn wreiddiol dim ond un fferm, Cefn Coch, a oedd yma, ond rhwng 1840 a 1888 dau fwthyn dan yr un to - y 'Maen Coch' gwreiddiol; a chyn 1900 codwyd codwyd dau dŷ moel. Yn gynnar yn yr 20fed ganrif codwyd dau bâr o dai sylweddol wedyn nes ffurfio cymuned fach.[1] Ar draws y ffordd i Gefn Coch, ceir fferm hynafol Cefn Hendre, a elwid yn wreiddiol yn Cefn Cil Tyfu. Y tu hwnt i'r fferm yr oedd melin a wasanaethai'r ardal yn y Canol Oesoedd, sef Melin Cil Tyfu. Ar ochr y lôn tua 200 llath i'r gogledd o Faen Coch saif tŷ sylweddol Y Bryn; enw gwreiddiol y tŷ hwn oedd 'Fern Villa', a godwyd gan Mr Tanner, gorsaf-feistr y Lein Fach yng Ngorsaf Cyffordd Dinas.[2] Fe godwyd Fern Villa ar safle tŷ hen dyddyn Cae Sais, tŷ a elwid yn aml yn Bryn Crach.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. alt=&page=1&refine=&query=Llanwnda&sort=score&order=desc&rows=100&parish_facet%5B%5D=Llanwnda Gwefan Llyfgell Genedlaethol Cymru
  2. Traethawd eisteddfodol c1950 gan John Hughes, Llain Fadyn; mewn dwylo preifat
  3. Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. 1af, 1888