William Bifan, y Gadlys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Hen gymeriad o gyffiniau Llanwnda oedd William Bifan y Gadlys. Ganwyd yn Ffermdy Gadlys, Llanwnda yn 1730. Bedyddiwyd yn William Evans, ac fel y tra...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 6 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Hen gymeriad o gyffiniau Llanwnda oedd William Bifan y Gadlys.  
Hen gymeriad o gyffiniau Llanwnda oedd '''William Bifan''' y [[Gadlys]].  


Ganwyd yn Ffermdy Gadlys, [[Llanwnda]] yn 1730. Bedyddiwyd yn William Evans, ac fel y traddodiad yn y rhan yma o’r byd – dilynodd y ffasiwn batronymig o ddefnyddio Bifan fel ail-enw (William ab Ifan, wedi ei grynhoi i ‘Bifan’).
Ganwyd yn Ffermdy Gadlys, [[Llanwnda]] yn 1730. Bedyddiwyd yn William Evans, ac yn ôl y traddodiad Cymraeg y pryd hynny, fe ddilynodd y ffasiwn batronymig o ddefnyddio Bifan fel ail enw (William ab Ifan, wedi ei grynhoi i ‘Bifan’).
 
Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan [[Dafydd Ddu Eryri]] ym [[Betws Garmon|Metws Garmon]] er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref>
   
   
Roedd ganddo gysylltiad teuluaidd â fferm [[Bodaden]], Llanwnda. Mae’n nodedig am fod wedi canu cerddi am yr ardal y magwyd ynddi, a dilyn y hen ffordd o ganu am annedd-dai a hen gymeriadau ei fro. Dywedodd [[W. Gilbert Williams]] amdano, "''Yn wyneb, yr ychydig o’i brydyddiaeth sydd yn wybyddus i ni, rhigymwr pert, goganydd medrus a thuchanwr cyrhaeddgar fyddai’r disgrifiad cywiraf ohono''".  
Roedd ganddo gysylltiad teuluaidd â fferm [[Bodaden]], Llanwnda. Mae’n nodedig am fod wedi canu cerddi am yr ardal y magwyd ynddi, a dilyn y hen ffordd o ganu am annedd-dai a hen gymeriadau ei fro. Dywedodd [[W. Gilbert Williams]] amdano, "Yn wyneb yr ychydig o’i brydyddiaeth sydd yn wybyddus i ni, rhigymwr pert, goganydd medrus a thuchanwr cyrhaeddgar fyddai’r disgrifiad cywiraf ohono."
 
Dywedir iddo fod yn caru merch a oedd ym Modaden, ac iddo fod wedi sleifio yno rhyw noson – ac er mwyn peidio a gwlychu ei sgidiau yn y gwlith, tynodd hwy i ffwrdd a chafodd ei ddal gan ddyn y tŷ yn droednoeth. Canodd y bennill isod amdan ei fraw,
 
"''William Bifan Druan''


''Sydd wedi colli’i facsan''
Dywedir iddo fod yn caru merch a oedd ym Modaden, ac iddo fod wedi sleifio yno rhyw noson – ac er mwyn peidio â gwlychu ei sgidiau yn y gwlith, tynodd hwy i ffwrdd a chafodd ei ddal gan ddyn y tŷ yn droednoeth. Canodd y bennill isod amdano'n cael braw:


''Yn chwilio amdano ers mwy nag awr''
''William Bifan Druan''
 
''Sydd wedi colli’i facsan
''Yn nhalwrn mawr Bodadan.''"
''Yn chwilio amdano ers mwy nag awr
 
''Yn nhalwrn mawr Bodadan.
Mae ambell i amheuaeth ynglŷn a’r defnydd o ''talwrn'' a ''parlwr'' ar adegau, ac ni wyddys neb yn sicr os mai ym mharlwr y tŷ y collodd ei sgidiau yntau yn y talwrn.  
Mae ambell i amheuaeth ynglŷn â’r defnydd o ''talwrn'' a ''parlwr'' ar adegau, ac ni wyddys neb yn sicr os mai ym mharlwr y tŷ y collodd ei sgidiau yntau yn y talwrn.  


Roedd yn canu cerddi am ffermdai yr ardal hefyd. Canodd yr isod am fferm Caerodyn,
Roedd yn canu cerddi am ffermdai yr ardal hefyd. Canodd yr isod am fferm Caerodyn,


"''Mae llawer math o erfyn''
''Mae llawer math o erfyn''
 
''I’w gael ar Werglodd Gudyn''
''I’w gael ar Werglodd Gudyn''
''Ond torrir heddyw, gwneir yn wir''
 
''Prydau ar dir Caerodyn.
''Ond torrir heddyw, gwneir yn wir''


''Prydau ar dir Caerodyn''."
Diolch i hen gymeriadau fel William Bifan, cawn ddarnau bychan o hanes y gwerin yng nghymunedau [[Uwchgwyrfai]] ers talwm.<ref>W. Gilbert 'Williams, ''Hen Gymeriadau Llanwnda'', ''Cymru'' 1902 (Cyf. 23).</ref>


O ddiolch i hen gymeriadau fel William Bifan, cawn ddarnau bychan o hanes y gwerin yng nghymunedau Uwchgwyrfai ers talwm.
==Cyfeiriadau==


==Ffynhonnell==


Williams, W. Gilbert ''Hen Gymeriadau Llanwnda'', '''Cymru''' 1902 (Cyf. 23).


[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:17, 13 Mehefin 2024

Hen gymeriad o gyffiniau Llanwnda oedd William Bifan y Gadlys.

Ganwyd yn Ffermdy Gadlys, Llanwnda yn 1730. Bedyddiwyd yn William Evans, ac yn ôl y traddodiad Cymraeg y pryd hynny, fe ddilynodd y ffasiwn batronymig o ddefnyddio Bifan fel ail enw (William ab Ifan, wedi ei grynhoi i ‘Bifan’).

Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan Dafydd Ddu Eryri ym Metws Garmon er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".[1]

Roedd ganddo gysylltiad teuluaidd â fferm Bodaden, Llanwnda. Mae’n nodedig am fod wedi canu cerddi am yr ardal y magwyd ynddi, a dilyn y hen ffordd o ganu am annedd-dai a hen gymeriadau ei fro. Dywedodd W. Gilbert Williams amdano, "Yn wyneb yr ychydig o’i brydyddiaeth sydd yn wybyddus i ni, rhigymwr pert, goganydd medrus a thuchanwr cyrhaeddgar fyddai’r disgrifiad cywiraf ohono."

Dywedir iddo fod yn caru merch a oedd ym Modaden, ac iddo fod wedi sleifio yno rhyw noson – ac er mwyn peidio â gwlychu ei sgidiau yn y gwlith, tynodd hwy i ffwrdd a chafodd ei ddal gan ddyn y tŷ yn droednoeth. Canodd y bennill isod amdano'n cael braw:

William Bifan Druan
Sydd wedi colli’i facsan
Yn chwilio amdano ers mwy nag awr
Yn nhalwrn mawr Bodadan.

Mae ambell i amheuaeth ynglŷn â’r defnydd o talwrn a parlwr ar adegau, ac ni wyddys neb yn sicr os mai ym mharlwr y tŷ y collodd ei sgidiau yntau yn y talwrn.

Roedd yn canu cerddi am ffermdai yr ardal hefyd. Canodd yr isod am fferm Caerodyn,

Mae llawer math o erfyn
I’w gael ar Werglodd Gudyn
Ond torrir heddyw, gwneir yn wir
Prydau ar dir Caerodyn.

Diolch i hen gymeriadau fel William Bifan, cawn ddarnau bychan o hanes y gwerin yng nghymunedau Uwchgwyrfai ers talwm.[2]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883
  2. W. Gilbert 'Williams, Hen Gymeriadau Llanwnda, Cymru 1902 (Cyf. 23).