Morris Williams (Meurig Wyn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Chwarelwr a bardd gwlad oedd '''Morris Williams''' ( | Chwarelwr a bardd gwlad oedd '''Morris Williams''' (1835-1876), a ddefnyddiodd y llysenw Meurig (neu Meirig) Wyn. Cafodd ei eni yng ngatws y Parciau, rhwng Caernarfon a'r Felinheli. Roedd ei dad, Richard Williams, yn hanu o Ynys Môn. Collodd ei rieni'n blentyn a symudodd i fyw at fodryb iddo yn ardal Bryn'rodyn, rhwng [[Dolydd]] a'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. Dechreuodd farddoni'n ifanc gan gystadlu mewn mân eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol lleol, gan gael ei wobrwyo ar fwy nag un achlysur gan [[Eben Fardd]]. Am gyfnod bu'n byw yn [[Y Fron]] cyn symud i Dal-y-sarn.<ref>''Y Goleuad'', 25.3.1876, t.14, lle ceir byr-gofiant llawn amdano, yn pwysleisio ei ddawn lenyddol ond hefyd ei ansicrwydd personol a'i rhwystrodd rhag dod yn fwy amlwg.</ref> Erbyn 1871 roedd yn byw yng Nghoetmor, [[Tal-y-sarn]] ac yn gweithio fel chwarelwr. Roedd ei wraig, Jane, a oedd flwyddyn yn iau nag ef, yn hanu o blwyf [[Clynnog Fawr]], ac reodd ganddynt un plentyn, Jane, a aned ym 1859.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871</ref> | ||
Roedd yn chwarelwr wrth ei alwedigaeth ac yn ystod ei oes fer dywedir iddo fanteisio ar bob cyfle i'w ddiwyllio ei hun ac ehangu ei wybodaeth, er na chafodd unrhyw addysg ffurfiol yn ôl ''Y Goleuad''<ref>''loc. cit.</ref>. Roedd yn grefyddwr selog ac yn athro Ysgol Sul. Ymddangosodd rhai darnau o'i waith mewn papurau newydd a chylchgronau yn ystod ei oes. Flynyddoedd lawer wedi ei farw cyhoeddwyd erthygl goffa amdano a detholiad o'i waith yn rhifyn Gorffennaf 1902 o ''Cymru''.<ref>Cybi, ''Beirdd Gwerin Eifionydd'', (Pwllheli, 1914), t.17.</ref> | |||
Dywedodd ''Y Dydd'' amdano: "Yr oedd Meurig Wyn yn ysgrifenwr galluog mewn rhyddiaeth a barddoniaeth. Ymddangosodd llawer o'i gyfansoddiadau llenyddol; a bu yn ohebydd i'r ''Herald Cymraeg'' am lawer o flynyddau." Ychwanegodd yr un adroddiad ei fod yn ŵr tra diymhongar ac yn gapelwr ffyddlon yn ei gapel, [[Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn]], ac yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul yno. Bu farw 17 Ionawr 1876, gan gael ei gladdu ym mynwent [[Llandwrog Uchaf]].<ref>''Y Dydd'', 28.1.1876, t.11</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Llinell 5: | Llinell 9: | ||
[[Categori:Beirdd]] | [[Categori:Beirdd]] | ||
[[Categori:Chwarelwyr]] | [[Categori:Chwarelwyr]] | ||
[[Categori:Pobl]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:40, 26 Mai 2024
Chwarelwr a bardd gwlad oedd Morris Williams (1835-1876), a ddefnyddiodd y llysenw Meurig (neu Meirig) Wyn. Cafodd ei eni yng ngatws y Parciau, rhwng Caernarfon a'r Felinheli. Roedd ei dad, Richard Williams, yn hanu o Ynys Môn. Collodd ei rieni'n blentyn a symudodd i fyw at fodryb iddo yn ardal Bryn'rodyn, rhwng Dolydd a'r Groeslon. Dechreuodd farddoni'n ifanc gan gystadlu mewn mân eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol lleol, gan gael ei wobrwyo ar fwy nag un achlysur gan Eben Fardd. Am gyfnod bu'n byw yn Y Fron cyn symud i Dal-y-sarn.[1] Erbyn 1871 roedd yn byw yng Nghoetmor, Tal-y-sarn ac yn gweithio fel chwarelwr. Roedd ei wraig, Jane, a oedd flwyddyn yn iau nag ef, yn hanu o blwyf Clynnog Fawr, ac reodd ganddynt un plentyn, Jane, a aned ym 1859.[2]
Roedd yn chwarelwr wrth ei alwedigaeth ac yn ystod ei oes fer dywedir iddo fanteisio ar bob cyfle i'w ddiwyllio ei hun ac ehangu ei wybodaeth, er na chafodd unrhyw addysg ffurfiol yn ôl Y Goleuad[3]. Roedd yn grefyddwr selog ac yn athro Ysgol Sul. Ymddangosodd rhai darnau o'i waith mewn papurau newydd a chylchgronau yn ystod ei oes. Flynyddoedd lawer wedi ei farw cyhoeddwyd erthygl goffa amdano a detholiad o'i waith yn rhifyn Gorffennaf 1902 o Cymru.[4]
Dywedodd Y Dydd amdano: "Yr oedd Meurig Wyn yn ysgrifenwr galluog mewn rhyddiaeth a barddoniaeth. Ymddangosodd llawer o'i gyfansoddiadau llenyddol; a bu yn ohebydd i'r Herald Cymraeg am lawer o flynyddau." Ychwanegodd yr un adroddiad ei fod yn ŵr tra diymhongar ac yn gapelwr ffyddlon yn ei gapel, Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn, ac yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul yno. Bu farw 17 Ionawr 1876, gan gael ei gladdu ym mynwent Llandwrog Uchaf.[5]