Samaria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ceir ychydig gyfeiriadau at yr annedd hwn, a safai ar gyrion Mynydd y Cilgwyn ym mhlwyf Llandwrog. Fe'i nodir yn llyfr treth plwyf Llandwrog ym 18...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ceir ychydig gyfeiriadau at yr annedd hwn, a safai ar gyrion [[Mynydd y Cilgwyn]] ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Fe'i nodir yn llyfr treth plwyf Llandwrog ym 1839 a 1845, ac mae yng Nghyfrifiad 1851 ac ar fap Ordnans 1920. Mae'n swnio fel enw ar gapel, ond prin y byddai crefyddwyr cynnar a golau yn eu Beibl wedi galw capel yn ''Samaria''. Yng ngwlad Canaan, safai teyrnas Samaria yn y canol rhwng Jwdea yn y de a Galilea yn y gogledd, a datblygodd gelyniaeth chwerw rhwng y Samariaid a'r Iddewon. Daw hyn i'r golwg yn Nameg y Samariad Trugarog ac yn yr hanes am Iesu'n cyfarfod â'r wraig o Samaria wrth Ffynnon Jacob yn y Testament Newydd. Efallai i'r ''Samaria'' yn y Cilgwyn gael yr enw hwnnw'n goeglyd fel rhywle anial ac anghysbell na fyddai neb yn awyddus i fynd yno, ac nid nepell oddi wrtho ar un adeg safai tyddyn o'r enw [[Greenland]], sydd eto'n awgrymu oerni a diffyg cysur. Yn ôl W.R. Ambrose yn ei gyfrol ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'', a gyhoeddwyd gyntaf ym 1872, trigai hen wraig dduwiol o'r enw Jane Roberts, a adwaenid fel 'Siân Fwyn', yn ''Samaria'' ddechrau'r 19g ac roedd hi'n dipyn o emynyddes er gwaethaf enw ei chartref.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.230-1.</ref> | Ceir ychydig gyfeiriadau at yr annedd hwn, sef '''Samaria''', a safai ar gyrion [[Mynydd y Cilgwyn]] ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Fe'i nodir yn llyfr treth plwyf Llandwrog ym 1839 a 1845, ac mae yng Nghyfrifiad 1851 ac ar fap Ordnans 1920. Mae'n swnio fel enw ar gapel, ond prin y byddai crefyddwyr cynnar a golau yn eu Beibl wedi galw capel yn ''Samaria''. Yng ngwlad Canaan, safai teyrnas Samaria yn y canol rhwng Jwdea yn y de a Galilea yn y gogledd, a datblygodd gelyniaeth chwerw rhwng y Samariaid a'r Iddewon. Daw hyn i'r golwg yn Nameg y Samariad Trugarog ac yn yr hanes am Iesu'n cyfarfod â'r wraig o Samaria wrth Ffynnon Jacob yn y Testament Newydd. Efallai i'r ''Samaria'' yn y [[Cilgwyn]] gael yr enw hwnnw'n goeglyd fel rhywle anial ac anghysbell na fyddai neb yn awyddus i fynd yno, ac nid nepell oddi wrtho ar un adeg safai tyddyn o'r enw [[Greenland]], sydd eto'n awgrymu oerni a diffyg cysur. Yn ôl [[W.R. Ambrose]] yn ei gyfrol ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'', a gyhoeddwyd gyntaf ym 1872, trigai hen wraig dduwiol o'r enw Jane Roberts, a adwaenid fel 'Siân Fwyn', yn ''Samaria'' ddechrau'r 19g ac roedd hi'n dipyn o emynyddes er gwaethaf enw ei chartref.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.230-1.</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Enwau lleoedd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:08, 30 Mawrth 2024
Ceir ychydig gyfeiriadau at yr annedd hwn, sef Samaria, a safai ar gyrion Mynydd y Cilgwyn ym mhlwyf Llandwrog. Fe'i nodir yn llyfr treth plwyf Llandwrog ym 1839 a 1845, ac mae yng Nghyfrifiad 1851 ac ar fap Ordnans 1920. Mae'n swnio fel enw ar gapel, ond prin y byddai crefyddwyr cynnar a golau yn eu Beibl wedi galw capel yn Samaria. Yng ngwlad Canaan, safai teyrnas Samaria yn y canol rhwng Jwdea yn y de a Galilea yn y gogledd, a datblygodd gelyniaeth chwerw rhwng y Samariaid a'r Iddewon. Daw hyn i'r golwg yn Nameg y Samariad Trugarog ac yn yr hanes am Iesu'n cyfarfod â'r wraig o Samaria wrth Ffynnon Jacob yn y Testament Newydd. Efallai i'r Samaria yn y Cilgwyn gael yr enw hwnnw'n goeglyd fel rhywle anial ac anghysbell na fyddai neb yn awyddus i fynd yno, ac nid nepell oddi wrtho ar un adeg safai tyddyn o'r enw Greenland, sydd eto'n awgrymu oerni a diffyg cysur. Yn ôl W.R. Ambrose yn ei gyfrol Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1872, trigai hen wraig dduwiol o'r enw Jane Roberts, a adwaenid fel 'Siân Fwyn', yn Samaria ddechrau'r 19g ac roedd hi'n dipyn o emynyddes er gwaethaf enw ei chartref.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.230-1.