Cae Doctor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd annedd o'r enw '''Cae Doctor''' ar gyrion gogleddol pentref [[Llandwrog]] ac mae '''Cae Doctor Bach''' ymhellach i'r gogledd, yn agos at [[Afon Carrog]], y ffin rhwng plwyfi Llandwrog a [[Llanwnda]]. Cyfeirir at yr enw mewn dogfen ym 1725 (Casgliad Newborough, Glynllifon), ond mae'n bosib iawn fod yr enw'n mynd yn ôl yn sylweddol bellach na hynny. Ni wyddys a yw'r enw'n cyfeirio at ddoctor yn yr ystyr o feddyg yn rhoi meddyginiaethau, neu at rywun â theitl ''doctor'' mewn diwinyddiaeth neu'r gyfraith. O ystyried agosrwydd y lle at blas [[Glynllifon]] a'i deulu dylanwadol, efallai fod y ''doctor'' yn yr enw hwn yn cyfeirio at un o ŵyr amlwg Glynllifon. Roedd gan [[Morus Glynn]], Archddiacon Meirionnydd, a fu farw ym 1525, radd LL.D., ac felly hefyd [[William Glynn]] LL.D., Archddiacon Môn a rheithor Clynnog, a fu farw ym 1557. Roedd hwn yn fab i [[Robert ap Maredudd]] a'r Elen Bwclai o Fiwmares, a gofféir yn enw [[Cae Elen Bulkeley]]. Yn asesiad y Dreth Dir am 1779 cyfeirir at y lle'n gartrefol fel ''car dogdor Bach''. Roedd ''Cae Doctor'' yn lle agos iawn at galon y dramodydd [[John Gwilym Jones]]. Dyma gartref ei nain ac fe'i hanfarwolwyd ganddo yn ei ysgrifau.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.66-7.</ref>
Roedd annedd o'r enw '''Cae Doctor''' ar gyrion gogleddol pentref [[Llandwrog]] ac mae '''Cae Doctor Bach''' ymhellach i'r gogledd, yn agos at [[Afon Carrog]], y ffin rhwng plwyfi Llandwrog a [[Llanwnda]]. Cyfeirir at yr enw mewn dogfen ym 1725 (Casgliad Newborough, Glynllifon), ond mae'n bosib iawn fod yr enw'n mynd yn ôl yn sylweddol bellach na hynny. Ni wyddys a yw'r enw'n cyfeirio at ddoctor yn yr ystyr o feddyg yn rhoi meddyginiaethau, neu at rywun â theitl ''doctor'' mewn diwinyddiaeth neu'r gyfraith. O ystyried agosrwydd y lle at blas [[Glynllifon]] a'i deulu dylanwadol, efallai fod y ''doctor'' yn yr enw hwn yn cyfeirio at un o ŵyr amlwg Glynllifon. Roedd gan [[Morus Glynn]], Archddiacon Meirionnydd, a fu farw ym 1525, radd LL.D., ac felly hefyd [[William Glynn]] LL.D., Archddiacon Môn a rheithor Clynnog, a fu farw ym 1557. Roedd hwn yn fab i [[Robert ap Maredudd]] a'r Elen Bwclai o Fiwmares, a gofféir yn enw [[Cae Buckley / Cae Ellen Bulkeley]]. Yn asesiad y Dreth Dir am 1779 cyfeirir at y lle'n gartrefol fel ''car dogdor Bach''. Roedd ''Cae Doctor'' yn lle agos iawn at galon y dramodydd [[John Gwilym Jones]]. Dyma gartref ei nain ac fe'i hanfarwolwyd ganddo yn ei ysgrifau.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.66-7.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.66-7.
 


[[Categori:Enwau lleoedd]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:28, 18 Mawrth 2024

Roedd annedd o'r enw Cae Doctor ar gyrion gogleddol pentref Llandwrog ac mae Cae Doctor Bach ymhellach i'r gogledd, yn agos at Afon Carrog, y ffin rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda. Cyfeirir at yr enw mewn dogfen ym 1725 (Casgliad Newborough, Glynllifon), ond mae'n bosib iawn fod yr enw'n mynd yn ôl yn sylweddol bellach na hynny. Ni wyddys a yw'r enw'n cyfeirio at ddoctor yn yr ystyr o feddyg yn rhoi meddyginiaethau, neu at rywun â theitl doctor mewn diwinyddiaeth neu'r gyfraith. O ystyried agosrwydd y lle at blas Glynllifon a'i deulu dylanwadol, efallai fod y doctor yn yr enw hwn yn cyfeirio at un o ŵyr amlwg Glynllifon. Roedd gan Morus Glynn, Archddiacon Meirionnydd, a fu farw ym 1525, radd LL.D., ac felly hefyd William Glynn LL.D., Archddiacon Môn a rheithor Clynnog, a fu farw ym 1557. Roedd hwn yn fab i Robert ap Maredudd a'r Elen Bwclai o Fiwmares, a gofféir yn enw Cae Buckley / Cae Ellen Bulkeley. Yn asesiad y Dreth Dir am 1779 cyfeirir at y lle'n gartrefol fel car dogdor Bach. Roedd Cae Doctor yn lle agos iawn at galon y dramodydd John Gwilym Jones. Dyma gartref ei nain ac fe'i hanfarwolwyd ganddo yn ei ysgrifau.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.66-7.