Chwarel yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'Chwarel yr Eifl' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd Mynyddoedd yr Eifl, y ffin rhwng C wmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref Arfon a Chantref Llyn.
'''Chwarel yr Eifl''' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd [[Garnfor]], yr agosaf i'r môr o driawd mynyddoedd [[Yr Eifl|yr Eifl]], y ffin rhwng Cwmwd [[Uwchgwyrfai]] a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref [[Arfon]] a Chantref Llŷn. Mor gynnar ag 1851, pan oedd [[John Hutton]] yn rheolwr a phrin degawd ar ôl iddi gael ei chychwyn, roedd y chwarel yn weithle i 120 o chwarelwyr.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanarmon, 1851</ref>


Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd a defnyddiwyd enwau eraill.
Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn, ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd, a defnyddiwyd, enwau eraill.


'Y Gwaith' oedd ac ydi enw pobl Trefor ar y lle. Mewn cylch ehangach defnyddid 'Gwaith Llanhuar' (Llanaelhaearn), ac fel y tyfodd y chwarel aeth yn 'Gwaith Mawr Llanhuar', ac yn dim ond y 'Gwaith Mawr'. Yn ddiweddarach, ar ôl adeiladu pentref Trefor, ac yna'n ystod yr ugeinfed ganrif, cyfeirid at y Gwaith fel 'Gwaith Trefor' yn unig.
'Y Gwaith' fu, ac ydi, enw pobl [[Trefor]] ar y lle. Mewn cylch ehangach defnyddid 'Gwaith Llanhuar' ([[Llanaelhaearn]]), ac fel y tyfodd y chwarel aeth yn 'Gwaith Mawr Llanhuar', ac yna'n ddim ond y 'Gwaith Mawr' yn unig. Yn ddiweddarach, ar ôl adeiladu pentref Trefor, ac yna'n ystod yr ugeinfed ganrif, cyfeirid at y Gwaith fel 'Gwaith Trefor' yn unig.


Mae'n bwysig  nodi mai fel 'Gwaith' y cyfeirir yn Gymraeg at chwarel ithfaen, ac nid fel chwarel e.e. Gwaith Tan-y-graig ar lethr y Gurn Ddu yn Nhrefor; Gwaith Carreg y Llam yn Nant Gwrtheyrn; Gwaith Trwyn yn Llanbedrog; Gwaith Carreg yr Imbill ym Mhwllheli; Gwaith Penmaen-mawr; Gwaith y Gwylwyr yn Nefyn a Gwaith Tŷ Mawr ym Mhistyll.
Mae'n bwysig  nodi mai fel 'Gwaith' y cyfeirir yn Gymraeg at chwarel ithfaen, ac nid fel 'chwarel' e.e. [[Gwaith ithfaen Tan-y-graig|Gwaith Tan-y-graig]] ar lethr y [[Gurn Ddu]] yn Nhrefor; Gwaith Carreg y Llam yn Nant Gwrtheyrn; Gwaith Trwyn yn Llanbedrog; Gwaith Carreg yr Imbill ym Mhwllheli; Gwaith Penmaen-mawr; Gwaith y Gwylwyr yn Nefyn a Gwaith Tŷ Mawr ym Mhistyll.


Yng nghofnodion y Cwmni Ithfaen Cymreig yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyfeirir bron yn ddieithriad at 'The Works' yn hytrach na 'the quarry', ond at y perchnogion, siŵr iawn, fel y 'quarry owners'!
Yng nghofnodion y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyfeirir bron yn ddieithriad at 'The Works' yn hytrach na 'the quarry', ond at y perchnogion, siŵr iawn, fel y 'quarry owners'!


Dewfnyddir yr un egwyddor yn Nhrefor ynglŷn â phopeth sy'n perthyn i fywyd y Gwaith. Dyma rai ymadroddion o'u cymharu â byd y chwarel lechi, geiriau'r lechen ar y chwith a geiriau'r ithfaen ar y dde :
Defnyddir yr un egwyddor yn Nhrefor ynglŷn â phopeth sy'n perthyn i fywyd y Gwaith. Dyma rai ymadroddion o'u cymharu â byd y chwarel lechi - geiriau'r lechen ar y chwith a geiriau'r ithfaen ar y dde :


chwarel                   gwaith
  chwarel                       gwaith
chwarelwyr                 dynion gwaith
  chwarelwyr                     dynion gwaith
lôn y chwarel lôn gwaith
  lôn y chwarel                 lôn gwaith
swper chwarel     bwyd gwaith
  swper chwarel                 bwyd gwaith
caban buta'r chwarel     cwt buta'r gwaith
  caban buta'r chwarel           cwt buta'r gwaith
corn chwarel   corn gwaith
  corn chwarel                   corn gwaith
offis (sswyddfa) 'r chwarel offis y gwaith
  offis (swyddfa)'r chwarel     offis y gwaith
ponciau'r chwarel ponciau'r gwaith
  ponciau'r chwarel             ponciau'r gwaith
i ben y chwarel   i ben gwaith
  i ben y chwarel               i ben gwaith
mynydd y chwarel   mynydd gwaith
  mynydd y chwarel               mynydd gwaith
 
Gan y gellir cyfieithu'r gair 'gwaith' i'r Saesneg naill ai fel 'quarry' neu 'work', cafwyd ambell i gamddealltwriaeth digon digri:
 
Gwan iawn oedd gwybodaeth cymeriad o'r enw Tecwyn o Lithfaen o'r iaith fain. Un diwrnod cerddodd dros y mynydd i'r Gwaith Mawr i chwilio am joban. Fe'i gwelwyd ar un o'r ponciau gan neb llai na'r Rheolwr ei hun, [[W.A. Darbishire|Mr. Darbishire]], Sais uniaith.
 
"And what can I do for you this morning, Tecwyn."
 
"Please you sir," atebodd Tecwyn yn ffyddiog, wedi ymarfer ei anerchiad yr holl ffordd dros y mynydd, "I am looking for a QUARRY, as I have been on the dole for six weeks".
 
"What do you think this place is? A zoo?"
 
Dylid nodi fod un o lenorion amlwg y Gymraeg, [[John Emyr]], brodor o Drefor, wedi cyhoeddi cyfrol yn dwyn yr enw ''Mynydd Gwaith a Storïau Eraill''
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Chwareli ithfaen]]
[[Categori:Chwarelydda]]
.

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:34, 27 Chwefror 2024

Chwarel yr Eifl fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd mynyddoedd yr Eifl, y ffin rhwng Cwmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref Arfon a Chantref Llŷn. Mor gynnar ag 1851, pan oedd John Hutton yn rheolwr a phrin degawd ar ôl iddi gael ei chychwyn, roedd y chwarel yn weithle i 120 o chwarelwyr.[1]

Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn, ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd, a defnyddiwyd, enwau eraill.

'Y Gwaith' fu, ac ydi, enw pobl Trefor ar y lle. Mewn cylch ehangach defnyddid 'Gwaith Llanhuar' (Llanaelhaearn), ac fel y tyfodd y chwarel aeth yn 'Gwaith Mawr Llanhuar', ac yna'n ddim ond y 'Gwaith Mawr' yn unig. Yn ddiweddarach, ar ôl adeiladu pentref Trefor, ac yna'n ystod yr ugeinfed ganrif, cyfeirid at y Gwaith fel 'Gwaith Trefor' yn unig.

Mae'n bwysig nodi mai fel 'Gwaith' y cyfeirir yn Gymraeg at chwarel ithfaen, ac nid fel 'chwarel' e.e. Gwaith Tan-y-graig ar lethr y Gurn Ddu yn Nhrefor; Gwaith Carreg y Llam yn Nant Gwrtheyrn; Gwaith Trwyn yn Llanbedrog; Gwaith Carreg yr Imbill ym Mhwllheli; Gwaith Penmaen-mawr; Gwaith y Gwylwyr yn Nefyn a Gwaith Tŷ Mawr ym Mhistyll.

Yng nghofnodion y Cwmni Ithfaen Cymreig yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyfeirir bron yn ddieithriad at 'The Works' yn hytrach na 'the quarry', ond at y perchnogion, siŵr iawn, fel y 'quarry owners'!

Defnyddir yr un egwyddor yn Nhrefor ynglŷn â phopeth sy'n perthyn i fywyd y Gwaith. Dyma rai ymadroddion o'u cymharu â byd y chwarel lechi - geiriau'r lechen ar y chwith a geiriau'r ithfaen ar y dde :

  chwarel                        gwaith
  chwarelwyr                     dynion gwaith
  lôn y chwarel                  lôn gwaith
  swper chwarel                  bwyd gwaith
  caban buta'r chwarel           cwt buta'r gwaith
  corn chwarel                   corn gwaith
  offis (swyddfa)'r chwarel      offis y gwaith
  ponciau'r chwarel              ponciau'r gwaith
  i ben y chwarel                i ben gwaith
  mynydd y chwarel               mynydd gwaith

Gan y gellir cyfieithu'r gair 'gwaith' i'r Saesneg naill ai fel 'quarry' neu 'work', cafwyd ambell i gamddealltwriaeth digon digri:

Gwan iawn oedd gwybodaeth cymeriad o'r enw Tecwyn o Lithfaen o'r iaith fain. Un diwrnod cerddodd dros y mynydd i'r Gwaith Mawr i chwilio am joban. Fe'i gwelwyd ar un o'r ponciau gan neb llai na'r Rheolwr ei hun, Mr. Darbishire, Sais uniaith.

"And what can I do for you this morning, Tecwyn."

"Please you sir," atebodd Tecwyn yn ffyddiog, wedi ymarfer ei anerchiad yr holl ffordd dros y mynydd, "I am looking for a QUARRY, as I have been on the dole for six weeks".

"What do you think this place is? A zoo?"

Dylid nodi fod un o lenorion amlwg y Gymraeg, John Emyr, brodor o Drefor, wedi cyhoeddi cyfrol yn dwyn yr enw Mynydd Gwaith a Storïau Eraill

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

.

  1. Cyfrifiad plwyf Llanarmon, 1851