Lisi Jones, Llandwrog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 19: Llinell 19:
    
    
''Dwy Aelwyd'',  (Cyhoeddiadau Mei, 1984).  Atgofion plentyndod a glasoed a chysylltiadau’r awdur â dwy aelwyd a dwy ardal – Y Fron ([[Dyffryn Nantlle]]) a Rhos-lan (teulu R. Tudur Jones). Bu farw cyn cyhoeddi rhagor o atgofion.
''Dwy Aelwyd'',  (Cyhoeddiadau Mei, 1984).  Atgofion plentyndod a glasoed a chysylltiadau’r awdur â dwy aelwyd a dwy ardal – Y Fron ([[Dyffryn Nantlle]]) a Rhos-lan (teulu R. Tudur Jones). Bu farw cyn cyhoeddi rhagor o atgofion.
[[Categori:Pobl]
[[Categori:Beirdd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:03, 4 Chwefror 2024

Bardd ac awdures oedd Lisi Jones, Llandwrog (190?-1993).

Merch i chwarelwr yn Chwarel Cilgwyn. Roedd eu cartref yn Y Fron ac adwaenid hi fel Lisi Jones, Llandwrog, erbyn iddi gyhoeddi ei gwaith. [Mae Y Fron yn enw arall ar Llandwrog Uchaf.]

Teulu

Roedd ganddi gysylltiadau teuluol agos â’r Prifathro R. Tudur Jones, Prifathro Coleg Bala Bangor, a Bob Owen, Croesor.

Bardd

Dysgodd gynganeddu yn ifanc trwy ddilyn Yr Ysgol Farddol yn ei chartref. Bu’n aelod o un o dimau cynnar Ymryson y Beirdd yn y 1950au. Enillodd ar y Cywydd Ymgom rhwng y Trethdalwr a’r Casglwr Trethi yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr yn 1948. Yr englyn oedd ei hoff gyfrwng.

Gwaith

Bu’n gweini yn Lerpwl am gyfnod byr. Dan ddylanwad Mudiad Addysg y Gweithwyr a chyrsiau haf mewn amrywiol golegau cafodd swydd yn Swyddfa Addysg Sir Gaernarfon a’i phenodi yn Ysgrifenyddes Trefnydd Ieuenctid Sir Gaernarfon – Goronwy Roberts hyd at 1945, pan etholwyd ef yn A.S., ac wedyn I.B. Griffith. Byddai hefyd yn cyfieithu i’r Cyngor

Cyhoeddiadau

Swper Chwarel, Cyfrol o farddoniaeth, (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1974).

Grug Hydref, Ail gyfrol o farddoniaeth, (Cyhoeddiadau Mei, tua 1978)

Dwy Aelwyd, (Cyhoeddiadau Mei, 1984). Atgofion plentyndod a glasoed a chysylltiadau’r awdur â dwy aelwyd a dwy ardal – Y Fron (Dyffryn Nantlle) a Rhos-lan (teulu R. Tudur Jones). Bu farw cyn cyhoeddi rhagor o atgofion.

[[Categori:Pobl]