Thomas Radcliffe (Tryfanydd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd Thomas D. Radcliffe (Tryfanydd) (1853-1939) yn saer maen ac yn fardd cyhoeddedig. Cil Llidiart, [[Rhostryfan]] oedd ei gartref wedi i’r teulu symud o Dalwrn, Llanddyfnan, Sir Fôn. Ellen Radcliffe (g.1821) a hanai o Lanfihangel Bachellaeth, Sir Gaernarfon oedd ei fam ac mae’n debyg mai Thomas Radcliffe, mab Joseph ac Elinor Radcliffe (g.1830) o Landdyfnan oedd ei dad. Er gwaethaf ei gyfenw, ymddengys mai Cymro uniaith ydoedd.
Roedd Thomas D. Radcliffe (Tryfanydd) (1853-1939) yn saer maen ac yn fardd cyhoeddedig. Cil Llidiart, [[Rhostryfan]] oedd ei gartref wedi i’r teulu symud o Dalwrn, Llanddyfnan, Sir Fôn. Ellen Radcliffe (g.1821) a hanai o Lanfihangel Bachellaeth, Sir Gaernarfon, oedd ei fam ac mae’n debyg mai Thomas Radcliffe, mab Joseph ac Elinor Radcliffe (g.1830) o Landdyfnan, oedd ei dad. Er gwaethaf ei gyfenw, ymddengys mai Cymro uniaith ydoedd.


Meddir iddo symud llawer yn ystod ei ieuenctid, er iddo fynychu Ysgol Frytanaidd Dwyran pan oedd rhwng 7 a 10 oed. Cafodd fawr o addysg ffurfiol wedyn, ond treuliodd dymor yn [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]] pan oedd tua 25 oed, a hynny dan yr athro Y Parch John Evans.
Ymddengys iddo symud llawer yn ystod ei ieuenctid, er iddo fynychu Ysgol Frytanaidd Dwyran pan oedd rhwng 7 a 10 oed. Ni chafodd fawr o addysg ffurfiol wedyn, ond treuliodd dymor yn [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]] pan oedd tua 25 oed, a hynny dan y prifathro, Y Parch John Evans.


Saer maen ydoedd o ran ei alwedigaeth er iddo golli ei iechyd yn gynnar (i’r gwynegon, mae’n debyg). Erbyn 1901 roedd wedi newid ei waith i fod yn glocsiwr hunangyflogedig yn gweithio gartref.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1891-1921; Mynegai i’r Cofrestrau Marwolaethau, 1939</ref>
Saer maen ydoedd o ran ei alwedigaeth er iddo golli ei iechyd yn gynnar (i’r gwynegon, mae’n debyg). Erbyn 1901 roedd wedi newid ei waith i fod yn glocsiwr hunangyflogedig yn gweithio gartref.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1891-1921; Mynegai i’r Cofrestrau Marwolaethau, 1939</ref>


Erbyn 1880 roedd wedi cydio yn yr awen, er (ar ei gyfaddefiad ei hun) roedd barddoniaeth wedi ei swyno ers iddo fod yn blentyn bach. Mae archwiliad o fynegai papurau newydd ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol yn dangos dwsinau o enghreifftiau ohono’n anfon englynion a cherddi mwy rhigymllyd i’r colofnau barddol gwahanol ac roedd yn barod iawn i gyfansoddi englynion coffa. Y wobr gyntaf a enillodd oedd am bryddest fer ar y testun “Y Pulpud” yn Eisteddfod Nefyn. Enillodd dros hanner cant o gystadlaethau wedi hynny gan gynnwys cadair [[Eisteddfod Gadeiriol Tal-y-sarn]].<ref>J.R. Tryfanwy, ''Tryfanydd'', (''Heddyw'', Cyf.1, rhif 9), tt.210-12</ref> Mwy dryslyd yw'r ffaith fod dyn arall o Borthmadog wedi mabwysiadu'r enw Tryfanydd hefyd, sef R.R. Hughes, llenor ac arlunydd (fl.1875-1889).<ref>''Llais y Wlad'', 27.8.1875, t.3; ''Baner ac Amserau Cymru'', 13.3.1889, t.11</ref>
Erbyn 1880 roedd wedi cydio yn yr awen, er fod barddoniaeth (yn ôl ei gyfaddefiad ei hun) wedi ei swyno ers iddo fod yn blentyn bach. Mae archwiliad o fynegai papurau newydd ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol yn dangos dwsinau o enghreifftiau ohono’n anfon englynion a cherddi mwy rhigymaidd eu natur i’r gwahanol golofnau barddol ac roedd yn barod iawn i gyfansoddi englynion coffa. Y wobr gyntaf a enillodd oedd am bryddest fer ar y testun “Y Pulpud” yn Eisteddfod Nefyn. Enillodd dros hanner cant o gystadlaethau wedi hynny, gan gynnwys cadair [[Eisteddfod Gadeiriol Tal-y-sarn]].<ref>J.R. Tryfanwy, ''Tryfanydd'', (''Heddyw'', Cyf.1, rhif 9), tt.210-12</ref> Mwy dryslyd yw'r ffaith fod dyn arall o Borthmadog wedi mabwysiadu'r enw Tryfanydd hefyd, sef R.R. Hughes, llenor ac arlunydd (fl.1875-1889).<ref>''Llais y Wlad'', 27.8.1875, t.3; ''Baner ac Amserau Cymru'', 13.3.1889, t.11</ref>


Ym 1914 cyhoeddodd cerdd yn annog i ddynion ifanc ymrestru yn y Fyddin.  
Ym 1914 cyhoeddodd gerdd yn annog dynion ifanc i ymrestru yn y Fyddin.  


Dyma a ddywedodd William W. Ross, Cymro Americanaidd a hanai o Rostryfan amdano:   
Dyma a ddywedodd William W. Ross, Cymro Americanaidd a hanai o Rostryfan, amdano:   
  Tom D. Radcliffe (Tryfanydd), awdwr "Myfyrion yr Awen." Gallaf ddweyd fel y dywedant yn Neheudir Cymru. "Bachan piwr yw Tom." Llawer awr ddifyr dreuliais yn nghwmni y bardd Tryfanydd. 'Rwyf yn cofio i mi a John Thomas, y crydd, gyfarfod a Tryfanydd ar y ffordd, a gofynnodd John Thomas iddo, a oedd yn gwella, a dyma yr ateb gafodd:
  Tom D. Radcliffe (Tryfanydd), awdwr "Myfyrion yr Awen." Gallaf ddweyd fel y dywedant yn Neheudir Cymru. "Bachan piwr yw Tom." Llawer awr ddifyr dreuliais yn nghwmni y bardd Tryfanydd. 'Rwyf yn cofio i mi a John Thomas, y crydd, gyfarfod â Tryfanydd ar y ffordd, a gofynnodd John Thomas iddo, a oedd yn gwella, a dyma yr ateb gafodd:
   
   
  Yn wir yr wyf yn aros - beunydd  
  Yn wir yr wyf yn aros - beunydd  
Llinell 17: Llinell 17:
   Yn y joint yma, John Thomas.  
   Yn y joint yma, John Thomas.  
   
   
  Saer maen oedd yn ôl ei alwedigaeth, a chollodd ei iechyd tua 30 mlynedd yn ôl, ond bu yn bur Iwyddianus fel bardd wedi hynny.<ref>''Y Drych'', 15.7.1915, t.1</ref>
  Saer maen oedd yn ôl ei alwedigaeth, a chollodd ei iechyd tua 30 mlynedd yn ôl, ond bu yn bur lwyddianus fel bardd wedi hynny.<ref>''Y Drych'', 15.7.1915, t.1</ref>


Mae ei ddefnydd o’r ffugenw Tryfanydd yn dyddio o 1880 o leiaf, ac ni ddylid cymysgu rhyngddo fo a dyn arall a arddelai ffugenw tebyg, sef [[J.R. Tryfanwy]], y bardd dall o Borthmadog a aned yn Rhostryfan ym 1867.<ref>Anhysbys, ''Tryfanwy'', (''Heddiw'', Cyf.1, rhif 3), tt.55-6</ref> Dichon fodd bynnag mai teyrnged i Dryfanydd oedd i Tryfanwy ddewis ei ffugenw yntau, gan fod Tryfanydd wedi bod yn athro barddol ar Tryfanwy ar ddechrau taith farddol hwnnw. Diddorol yw deall mai yn Eisteddfod Madog, 1887, y cafodd y ddau eu hurddo yn yr Orsedd.<ref>J.R. Tryfanwy, ''Tryfanydd'', (''Heddyw'', Cyf.1, rhif 9), tt.210-12</ref>  
Mae ei ddefnydd o’r ffugenw Tryfanydd yn dyddio o 1880 o leiaf, ac ni ddylid cymysgu rhyngddo ef a dyn arall a arddelai ffugenw tebyg, sef [[J.R. Tryfanwy]], y bardd dall o Borthmadog a aned yn Rhostryfan ym 1867.<ref>Anhysbys, ''Tryfanwy'', (''Heddiw'', Cyf.1, rhif 3), tt.55-6</ref> Dichon, fodd bynnag, mai teyrnged i Dryfanydd oedd i Tryfanwy ddewis ei ffugenw yntau, gan fod Tryfanydd wedi bod yn athro barddol ar Tryfanwy ar ddechrau taith farddol hwnnw. Diddorol yw deall mai yn Eisteddfod Madog, 1887, y cafodd y ddau eu hurddo yn yr Orsedd.<ref>J.R. Tryfanwy, ''Tryfanydd'', (''Heddyw'', Cyf.1, rhif 9), tt.210-12</ref>  


Mae W.W. Ross yn sôn hefyd Richard Radcliffe (1855-1932), brawd Tom:
Mae W.W. Ross yn sôn hefyd am Richard Radcliffe (1855-1932), brawd Tom:
  Dylynai yntau yr un alwedigaeth a'i frawd Tom, sef saer maen. Cerddor oedd Richard, ac yn ddyn da gyda phob achos, yn enwedig gyda dirwest. Yr oedd yn ddyn selog a gweithgar dros ddirwest.<ref>''Y Drych'', loc. cit.</ref>
  Dylynai yntau yr un alwedigaeth a'i frawd Tom, sef saer maen. Cerddor oedd Richard, ac yn ddyn da gyda phob achos, yn enwedig gyda dirwest. Yr oedd yn ddyn selog a gweithgar dros ddirwest.<ref>''Y Drych'', loc. cit.</ref>



Golygiad diweddaraf yn ôl 13:32, 15 Rhagfyr 2023

Roedd Thomas D. Radcliffe (Tryfanydd) (1853-1939) yn saer maen ac yn fardd cyhoeddedig. Cil Llidiart, Rhostryfan oedd ei gartref wedi i’r teulu symud o Dalwrn, Llanddyfnan, Sir Fôn. Ellen Radcliffe (g.1821) a hanai o Lanfihangel Bachellaeth, Sir Gaernarfon, oedd ei fam ac mae’n debyg mai Thomas Radcliffe, mab Joseph ac Elinor Radcliffe (g.1830) o Landdyfnan, oedd ei dad. Er gwaethaf ei gyfenw, ymddengys mai Cymro uniaith ydoedd.

Ymddengys iddo symud llawer yn ystod ei ieuenctid, er iddo fynychu Ysgol Frytanaidd Dwyran pan oedd rhwng 7 a 10 oed. Ni chafodd fawr o addysg ffurfiol wedyn, ond treuliodd dymor yn Ysgol Ragbaratoawl Clynnog pan oedd tua 25 oed, a hynny dan y prifathro, Y Parch John Evans.

Saer maen ydoedd o ran ei alwedigaeth er iddo golli ei iechyd yn gynnar (i’r gwynegon, mae’n debyg). Erbyn 1901 roedd wedi newid ei waith i fod yn glocsiwr hunangyflogedig yn gweithio gartref.[1]

Erbyn 1880 roedd wedi cydio yn yr awen, er fod barddoniaeth (yn ôl ei gyfaddefiad ei hun) wedi ei swyno ers iddo fod yn blentyn bach. Mae archwiliad o fynegai papurau newydd ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol yn dangos dwsinau o enghreifftiau ohono’n anfon englynion a cherddi mwy rhigymaidd eu natur i’r gwahanol golofnau barddol ac roedd yn barod iawn i gyfansoddi englynion coffa. Y wobr gyntaf a enillodd oedd am bryddest fer ar y testun “Y Pulpud” yn Eisteddfod Nefyn. Enillodd dros hanner cant o gystadlaethau wedi hynny, gan gynnwys cadair Eisteddfod Gadeiriol Tal-y-sarn.[2] Mwy dryslyd yw'r ffaith fod dyn arall o Borthmadog wedi mabwysiadu'r enw Tryfanydd hefyd, sef R.R. Hughes, llenor ac arlunydd (fl.1875-1889).[3]

Ym 1914 cyhoeddodd gerdd yn annog dynion ifanc i ymrestru yn y Fyddin.

Dyma a ddywedodd William W. Ross, Cymro Americanaidd a hanai o Rostryfan, amdano:

Tom D. Radcliffe (Tryfanydd), awdwr "Myfyrion yr Awen." Gallaf ddweyd fel y dywedant yn Neheudir Cymru. "Bachan piwr yw Tom." Llawer awr ddifyr dreuliais yn nghwmni y bardd Tryfanydd. 'Rwyf yn cofio i mi a John Thomas, y crydd, gyfarfod â Tryfanydd ar y ffordd, a gofynnodd John Thomas iddo, a oedd yn gwella, a dyma yr ateb gafodd:

Yn wir yr wyf yn aros - beunydd 
    Dan boenau er's wythnos, 
  Dyodda wna i bob dydd a nos 
  Yn y joint yma, John Thomas. 

Saer maen oedd yn ôl ei alwedigaeth, a chollodd ei iechyd tua 30 mlynedd yn ôl, ond bu yn bur lwyddianus fel bardd wedi hynny.[4]

Mae ei ddefnydd o’r ffugenw Tryfanydd yn dyddio o 1880 o leiaf, ac ni ddylid cymysgu rhyngddo ef a dyn arall a arddelai ffugenw tebyg, sef J.R. Tryfanwy, y bardd dall o Borthmadog a aned yn Rhostryfan ym 1867.[5] Dichon, fodd bynnag, mai teyrnged i Dryfanydd oedd i Tryfanwy ddewis ei ffugenw yntau, gan fod Tryfanydd wedi bod yn athro barddol ar Tryfanwy ar ddechrau taith farddol hwnnw. Diddorol yw deall mai yn Eisteddfod Madog, 1887, y cafodd y ddau eu hurddo yn yr Orsedd.[6]

Mae W.W. Ross yn sôn hefyd am Richard Radcliffe (1855-1932), brawd Tom:

Dylynai yntau yr un alwedigaeth a'i frawd Tom, sef saer maen. Cerddor oedd Richard, ac yn ddyn da gyda phob achos, yn enwedig gyda dirwest. Yr oedd yn ddyn selog a gweithgar dros ddirwest.[7]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1891-1921; Mynegai i’r Cofrestrau Marwolaethau, 1939
  2. J.R. Tryfanwy, Tryfanydd, (Heddyw, Cyf.1, rhif 9), tt.210-12
  3. Llais y Wlad, 27.8.1875, t.3; Baner ac Amserau Cymru, 13.3.1889, t.11
  4. Y Drych, 15.7.1915, t.1
  5. Anhysbys, Tryfanwy, (Heddiw, Cyf.1, rhif 3), tt.55-6
  6. J.R. Tryfanwy, Tryfanydd, (Heddyw, Cyf.1, rhif 9), tt.210-12
  7. Y Drych, loc. cit.