Eisteddfod Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ceir sôn am Eisteddfod Llanllyfni mor gynnar â 1878. Y flwyddyn honno ceir sôn am yr Eisteddfod hon – o bob man – yn ''Y Drych'' (papur Cymry Ameri...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ceir sôn am Eisteddfod Llanllyfni mor gynnar â 1878. Y flwyddyn honno ceir sôn am yr Eisteddfod hon – o bob man – yn ''Y Drych'' (papur Cymry America) a hynny fel a ganlyn: | Ceir sôn am Eisteddfod Llanllyfni mor gynnar â 1878. Y flwyddyn honno ceir sôn am yr Eisteddfod hon – o bob man – yn ''Y Drych'' (papur Cymry America) a hynny fel a ganlyn: | ||
Bydd beirdd ieuainc Cymru yn debyg o eiddigeddu wrth Mr. R. A. Williams (Berw)-nai i'r Parch. W. O. Williams (Gwilym o Fôn) o'r ddinas hon [Wisconsin] - oherwydd ei fuddugoliaethau diweddar. Enillodd 2 gini a thlws arian yn Eisteddfod Llanllyfni am y cywydd coffadwriaethol i'r | Bydd beirdd ieuainc Cymru yn debyg o eiddigeddu wrth Mr. R. A. Williams (Berw) - nai i'r Parch. W. O. Williams (Gwilym o Fôn) o'r ddinas hon [Wisconsin] - oherwydd ei fuddugoliaethau diweddar. Enillodd 2 gini a thlws arian yn Eisteddfod Llanllyfni am y cywydd coffadwriaethol i'r ddiweddar Mrs [[Fanny Jones]], Talsarn.<ref> ''Y Drych'' 20.6.78, t.5</ref> | ||
Mae adroddiadau am yr eisteddfod hon yn y papurau lleol yn hynod brin, ac nid oes sicrwydd bod yr eisteddfod a gynhelid yn y 1870au wedi parhau i gael ei chynnal yn flynyddol. Gwyddom fodd bynnag fod eisteddfod oedolion wedi ei chynnal yn 1900, gan fod gŵr o ardal Machynlleth wedi ennill cystadleuaeth lenyddol yn Eisteddfod Llanllyfni: | Mae adroddiadau am yr eisteddfod hon yn y papurau lleol yn hynod brin, ac nid oes sicrwydd bod yr eisteddfod a gynhelid yn y 1870au wedi parhau i gael ei chynnal yn flynyddol. Gwyddom, fodd bynnag, fod eisteddfod oedolion wedi ei chynnal yn 1900, gan fod gŵr o ardal Machynlleth wedi ennill cystadleuaeth lenyddol yn Eisteddfod Llanllyfni: | ||
Deallwn mai Wnion, Machynlleth, a enillodd y wobr am “eiriau cyfaddas i gyfansoddi Canig arnynt”, yn Eisteddfod Llanllyfni, dydd Gwener diweddaf. Yr oedd nifer yr ymgeiswyr yn naw.<ref>''Y Negesydd'', 11.1.01. t.1</ref> | Deallwn mai Wnion, Machynlleth, a enillodd y wobr am “eiriau cyfaddas i gyfansoddi Canig arnynt”, yn Eisteddfod Llanllyfni, dydd Gwener diweddaf. Yr oedd nifer yr ymgeiswyr yn naw.<ref>''Y Negesydd'', 11.1.01. t.1</ref> | ||
Yn fuan wedi hyn, fodd bynnag, roedd hi wedi troi’n eisteddfod ar gyfer plant y dyffryn. Ceir blas ar y trefniadau yn yr adroddiad hwn: | Yn fuan wedi hyn, fodd bynnag, roedd hi wedi troi’n eisteddfod ar gyfer plant y dyffryn. Ceir blas ar y trefniadau yn yr adroddiad hwn: | ||
BLAGUR LLYFNWY. | BLAGUR LLYFNWY.— Dyddorol odiaeth yw rhaglen Eisteddfod y Plant, Llanllyfni, dan yr enw uchod. Swyddogion y Pwyllgor ydynt :-Llywydd, Mr David G. Davies; trysoryddes, Miss Jones, Hendre Villa; ysgrifenyddes, Miss Jane Ann Roberts, Ysgol y Cynghor, Nebo. Mae yr oll o'r testynau yn agored i Ddyffryn Nantlle, ac ni chaiff neb dros 18 oed ymgeisio yn yr Eisteddfod. Diau y try yn llwyddiant hollol.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 22.9.1908, t.5</ref> | ||
Ceir adroddiad gweddol fanwl am yr eisteddfod a gynhaliwyd ym 1910, sydd yn rhoi blas ar ddiwylliant crefyddol a pherfformiadol capeli cyn y Rhyfel Mawr: | Ceir adroddiad gweddol fanwl am yr eisteddfod a gynhaliwyd ym 1910, sydd yn rhoi blas ar ddiwylliant crefyddol a pherfformiadol capeli cyn y Rhyfel Mawr: | ||
EISTEDDFOD Y PLANT, LLANLLYFNI Nos Wener, yn Nghapel Salem, Llanllyfni, cynhaliwyd eisteddfod hynod o lwyddiannus o dan nawdd Teml y Plant, "Blagur Llyfnwy." Cymerwyd y gadair gan Dr Rowlands, Llanaelhaiarn, | EISTEDDFOD Y PLANT, LLANLLYFNI Nos Wener, yn Nghapel Salem, Llanllyfni, cynhaliwyd eisteddfod hynod o lwyddiannus o dan nawdd Teml y Plant, "Blagur Llyfnwy." Cymerwyd y gadair gan Dr Rowlands, Llanaelhaiarn, arweiniwyd gan Mr W. Richard Williams, a chyfeiliwyd gan Miss Myfi Prichard..... | ||
Roedd y cystadlaethau’n cynnwys: Ateb cwestiynau dirwestol; Adrodd "Chwarae a themtasiwn”; Tie gweuedig; Doyleys; Unawd “Wyn Bach Iesu Grist”; Unawd: “Iesu o Nazareth”; Darlun; Adrodd, "Y Diafol a thi dy hun”; Deuawd i fechgyn; Adrodd “Y Bardd yn annerch yr Oen Bach"; Canu penillion; Map o blwyf Llanllyfni; Unawd, "Dros y Garreg"; Areithio; Llaw-arwyddion; Unawd: "Y Gelynen Las". | |||
Arferid cynnal yr eisteddfod yng [[Capel Salem (MC), Llanllyfni|Nghapel Methodistaidd Salem]] ar ôl y Rhyfel Mawr, ac fe fyddai'r cystadleuwyr yn sefyll ar lwyfan yn y sêt fawr, hyd nes Neuadd Goffa gael ei chodi ym 1927. | Testyn y Goron oedd "Blwydd-dal i'r Hen." Ymgeisiodd saith, a darllenodd [[Croesfryn]] feirniadaeth deg a manwl, a chyhoeddodd yr ymgeisydd yn dwyn y ffugenw "Ehedydd" yn fuddugol. Cyrchwyd ef i'r llwyfan gan Eryr Gwynedd a'r Bonwr John Owen, a chafwyd mai'r buddugol oedd Mr John Griffith; [[Treddafydd]], [[Pen-y-groes]]. Cafwyd hwyl gyda'r coroni o dan ofal Mr O. Llew Owain. Cyflwynwyd y wobr gan Miss J. Ann Roberts.... | ||
Aeth yr Eisteddfod yn ei blaen gyda Deuawd, "Deilen ar yr Afon”; Unawd, "Morfa Rhuddlan”; y Prif Adroddiad; y Brif Unawd, "Concwest y Groes”; ac, i derfynu, Cystadleuaeth y Corau, a enillwyd gan Gôr Llanllyfni.<ref>''Yr Herald Cymreig'', 1.11.1910, t.6</ref> Dichon mai côr plant o Lanllyfni oedd y côr ac nid [[Côr Llanllyfni|y côr lleol i oedolion]]. | |||
Yn ddiddorol iawn, ymddengys bod yr [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|Eglwys]] wedi cynnal Eisteddfod ym 1913 dan enw “Eisteddfod Plant Llanllyfni”, gyda chystadlaethau am ddweud y catecism ac ati, yn ogystal â chystadlaethau mwy cyffredinol, a’r rheithor oedd yn arwain y cyfarfodydd. Roedd ambell i enillydd wedi serennu yn Eisteddfod Salem, 1910, yn arbennig Annie Wood Griffith, ac felly nid oedd yn gyfyngedig i un enwad, mae’n ymddangos. Ond tybed ai eisteddfod a gynhaliwyd mewn ymateb i lwyddiant yr anghydffurfwyr a’u heisteddfod hwythau ydoedd?<ref>''Y Llan'', 12.12.1913, t.2</ref> | |||
Arferid cynnal yr eisteddfod yng [[Capel Salem (MC), Llanllyfni|Nghapel Methodistaidd Salem]] ar ôl y Rhyfel Mawr, ac fe fyddai'r cystadleuwyr yn sefyll ar lwyfan yn y sêt fawr, hyd nes i'r Neuadd Goffa gael ei chodi ym 1927. | |||
O'r 1930au ymlaen bu trigolion y pentref yn gyfrifol am drefnu'r eisteddfod. Y dyddiau hyn, mae aelodau amrywiol bwyllgorau'r pentref, megis y Capel, yr Eglwys, yr Urdd a Merched y Wawr yn dod at ei gilydd i drefnu’r achlysur. | O'r 1930au ymlaen bu trigolion y pentref yn gyfrifol am drefnu'r eisteddfod. Y dyddiau hyn, mae aelodau amrywiol bwyllgorau'r pentref, megis y Capel, yr Eglwys, yr Urdd a Merched y Wawr yn dod at ei gilydd i drefnu’r achlysur. | ||
Ar ôl gohirio'r eisteddfod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yn Eisteddfod Gadeiriol. Yn fwy diweddar, mae enillydd y gadair yn derbyn cadair fach; | Ar ôl gohirio'r eisteddfod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yn Eisteddfod Gadeiriol. Yn fwy diweddar, mae enillydd y gadair yn derbyn cadair fach; yr un modd bydd y person ifanc dan 25 oed sydd wedi cyflwyno'r gwaith llenyddol gorau hefyd yn derbyn cadair fechan. Arferid i’r cadeiriau bach hyn gael eu llunio gan athro celf a chrefft [[Ysgol Dyffryn Nantlle]]. Enillodd y bardd [[John Hywyn]] ei gadair gyntaf yn yr eisteddfod hon. | ||
Bydd cystadlu hefyd | Bydd cystadlu hefyd am dlysau’r her unawd a'r her adroddiad. Rhoddwyd y tlysau hyn i'r eisteddfod gan gwmni teledu Tŷ Gwyn a chwmni Ffilmiau'r Nant.<ref>Gwefan BBC Lleol [https://www.bbc.co.uk/cymru/gogledd-orllewin/bywyd_bro/eisteddfodau/pages/llanllyfni.shtml], cyrchwyd 2.12.2023</ref> | ||
Yn y blynyddoedd cynnar, cynhaliwyd yr eisteddfod tua mis Hydref neu Dachwedd, ond yn fwy diweddar, cynhelir yr eisteddfod tua diwedd Chwefror. | Yn y blynyddoedd cynnar, cynhaliwyd yr eisteddfod tua mis Hydref neu Dachwedd, ond yn fwy diweddar, cynhelir yr eisteddfod tua diwedd Chwefror. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 21:18, 4 Rhagfyr 2023
Ceir sôn am Eisteddfod Llanllyfni mor gynnar â 1878. Y flwyddyn honno ceir sôn am yr Eisteddfod hon – o bob man – yn Y Drych (papur Cymry America) a hynny fel a ganlyn:
Bydd beirdd ieuainc Cymru yn debyg o eiddigeddu wrth Mr. R. A. Williams (Berw) - nai i'r Parch. W. O. Williams (Gwilym o Fôn) o'r ddinas hon [Wisconsin] - oherwydd ei fuddugoliaethau diweddar. Enillodd 2 gini a thlws arian yn Eisteddfod Llanllyfni am y cywydd coffadwriaethol i'r ddiweddar Mrs Fanny Jones, Talsarn.[1]
Mae adroddiadau am yr eisteddfod hon yn y papurau lleol yn hynod brin, ac nid oes sicrwydd bod yr eisteddfod a gynhelid yn y 1870au wedi parhau i gael ei chynnal yn flynyddol. Gwyddom, fodd bynnag, fod eisteddfod oedolion wedi ei chynnal yn 1900, gan fod gŵr o ardal Machynlleth wedi ennill cystadleuaeth lenyddol yn Eisteddfod Llanllyfni:
Deallwn mai Wnion, Machynlleth, a enillodd y wobr am “eiriau cyfaddas i gyfansoddi Canig arnynt”, yn Eisteddfod Llanllyfni, dydd Gwener diweddaf. Yr oedd nifer yr ymgeiswyr yn naw.[2]
Yn fuan wedi hyn, fodd bynnag, roedd hi wedi troi’n eisteddfod ar gyfer plant y dyffryn. Ceir blas ar y trefniadau yn yr adroddiad hwn:
BLAGUR LLYFNWY.— Dyddorol odiaeth yw rhaglen Eisteddfod y Plant, Llanllyfni, dan yr enw uchod. Swyddogion y Pwyllgor ydynt :-Llywydd, Mr David G. Davies; trysoryddes, Miss Jones, Hendre Villa; ysgrifenyddes, Miss Jane Ann Roberts, Ysgol y Cynghor, Nebo. Mae yr oll o'r testynau yn agored i Ddyffryn Nantlle, ac ni chaiff neb dros 18 oed ymgeisio yn yr Eisteddfod. Diau y try yn llwyddiant hollol.[3]
Ceir adroddiad gweddol fanwl am yr eisteddfod a gynhaliwyd ym 1910, sydd yn rhoi blas ar ddiwylliant crefyddol a pherfformiadol capeli cyn y Rhyfel Mawr:
EISTEDDFOD Y PLANT, LLANLLYFNI Nos Wener, yn Nghapel Salem, Llanllyfni, cynhaliwyd eisteddfod hynod o lwyddiannus o dan nawdd Teml y Plant, "Blagur Llyfnwy." Cymerwyd y gadair gan Dr Rowlands, Llanaelhaiarn, arweiniwyd gan Mr W. Richard Williams, a chyfeiliwyd gan Miss Myfi Prichard.....
Roedd y cystadlaethau’n cynnwys: Ateb cwestiynau dirwestol; Adrodd "Chwarae a themtasiwn”; Tie gweuedig; Doyleys; Unawd “Wyn Bach Iesu Grist”; Unawd: “Iesu o Nazareth”; Darlun; Adrodd, "Y Diafol a thi dy hun”; Deuawd i fechgyn; Adrodd “Y Bardd yn annerch yr Oen Bach"; Canu penillion; Map o blwyf Llanllyfni; Unawd, "Dros y Garreg"; Areithio; Llaw-arwyddion; Unawd: "Y Gelynen Las".
Testyn y Goron oedd "Blwydd-dal i'r Hen." Ymgeisiodd saith, a darllenodd Croesfryn feirniadaeth deg a manwl, a chyhoeddodd yr ymgeisydd yn dwyn y ffugenw "Ehedydd" yn fuddugol. Cyrchwyd ef i'r llwyfan gan Eryr Gwynedd a'r Bonwr John Owen, a chafwyd mai'r buddugol oedd Mr John Griffith; Treddafydd, Pen-y-groes. Cafwyd hwyl gyda'r coroni o dan ofal Mr O. Llew Owain. Cyflwynwyd y wobr gan Miss J. Ann Roberts....
Aeth yr Eisteddfod yn ei blaen gyda Deuawd, "Deilen ar yr Afon”; Unawd, "Morfa Rhuddlan”; y Prif Adroddiad; y Brif Unawd, "Concwest y Groes”; ac, i derfynu, Cystadleuaeth y Corau, a enillwyd gan Gôr Llanllyfni.[4] Dichon mai côr plant o Lanllyfni oedd y côr ac nid y côr lleol i oedolion.
Yn ddiddorol iawn, ymddengys bod yr Eglwys wedi cynnal Eisteddfod ym 1913 dan enw “Eisteddfod Plant Llanllyfni”, gyda chystadlaethau am ddweud y catecism ac ati, yn ogystal â chystadlaethau mwy cyffredinol, a’r rheithor oedd yn arwain y cyfarfodydd. Roedd ambell i enillydd wedi serennu yn Eisteddfod Salem, 1910, yn arbennig Annie Wood Griffith, ac felly nid oedd yn gyfyngedig i un enwad, mae’n ymddangos. Ond tybed ai eisteddfod a gynhaliwyd mewn ymateb i lwyddiant yr anghydffurfwyr a’u heisteddfod hwythau ydoedd?[5]
Arferid cynnal yr eisteddfod yng Nghapel Methodistaidd Salem ar ôl y Rhyfel Mawr, ac fe fyddai'r cystadleuwyr yn sefyll ar lwyfan yn y sêt fawr, hyd nes i'r Neuadd Goffa gael ei chodi ym 1927.
O'r 1930au ymlaen bu trigolion y pentref yn gyfrifol am drefnu'r eisteddfod. Y dyddiau hyn, mae aelodau amrywiol bwyllgorau'r pentref, megis y Capel, yr Eglwys, yr Urdd a Merched y Wawr yn dod at ei gilydd i drefnu’r achlysur.
Ar ôl gohirio'r eisteddfod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yn Eisteddfod Gadeiriol. Yn fwy diweddar, mae enillydd y gadair yn derbyn cadair fach; yr un modd bydd y person ifanc dan 25 oed sydd wedi cyflwyno'r gwaith llenyddol gorau hefyd yn derbyn cadair fechan. Arferid i’r cadeiriau bach hyn gael eu llunio gan athro celf a chrefft Ysgol Dyffryn Nantlle. Enillodd y bardd John Hywyn ei gadair gyntaf yn yr eisteddfod hon.
Bydd cystadlu hefyd am dlysau’r her unawd a'r her adroddiad. Rhoddwyd y tlysau hyn i'r eisteddfod gan gwmni teledu Tŷ Gwyn a chwmni Ffilmiau'r Nant.[6]
Yn y blynyddoedd cynnar, cynhaliwyd yr eisteddfod tua mis Hydref neu Dachwedd, ond yn fwy diweddar, cynhelir yr eisteddfod tua diwedd Chwefror.