Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Bardd a oedd yn ei flodau ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd '''Hugh Jones''', neu Gwyndaf Ieuanc i roi iddo ei enw barddol. Dywedir iddo gael ei eni mewn tyddyn o'r enw [[Pen-y-groes (Llanwnda)|Pen-y-groes]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Saer coed oedd o ran ei grefft a Methodist Calfinaidd o ran ei ddaliadau crefyddol. Ychydig iawn o'i waith a gadwyd ond mae'r gwaith a ddiogelwyd yn dangos fod ganddo feistrolaeth dda ar y cynganeddion. Cyhoeddwyd ei awdl, "Arwyrain Amaethyddiaeth", a luniodd ar gyfer eisteddfod Tremadog ym 1812, yn y gyfrol ''Cell Callestr''.Ymddangosodd peth o'i waith hefyd yn rhai o gyfnodolion Cymraeg ei gyfnod. Dywedir iddo symud i ardal [[Nantlle]]'n ddiweddarach yn ei oes, lle bu farw. Nid oes sicrwydd lle mae wedi'i gladdu - gallai fod yn Nantlle neu yn Llanwnda.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', t.438.</ref> | Bardd a oedd yn ei flodau ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd '''Hugh Jones''' (1781-1825), neu Gwyndaf Ieuanc i roi iddo ei enw barddol, Mab ydoedd i John Hughes a Catrin Griffith. Dywedir iddo gael ei eni mewn tyddyn o'r enw [[Pen-y-groes (Llanwnda)|Pen-y-groes]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Saer coed oedd o ran ei grefft a Methodist Calfinaidd o ran ei ddaliadau crefyddol. Cafodd beth addysg yn ysgol ddyddiol breifat John Beywater yn [[Llwyn-y-gwalch]] ac wedyn yn ysgol [[Dafydd Ddu Eryri]] a gynhelid yn [[Efail Dolydd]]. Dysgodd Hebraeg, Groeg a Lladin wedi hynny. Credir iddo ddechrau barddoni pan oedd tua 29 oed ym 1810. Ychydig iawn o'i waith a gadwyd ond mae'r gwaith a ddiogelwyd yn dangos fod ganddo feistrolaeth dda ar y cynganeddion. Cyhoeddwyd ei awdl, "Arwyrain Amaethyddiaeth", a luniodd ar gyfer eisteddfod Tremadog ym 1812, yn y gyfrol ''Cell Callestr''.Ymddangosodd peth o'i waith hefyd yn rhai o gyfnodolion Cymraeg ei gyfnod. Dywedir iddo symud i ardal [[Nantlle]]'n ddiweddarach yn ei oes, lle bu farw. Nid oes sicrwydd lle mae wedi'i gladdu - gallai fod yn Nantlle neu yn Llanwnda.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', t.438; Hugh Jones, ''Gwyndaf Ieuanc'' (''Cymru'', Cyf.34 (1908)), tt.9-11.</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:09, 4 Rhagfyr 2023
Bardd a oedd yn ei flodau ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Hugh Jones (1781-1825), neu Gwyndaf Ieuanc i roi iddo ei enw barddol, Mab ydoedd i John Hughes a Catrin Griffith. Dywedir iddo gael ei eni mewn tyddyn o'r enw Pen-y-groes ym mhlwyf Llanwnda. Saer coed oedd o ran ei grefft a Methodist Calfinaidd o ran ei ddaliadau crefyddol. Cafodd beth addysg yn ysgol ddyddiol breifat John Beywater yn Llwyn-y-gwalch ac wedyn yn ysgol Dafydd Ddu Eryri a gynhelid yn Efail Dolydd. Dysgodd Hebraeg, Groeg a Lladin wedi hynny. Credir iddo ddechrau barddoni pan oedd tua 29 oed ym 1810. Ychydig iawn o'i waith a gadwyd ond mae'r gwaith a ddiogelwyd yn dangos fod ganddo feistrolaeth dda ar y cynganeddion. Cyhoeddwyd ei awdl, "Arwyrain Amaethyddiaeth", a luniodd ar gyfer eisteddfod Tremadog ym 1812, yn y gyfrol Cell Callestr.Ymddangosodd peth o'i waith hefyd yn rhai o gyfnodolion Cymraeg ei gyfnod. Dywedir iddo symud i ardal Nantlle'n ddiweddarach yn ei oes, lle bu farw. Nid oes sicrwydd lle mae wedi'i gladdu - gallai fod yn Nantlle neu yn Llanwnda.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, t.438; Hugh Jones, Gwyndaf Ieuanc (Cymru, Cyf.34 (1908)), tt.9-11.