Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Hugh Jones - "Gwyndaf Ieuanc" i Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc) heb adael dolen ailgyfeirio
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Bardd a oedd yn ei flodau ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Hugh Jones, neu Gwyndaf Ieuanc i roi iddo ei enw barddol. Dywedir iddo gael ei eni mewn tyddyn o'r enw Pen-y-groes ym mhlwyf Llanwnda. Saer coed oedd o ran ei grefft a Methodist Calfinaidd o ran ei ddaliadau crefyddol. Ychydig iawn o'i waith a gadwyd ond mae'r gwaith a ddiogelwyd yn dangos fod ganddo feistrolaeth dda ar y cynganeddion. Cyhoeddwyd ei awdl, "Arwyrain Amaethyddiaeth", a luniodd ar gyfer eisteddfod Tremadog ym 1812, yn y gyfrol ''Cell Callestr''.Ymddangosodd peth o'i waith hefyd yn rhai o gyfnodolion Cymraeg ei gyfnod. Dywedir iddo symud i ardal Nantlle'n ddiweddarach yn ei oes, lle bu farw. Nid oes sicrwydd lle mae wedi'i gladdu - gallai fod yn Nantlle neu yn Llanwnda.  
Bardd a oedd yn ei flodau ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd '''Hugh Jones''' (1781-1825), neu Gwyndaf Ieuanc i roi iddo ei enw barddol, Mab ydoedd i John Hughes a Catrin Griffith. Dywedir iddo gael ei eni mewn tyddyn o'r enw [[Pen-y-groes (Llanwnda)|Pen-y-groes]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Saer coed oedd o ran ei grefft a Methodist Calfinaidd o ran ei ddaliadau crefyddol. Cafodd beth addysg yn ysgol ddyddiol breifat John Beywater yn [[Llwyn-y-gwalch]] ac wedyn yn ysgol [[Dafydd Ddu Eryri]] a gynhelid yn [[Efail Dolydd]]. Dysgodd Hebraeg, Groeg  a Lladin wedi hynny. Credir iddo ddechrau barddoni pan oedd tua 29 oed ym 1810. Ychydig iawn o'i waith a gadwyd ond mae'r gwaith a ddiogelwyd yn dangos fod ganddo feistrolaeth dda ar y cynganeddion. Cyhoeddwyd ei awdl, "Arwyrain Amaethyddiaeth", a luniodd ar gyfer eisteddfod Tremadog ym 1812, yn y gyfrol ''Cell Callestr''.Ymddangosodd peth o'i waith hefyd yn rhai o gyfnodolion Cymraeg ei gyfnod. Dywedir iddo symud i ardal [[Nantlle]]'n ddiweddarach yn ei oes, lle bu farw. Nid oes sicrwydd lle mae wedi'i gladdu - gallai fod yn Nantlle neu yn Llanwnda.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', t.438; Hugh Jones, ''Gwyndaf Ieuanc'' (''Cymru'', Cyf.34 (1908)), tt.9-11.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', t.438.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Beirdd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:09, 4 Rhagfyr 2023

Bardd a oedd yn ei flodau ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Hugh Jones (1781-1825), neu Gwyndaf Ieuanc i roi iddo ei enw barddol, Mab ydoedd i John Hughes a Catrin Griffith. Dywedir iddo gael ei eni mewn tyddyn o'r enw Pen-y-groes ym mhlwyf Llanwnda. Saer coed oedd o ran ei grefft a Methodist Calfinaidd o ran ei ddaliadau crefyddol. Cafodd beth addysg yn ysgol ddyddiol breifat John Beywater yn Llwyn-y-gwalch ac wedyn yn ysgol Dafydd Ddu Eryri a gynhelid yn Efail Dolydd. Dysgodd Hebraeg, Groeg a Lladin wedi hynny. Credir iddo ddechrau barddoni pan oedd tua 29 oed ym 1810. Ychydig iawn o'i waith a gadwyd ond mae'r gwaith a ddiogelwyd yn dangos fod ganddo feistrolaeth dda ar y cynganeddion. Cyhoeddwyd ei awdl, "Arwyrain Amaethyddiaeth", a luniodd ar gyfer eisteddfod Tremadog ym 1812, yn y gyfrol Cell Callestr.Ymddangosodd peth o'i waith hefyd yn rhai o gyfnodolion Cymraeg ei gyfnod. Dywedir iddo symud i ardal Nantlle'n ddiweddarach yn ei oes, lle bu farw. Nid oes sicrwydd lle mae wedi'i gladdu - gallai fod yn Nantlle neu yn Llanwnda.[1]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, t.438; Hugh Jones, Gwyndaf Ieuanc (Cymru, Cyf.34 (1908)), tt.9-11.