Pengwern: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Pengwern''' yn fferm fawr a saif ar iseldir plwyf Llanwnda i'r gogledd o'r ffordd rhwng Caernarfon a Llandwrog. {{eginyn}} Categori:Pla...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Pengwern''' yn fferm fawr a saif ar iseldir plwyf [[Llanwnda]] i'r gogledd o'r ffordd rhwng Caernarfon a [[Llandwrog]].
Mae '''Pengwern''' yn fferm fawr a saif ar iseldir plwyf [[Llanwnda]] i'r gogledd o'r ffordd rhwng Caernarfon a [[Llandwrog]]. Arferai fod yn blasty lle trigai teuluoedd dylanwadol yn y sir.
 
Mae'n bosibl mai'r dyn cynharaf y mae sôn amdano'n byw yn y Pengwern oedd un Dafydd ap Siencyn a gafodd ei erlyn ym 1330 am fasnachu y tu allan i dref Caernarfon (lle oedd gan y Saeson a setlwyd yno fonopoli ar y fasnach leol). Nid yw'n hollol glir a oedd teulu'r Wynniaid, a ddaeth i fyw yn y Pengwern, yn ddisgynyddion i'r gŵr hwnnw, ond mae sicrwydd ynglŷn â'r olyniaeth. Madog ab Ieuan ap Gruffydd ab Ieuan, yn wreiddiol o Blas-du, Llanarmon, Eifionydd, oedd yn byw yno tan ei farwolaeth rywbryd cyn 1547. Yn y man, etifeddodd ei fab, William ap Madog, Bengwern, gan fynd ati i helaethu ffiniau'r ystâd, a hynny yn erbyn hawliau perchnogion ystadau Coed Alun, [[Glynllifon]] a [[Plas Newydd|Phlas Newydd]]. Cafodd lawer o ymosodiadau ac achosion llys yn ei erbyn ond daliai ei afael ar y tiroedd ehangach. Roedd ganddo fab a merch, Huw Gwyn (m.1623) a Sioned (a briododd John ap Wiliam Gruffydd o'r Nant, Betws Garmon, sylfaenydd teulu Rowlands, Plas Tirion). Priododd William Pugh Gwyn, ei fab, ferch o Ynys Môn, Margred Holland, ac ar  ôl marwolaeth Huw Pugh Gwyn, ail-briododd ag Owen Meredydd o'r [[Mynachdy Gwyn]], [[Clynnog Fawr]]. Dyma adeg adeiladu melin newydd, [[Melin y Bont-faen]] ar yr ystâd.
 
Oherwydd i Huw Gwyn farw a'i weddw'n ail-briodi, cafwyd ffrae am flynyddoedd ynglŷn â pherchnogaeth yr ystâd. Yn y diwedd cafodd teulu Mynachdy Gwyn y Pengwern a rhan o'r tiroedd, ac wyrion Huw Pugh Gwyn ran arall o'r eiddo, sef [[Plas Llanwnda]]. Nid oedd perthynas waed i Madog ab Ieuan bellach yn byw yn y Pengwern. Yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r ystad bellach, ac yn eiddo i deulu Meredydd, oedd y Pengwern, y Geufron, Tŷ'n Rhos, Tŷ Cerrig a Thŷ'n Lôn. John Meredydd oedd y sgweiar erbyn hynny (neu'n fuan wedyn), a chododd dŷ newydd yn y Pengwern. Chwalwyd y tŷ hwnnw mor ddiweddar â 1906 oherwydd ei waliau trwchus, ffenestri bychain a lloriau isel ac anwastad (yn ôl [[W. Gilbert Williams]], oedd yn gyfarwydd a'r tŷ fel prifathro'r ysgol leol ar y pryd). Ceir rhai trawstiau o'r hen dŷ yn y tŷ newydd. 
 
Codwyd [[Melin Wnda]] ar dir oedd yn eiddo i'r Pengwern ym 1663; ar dafod leferydd fe'i gelwid yn "Felin Pengwern".
 
Bu farw Siôn (neu John) Meredydd ym 1700, ac fe'i gladdwyd yn [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]]. Olynwyd John Meredydd gan ei fab Hwmffre, a'i fab yntau, Hwmffre arall, a oedd yn un o ddynion pwysicaf yn y sir. Bu'n Uchel Siryf ym 1734, ac roedd yn ynad heddwch. Meurig Meredydd oedd yr olaf o sgweieriaid y Pengwern, a oedd yn ran o ystâd nid ansylweddol erbyn hynny ym mhlwyfi [[Llanwnda]] a Chlynnog Fawr yn bennaf. Priododd aeres Meurig, Anna Maria, â John Mostyn o Segrwyd, Dinbych. Bu farw honno ym 1823, a gwerthwyd yr ystad yn ffermydd unigol.<ref>Seiliwyd yr erthygl yn y ffurf gychwynnol hon ar W. Gilbert Williams, ''Hen Deuluoedd Lanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800)'', Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon (Cyf.4, 1942-3), tt.19-34.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Plastai]]
[[Categori:Plastai]]
[[Categori:Ystadau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:50, 26 Medi 2023

Mae Pengwern yn fferm fawr a saif ar iseldir plwyf Llanwnda i'r gogledd o'r ffordd rhwng Caernarfon a Llandwrog. Arferai fod yn blasty lle trigai teuluoedd dylanwadol yn y sir.

Mae'n bosibl mai'r dyn cynharaf y mae sôn amdano'n byw yn y Pengwern oedd un Dafydd ap Siencyn a gafodd ei erlyn ym 1330 am fasnachu y tu allan i dref Caernarfon (lle oedd gan y Saeson a setlwyd yno fonopoli ar y fasnach leol). Nid yw'n hollol glir a oedd teulu'r Wynniaid, a ddaeth i fyw yn y Pengwern, yn ddisgynyddion i'r gŵr hwnnw, ond mae sicrwydd ynglŷn â'r olyniaeth. Madog ab Ieuan ap Gruffydd ab Ieuan, yn wreiddiol o Blas-du, Llanarmon, Eifionydd, oedd yn byw yno tan ei farwolaeth rywbryd cyn 1547. Yn y man, etifeddodd ei fab, William ap Madog, Bengwern, gan fynd ati i helaethu ffiniau'r ystâd, a hynny yn erbyn hawliau perchnogion ystadau Coed Alun, Glynllifon a Phlas Newydd. Cafodd lawer o ymosodiadau ac achosion llys yn ei erbyn ond daliai ei afael ar y tiroedd ehangach. Roedd ganddo fab a merch, Huw Gwyn (m.1623) a Sioned (a briododd John ap Wiliam Gruffydd o'r Nant, Betws Garmon, sylfaenydd teulu Rowlands, Plas Tirion). Priododd William Pugh Gwyn, ei fab, ferch o Ynys Môn, Margred Holland, ac ar ôl marwolaeth Huw Pugh Gwyn, ail-briododd ag Owen Meredydd o'r Mynachdy Gwyn, Clynnog Fawr. Dyma adeg adeiladu melin newydd, Melin y Bont-faen ar yr ystâd.

Oherwydd i Huw Gwyn farw a'i weddw'n ail-briodi, cafwyd ffrae am flynyddoedd ynglŷn â pherchnogaeth yr ystâd. Yn y diwedd cafodd teulu Mynachdy Gwyn y Pengwern a rhan o'r tiroedd, ac wyrion Huw Pugh Gwyn ran arall o'r eiddo, sef Plas Llanwnda. Nid oedd perthynas waed i Madog ab Ieuan bellach yn byw yn y Pengwern. Yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r ystad bellach, ac yn eiddo i deulu Meredydd, oedd y Pengwern, y Geufron, Tŷ'n Rhos, Tŷ Cerrig a Thŷ'n Lôn. John Meredydd oedd y sgweiar erbyn hynny (neu'n fuan wedyn), a chododd dŷ newydd yn y Pengwern. Chwalwyd y tŷ hwnnw mor ddiweddar â 1906 oherwydd ei waliau trwchus, ffenestri bychain a lloriau isel ac anwastad (yn ôl W. Gilbert Williams, oedd yn gyfarwydd a'r tŷ fel prifathro'r ysgol leol ar y pryd). Ceir rhai trawstiau o'r hen dŷ yn y tŷ newydd.

Codwyd Melin Wnda ar dir oedd yn eiddo i'r Pengwern ym 1663; ar dafod leferydd fe'i gelwid yn "Felin Pengwern".

Bu farw Siôn (neu John) Meredydd ym 1700, ac fe'i gladdwyd yn Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda. Olynwyd John Meredydd gan ei fab Hwmffre, a'i fab yntau, Hwmffre arall, a oedd yn un o ddynion pwysicaf yn y sir. Bu'n Uchel Siryf ym 1734, ac roedd yn ynad heddwch. Meurig Meredydd oedd yr olaf o sgweieriaid y Pengwern, a oedd yn ran o ystâd nid ansylweddol erbyn hynny ym mhlwyfi Llanwnda a Chlynnog Fawr yn bennaf. Priododd aeres Meurig, Anna Maria, â John Mostyn o Segrwyd, Dinbych. Bu farw honno ym 1823, a gwerthwyd yr ystad yn ffermydd unigol.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd yr erthygl yn y ffurf gychwynnol hon ar W. Gilbert Williams, Hen Deuluoedd Lanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800), Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon (Cyf.4, 1942-3), tt.19-34.