Hugh Tudwal Davies (Tudwal): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganed '''Hugh Tudwal Davies''' (1847-1915) ym Mynachdy Gwyn, ffermdy yn mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr. Roedd yn nai i Robert Hughes, Uwchlaw'rff...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ganed '''Hugh Tudwal Davies''' (1847-1915) ym [[Mynachdy Gwyn]], ffermdy yn mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]]. Roedd yn nai i [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]]. | Ganed '''Hugh Tudwal Davies''' (1847-1915) ym [[Mynachdy Gwyn]], ffermdy yn mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]]. Roedd yn nai i [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]]. | ||
Symudodd y teulu o Uwchgwyrfai i fferm Yr Orsedd Fawr, | Symudodd y teulu o Uwchgwyrfai i fferm Yr Orsedd Fawr, Pencaenewydd pan oedd tua 18 oed, ac o 1872 ymlaen bu'n amaethu ym Mrynllaeth, Llŷn. Priododd ferch y Capten John Hughes, Gellidara, ac yno y bu farw fis Ebrill 1915. | ||
Roedd yn fardd medrus, gan ennill gwobrau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Pwllheli (1875), Caernarfon (1880) a Chaernarfon (1895).<ref>''Y Bywgaffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.117</ref> | Roedd yn fardd medrus, gan ennill gwobrau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Pwllheli (1875), Caernarfon (1880) a Chaernarfon (1895).<ref>''Y Bywgaffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.117</ref> Bu hefyd yn llwyddiannus yn [[Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes|Eisteddfod Gadeiriol Eryri]], 1879, a gynhaliwyd ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]]. Ar yr achlysur hwnnw, enillodd Tudwal gyda chanmoliaeth yn y gystadleuaeth cyfansoddi cywydd ar y testun 'Unigedd'. Y wobr oedd £2.2,0c (sef dwy gini - cyflog tua phythefnos i weithiwr cyffredin bryd hynny) a bathodyn. Daeth pum ymgais i law a Tudwal, meddai'r beirniad, oedd y gorau o ddigon.<ref>Y Genedl Gymreig,17.4.1879, t.6</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:03, 6 Medi 2023
Ganed Hugh Tudwal Davies (1847-1915) ym Mynachdy Gwyn, ffermdy yn mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr. Roedd yn nai i Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon.
Symudodd y teulu o Uwchgwyrfai i fferm Yr Orsedd Fawr, Pencaenewydd pan oedd tua 18 oed, ac o 1872 ymlaen bu'n amaethu ym Mrynllaeth, Llŷn. Priododd ferch y Capten John Hughes, Gellidara, ac yno y bu farw fis Ebrill 1915.
Roedd yn fardd medrus, gan ennill gwobrau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Pwllheli (1875), Caernarfon (1880) a Chaernarfon (1895).[1] Bu hefyd yn llwyddiannus yn Eisteddfod Gadeiriol Eryri, 1879, a gynhaliwyd ym Mhen-y-groes. Ar yr achlysur hwnnw, enillodd Tudwal gyda chanmoliaeth yn y gystadleuaeth cyfansoddi cywydd ar y testun 'Unigedd'. Y wobr oedd £2.2,0c (sef dwy gini - cyflog tua phythefnos i weithiwr cyffredin bryd hynny) a bathodyn. Daeth pum ymgais i law a Tudwal, meddai'r beirniad, oedd y gorau o ddigon.[2]