Thomas Elwyn Griffiths (Llenyn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
::::::''Hawlio cael hoe pentalar wedi cwys'' | ::::::''Hawlio cael hoe pentalar wedi cwys'' | ||
::::::::''wna'r diacon hawddgar,'' | ::::::::''wna'r diacon hawddgar,'' | ||
:::::::''diflino. Erwau Soar'' | ::::::::''diflino. Erwau Soar'' | ||
:::::::''drwy'i waith sydd heddiw'n dir âr''."''<ref>Gwefan BBC Gogledd-Orllewin Cymru, [https://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/papurau_bro/lleu/newyddion/chwefror03.shtml], cyrchwyd 12.04.2022</ref> | :::::::''drwy'i waith sydd heddiw'n dir âr''."''<ref>Gwefan BBC Gogledd-Orllewin Cymru, [https://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/papurau_bro/lleu/newyddion/chwefror03.shtml], cyrchwyd 12.04.2022</ref> | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:21, 3 Gorffennaf 2023
Roedd Thomas Elwyn Griffiths yn cadw Siop Griffiths, sef siop nwyddau haearn ac offer cartref ym mhentref Pen-y-groes. Fe'i hadwaenid yn gyffredinol fel Llenyn. Cymerodd y siop drosodd oddi wrth ei dad, Thomas Griffiths, a sefydlodd y busnes ym 1911 cyn symud i safle newydd yng nghanol Pen-y-groes ym 1925. Yn 2011 penderfynodd gau'r siop oherwydd ei oed ac oherwydd nad oedd modd cystadlu gyda'r masnachwyr deunyddiau adeiladu mawr.[1]
Wedi i'r siop gael ei phrynu, synnwyd y grŵp cymuned a oedd wedi ei phrynu gan y cyfoeth o hen stoc a dogfennau yn cofnodi busnes a bywyd Llenyn a oedd wedi eu gadael i fyny'r grisiau.
Gwasanaethodd Llenyn am dros hanner canrif fel diacon yng Nghapel Soar, ac roedd yn adnabyddus ac yn weithgar yng nghymuned Pen-y-groes gydol ei fywyd. Cyfansoddodd y bardd a'i gyd-ddiacon, Twm Prys Jones, englyn ar achlysur ei anrhydeddu am 45 mlynedd o wasanaeth fel diacon yn 2002:
- Hawlio cael hoe pentalar wedi cwys
- wna'r diacon hawddgar,
- diflino. Erwau Soar
- drwy'i waith sydd heddiw'n dir âr."[2]
- Hawlio cael hoe pentalar wedi cwys
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma