Cwm Ceiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Cwm Ceiliog''' yn gwm bach ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]] sy'n rhedeg o ardal [[Clipiau]] rhwng ochr ddeheuol [[Moel Bronmiod]] ac ochr orllewinol mynydd [[Pen y Gaer]]. Mae'r nant ar waelod y cwm yn un o flaen-nentydd Afon Erch. Mae fferm ar waelod Cwm Ceiliog yn rhannu'r enw.
Mae '''Cwm Ceiliog''' (Cwm Cilio ar fapiau a dogfennau swyddogol) yn gwm bach ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]] sy'n rhedeg o ardal [[Clipiau]] rhwng ochr ddeheuol [[Moel Bronmiod]] ac ochr orllewinol mynydd [[Pen-y-gaer]]. Mae'r nant ar waelod y cwm yn un o flaen-nentydd [[Afon Erch]]. Mae fferm ar waelod Cwm Ceiliog yn rhannu'r enw. Fodd bynnag, er mai Cwm Ceiliog a ddefnyddir ar lafar yn yr ardal, Cwm Cilio yw'r enw a ddefnyddir ar fapiau'r Arolwg Ordnans ac ar ddogfennau swyddogol diweddar, er mai "Cwm Ceiliog" a ddefnyddir ar y map degwm (tua 1840), pan oedd y fferm yn eiddo i [[Elusen Dr Lewis]]. Dylid nodi, fodd bynnag, fod yr un map yn cyfeirio at fferm arall yn y plwyf fel "Cors y Ceilia". Nid oes eglurhad pendant ynghylch ystyr yr enw - oherwydd ei safle anghysbell ar gyrion plwyf Llanaelhaearn, efallai mai lle i 'gilio' neu ymneilltuo iddo yw'r ystyr. Ar y llaw arall, efallai mai "Cwm Ceiliog" oedd yr enw gwreiddiol wedi'r cyfan. Ar dir y fferm ceir cronfa ddŵr sylweddol sy'n parhau i gael ei defnyddio i ddarparu dŵr i Bwllheli - er mai o lyn Cwm Ystradllyn y daw'r prif gyflenwad ers blynyddoedd bellach.
 
Mae olion [[Corlannau uwchlaw Cwm Ceiliog (Cwm Cilio)|corlannau defaid]] diddorol  i'w gweld uwchlaw'r cwm.


{{eginyn}}
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 08:52, 12 Mehefin 2023

Mae Cwm Ceiliog (Cwm Cilio ar fapiau a dogfennau swyddogol) yn gwm bach ym mhlwyf Llanaelhaearn sy'n rhedeg o ardal Clipiau rhwng ochr ddeheuol Moel Bronmiod ac ochr orllewinol mynydd Pen-y-gaer. Mae'r nant ar waelod y cwm yn un o flaen-nentydd Afon Erch. Mae fferm ar waelod Cwm Ceiliog yn rhannu'r enw. Fodd bynnag, er mai Cwm Ceiliog a ddefnyddir ar lafar yn yr ardal, Cwm Cilio yw'r enw a ddefnyddir ar fapiau'r Arolwg Ordnans ac ar ddogfennau swyddogol diweddar, er mai "Cwm Ceiliog" a ddefnyddir ar y map degwm (tua 1840), pan oedd y fferm yn eiddo i Elusen Dr Lewis. Dylid nodi, fodd bynnag, fod yr un map yn cyfeirio at fferm arall yn y plwyf fel "Cors y Ceilia". Nid oes eglurhad pendant ynghylch ystyr yr enw - oherwydd ei safle anghysbell ar gyrion plwyf Llanaelhaearn, efallai mai lle i 'gilio' neu ymneilltuo iddo yw'r ystyr. Ar y llaw arall, efallai mai "Cwm Ceiliog" oedd yr enw gwreiddiol wedi'r cyfan. Ar dir y fferm ceir cronfa ddŵr sylweddol sy'n parhau i gael ei defnyddio i ddarparu dŵr i Bwllheli - er mai o lyn Cwm Ystradllyn y daw'r prif gyflenwad ers blynyddoedd bellach.

Mae olion corlannau defaid diddorol i'w gweld uwchlaw'r cwm.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau