Corlannau uwchlaw Cwm Ceiliog (Cwm Cilio)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tua 880m i'r gogledd o fferm Cwm Ceiliog (Cwm Cilio ar fapiau swyddogol) ym mhlwyf Llanaelhaearn ceir nifer o gorlannau sylweddol sy'n gysylltiedig â'i gilydd (cyfeirnod grid SH4202945684). Fe'u gwelir ar argraffiad cyntaf mapiau 6 modfedd yr Arolwg Ordnans (OS), a gyhoeddwyd ym 1891. Gwnaed arolwg o'r safle gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd ym 1995 ac fe ddaethant hwy i'r casgliad y gallai fod yn safle tyddyn neu fferm fechan ar un cyfnod. Ceir tair corlan cysylltiedig â'i gilydd. Mae'r un ganol yn sylweddol fwy na'r ddwy bob ochr iddi ac mae honno'n cynnwys mynedfa, gwter i ddefaid fynd drwyddi ac efallai simnai. Os mai gweddillion simnai ydyw, mae'n dystiolaeth fod pobl ar un cyfnod yn byw yno i wylio'r defaid - enghraifft o hafod lle treuliai teuluoedd fisoedd yr haf cyn symud eu hanifeiliaid i lawr i'r hendref dros y gaeaf. Mae dwy gorlan lai i'r de-ddwyrain o'r tair prif gorlan a gerllaw gwelir gweddillion pwll a gloddiwyd i drochi defaid gyda sianel gerrig i lifo dŵr i'r pwll o ffrwd gyfagos. Dyma ddisgrifiad o'r safle gan Paul R. Davis yn dilyn ei ymweliad â'r fan yn 2018: "A series of drystone pens forming an elongated rectangular structure, located near the head of Cwm Cilio. The adjacent stream has been dammed to form a sheep dip."[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein - cyrchwyd 11/06/2023