Dinas Garage: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Sefydlwyd y busnes gwreiddiol '''Dinas Garage''', [[Llanwnda]] ym 1931<ref>Hysbeseb 4 Gorffennaf 1987, ''Herald Gymraeg'' yn nodi ''Established 1931''.</ref> gan y brodyr Harry Hywel Parry (1913 -1991) a Robert Hughes Parry (1917 1983)<ref>Roedd John Henry Parry (1876 -1951) yn rhedeg busnes cludo anifeiliaid o’i gartref Glyndŵr, [Rhos-isaf]] ac iard masnachu glo ger [[Gorsaf reilffordd Dinas]].</ref>. Ar y pryd roedd y ddau yn gweithio i fusnes cludo eu tad ‘J.H.Parry and Sons’. Wrth drin y fflyd loriau cludo da byw a chynnyrch amaethyddol magwyd eu sgiliau cynnal cerbydau yn gynnar. Sefydlwyd eu gweithdy cyntaf mewn garej cyfagos i’w cartref - Glyndŵr, Rhos-isaf.
Sefydlwyd y busnes gwreiddiol '''Dinas Garage''', [[Llanwnda]] ym 1931<ref>Hysbeseb 4 Gorffennaf 1987, ''Herald Gymraeg'' yn nodi ''Established 1931''.</ref> gan y brodyr Harry Hywel Parry (1913-1991) a Robert Hughes Parry (1917- 1983). Ar y pryd roedd y ddau yn gweithio i fusnes cludo eu tad ‘J.H.Parry and Sons’<ref>Roedd John Henry Parry (1876 -1951) yn rhedeg busnes cludo anifeiliaid o’i gartref Glyndŵr, [Rhos-isaf]] ac iard masnachu glo ger [[Gorsaf reilffordd Dinas]].</ref>. Wrth drin y fflyd loriau cludo da byw a chynnyrch amaethyddol magwyd eu sgiliau cynnal cerbydau yn gynnar. Sefydlwyd eu gweithdy cyntaf mewn garej cyfagos i’w cartref - Glyndŵr, [[Rhos-isaf]].


Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gweithiodd H.H.Parry yn y diwydiant cynhyrchu rhannau awyrennau<ref>Gwybodaeth deuluol – bu H.H.Parry yn gweithio i gwmni ''NECACO''/ Hunting Aviation Ltd. Symudwyd ei ffatri i Chwarel Dinorwig ym 1940 i’w warchod rhag bomio.</ref> gan fagu sgiliau peirianyddol ychwanegol. Yn y 1940au<ref>Dyfarnwyd trwydded adeiladu (8/0/14308 - 9 Ionawr 1946) i godi blaen newydd i’r garej blaenorol a’r pensaer Arthur Hewitt o Landudno. Mae’r cynllun yn nodi ffordd gefn o’r garej at ffordd Dinas fel dihangfa mewn argyfwng – mae’r allanfa dal i’w weld rhwng cefn ''Gwenallt'' ac ''Ystâd Dinas''. </ref> prynwyd llain o dir yn Llanwnda ger y briffordd i Gaernarfon - rhwng llinell [[Rheilffordd Ucheldir Cymru]] a rhes newydd o dai a adeiladwyd gyferbyn â [[Menai View]] a [[Tafarn y Mount Pleasant|Thafarn y Mount Pleasant]]. Bu’r safle yn flaenorol yn lleoliad garej i gwmni bysiau lleol o Garmel.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gweithiodd H.H.Parry yn y diwydiant cynhyrchu rhannau awyrennau<ref>Gwybodaeth deuluol – bu H.H.Parry yn gweithio i gwmni [[
''https://cy.wikipedia.org/wiki/NECACO_Llanberis'']]/ Hunting Aviation Ltd. Symudwyd ei ffatri i Chwarel Dinorwig ym 1940 i’w warchod rhag bomio.</ref> gan fagu sgiliau peirianyddol ychwanegol. Yn y 1940au<ref>Dyfarnwyd trwydded adeiladu (8/0/14308 - 9 Ionawr 1946) i godi blaen newydd i’r garej blaenorol a’r pensaer Arthur Hewitt o Landudno. Mae’r cynllun yn nodi ffordd gefn o’r garej at ffordd Dinas fel dihangfa mewn argyfwng – mae’r allanfa dal i’w weld rhwng cefn ''Gwenallt'' ac ''Ystâd Dinas''. </ref> prynwyd llain o dir yn Llanwnda ger y briffordd i Gaernarfon - rhwng llinell [[Rheilffordd Ucheldir Cymru]] a rhes newydd o dai a adeiladwyd gyferbyn â [[Menai View]] a [[Tafarn y Mount Pleasant|Thafarn y Mount Pleasant]]. Bu’r safle yn flaenorol yn lleoliad garej i gwmni bysiau lleol o Garmel.


Dros amser, bu R.H.Parry yn arwain ar y busnes cludo a’i frawd ar ddatblygu’r garej. Mae hysbysebion cynnar yn nodi ‘H.H.Parry, Automobile Engineer’<ref>Hysbyseb ''North Wales Weekly News'', Ionawr 8,1948. </ref> ac enw'r modurdy oedd ‘Dinas Garage’. O’r cychwyn gwerthwyd ceir ail-law cyn i’r busnes ddod yn asiant i gwmni cynhyrchu ceir newydd Austin a faniau Bedford (rhan o Vauxhall Motors). Gwerthwyd tractorau, motobeics a beiciau ‘Ladies & Gents’ hefyd.  
[[Delwedd:DinasGarage1953.jpg|bawd|600px|canol|Dinas Garage,Llanwnda,1953:Llun,eiddo William Parry]]
 
Dros amser, bu R.H.Parry yn arwain ar y busnes cludo a’i frawd ar ddatblygu’r garej. Mae hysbysebion cynnar yn nodi ‘H.H.Parry, Automobile Engineer’<ref>Hysbyseb ''North Wales Weekly News'', Ionawr 8,1948. </ref> ac enw'r modurdy oedd ‘Dinas Garage’. O’r cychwyn gwerthwyd ceir ail-law cyn i’r busnes ddod yn asiant i gwmni cynhyrchu ceir newydd Austin a faniau Bedford (rhan o Vauxhall Motors). Gwerthwyd tractorau(David Brown), motobeics a beiciau ‘Ladies & Gents’ hefyd.  


Gyda thŵf y busnes codwyd adeilad pwrpasol gydag ystafell arddangos ceir, adran gwerthu partiau ynghyd â chyfleusterau gwerthu tanwydd. Ymestynnwyd y busnes yn y 1960au i safleoedd eraill gan gynnwys ''Caernarfon Garage'', [[Bontnewydd]] (Siop ''Morrisons Daily'', 2023), ''Prince of Wales Garage'', Ffordd Bangor, Caernarfon (''Moduron Menai'', 2023), safle ''Dinas Garage'' ym Môn, ar Lon Glanhwfa, Llangefni; a safle arddangos a gwerthu yng nghanolfan siopa Caeffynnon [''Wellfield''], Bangor.   
Gyda thŵf y busnes codwyd adeilad pwrpasol gydag ystafell arddangos ceir, adran gwerthu partiau ynghyd â chyfleusterau gwerthu tanwydd. Ymestynnwyd y busnes yn y 1960au i safleoedd eraill gan gynnwys ''Caernarfon Garage'', [[Bontnewydd]] (Siop ''Morrisons Daily'', 2023), ''Prince of Wales Garage'', Ffordd Bangor, Caernarfon (''Moduron Menai'', 2023), safle ''Dinas Garage'' ym Môn, ar Lon Glanhwfa, Llangefni; a safle arddangos a gwerthu yng nghanolfan siopa Caeffynnon [''Wellfield''], Bangor.   


Yn ystod yr 1970au a 1980au daeth y cwmni yn asiant i werthu ceir Ford a Vauxhall gan ddatblygu yn un o fusnesau cynnal a gwerthu cerbydau mwyaf yr ardal. Mae hysbyseb yn 1984 yn nodi enwau’r staff gwerthu ceir sef - Peter Thomas, H.H.Parry, Ronnie Hughes, Owen Pritchard, Peris Wyn Jones, Miss Menna Williams<ref>''Caernarvon & Denbigh Herald'', Tachwedd 27,1987.</ref>. Erbyn dechrau’r 1990au roedd y cwmni yn cyflogi mwy na thri deg o staff<ref>''Caernarvon & Denbigh Herald'', 17 Gorffennaf,1992.</ref> a bu angen adeiladu ystafell arddangos ychwanegol a gweithdai cynnal ceir newydd ar y safle yn Llanwnda. Chwalwyd y modurdy gwreiddiol i godi adeiladu manwerthu yn 2001<ref>Cais Cynllunio Cyngor Gwynedd, C00A/0580/24/LL, 3 Tachwedd, 2000</ref>.
[[Delwedd:StaffDinasGarage1953.jpeg|bawd|600px|canol|Staff Dinas Garage,1953:O'r chwith i'r dde:-William Povey, Tomi Williams, Tom Humphreys, Tom Williams, Harry Parry (rheolwr), Owen Thomas (swyddfa), Richard Prichard, Jack Usher:Llun - eiddo William Parry]]
 
Yn ystod yr 1970au a 1980au daeth y cwmni yn asiant i werthu ceir Ford a Vauxhall gan ddatblygu yn un o fusnesau cynnal a gwerthu cerbydau mwyaf yr ardal. Mae hysbyseb yn 1984 yn nodi enwau’r staff gwerthu ceir sef - Peter Thomas, H.H.Parry, Ronnie Hughes, Owen Pritchard, Peris Wyn Jones, Miss Menna Williams<ref>''Caernarvon & Denbigh Herald'', Tachwedd 27,1987.</ref>. Erbyn dechrau’r 1990au roedd y cwmni yn cyflogi mwy na thri deg o staff<ref>''Caernarvon & Denbigh Herald'', 17 Gorffennaf,1992.</ref> a bu angen adeiladu ystafell arddangos ychwanegol a gweithdai cynnal ceir newydd ar y safle yn Llanwnda. Chwalwyd y modurdy gwreiddiol i godi adeilad manwerthu yn 2001<ref>Cais Cynllunio Cyngor Gwynedd, C00A/0580/24/LL, 3 Tachwedd, 2000</ref>.


Yn dilyn marwolaeth H.H.Parry a’i fab yng nghyfraith Peter Thomas trosglwyddwyd y busnes garej i ‘Slaters’ (2006)<ref>Cofnod ''Tŷ’r Cwmnïau'',25 Hydref, 2006.</ref>- un o’r cwmnïau gwerthu a chynnal ceir mwyaf yn y rhanbarth. Defnyddiwyd yr uned manwerthu gan siop dillad ac offer gweithgarwch awyr agored (''Gelert'' hyd 2012, ''Millets'' hyd 2022, wedyn ''Go Outdoors''). Defnyddir yr hen weithdai gan gwmni ''Byw Bywyd'' sy’n gwerthu a llogi offer all helpu pobl hŷn a phobl anabl. Erys rhan o’r safle at ddefnydd ''Moduron Menai'' gwerthwyr ceir ail law a’i berchennog Dylan Thomas, ŵyr i H.H.Parry - mae rhan o’r safle felly yn parhau ym meddiant disgynnydd un o’i sefydlwyr dros 90 o flynyddoedd yn ôl.<ref>Gwybodaeth deuluol, Chwefror 2023, gyda diolch i William Parry a Morfydd Thomas.</ref>.
Yn dilyn marwolaeth H.H.Parry a’i fab yng nghyfraith Peter Thomas trosglwyddwyd y busnes garej i ‘Slaters’ (2006)<ref>Cofnod ''Tŷ’r Cwmnïau'',25 Hydref, 2006.</ref>- un o’r cwmnïau gwerthu a chynnal ceir mwyaf yn y rhanbarth. Defnyddiwyd yr uned manwerthu gan siop dillad ac offer gweithgarwch awyr agored (''Gelert'' hyd 2012, ''Millets'' hyd 2022, wedyn ''Go Outdoors''). Defnyddir yr hen weithdai gan gwmni ''Byw Bywyd'' sy’n gwerthu a llogi offer all helpu pobl hŷn a phobl anabl. Erys rhan o’r safle at ddefnydd ''Moduron Menai'' gwerthwyr ceir ail law a’i berchennog Dylan Thomas, ŵyr i H.H.Parry - mae rhan o’r safle felly yn parhau ym meddiant disgynnydd un o’i sefydlwyr dros 90 o flynyddoedd yn ôl.<ref>Gwybodaeth deuluol, Chwefror 2023, gyda diolch i William Parry a Morfydd Thomas.</ref>.

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:36, 23 Chwefror 2023

Sefydlwyd y busnes gwreiddiol Dinas Garage, Llanwnda ym 1931[1] gan y brodyr Harry Hywel Parry (1913-1991) a Robert Hughes Parry (1917- 1983). Ar y pryd roedd y ddau yn gweithio i fusnes cludo eu tad ‘J.H.Parry and Sons’[2]. Wrth drin y fflyd loriau cludo da byw a chynnyrch amaethyddol magwyd eu sgiliau cynnal cerbydau yn gynnar. Sefydlwyd eu gweithdy cyntaf mewn garej cyfagos i’w cartref - Glyndŵr, Rhos-isaf.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gweithiodd H.H.Parry yn y diwydiant cynhyrchu rhannau awyrennau[3] gan fagu sgiliau peirianyddol ychwanegol. Yn y 1940au[4] prynwyd llain o dir yn Llanwnda ger y briffordd i Gaernarfon - rhwng llinell Rheilffordd Ucheldir Cymru a rhes newydd o dai a adeiladwyd gyferbyn â Menai View a Thafarn y Mount Pleasant. Bu’r safle yn flaenorol yn lleoliad garej i gwmni bysiau lleol o Garmel.

Dinas Garage,Llanwnda,1953:Llun,eiddo William Parry

Dros amser, bu R.H.Parry yn arwain ar y busnes cludo a’i frawd ar ddatblygu’r garej. Mae hysbysebion cynnar yn nodi ‘H.H.Parry, Automobile Engineer’[5] ac enw'r modurdy oedd ‘Dinas Garage’. O’r cychwyn gwerthwyd ceir ail-law cyn i’r busnes ddod yn asiant i gwmni cynhyrchu ceir newydd Austin a faniau Bedford (rhan o Vauxhall Motors). Gwerthwyd tractorau(David Brown), motobeics a beiciau ‘Ladies & Gents’ hefyd.

Gyda thŵf y busnes codwyd adeilad pwrpasol gydag ystafell arddangos ceir, adran gwerthu partiau ynghyd â chyfleusterau gwerthu tanwydd. Ymestynnwyd y busnes yn y 1960au i safleoedd eraill gan gynnwys Caernarfon Garage, Bontnewydd (Siop Morrisons Daily, 2023), Prince of Wales Garage, Ffordd Bangor, Caernarfon (Moduron Menai, 2023), safle Dinas Garage ym Môn, ar Lon Glanhwfa, Llangefni; a safle arddangos a gwerthu yng nghanolfan siopa Caeffynnon [Wellfield], Bangor.

Staff Dinas Garage,1953:O'r chwith i'r dde:-William Povey, Tomi Williams, Tom Humphreys, Tom Williams, Harry Parry (rheolwr), Owen Thomas (swyddfa), Richard Prichard, Jack Usher:Llun - eiddo William Parry

Yn ystod yr 1970au a 1980au daeth y cwmni yn asiant i werthu ceir Ford a Vauxhall gan ddatblygu yn un o fusnesau cynnal a gwerthu cerbydau mwyaf yr ardal. Mae hysbyseb yn 1984 yn nodi enwau’r staff gwerthu ceir sef - Peter Thomas, H.H.Parry, Ronnie Hughes, Owen Pritchard, Peris Wyn Jones, Miss Menna Williams[6]. Erbyn dechrau’r 1990au roedd y cwmni yn cyflogi mwy na thri deg o staff[7] a bu angen adeiladu ystafell arddangos ychwanegol a gweithdai cynnal ceir newydd ar y safle yn Llanwnda. Chwalwyd y modurdy gwreiddiol i godi adeilad manwerthu yn 2001[8].

Yn dilyn marwolaeth H.H.Parry a’i fab yng nghyfraith Peter Thomas trosglwyddwyd y busnes garej i ‘Slaters’ (2006)[9]- un o’r cwmnïau gwerthu a chynnal ceir mwyaf yn y rhanbarth. Defnyddiwyd yr uned manwerthu gan siop dillad ac offer gweithgarwch awyr agored (Gelert hyd 2012, Millets hyd 2022, wedyn Go Outdoors). Defnyddir yr hen weithdai gan gwmni Byw Bywyd sy’n gwerthu a llogi offer all helpu pobl hŷn a phobl anabl. Erys rhan o’r safle at ddefnydd Moduron Menai gwerthwyr ceir ail law a’i berchennog Dylan Thomas, ŵyr i H.H.Parry - mae rhan o’r safle felly yn parhau ym meddiant disgynnydd un o’i sefydlwyr dros 90 o flynyddoedd yn ôl.[10].

Cyfeiriadau

  1. Hysbeseb 4 Gorffennaf 1987, Herald Gymraeg yn nodi Established 1931.
  2. Roedd John Henry Parry (1876 -1951) yn rhedeg busnes cludo anifeiliaid o’i gartref Glyndŵr, [Rhos-isaf]] ac iard masnachu glo ger Gorsaf reilffordd Dinas.
  3. Gwybodaeth deuluol – bu H.H.Parry yn gweithio i gwmni [[ https://cy.wikipedia.org/wiki/NECACO_Llanberis]]/ Hunting Aviation Ltd. Symudwyd ei ffatri i Chwarel Dinorwig ym 1940 i’w warchod rhag bomio.
  4. Dyfarnwyd trwydded adeiladu (8/0/14308 - 9 Ionawr 1946) i godi blaen newydd i’r garej blaenorol a’r pensaer Arthur Hewitt o Landudno. Mae’r cynllun yn nodi ffordd gefn o’r garej at ffordd Dinas fel dihangfa mewn argyfwng – mae’r allanfa dal i’w weld rhwng cefn Gwenallt ac Ystâd Dinas.
  5. Hysbyseb North Wales Weekly News, Ionawr 8,1948.
  6. Caernarvon & Denbigh Herald, Tachwedd 27,1987.
  7. Caernarvon & Denbigh Herald, 17 Gorffennaf,1992.
  8. Cais Cynllunio Cyngor Gwynedd, C00A/0580/24/LL, 3 Tachwedd, 2000
  9. Cofnod Tŷ’r Cwmnïau,25 Hydref, 2006.
  10. Gwybodaeth deuluol, Chwefror 2023, gyda diolch i William Parry a Morfydd Thomas.