Pont Betws Garmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Saif '''Pont Betws Garmon''' (neu Pont y Betws) ar ffin [[Uwchgwyrfai]], dros [[Afon Gwyrfai]], yn cysylltu hen blwyfi [[Betws Garmon]] a [[Llanwnda]].
Saif '''Pont Betws Garmon''' (neu Pont y Betws) ar ffin [[Uwchgwyrfai]], dros [[Afon Gwyrfai]], yn cysylltu hen blwyfi [[Betws Garmon]] a [[Llanwnda]]. Bu pont yn y llecyn hwn yn weddol gynnar, gan fod adroddiadau bod y bont mewn cyflwr gwael ym 1660.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1660/</ref>


Ym 1776, adroddwyd wrth y [[Llys Chwarter]] fod yr hen bont yn "annigonol, yn anghyfleus ac angen ei hatgyweirio", a rhoddwyd contract i Henry Parry, saer melinau, o Foel-y-don, Ynys Môn, i'w hailadeiladu'n llwyr, gan ei lledu. Pont saith bwa oedd hi, ac yr oedd angen lledu'r ddau fwa mawr i 18, codi dau fwa newydd mwy, un ar bob ochr i'r bwáu mawr, a thri bwa llai ar lan Llanwnda o'r afon, 6, o led yr un. Y gost am y gwaith hwn oedd £250.<ref>Archifdy Gwynedd, XPlansB/168</ref>
Ym 1776, adroddwyd wrth y [[Llys Chwarter]] fod yr hen bont yn "annigonol, yn anghyfleus ac angen ei hatgyweirio", a rhoddwyd contract i Henry Parry, saer melinau, o Foel-y-don, Ynys Môn, i'w hailadeiladu'n llwyr, gan ei lledu. Pont saith bwa oedd hi, ac yr oedd angen lledu'r ddau fwa mawr i 18 troedfedd, codi dau fwa newydd mwy, un ar bob ochr i'r bwáu mawr, a thri bwa llai ar lan Llanwnda o'r afon, 6 throedfedd o led yr un. Y gost am y gwaith hwn oedd £250.<ref>Archifdy Gwynedd, XPlansB/168</ref>


Mae dyddiad ar y bont, sef 1777, ac enw Henry Parry ar garreg dan y bont.<ref>Gwefan British Listed Buildings, [https://britishlistedbuildings.co.uk/300003755-pont-y-betws-betws-garmon], cyrchwyd 9.6.2022</ref>
Mae dyddiad ar y bont, sef 1777, ac enw Henry Parry ar garreg dan y bont.<ref>Gwefan British Listed Buildings, [https://britishlistedbuildings.co.uk/300003755-pont-y-betws-betws-garmon], cyrchwyd 9.6.2022</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:24, 12 Chwefror 2023

Saif Pont Betws Garmon (neu Pont y Betws) ar ffin Uwchgwyrfai, dros Afon Gwyrfai, yn cysylltu hen blwyfi Betws Garmon a Llanwnda. Bu pont yn y llecyn hwn yn weddol gynnar, gan fod adroddiadau bod y bont mewn cyflwr gwael ym 1660.[1]

Ym 1776, adroddwyd wrth y Llys Chwarter fod yr hen bont yn "annigonol, yn anghyfleus ac angen ei hatgyweirio", a rhoddwyd contract i Henry Parry, saer melinau, o Foel-y-don, Ynys Môn, i'w hailadeiladu'n llwyr, gan ei lledu. Pont saith bwa oedd hi, ac yr oedd angen lledu'r ddau fwa mawr i 18 troedfedd, codi dau fwa newydd mwy, un ar bob ochr i'r bwáu mawr, a thri bwa llai ar lan Llanwnda o'r afon, 6 throedfedd o led yr un. Y gost am y gwaith hwn oedd £250.[2]

Mae dyddiad ar y bont, sef 1777, ac enw Henry Parry ar garreg dan y bont.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1660/
  2. Archifdy Gwynedd, XPlansB/168
  3. Gwefan British Listed Buildings, [1], cyrchwyd 9.6.2022