Craig y Cwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Craig y Cwm''' yn graig dros gan troedfedd o uchder ar fynydd canol [[Yr Eifl]] ([[Garn Ganol]]) uwchlaw pentref [[Trefor]]. Mae rhwng [[Braich y Cwm]] a'r [[Garnfor]] (neu Fynydd y Gwaith). Mae'n glogwyn tywyll a bygythiol yr olwg, yn enwedig ar dywydd stormus a gaeafol, a gall fod yn beryglus iawn, yn enwedig mewn niwl. Bu o leiaf un drychineb farwol ar Graig y Cwm. Ym 1887 fe wnaeth Thomas Jones, a oedd yn fforman yn [[Chwarel yr Eifl]] gerllaw, syrthio i'w dranc o ben y graig dan amgylchiadau na chafwyd eglurhad pendant arnynt. Roedd gwraig ffermdy Nant y Cwm (a oedd yn agos at droed y graig, ac sy'n furddun ers blynyddoedd bellach) yn digwydd bod allan ar y pryd pan glywodd sgrechfeydd o gyffiniau'r graig. Cafwyd hyd i'r corff yn ddiweddarach gydag anafiadau enbyd i'w ben. Roedd Thomas Jones yn briod ag Ellen (neu Elin), merch [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]], [[Llanaelhaearn]], ffermwr, pregethwr, bardd ac arlunydd ac un o brif sefydlwyr achos [[Capel y Babell (MC), Llanaelhaearn]].
Mae '''Craig y Cwm''' yn graig dros gan troedfedd o uchder ar fynydd canol [[Yr Eifl]] ([[Garn Ganol]]) uwchlaw pentref [[Trefor]]. Mae rhwng [[Braich y Cwm]] a'r [[Garnfor]] (neu Fynydd y Gwaith). Mae'n glogwyn tywyll a bygythiol yr olwg, yn enwedig ar dywydd stormus a gaeafol, a gall fod yn beryglus iawn, yn enwedig mewn niwl. Bu o leiaf un drychineb farwol ar Graig y Cwm. Ym 1887 fe wnaeth Thomas Jones, a oedd yn fforman yn [[Chwarel yr Eifl]] gerllaw, syrthio i'w dranc o ben y graig dan amgylchiadau na chafwyd eglurhad pendant arnynt. Roedd gwraig ffermdy Nant y Cwm (a oedd yn agos at droed y graig, ac sy'n furddun ers blynyddoedd bellach) yn digwydd bod allan ar y pryd pan glywodd sgrechfeydd o gyffiniau'r graig. Cafwyd hyd i'r corff yn ddiweddarach gydag anafiadau enbyd i'w ben. Roedd Thomas Jones yn briod ag Ellen (neu Elin), merch [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]], [[Llanaelhaearn]], ffermwr, pregethwr, bardd ac arlunydd ac un o brif sefydlwyr achos [[Capel Babell (MC), Llanaelhaearn]].
 
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Damweiniau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:25, 29 Ionawr 2023

Mae Craig y Cwm yn graig dros gan troedfedd o uchder ar fynydd canol Yr Eifl (Garn Ganol) uwchlaw pentref Trefor. Mae rhwng Braich y Cwm a'r Garnfor (neu Fynydd y Gwaith). Mae'n glogwyn tywyll a bygythiol yr olwg, yn enwedig ar dywydd stormus a gaeafol, a gall fod yn beryglus iawn, yn enwedig mewn niwl. Bu o leiaf un drychineb farwol ar Graig y Cwm. Ym 1887 fe wnaeth Thomas Jones, a oedd yn fforman yn Chwarel yr Eifl gerllaw, syrthio i'w dranc o ben y graig dan amgylchiadau na chafwyd eglurhad pendant arnynt. Roedd gwraig ffermdy Nant y Cwm (a oedd yn agos at droed y graig, ac sy'n furddun ers blynyddoedd bellach) yn digwydd bod allan ar y pryd pan glywodd sgrechfeydd o gyffiniau'r graig. Cafwyd hyd i'r corff yn ddiweddarach gydag anafiadau enbyd i'w ben. Roedd Thomas Jones yn briod ag Ellen (neu Elin), merch Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, Llanaelhaearn, ffermwr, pregethwr, bardd ac arlunydd ac un o brif sefydlwyr achos Capel Babell (MC), Llanaelhaearn.