Elernion (tŷ a fferm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Tŷ sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw Elernion, yn ardal Trefor. Credir i’r adeilad a welir heddiw fod yn estyniad o hen adeilad oedd...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 12 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Tŷ sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw Elernion, yn ardal [[Trefor]].
Tŷ sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw '''Elernion''', yn ardal [[Trefor]], er bod neuadd ganoloesol gynharach ar y safle. Cafodd y tŷ presennol ei foderneiddio'n sylweddol yn ystod yr 20g gan golli llawer o'i nodweddion cynhenid.
   
   
Credir i’r adeilad a welir heddiw fod yn estyniad o hen adeilad oedd yno ynghynt, a chafodd ei adeiladu gan Humphrey Evans tua 1590. Dros amser, daeth y lle i ddwylo’r Glyniaid o Lynllifon trwy briodas merch Richard Evans gyda William Glynne yn yr ail ganrif ar bymtheg. Roedd y tŷ hefyd yn rhan o ystâd y Glyniaid o Blas Newydd, ac yna yn perthyn i’r Wyniaid o’r Wern, Penmorfa.
Y ddau deulu amlycaf yn ei hanes yn yr 17g oedd [[Glynniaid Glynllifon]] a [[Bryn Gwydion]] a'r Evansiaid, a oedd yn ddisgynyddion teulu stad Talhenbont yn Eifionydd. Cafwyd priodasau buddiol i'r ddwy ochr rhwng y teuluoedd hyn. Bu Richard Evans, Elernion, yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1625 - arwydd sicr o'i statws ymysg yr uchelwyr tiriog. Mae'n bosib mai ef a wnaeth lawer o'r gwaith o ailadeiladu'r hen dŷ neuadd canoloesol yn blasdy carreg cadarn gyda'i simneiau tal a nodweddai dai diwedd y cyfnod Elisabethaidd a dechrau'r cyfnod Stiwartaidd dilynol. Nid oedd gan y Richard Evans hwn fab a phriododd ei unig ferch a'i aeres â [[William Glynn]] o Lynllifon, a thrwy'r briodas hon mae'n debyg y llwyddwyd i grynhoi hen drefgordd Elernion yn un stad gryno. Mae'n debyg i William Glynn a'i wraig fyw ym mhlas Elernion ac efallai iddynt ychwanegu at y tŷ. Bu William yn Uchel Siryf ym 1634 a'i fab Richard ym 1665. Fel mwyafrif uchelwyr Sir Gaernarfon mae'n debyg iddynt gefnogi achos y brenin yn Rhyfel Cartref Lloegr, er bod tystiolaeth i filwyr y Weriniaeth fynnu llety yn Elernion ar un adeg - yn groes i ddymuniadau'r perchennog mae bron yn sicr.
 
Mae’r adeilad hynafol hwn yn dyddio cyn belled a’r unfed ganrif ar bymtheg o leiaf.
Daeth cangen Glyniaid Elernion i ben yn y ddeunawfed ganrif. Yr olaf ohonynt oedd [[Ellen Glynn]], a sefydlodd yr [[Tai Ellen Glynn|elusendai]] yn [[Llandwrog]] sy'n dwyn ei henw o hyd. Ar ei marwolaeth aeth Elernion yn eiddo i'w chyfnither, Catherine Goodman, a oedd yn ferch i fasnachwr o Fiwmares. Priododd Catherine wedyn â William Wynne o stad Y Wern, Penmorfa. Gosodwyd Elernion i nifer o wahanol denantiaid yn ystod y 18g. Bu [[Richard Nanney]], rheithor [[Clynnog-fawr]] a phregethwr grymus a oedd yn gwyro at y Methodistiaid, yn byw yno am gyfnod yn nechrau'r 18g ac yn ôl yr Asesiad Treth Tir y tenant ym 1770 oedd un John Griffith. Ym 1785 gwerthwyd Elernion, ynghyd â fferm Penllechog gerllaw (lle roedd hefyd un o [[Melin Penllechog|felinau'r hen drefgordd]]), gan stad y Wern i stad y Weirglodd Fawr (Broom Hall yn ddiweddarach), a ddaeth yn un o stadau mwyaf Eifionydd erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.<ref>Gwilym Owen, ''Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl'', (Penrhyndeudraeth, 1972), tt.12-16. Seiliwyd llawer o'r sylwadau uchod ar wybodaeth am Elernion (yn Saesneg) a anfonwyd at Mr a Mrs Darbishire, Plas yr Eifl, Trefor gan W. Ogwen Williams, cyn archifydd Sir Gaernarfon a darlithydd yng Nholeg y Brifysgol, Aberystwyth; gweler hefyd, Colin A. Gresham, ''Eifionydd'', (Caerdydd, 1973), t.134.</ref>
==Ffynonellau==


[https://www.britishlistedbuildings.co.uk/300004296-elernion-llanaelhaearn Cofnod o’r lle hwn ar wefan ‘British Listed Buildings’.]
Ym 1950 prynwyd fferm Elernion gan Charles S. Darbishire, Plas yr Eifl, Trefor. Penodwyd beiliff i ofalu am y fferm ac, ysywaeth, cafodd yr hen dŷ o'r unfed a'r ail ganrif ar bymtheg ei dynnu i lawr i bob pwrpas a'i foderneiddio'n sylweddol. Ers blynyddoedd bellach mae'r tŷ wedi ei rannu'n ddwy uned ac oddeutu deg mlynedd ar hugain yn ôl daeth y fferm i ben fel uned amaethyddol gyda'r tir yn cael ei rannu a'i werthu i wahanol berchnogion newydd.


[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/26427/details/elernion-trevor  Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol.]
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori: Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Ffermydd]]
[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Tai nodedig]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:22, 28 Ionawr 2023

Tŷ sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw Elernion, yn ardal Trefor, er bod neuadd ganoloesol gynharach ar y safle. Cafodd y tŷ presennol ei foderneiddio'n sylweddol yn ystod yr 20g gan golli llawer o'i nodweddion cynhenid.

Y ddau deulu amlycaf yn ei hanes yn yr 17g oedd Glynniaid Glynllifon a Bryn Gwydion a'r Evansiaid, a oedd yn ddisgynyddion teulu stad Talhenbont yn Eifionydd. Cafwyd priodasau buddiol i'r ddwy ochr rhwng y teuluoedd hyn. Bu Richard Evans, Elernion, yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1625 - arwydd sicr o'i statws ymysg yr uchelwyr tiriog. Mae'n bosib mai ef a wnaeth lawer o'r gwaith o ailadeiladu'r hen dŷ neuadd canoloesol yn blasdy carreg cadarn gyda'i simneiau tal a nodweddai dai diwedd y cyfnod Elisabethaidd a dechrau'r cyfnod Stiwartaidd dilynol. Nid oedd gan y Richard Evans hwn fab a phriododd ei unig ferch a'i aeres â William Glynn o Lynllifon, a thrwy'r briodas hon mae'n debyg y llwyddwyd i grynhoi hen drefgordd Elernion yn un stad gryno. Mae'n debyg i William Glynn a'i wraig fyw ym mhlas Elernion ac efallai iddynt ychwanegu at y tŷ. Bu William yn Uchel Siryf ym 1634 a'i fab Richard ym 1665. Fel mwyafrif uchelwyr Sir Gaernarfon mae'n debyg iddynt gefnogi achos y brenin yn Rhyfel Cartref Lloegr, er bod tystiolaeth i filwyr y Weriniaeth fynnu llety yn Elernion ar un adeg - yn groes i ddymuniadau'r perchennog mae bron yn sicr.

Daeth cangen Glyniaid Elernion i ben yn y ddeunawfed ganrif. Yr olaf ohonynt oedd Ellen Glynn, a sefydlodd yr elusendai yn Llandwrog sy'n dwyn ei henw o hyd. Ar ei marwolaeth aeth Elernion yn eiddo i'w chyfnither, Catherine Goodman, a oedd yn ferch i fasnachwr o Fiwmares. Priododd Catherine wedyn â William Wynne o stad Y Wern, Penmorfa. Gosodwyd Elernion i nifer o wahanol denantiaid yn ystod y 18g. Bu Richard Nanney, rheithor Clynnog-fawr a phregethwr grymus a oedd yn gwyro at y Methodistiaid, yn byw yno am gyfnod yn nechrau'r 18g ac yn ôl yr Asesiad Treth Tir y tenant ym 1770 oedd un John Griffith. Ym 1785 gwerthwyd Elernion, ynghyd â fferm Penllechog gerllaw (lle roedd hefyd un o felinau'r hen drefgordd), gan stad y Wern i stad y Weirglodd Fawr (Broom Hall yn ddiweddarach), a ddaeth yn un o stadau mwyaf Eifionydd erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.[1]

Ym 1950 prynwyd fferm Elernion gan Charles S. Darbishire, Plas yr Eifl, Trefor. Penodwyd beiliff i ofalu am y fferm ac, ysywaeth, cafodd yr hen dŷ o'r unfed a'r ail ganrif ar bymtheg ei dynnu i lawr i bob pwrpas a'i foderneiddio'n sylweddol. Ers blynyddoedd bellach mae'r tŷ wedi ei rannu'n ddwy uned ac oddeutu deg mlynedd ar hugain yn ôl daeth y fferm i ben fel uned amaethyddol gyda'r tir yn cael ei rannu a'i werthu i wahanol berchnogion newydd.

Cyfeiriadau

  1. Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, (Penrhyndeudraeth, 1972), tt.12-16. Seiliwyd llawer o'r sylwadau uchod ar wybodaeth am Elernion (yn Saesneg) a anfonwyd at Mr a Mrs Darbishire, Plas yr Eifl, Trefor gan W. Ogwen Williams, cyn archifydd Sir Gaernarfon a darlithydd yng Nholeg y Brifysgol, Aberystwyth; gweler hefyd, Colin A. Gresham, Eifionydd, (Caerdydd, 1973), t.134.