Parc Dudley, Betws Garmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llifon (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |

(Ni ddangosir y 16 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Parc | Mae '''Parc Dudley''' ym mhen deheuol llechwedd a adwaenir fel Yr Alltgoed Mawr, erbyn hyn ym mhlwyf [[Betws Garmon]] (ond yn y gorffennol, ym mhlwyf [[Llanwnda]]) ar gyrion Y Waunfawr, Arfon. Sefydlwyd chwarel yno (yn wreiddiol fel Dudley Park <ref>Cof Lleol</ref> ganol y 19g a daeth y gwaith hwnnw i ben yn nechrau’r 1950au. Fe esgeuluswyd y safle am gyfnod gyda’r hen gyfarpar yn sefyll yn segur nes ei ddynodi yn Warchodfa Natur Leol ym 1994. Ysbeiliwyd llawer o’r "sets" a oedd yn weddill yn raddol gan y cyhoedd, er fod llawer i’w gweld yno o hyd yn y mannau uchaf mwy diarffordd. | ||
==Hanes y Parc a tharddiad yr enw== | |||
Rhwng y 1800au a 1950, [[Chwarel Parc Dudley|chwarel carreg ithfaen]] oedd ar y safle hwn, ac roedd lein fach [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]] yn cludo cerrig o'r chwarel ar draws y wlad. Gellir gweld nodweddion yr hen chwarel, fel hen olwynion pwli neu olion wagenni, ar y safle o hyd. | |||
Cwmni o'r enw Dudley Park Quarries Ltd o ganolbarth Lloegr oedd perchennog y chwarel o gwmpas y flwyddyn 1928, a dyna o ble daeth yr enw Parc Dudley. | |||
==Hanes blaenorol== | ==Hanes blaenorol== | ||
Yn ôl map y degwm [[https://lleoedd.llyfrgell.cymru/browse/53.101/-4.205/15?page=1&alt=]] perthynai’r safle i fferm Cilfechydd | Yn ôl map y degwm [[https://lleoedd.llyfrgell.cymru/browse/53.101/-4.205/15?page=1&alt=]] perthynai’r safle i fferm Cilfechydd gyfagos. Y Parc a Chae Nant yw’r ddwy fferm arall sydd yn cyd-derfynu â’r safle. Perchen Cilfechydd yng nghyfnod y Degwm tua 1840 oedd John Griffith Griffith a’r sawl a breswyliai yno oedd William Evans. Cofnodwyd enwau a defnydd parseli’r map Degwm sydd yn cyd-fynd â 44 erw y Warchodfa Leol heddiw fel a ganlyn (o waelod y llechwedd i fyny): Caer Dderwen [sic.], "arable"; Cae’r Clogwyn, "pasture"; Cae Canol, "pasture". Er mai coed yw natur y safle heddiw at ei gilydd, awgryma’r disgrifiadau hyn yn gryf nad coed oedd y llystyfiant pennaf ar y pryd. Gellir tybio ymhellach na oddefid coed chwaith yng nghyfnod anterth y chwarel. | ||
Dyma enwau a defnydd y caeau eraill dan berchnogaeth Cilfechydd | Dyma enwau a defnydd y caeau eraill dan berchnogaeth Cilfechydd a oedd yn cyd-derfynu â’r safle yn ôl y map Degwm: Cae Pen Ceunant, "arable"; Llain Garn, "arable"; Cae Newydd, "pasture"; Fron, "pasture"; Cae Saer, "arable" (enw a allai olygu presenoldeb cyfagos o goed gwasgaredig neu mewn oes flaenorol - cyf. Yr Alltgoed Mawr lle ceir un cyfeiriad at "plantation" ymysg nifer o barseli â disgrifiadau tebyg i’r uchod). | ||
Awgryma | Awgryma tystiolaeth y Degwm mai partrwm o dyddynnod bychain yn cael eu cynnal drwy anifeiliaid yn pori, a thyfu cnydau ar fân gaeau a ffridd, am yn ail â llechweddau lled-goediog, oedd yma cyn y chwarel. Mae’r goedlan fel y mae heddiw yn drwch o goed eilradd gydag ond ychydig iawn o goed o faint safonol. Ceir ffridd fwy agored yn y mannau uchaf. | ||
==Gwarchodfa Natur Leol Parc Dudley== | ==Gwarchodfa Natur Leol Parc Dudley== | ||
Mae Gwarchodfa Natur Leol Parc Dudley yn ymestyn o lawr dyffryn Gwyrfai hyd at lethrau Moel Smytho sydd o'ch blaen. | Mae Gwarchodfa Natur Leol Parc Dudley yn ymestyn o lawr dyffryn Gwyrfai hyd at lethrau Moel Smytho sydd o'ch blaen. | ||
Drwy ddilyn y prif lwybrau o amgylch y warchodfa, | Drwy ddilyn y prif lwybrau o amgylch y warchodfa, gellwch ddod o hyd i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt lleol. Bydd Llwybr Gwern yn mynd â chi ar daith tua 150medr gweddol wastad sydd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Neu, os ydych am weld rhagor ar y tirlun lleol, beth am fentro ar hyd cylchdaith Llwybr y Goedlan sydd oddeutu 1 cilomedr o hyd ac a fydd yn mynd â chi ar daith drwy rai o gynefinoedd pwysicaf y Parc<ref>Hysbysfwrdd ar y safle (2018) gan Gyngor Gwynedd</ref>. | ||
== | ==Bywyd Gwyllt== | ||
Mae coedwig Parc Dudley yn nghil yr haul (cyf. enw fferm “Cilhaul” heb fod ymhell i ffwrdd) mewn ardal o law uchel. Golyga hynny ei bod yn enghraifft o “Fforest-law Dymherus” wlyb a thywyll, math o goedlan sy'n brin yng ngogledd Gwynedd ac yn fwy nodweddiadol o ardal Ardudwy ym Meirionnydd. Mae’r rhedynach teneuwe ‘’Hymenophyllum wilsonii’’ a’r mwsogl ‘’Bazzania trilobata” yn nodweddu’r math yma o gynefin. | |||
Detholiad o rywogaethau nodweddiadol:

Cyffylog

Cog

Cnocell Werdd

Cnocell fraith

Telor y cnau

Gwybedog brith

Gwiber (yn ôl y mân hysbysfyrddau)

Ystlum pedol lleiaf (yn ôl y mân hysbysfyrddau)

Rhedynach teneuwe Wilsonii

Mae'r Parc yn hafan ddiogel i sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt, ac mae cynefinoedd pwysig fel y goedlan lydanddail, a'r ffridd ar ran uchaf y warchodfa, yn cael eu rheoli. Daw'r gwybedog brith yma o'r Affrig i nythu bob blwyddyn, ac mae nifer o greaduriaid cyfarwydd fel y mochyn daear, ysgyfarnog, a chnocell y coed wedi ymgartrefu yma, yn ogystal â sawl rhywogaeth o fwsogl, cen a llysiau'r afu. | |||
Oherwydd pwysigrwydd y cynefinoedd hyn i fywyd gwyllt lleol, ac i warchod y safle rhag cael ei ddatblygu, cafodd y llain tir 44 erw hwn ei ddynodi yn Warchodfa Natur Leol ym 1994. Cyngor Gwynedd sy'n rheoli Parc Dudley er mwyn i chi allu mwynhau'r awyr agored a'r bywyd gwyllt lleol<ref>Hysbysfwrdd ar y safle (2018) gan Gyngor Gwynedd</ref> | |||
==Amodau ymweld== | |||
Ni chaniateir crwydro oddi ar y llwybrau swyddogol. Dylid cadw arolygaeth glos ar blant a dilyn y Côd Cefn Gwlad. | |||
==Fynonellau== | |||
[[Categori:Safleoedd nodedig]] | |||
[[Categori:Chwareli]] | |||
[[Categori:Chwareli ithfaen]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 20:24, 1 Rhagfyr 2022
Mae Parc Dudley ym mhen deheuol llechwedd a adwaenir fel Yr Alltgoed Mawr, erbyn hyn ym mhlwyf Betws Garmon (ond yn y gorffennol, ym mhlwyf Llanwnda) ar gyrion Y Waunfawr, Arfon. Sefydlwyd chwarel yno (yn wreiddiol fel Dudley Park [1] ganol y 19g a daeth y gwaith hwnnw i ben yn nechrau’r 1950au. Fe esgeuluswyd y safle am gyfnod gyda’r hen gyfarpar yn sefyll yn segur nes ei ddynodi yn Warchodfa Natur Leol ym 1994. Ysbeiliwyd llawer o’r "sets" a oedd yn weddill yn raddol gan y cyhoedd, er fod llawer i’w gweld yno o hyd yn y mannau uchaf mwy diarffordd.
Hanes y Parc a tharddiad yr enw
Rhwng y 1800au a 1950, chwarel carreg ithfaen oedd ar y safle hwn, ac roedd lein fach Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru yn cludo cerrig o'r chwarel ar draws y wlad. Gellir gweld nodweddion yr hen chwarel, fel hen olwynion pwli neu olion wagenni, ar y safle o hyd.
Cwmni o'r enw Dudley Park Quarries Ltd o ganolbarth Lloegr oedd perchennog y chwarel o gwmpas y flwyddyn 1928, a dyna o ble daeth yr enw Parc Dudley.
Hanes blaenorol
Yn ôl map y degwm [[1]] perthynai’r safle i fferm Cilfechydd gyfagos. Y Parc a Chae Nant yw’r ddwy fferm arall sydd yn cyd-derfynu â’r safle. Perchen Cilfechydd yng nghyfnod y Degwm tua 1840 oedd John Griffith Griffith a’r sawl a breswyliai yno oedd William Evans. Cofnodwyd enwau a defnydd parseli’r map Degwm sydd yn cyd-fynd â 44 erw y Warchodfa Leol heddiw fel a ganlyn (o waelod y llechwedd i fyny): Caer Dderwen [sic.], "arable"; Cae’r Clogwyn, "pasture"; Cae Canol, "pasture". Er mai coed yw natur y safle heddiw at ei gilydd, awgryma’r disgrifiadau hyn yn gryf nad coed oedd y llystyfiant pennaf ar y pryd. Gellir tybio ymhellach na oddefid coed chwaith yng nghyfnod anterth y chwarel.
Dyma enwau a defnydd y caeau eraill dan berchnogaeth Cilfechydd a oedd yn cyd-derfynu â’r safle yn ôl y map Degwm: Cae Pen Ceunant, "arable"; Llain Garn, "arable"; Cae Newydd, "pasture"; Fron, "pasture"; Cae Saer, "arable" (enw a allai olygu presenoldeb cyfagos o goed gwasgaredig neu mewn oes flaenorol - cyf. Yr Alltgoed Mawr lle ceir un cyfeiriad at "plantation" ymysg nifer o barseli â disgrifiadau tebyg i’r uchod).
Awgryma tystiolaeth y Degwm mai partrwm o dyddynnod bychain yn cael eu cynnal drwy anifeiliaid yn pori, a thyfu cnydau ar fân gaeau a ffridd, am yn ail â llechweddau lled-goediog, oedd yma cyn y chwarel. Mae’r goedlan fel y mae heddiw yn drwch o goed eilradd gydag ond ychydig iawn o goed o faint safonol. Ceir ffridd fwy agored yn y mannau uchaf.
Gwarchodfa Natur Leol Parc Dudley
Mae Gwarchodfa Natur Leol Parc Dudley yn ymestyn o lawr dyffryn Gwyrfai hyd at lethrau Moel Smytho sydd o'ch blaen.
Drwy ddilyn y prif lwybrau o amgylch y warchodfa, gellwch ddod o hyd i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt lleol. Bydd Llwybr Gwern yn mynd â chi ar daith tua 150medr gweddol wastad sydd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Neu, os ydych am weld rhagor ar y tirlun lleol, beth am fentro ar hyd cylchdaith Llwybr y Goedlan sydd oddeutu 1 cilomedr o hyd ac a fydd yn mynd â chi ar daith drwy rai o gynefinoedd pwysicaf y Parc[2].
Bywyd Gwyllt
Mae coedwig Parc Dudley yn nghil yr haul (cyf. enw fferm “Cilhaul” heb fod ymhell i ffwrdd) mewn ardal o law uchel. Golyga hynny ei bod yn enghraifft o “Fforest-law Dymherus” wlyb a thywyll, math o goedlan sy'n brin yng ngogledd Gwynedd ac yn fwy nodweddiadol o ardal Ardudwy ym Meirionnydd. Mae’r rhedynach teneuwe ‘’Hymenophyllum wilsonii’’ a’r mwsogl ‘’Bazzania trilobata” yn nodweddu’r math yma o gynefin.
Detholiad o rywogaethau nodweddiadol:
Cyffylog
Cog
Cnocell Werdd
Cnocell fraith
Telor y cnau
Gwybedog brith
Gwiber (yn ôl y mân hysbysfyrddau)
Ystlum pedol lleiaf (yn ôl y mân hysbysfyrddau)
Rhedynach teneuwe Wilsonii
Mae'r Parc yn hafan ddiogel i sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt, ac mae cynefinoedd pwysig fel y goedlan lydanddail, a'r ffridd ar ran uchaf y warchodfa, yn cael eu rheoli. Daw'r gwybedog brith yma o'r Affrig i nythu bob blwyddyn, ac mae nifer o greaduriaid cyfarwydd fel y mochyn daear, ysgyfarnog, a chnocell y coed wedi ymgartrefu yma, yn ogystal â sawl rhywogaeth o fwsogl, cen a llysiau'r afu.
Oherwydd pwysigrwydd y cynefinoedd hyn i fywyd gwyllt lleol, ac i warchod y safle rhag cael ei ddatblygu, cafodd y llain tir 44 erw hwn ei ddynodi yn Warchodfa Natur Leol ym 1994. Cyngor Gwynedd sy'n rheoli Parc Dudley er mwyn i chi allu mwynhau'r awyr agored a'r bywyd gwyllt lleol[3]
Amodau ymweld
Ni chaniateir crwydro oddi ar y llwybrau swyddogol. Dylid cadw arolygaeth glos ar blant a dilyn y Côd Cefn Gwlad.