Chwarel Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Chwarel lechi oedd ''Chwarel Tal-y-sarn'', ger pentref Talysarn heddiw. Roedd y chwarel hon ar wahân i Dorothea ar un cyfnod, a chredir iddi fod yn...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarel lechi oedd ''Chwarel Tal-y-sarn'', ger pentref [[Talysarn]] heddiw.
Chwarel lechi oedd '''Chwarel Tal-y-sarn''', ger pentref [[Tal-y-sarn]] heddiw. (SH 495534). O 1828 ymlaen defnyddid [[Rheilffordd Nantlle]] i gludo ei chynnyrch.


Roedd y chwarel hon ar wahân i Dorothea ar un cyfnod, a chredir iddi fod yn un o chwareli hynaf Dyffryn Nantlle. Roedd cant o chwarelwyr yn gyflogedig yno yn 1790, ac roeddynt yn cynhyrchu o leiaf 1,000 tunnell y flwyddyn. Roedd gwr o'r enw John Evans a'i bartneriaid wedi cael les ar dri thwll ar dir fferm 'Tal-y-sarn' yn 1802, cyn bodolaeth y pentref sy'n sefyll heddiw.  
Roedd y chwarel hon ar wahân i Dorothea ar un cyfnod, a chredir ei bod yn un o chwareli hynaf [[Dyffryn Nantlle]]. Roedd cant o chwarelwyr yn gyflogedig yno ym 1790, ac roeddynt yn cynhyrchu o leiaf 1,000 tunnell y flwyddyn. Roedd gŵr o'r enw [[John Evans, Chwarel Cilgwyn|John Evans]] a'i bartneriaid wedi cael les ar dri thwll ar dir fferm Tal-y-sarn ym 1802, cyn bodolaeth y pentref sy'n sefyll heddiw. Enwyd y cwmni a ffurfiwyd yn "[[Cwmni Llechi Tal-y-sarn|Gwmni Llechi Talysarn]]" (''Talysarn Slate Company'').  


Erbyn y 1830au, roedd techneg 'water balance' yn cael ei ddefnyddio yno, ac erbyn y 1840au roedd cynnyrch y chwarel o gwmpas 6,000 tunnell y flwyddyn. Roedd gostyngiad mawr yn fuan ar ôl hyn, ond erbyn y 1870au roedd pethau yn dechrau gwella yno. Yn ôl Dewi Tomos, roedd tua 500 o ddynion yn gweithio yno o gwmpas 1880 a chafwyd injan stem ac inclein yn y chwarel - arwydd addawol o'i lewyrch erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd John Robinson yn berchennog erbyn 1882, a chyflogwyd tua 400 o ddynion yn y chwarel yn ei gyfnod ef.  
Erbyn y 1830au, roedd techneg 'water balance' yn cael ei defnyddio yno, ac erbyn y 1840au roedd cynnyrch y chwarel o gwmpas 6,000 tunnell y flwyddyn. O tua 1846 tan 1857, [[George Bowness]] oedd yr asiant, nes iddo droi ei law at amaethu. Cafodd helyntion pan gododd ffrae ynglŷn â pherchnogaeth llechi ar y Cei yng Nghaernarfon; er nad oedd o wedi sbarduno pethau, mae'n debyg, aeth chwarelwyr y chwarel i lawr i'r Cei a rhaid oedd darllen y Ddeddf Derfysg.<ref>''North Wales Chronicle'', 17.1.1857</ref>


Diriywyd cynhyrchiant yno o gwmpas cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chaewyd hi yn 1926 - er hyn, roedd gwaith ar raddfa lai yno hyd 1945.  
Ceir manylion am holl gyfarpar a pheiriannau'r chwarel ym 1859 pan gyhoeddwyd prosbectws yn ceisio denu buddsoddwyr newydd i roi chwystrelliad o arian - tua £50,000 - yn y cwmni. Mae'r prosbectws ar gael ar y we, ac mae'n ddiddorol gan ei fod yn enwi sawl chwarel fach oedd yn rhan o'r fusnes, ac a aeth wedyn yn rhan o'r brif chwarel pan ehangwyd maint a dyfnder twll honno gan lyncu cloddfeydd llai y lleill. Y chwareli bach hyn oedd [[Ponc Rundell]] (neu "Rundell's Gallery"), [[Chwarel Onnen]] neu "Onen", [[Chwarel Biggs]] (neu'r "New Quarry") a [[Chwarel Lechi Ton]].<ref>Thomas Farries, ''A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice'' (Llundain, 1860), tt.1-9. Mae'r testun ar gael yma: [[https://books.google.co.uk/books?id=26sDAAAAQAAJ&pg=PT8&lpg=PT8&dq=%22Talysarn+Slate+Company%22&source=bl&ots=TfuOFk82n1&sig=ACfU3U2Gf1tTleMKzhhXjK-tPL_9lmP71A&hl=cy&sa=X&ved=2ahUKEwiS9-TxlrX7AhXiSkEAHaugBncQ6AF6BAgZEAM#v=onepage&q=%22Talysarn%20Slate%20Company%22&f=false]</ref>


Bu gostyngiad mawr yn fuan ar ôl hyn, ond erbyn y 1870au roedd pethau yn dechrau gwella yno, ac ym 1873 daeth nifer o dyllau chwarel at ei gilydd i ffurfio Cwmni Cyfyngedig Chwarel Lechi Tal-y-sarn; roedd y cwmni hefyd yn gweithio [[Chwarel y Fron]]. Yn ôl [[Dewi Tomos]], roedd tua 500 o ddynion yn gweithio yno o gwmpas 1880 a chafwyd injan stêm ac incléin yn y chwarel - arwydd addawol o'i llewyrch erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd [[John Robinson]] yn berchennog erbyn 1882, a chyflogwyd tua 400 o ddynion yn y chwarel yn ei gyfnod ef, gan droi allan 8210 tunnell o lechi mewn blwyddyn.


==Ffynhonnell==
Cofrestrwyd y cwmni'n ffurfiol ym 1904, pan oedd mab John Robinson, Thomas, wrth y llyw, a chafwyd yr hawl i gymryd [[Chwarel Fraich]], [[Cloddfa'r Coed]] a [[Chwarel Tan'rallt]] drosodd.<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.232</ref>


Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
Dirywiodd cynhyrchiant yno o gwmpas cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chaewyd hi ym 1926 - er hyn, cymerwyd hi drosodd gan [[Chwarel Dorothea]] yn y 1930au, ac roedd gwaith ar raddfa lai yno hyd 1945.<ref>Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)</ref><ref>Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'',(Newton Abbot, 1974), t. 331.</ref>


 
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Chwareli]]
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Chwareli llechi]]
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:29, 17 Tachwedd 2022

Chwarel lechi oedd Chwarel Tal-y-sarn, ger pentref Tal-y-sarn heddiw. (SH 495534). O 1828 ymlaen defnyddid Rheilffordd Nantlle i gludo ei chynnyrch.

Roedd y chwarel hon ar wahân i Dorothea ar un cyfnod, a chredir ei bod yn un o chwareli hynaf Dyffryn Nantlle. Roedd cant o chwarelwyr yn gyflogedig yno ym 1790, ac roeddynt yn cynhyrchu o leiaf 1,000 tunnell y flwyddyn. Roedd gŵr o'r enw John Evans a'i bartneriaid wedi cael les ar dri thwll ar dir fferm Tal-y-sarn ym 1802, cyn bodolaeth y pentref sy'n sefyll heddiw. Enwyd y cwmni a ffurfiwyd yn "Gwmni Llechi Talysarn" (Talysarn Slate Company).

Erbyn y 1830au, roedd techneg 'water balance' yn cael ei defnyddio yno, ac erbyn y 1840au roedd cynnyrch y chwarel o gwmpas 6,000 tunnell y flwyddyn. O tua 1846 tan 1857, George Bowness oedd yr asiant, nes iddo droi ei law at amaethu. Cafodd helyntion pan gododd ffrae ynglŷn â pherchnogaeth llechi ar y Cei yng Nghaernarfon; er nad oedd o wedi sbarduno pethau, mae'n debyg, aeth chwarelwyr y chwarel i lawr i'r Cei a rhaid oedd darllen y Ddeddf Derfysg.[1]

Ceir manylion am holl gyfarpar a pheiriannau'r chwarel ym 1859 pan gyhoeddwyd prosbectws yn ceisio denu buddsoddwyr newydd i roi chwystrelliad o arian - tua £50,000 - yn y cwmni. Mae'r prosbectws ar gael ar y we, ac mae'n ddiddorol gan ei fod yn enwi sawl chwarel fach oedd yn rhan o'r fusnes, ac a aeth wedyn yn rhan o'r brif chwarel pan ehangwyd maint a dyfnder twll honno gan lyncu cloddfeydd llai y lleill. Y chwareli bach hyn oedd Ponc Rundell (neu "Rundell's Gallery"), Chwarel Onnen neu "Onen", Chwarel Biggs (neu'r "New Quarry") a Chwarel Lechi Ton.[2]

Bu gostyngiad mawr yn fuan ar ôl hyn, ond erbyn y 1870au roedd pethau yn dechrau gwella yno, ac ym 1873 daeth nifer o dyllau chwarel at ei gilydd i ffurfio Cwmni Cyfyngedig Chwarel Lechi Tal-y-sarn; roedd y cwmni hefyd yn gweithio Chwarel y Fron. Yn ôl Dewi Tomos, roedd tua 500 o ddynion yn gweithio yno o gwmpas 1880 a chafwyd injan stêm ac incléin yn y chwarel - arwydd addawol o'i llewyrch erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd John Robinson yn berchennog erbyn 1882, a chyflogwyd tua 400 o ddynion yn y chwarel yn ei gyfnod ef, gan droi allan 8210 tunnell o lechi mewn blwyddyn.

Cofrestrwyd y cwmni'n ffurfiol ym 1904, pan oedd mab John Robinson, Thomas, wrth y llyw, a chafwyd yr hawl i gymryd Chwarel Fraich, Cloddfa'r Coed a Chwarel Tan'rallt drosodd.[3]

Dirywiodd cynhyrchiant yno o gwmpas cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chaewyd hi ym 1926 - er hyn, cymerwyd hi drosodd gan Chwarel Dorothea yn y 1930au, ac roedd gwaith ar raddfa lai yno hyd 1945.[4][5]

Cyfeiriadau

  1. North Wales Chronicle, 17.1.1857
  2. Thomas Farries, A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice (Llundain, 1860), tt.1-9. Mae'r testun ar gael yma: [[1]
  3. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.232
  4. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  5. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 331.