William Hughes (Glan Caeron): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganwyd '''William Henry Hughes''' (1856-1926), a ddaeth yn fwy adnabyddus fel “Glan Caeron”, yn Llanrhychwyn. Ei rieni oedd Hugh Hughes (g.1830) o Lan...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ganwyd '''William Henry Hughes''' (1856-1926), a ddaeth yn fwy adnabyddus fel “Glan Caeron”, yn Llanrhychwyn. Ei rieni oedd Hugh Hughes (g.1830) o Lanrhychwyn a Jane, a oedd wedi ei geni yn Nhreffynnon.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanrwst, 1861</ref>
[[Delwedd:Glan Caeron ym 1909.jpg|bawd|de|300px|Glan Caeron gyda choron Eisteddfod y Wladfa, 1909]]


Erbyn 1871 yr oedd y teulu wedi symud i un o ddau dŷ Glasfryn, ger [[Bwlch-y-llyn]]. Cafodd y tad, brawd hynaf William (sef David) ac yntau waith fel chwarelwyr llechi.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1871</ref> Yn ystod ei gyfnod yng nghwarel [[Chwarel Pen-yr-orsedd|Pen-yr-orsedd]], ei bartner oedd [[John Roberts (Iolo Glan Twrog)]]. Yn y chwarel ei lysenw oedd “Wil Llanrwst”<ref>Gwefan Rootschat [https://www.rootschat.com/forum/index.php?topic=792537.0], cyrchwyd 25.10.2022</ref> Bu farw ei fam Jane rhwng 1871 ac 1881, ac ailbriododd ei dad â dynes o’r enw Mary. Yn y man cafwyd tri phlentyn arall, Dorothy, Robert ac Edith. <ref>''op.cit.'' Nodyn gan ei or-ŵyr, Edouardo</ref>
Ganwyd '''William Henry Hughes''' (1856-1926), (bardd a Dirprwy Archdderwydd Gorsedd y Wladfa) yn Llanrhychwyn, ond fe'i magwyd yn Nyffryn Nantlle. Daeth yn fwy adnabyddus fel “Glan Caeron”Ei rieni oedd Hugh Hughes (g.1830) o Lanrhychwyn a Jane, a oedd wedi ei geni yn Nhreffynnon.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanrwst, 1861</ref>


Mae’n debyg mai yn ystod ei gyfnod yn y chwarel y dechreuodd William Hughes farddoni o ddifrif ac yn y man fe fabwysiadwyd y ffugenw “Glan Caeron”. Dichon i’r enw ddeillio o enw ffermydd uwchben pentref [[Y Fron]] gyda’r enw Caeronwy - ac mae’n bosibl mai hen enw ar [[Afon Garth]] oedd [[Afon Caeron]]. Anfonodd sawl darn, megis penillion ar farwolaeth y bardd Trebor Mai, i’r wasg yn ystod y 1870au.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 30.8.1877, t.3</ref>, ac ym 1878 fe’i hurddwyd i urdd Bardd yn orsedd “Eisteddfod Fawr y Cymry” yn Llanrwst, er, sylwer, nad yr Eisteddfod Genedlaethol oedd honno, gan i’r Eisteddfod Genedlaethol yn 1878 gael ei chynnal ym Mhenbedw.<ref>''Baner ac Amserau Cymru'', 10.8.1878</ref>. Serch hynny, roedd hynny’n gydnabyddiaeth sylweddol i ddyn 22 oed.
Erbyn 1871 yr oedd y teulu wedi symud i un o ddau dŷ Glasfryn, ger [[Bwlch-y-llyn]]. Cafodd y tad, brawd hynaf William (sef David) ac yntau waith fel chwarelwyr llechi.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1871</ref> Yn ystod ei gyfnod yn chwarel [[Chwarel Pen-yr-orsedd|Pen-yr-orsedd]], ei bartner oedd [[John Roberts (Iolo Glan Twrog)]]. Yn y chwarel ei lysenw oedd “Wil Llanrwst”.<ref>Gwefan Rootschat [https://www.rootschat.com/forum/index.php?topic=792537.0], cyrchwyd 25.10.2022</ref> Bu farw ei fam Jane rhwng 1871 ac 1881, ac ailbriododd ei dad â dynes o’r enw Mary. Yn y man cafwyd tri phlentyn arall, Dorothy, Robert ac Edith. <ref>''op.cit.'' Nodyn gan ei or-ŵyr, Edouardo</ref>


Yr un flwyddyn ag Eisteddfod Llanrwst, ymddangosodd cerdd yn y “Genedl Gymreig” dan y teitl “Myfanwy”, yn gyflwynedig i Glan Caeron gan y bardd [[David Thomas (Llwydiarth Môn)]] oedd yn byw ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]] ar y pryd.
Mae’n debyg mai yn ystod ei gyfnod yn y chwarel y dechreuodd William Hughes farddoni o ddifrif ac yn y man fe fabwysiadodd y ffugenw “Glan Caeron”. Dichon i’r enw ddeillio o enw ffermydd uwchben pentref [[Y Fron]] gyda’r enw Caeronwy - ac mae’n bosibl mai hen enw ar [[Afon Garth]] oedd [[Afon Caeron]]. Anfonodd sawl darn, megis penillion ar farwolaeth y bardd Trebor Mai, i’r wasg yn ystod y 1870au.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 30.8.1877, t.3</ref>, ac ym 1878 fe’i hurddwyd i urdd Bardd yn orsedd “Eisteddfod Fawr y Cymry” yn Llanrwst, er, sylwer, nad yr Eisteddfod Genedlaethol oedd honno, gan i’r Eisteddfod Genedlaethol yn 1878 gael ei chynnal ym Mhenbedw.<ref>''Baner ac Amserau Cymru'', 10.8.1878</ref>. Serch hynny, roedd hynny’n gydnabyddiaeth sylweddol i ddyn 22 oed.


Tra rhed afon Caeron ar ogwydd i'r eigion,  
Yr un flwyddyn ag Eisteddfod Llanrwst, ymddangosodd cerdd yn y “Genedl Gymreig” dan y teitl “Myfanwy”, yn gyflwynedig i Glan Caeron gan y bardd [[David Thomas (Llwydiarth Môn)]], a oedd yn byw ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]] ar y pryd.
Mi garaf yn ffyddlon y dirion fun deg;
Dy gwmni a hoffwn, am ennyd ddymunwn,-
Addefwn na chwynwn ychwaneg.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 5.12.1878, t.3</ref>


Fe erys y cwestiwn pwy oedd Myfanwy - ai dywedai neu gariad oedd hi, ynteu’n wraig - ac a oedd yr enw’n enw go iawn? Ysywaeth, ni ddaeth eglurhad hyd yma. Efallai fod yna awgrym yn llinell olaf y dyfyniad fod yna ffrae wedi codi rhyngddynt, pwy a ŵyr. Ni chafwyd yr un Myfanwy a allai fod yn wrthrych i’w serch yng nghofnodion y Cyfrifiad. Boed hynny fel y bo, ond am ryw reswm neu’i gilydd, erbyn 1881 roedd o wedi penderfynu gadael [[Dyffryn Nantlle]] gan symud i’r Wladfa ym Mhatagonia. Erbyn hynny, roedd yn lodjer yn nhŷ Evan Parry, ffermwr a groser,<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1881</ref> ac yn disgwyl am gychwyn ar ei daith yno. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo yng [[Capel Cesarea (MC), Y Fron|Nghapel Cesarea]] ar 2 Mai 1881<ref>''Baner ac Amserau Cymru'', 18.5.1881, t.7. Ysgrifennwyd yr adroddiad gan ei gyd-chwarelwr, Iolo Glan Twrog.</ref> Erbyn Tachwedd, roedd wedi cyrraedd y Wladfa, ar ôl teithio yno ar ei ben ei hun, gan fod adroddiad ar gael amdano’n annerch y gynulleidfa mewn cyngerdd er budd y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref Trerawson yn yr Ariannin.<ref>''Y Celt'', 27.1.1882, t.5</ref>
  Tra rhed afon Caeron ar ogwydd i'r eigion,  
  Mi garaf yn ffyddlon y dirion fun deg;
  Dy gwmni a hoffwn, am ennyd ddymunwn,-
  Addefwn na chwynwn ychwaneg.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 5.12.1878, t.3</ref>  


O hynny ymlaen, chwaraeodd ran amlwg ym mywyd y drefedigaeth, a barnu oddi wrth y mynych adroddiadau amdano yn y wasg yno. Ymddengys iddo weithio fel mwynwr am gyfnod, ac fe gafodd waith gan bapur newydd y Wladfa, “Y Drafod”. Erbyn 1897 roedd yn ysgolfeistr yn Ysgol Maes Teg, un o ddeg ysgol Gymreig yn y Wladfa, lle dysgid y Gymraeg yn ogystal â Sbaeneg.<ref>''North Wales Express'', 23.7.1897, t.5; ''Cymru’r Plant'', Awst 1898, t.27</ref> Parhâi i farddoni gydol yr amser a daeth gryn lwyddiant i’w ran fel un o brif feirdd y Wladfa. Enillodd gadair Eisteddfod y Wladfa bedair gwaith, ym 1883, 1892, 1893, a 1904. Fo hefyd enillodd y brif gystadleuaeth farddonol ym 1909 pan gyflwynwyd coron yn lle cadair.<ref>Gwefan “Cadeiriau Cymru”, [http://www.cadeiriau.cymru/rhestrau-o-enillwyr.html], cyrchwyd 27.10.2022</ref> Fe’i hetholwyd Glan Caeron yn Ddirprwy Archdderwydd Gorsedd y Wladfa.
Fe erys y cwestiwn pwy oedd Myfanwy - ai dyweddi neu gariad oedd hi, ynteu gwraig y bardd - ac a oedd yr enw’n enw rhywun go iawn? Ysywaeth, ni ddaeth eglurhad hyd yma. Efallai fod yna awgrym yn llinell olaf y dyfyniad fod yna ffrae wedi codi rhyngddynt, pwy a ŵyr. Ni chafwyd yr un Myfanwy a allai fod yn wrthrych i’w serch yng nghofnodion y Cyfrifiad. Boed hynny fel y bo, ond am ryw reswm neu’i gilydd, erbyn 1881 roedd o wedi penderfynu gadael [[Dyffryn Nantlle]] gan symud i’r Wladfa ym Mhatagonia. Erbyn hynny, roedd yn lodjer yn nhŷ Evan Parry, ffermwr a groser,<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1881</ref> ac yn disgwyl am gychwyn ar ei daith yno. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo yng [[Capel Cesarea (MC), Y Fron|Nghapel Cesarea]] ar 2 Mai 1881<ref>''Baner ac Amserau Cymru'', 18.5.1881, t.7. Ysgrifennwyd yr adroddiad gan ei gyd-chwarelwr, Iolo Glan Twrog.</ref> Erbyn Tachwedd, roedd wedi cyrraedd y Wladfa, ar ôl teithio yno ar ei ben ei hun, gan fod adroddiad ar gael amdano’n annerch y gynulleidfa mewn cyngerdd er budd y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref Trerawson yn yr Ariannin.<ref>''Y Celt'', 27.1.1882, t.5</ref>
 
O hynny ymlaen, chwaraeodd ran amlwg ym mywyd y drefedigaeth, a barnu oddi wrth y mynych adroddiadau amdano yn y wasg yno. Ymddengys iddo weithio fel mwynwr am gyfnod, ac fe gafodd waith gan bapur newydd y Wladfa, “Y Drafod”. Erbyn 1897 roedd yn ysgolfeistr yn Ysgol Maes Teg, un o ddeg ysgol Gymreig yn y Wladfa, lle dysgid y Gymraeg yn ogystal â Sbaeneg.<ref>''North Wales Express'', 23.7.1897, t.5; ''Cymru’r Plant'', Awst 1898, t.27</ref> Parhâi i farddoni gydol yr amser a daeth cryn lwyddiant i’w ran fel un o brif feirdd y Wladfa. Enillodd gadair Eisteddfod y Wladfa bedair gwaith, ym 1883, 1892, 1893, a 1904. Fo hefyd enillodd y brif gystadleuaeth farddonol ym 1909 pan gyflwynwyd coron yn lle cadair i'r buddugwr.<ref>Gwefan “Cadeiriau Cymru”, [http://www.cadeiriau.cymru/rhestrau-o-enillwyr.html], cyrchwyd 27.10.2022</ref> Hefyd etholwyd Glan Caeron yn Ddirprwy Archdderwydd Gorsedd y Wladfa.


Priododd ag Annie Jane Brunt (1870-1945) o Drefeglwys, Sir Drefaldwyn, ym 1890. Yr oedd rhai o deulu Brunt wedi ymfudo i’r Wladfa. Cafodd y pâr naw o blant i gyd.<ref>Gwefan My Heritage [https://www.myheritage.com/names/annie_brunt], cyrchwyd 27.10.2022</ref>
Priododd ag Annie Jane Brunt (1870-1945) o Drefeglwys, Sir Drefaldwyn, ym 1890. Yr oedd rhai o deulu Brunt wedi ymfudo i’r Wladfa. Cafodd y pâr naw o blant i gyd.<ref>Gwefan My Heritage [https://www.myheritage.com/names/annie_brunt], cyrchwyd 27.10.2022</ref>


Ceir disgrifiad ohono ym 1919 yn llywio cinio Gŵyl Dewi a fynychwyd gan rai o bobl fwyaf amlwg yn Nhrelew, sydd yn tystio i’w ymarweddiad cyhoeddus: roedd o, meddai’r sylwebydd, “fel arfer yn ffrydlif o ffraethineb a’i arabedd yn ddihysbydd”.<ref>''Y Drafod'', 7.3.1919, t.5</ref>
Ceir disgrifiad ohono ym 1919 yn llywio cinio Gŵyl Ddewi a fynychwyd gan rai o bobl amlycaf Trelew, sydd yn tystio i’w ymarweddiad cyhoeddus: roedd, meddai’r sylwebydd, “fel arfer yn ffrydlif o ffraethineb a’i arabedd yn ddihysbydd”.<ref>''Y Drafod'', 7.3.1919, t.5</ref>


Ymgartrefodd yn y diwedd yn Nolavon, ac fe’i claddwyd yno ym mynwent Capel Carmel, ym 1926.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ffacs 369/54; Wicipedia, erthygl ar Dolavon, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Dolavon], cyrchwyd 27.10.2022</ref>
Ymgartrefodd yn y diwedd yn Nolavon, ac fe’i claddwyd yno ym mynwent Capel Carmel, ym 1926.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ffacs 369/54; Wicipedia, erthygl ar Dolavon, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Dolavon], cyrchwyd 27.10.2022</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:42, 27 Hydref 2022

Glan Caeron gyda choron Eisteddfod y Wladfa, 1909

Ganwyd William Henry Hughes (1856-1926), (bardd a Dirprwy Archdderwydd Gorsedd y Wladfa) yn Llanrhychwyn, ond fe'i magwyd yn Nyffryn Nantlle. Daeth yn fwy adnabyddus fel “Glan Caeron”. Ei rieni oedd Hugh Hughes (g.1830) o Lanrhychwyn a Jane, a oedd wedi ei geni yn Nhreffynnon.[1]

Erbyn 1871 yr oedd y teulu wedi symud i un o ddau dŷ Glasfryn, ger Bwlch-y-llyn. Cafodd y tad, brawd hynaf William (sef David) ac yntau waith fel chwarelwyr llechi.[2] Yn ystod ei gyfnod yn chwarel Pen-yr-orsedd, ei bartner oedd John Roberts (Iolo Glan Twrog). Yn y chwarel ei lysenw oedd “Wil Llanrwst”.[3] Bu farw ei fam Jane rhwng 1871 ac 1881, ac ailbriododd ei dad â dynes o’r enw Mary. Yn y man cafwyd tri phlentyn arall, Dorothy, Robert ac Edith. [4]

Mae’n debyg mai yn ystod ei gyfnod yn y chwarel y dechreuodd William Hughes farddoni o ddifrif ac yn y man fe fabwysiadodd y ffugenw “Glan Caeron”. Dichon i’r enw ddeillio o enw ffermydd uwchben pentref Y Fron gyda’r enw Caeronwy - ac mae’n bosibl mai hen enw ar Afon Garth oedd Afon Caeron. Anfonodd sawl darn, megis penillion ar farwolaeth y bardd Trebor Mai, i’r wasg yn ystod y 1870au.[5], ac ym 1878 fe’i hurddwyd i urdd Bardd yn orsedd “Eisteddfod Fawr y Cymry” yn Llanrwst, er, sylwer, nad yr Eisteddfod Genedlaethol oedd honno, gan i’r Eisteddfod Genedlaethol yn 1878 gael ei chynnal ym Mhenbedw.[6]. Serch hynny, roedd hynny’n gydnabyddiaeth sylweddol i ddyn 22 oed.

Yr un flwyddyn ag Eisteddfod Llanrwst, ymddangosodd cerdd yn y “Genedl Gymreig” dan y teitl “Myfanwy”, yn gyflwynedig i Glan Caeron gan y bardd David Thomas (Llwydiarth Môn), a oedd yn byw ym Mhen-y-groes ar y pryd.


  Tra rhed afon Caeron ar ogwydd i'r eigion, 
  Mi garaf yn ffyddlon y dirion fun deg; 
  Dy gwmni a hoffwn, am ennyd ddymunwn,-
  Addefwn na chwynwn ychwaneg.[7] 

Fe erys y cwestiwn pwy oedd Myfanwy - ai dyweddi neu gariad oedd hi, ynteu gwraig y bardd - ac a oedd yr enw’n enw rhywun go iawn? Ysywaeth, ni ddaeth eglurhad hyd yma. Efallai fod yna awgrym yn llinell olaf y dyfyniad fod yna ffrae wedi codi rhyngddynt, pwy a ŵyr. Ni chafwyd yr un Myfanwy a allai fod yn wrthrych i’w serch yng nghofnodion y Cyfrifiad. Boed hynny fel y bo, ond am ryw reswm neu’i gilydd, erbyn 1881 roedd o wedi penderfynu gadael Dyffryn Nantlle gan symud i’r Wladfa ym Mhatagonia. Erbyn hynny, roedd yn lodjer yn nhŷ Evan Parry, ffermwr a groser,[8] ac yn disgwyl am gychwyn ar ei daith yno. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo yng Nghapel Cesarea ar 2 Mai 1881[9] Erbyn Tachwedd, roedd wedi cyrraedd y Wladfa, ar ôl teithio yno ar ei ben ei hun, gan fod adroddiad ar gael amdano’n annerch y gynulleidfa mewn cyngerdd er budd y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref Trerawson yn yr Ariannin.[10]

O hynny ymlaen, chwaraeodd ran amlwg ym mywyd y drefedigaeth, a barnu oddi wrth y mynych adroddiadau amdano yn y wasg yno. Ymddengys iddo weithio fel mwynwr am gyfnod, ac fe gafodd waith gan bapur newydd y Wladfa, “Y Drafod”. Erbyn 1897 roedd yn ysgolfeistr yn Ysgol Maes Teg, un o ddeg ysgol Gymreig yn y Wladfa, lle dysgid y Gymraeg yn ogystal â Sbaeneg.[11] Parhâi i farddoni gydol yr amser a daeth cryn lwyddiant i’w ran fel un o brif feirdd y Wladfa. Enillodd gadair Eisteddfod y Wladfa bedair gwaith, ym 1883, 1892, 1893, a 1904. Fo hefyd enillodd y brif gystadleuaeth farddonol ym 1909 pan gyflwynwyd coron yn lle cadair i'r buddugwr.[12] Hefyd etholwyd Glan Caeron yn Ddirprwy Archdderwydd Gorsedd y Wladfa.

Priododd ag Annie Jane Brunt (1870-1945) o Drefeglwys, Sir Drefaldwyn, ym 1890. Yr oedd rhai o deulu Brunt wedi ymfudo i’r Wladfa. Cafodd y pâr naw o blant i gyd.[13]

Ceir disgrifiad ohono ym 1919 yn llywio cinio Gŵyl Ddewi a fynychwyd gan rai o bobl amlycaf Trelew, sydd yn tystio i’w ymarweddiad cyhoeddus: roedd, meddai’r sylwebydd, “fel arfer yn ffrydlif o ffraethineb a’i arabedd yn ddihysbydd”.[14]

Ymgartrefodd yn y diwedd yn Nolavon, ac fe’i claddwyd yno ym mynwent Capel Carmel, ym 1926.[15]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanrwst, 1861
  2. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1871
  3. Gwefan Rootschat [1], cyrchwyd 25.10.2022
  4. op.cit. Nodyn gan ei or-ŵyr, Edouardo
  5. Y Genedl Gymreig, 30.8.1877, t.3
  6. Baner ac Amserau Cymru, 10.8.1878
  7. Y Genedl Gymreig, 5.12.1878, t.3
  8. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1881
  9. Baner ac Amserau Cymru, 18.5.1881, t.7. Ysgrifennwyd yr adroddiad gan ei gyd-chwarelwr, Iolo Glan Twrog.
  10. Y Celt, 27.1.1882, t.5
  11. North Wales Express, 23.7.1897, t.5; Cymru’r Plant, Awst 1898, t.27
  12. Gwefan “Cadeiriau Cymru”, [2], cyrchwyd 27.10.2022
  13. Gwefan My Heritage [3], cyrchwyd 27.10.2022
  14. Y Drafod, 7.3.1919, t.5
  15. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ffacs 369/54; Wicipedia, erthygl ar Dolavon, [4], cyrchwyd 27.10.2022