Cilmin Droed-ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 26 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Cilmin Droed-Ddu''' yn ffigwr chwedlonol a ymsefydlodd ar lan Afon Llifon ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Credir iddo fod yn benteulu ar deulu’r Glyniaid yn [[Glynllifon]] ac mae ei droed ddu yn symbol a ymddangosai ar arfbais y teulu.
Roedd '''Cilmin Droed-ddu''' yn ffigwr hanner-chwedlonol a ymsefydlodd ar lan Afon Llifon ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Credir mai ef oedd sylfaenydd llinach [[Teulu Glyn (Glynllifon)|teulu’r Glynniaid]] yng [[Glynllifon|Nglynllifon]] ac mae ei droed ddu yn symbol a welir ar arfbais y teulu. Ef hefyd oedd pennaeth y pedwerydd o Bymtheg Llwyth Gwynedd yn y Canol Oesoedd, yn ôl beirdd y 15g. a ymddiddorai mewn achyddiaeth. Er bod llawer o hen lawysgrifau sydd bellach wedi diflannu ar gael iddynt bryd hynny, mae'n debyg, credir i'r beirdd greu'r cysyniad o'r pymtheg llwyth mewn oes pan nad oedd hanes o reidrwydd yn seiliedig ar ffeithiau na ffynonellau cadarn, ond yn hytrach ar ddiddordeb mewn uchelwriaeth o dras.


===Chwedloniaeth===
===Chwedloniaeth===


Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo gan un o ddewiniaid yr ardal tua [[Thre’r Ceiri]], i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ond rhybuddiodd y dewin ef i gymryd gofal mawr wrth groesi'r ffrwd ar y ffordd i'r mynydd rhag i rywbeth ddigwydd iddo gan fod awdurdod y cythraul yn dod i ben yn y fan honno.  Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin i gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd afon Llifon gwlychodd ei droed yn y dŵr ac fe drodd yn ddu ac yn boenus.
Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo gan un o ddewiniaid yr ardal tua [[Tre'r Ceiri|Thre’r Ceiri]], i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ond rhybuddiodd y dewin ef i gymryd gofal mawr wrth groesi'r ffrwd ar y ffordd i'r mynydd rhag i rywbeth ddigwydd iddo gan fod awdurdod y cythraul yn dod i ben yn y fan honno.  Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin i gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd [[Afon Llifon]] gwlychodd ei droed yn y dŵr ac fe drodd yn ddu ac yn boenus.


Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y Bwlch Mawr, a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.
Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘[[Seler Ddu]]’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud wrtho nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y [[Bwlch Mawr]], a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.<ref>Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872). Mae un fersiwn o hanes [[Cilmin Droed-ddu]] yn honni mai yn y Seler Ddu y daeth o hyd i'r ffortiwn a oedd yn gychwyniad llewyrch [[Teulu Glynllifon]], er i'r hanes fel rheol gael ei briodoli i lethrau'r [[Yr Eifl|Eifl]]; Evan Lloyd Jones (Dinorwig), ''Llên y Werin yn Sir Gaernarfon'', ailargraffwyd yn ''Y Drych'' (21 Gorffennaf 1881), [https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3536296/3536299] </ref>


==Ffynonellau==
===Yr enw===


Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872).  
Mae'r enw Cilmin Droed-ddu yn galw am esboniad - fel mae'r chwedl uchod yn tystio. Cafwyd esboniad mwy 'gwyddonol' fodd bynnag gan y meddyg, y Dr Christie o Fangor, a awgrymodd y gallai'r madredd (''gangrene'') fod wedi bod yn gyfrifol am droi troed neu goes Cilmin yn ddu. Mewn oes ofergoelus a ofnai afiechydon heintus, byddai esboniad fel un y chwedl wedi bod yn fwy derbyniol, os nad yn wir yn fwy parchus, i gyfrif am goes ddu bonheddwr. Dichon felly mai ffug-esboniad gan y dyn ei hun oedd y chwedl!<ref>Atgof personol o sgwrs y Dr Christie</ref>


Beth bynnag yw'r gwir am darddiad yr enw, mae'r droed (neu'n hytrach llun o goes) ddu ar arfbais teulu Wynniaid Glynllifon hyd heddiw.
===Achau honedig===
Rhaid amau bodolaeth y Cilmin Droed-ddu chwedlonol fel person o gig a gwaed, ond dichon bod unigolyn o'r enw hwnnw wedi bodoli rywbryd tua'r flwyddyn 850 O.C.
Mae rhai achresi'n dweud mai nai i frenin Gwynedd, Merfyn Frych, oedd o.<ref>''Debrett's Peerage'', (Llundain, 1825), Cyf 2, t.1095</ref> Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn er 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Bu farw yn 844, ac fe'i dilynwyd gan Rhodri Mawr.<ref>Wicipedia, erthygl ar Merfyn Frych, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Merfyn_Frych], adalwyd, 23/07/2018.</ref> Os felly, Cilmin oedd cefnder y Brenin Rhodri Mawr. Honnir gan rai eto i Gilmin ymsefydlu yng Nglynllifon ar ôl symud (os nad ffoi) o ardal Cymbria, ond ymddengys hyn yn annhebygol os mai Merfyn oedd ei ewyrth: hwnnw felly a ddaeth, o bosibl, o Gymbria, neu Fanaw Gododdin, i Wynedd.
Dangosir ei ddisgynyddion yn yr achresi fel hyn:
<nowiki>
Lleon ap Cilmin
      |
    Llowarch
        |
      Iddig
        |
      Iddon
        |
    Dyfnaint
        |
      Gwrdyr
    ____|_______________________________________________________________________________________________
    |                  |                        |      |                                  |          |
    Morgeneu Ynad    Philip o Fodfan (Llandwrog) Madog  Ednywain (sylfaenydd y Glynniaid) Cynddelw  Caswallon   
</nowiki><ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.391</ref>
==Mannau cysylltiedig==
Er y credid gan y teulu fod stori Cilmin yn perthyn i gylch [[Yr Eifl]], honnir gan rai mai yng nghylch [[Y Seler Ddu]] ger [[Bwlch Derwin]] y cafodd Cilmin hyd i'w drysor. Fodd bynnag, ceir nant o'r enw [[Nant Cilmin]] ar lethrau'r [[Yr Eifl|Eifl]]. Noda J.E. Griffith fod ffynnon o'r enw [[Ffynnon Cilmin]] ar dir [[Plas Newydd, Llandwrog]] a gerllaw, meddai, gellid gweld olion hen dŷ lle trigai Cilmin.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.266</ref>
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori: Chwedloniaeth]]
[[Categori: Chwedloniaeth]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:44, 16 Awst 2022

Roedd Cilmin Droed-ddu yn ffigwr hanner-chwedlonol a ymsefydlodd ar lan Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog. Credir mai ef oedd sylfaenydd llinach teulu’r Glynniaid yng Nglynllifon ac mae ei droed ddu yn symbol a welir ar arfbais y teulu. Ef hefyd oedd pennaeth y pedwerydd o Bymtheg Llwyth Gwynedd yn y Canol Oesoedd, yn ôl beirdd y 15g. a ymddiddorai mewn achyddiaeth. Er bod llawer o hen lawysgrifau sydd bellach wedi diflannu ar gael iddynt bryd hynny, mae'n debyg, credir i'r beirdd greu'r cysyniad o'r pymtheg llwyth mewn oes pan nad oedd hanes o reidrwydd yn seiliedig ar ffeithiau na ffynonellau cadarn, ond yn hytrach ar ddiddordeb mewn uchelwriaeth o dras.

Chwedloniaeth

Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo gan un o ddewiniaid yr ardal tua Thre’r Ceiri, i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ond rhybuddiodd y dewin ef i gymryd gofal mawr wrth groesi'r ffrwd ar y ffordd i'r mynydd rhag i rywbeth ddigwydd iddo gan fod awdurdod y cythraul yn dod i ben yn y fan honno. Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin i gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd Afon Llifon gwlychodd ei droed yn y dŵr ac fe drodd yn ddu ac yn boenus.

Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud wrtho nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y Bwlch Mawr, a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.[1]

Yr enw

Mae'r enw Cilmin Droed-ddu yn galw am esboniad - fel mae'r chwedl uchod yn tystio. Cafwyd esboniad mwy 'gwyddonol' fodd bynnag gan y meddyg, y Dr Christie o Fangor, a awgrymodd y gallai'r madredd (gangrene) fod wedi bod yn gyfrifol am droi troed neu goes Cilmin yn ddu. Mewn oes ofergoelus a ofnai afiechydon heintus, byddai esboniad fel un y chwedl wedi bod yn fwy derbyniol, os nad yn wir yn fwy parchus, i gyfrif am goes ddu bonheddwr. Dichon felly mai ffug-esboniad gan y dyn ei hun oedd y chwedl![2]

Beth bynnag yw'r gwir am darddiad yr enw, mae'r droed (neu'n hytrach llun o goes) ddu ar arfbais teulu Wynniaid Glynllifon hyd heddiw.

Achau honedig

Rhaid amau bodolaeth y Cilmin Droed-ddu chwedlonol fel person o gig a gwaed, ond dichon bod unigolyn o'r enw hwnnw wedi bodoli rywbryd tua'r flwyddyn 850 O.C.

Mae rhai achresi'n dweud mai nai i frenin Gwynedd, Merfyn Frych, oedd o.[3] Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn er 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Bu farw yn 844, ac fe'i dilynwyd gan Rhodri Mawr.[4] Os felly, Cilmin oedd cefnder y Brenin Rhodri Mawr. Honnir gan rai eto i Gilmin ymsefydlu yng Nglynllifon ar ôl symud (os nad ffoi) o ardal Cymbria, ond ymddengys hyn yn annhebygol os mai Merfyn oedd ei ewyrth: hwnnw felly a ddaeth, o bosibl, o Gymbria, neu Fanaw Gododdin, i Wynedd.

Dangosir ei ddisgynyddion yn yr achresi fel hyn:

 Lleon ap Cilmin
       |
    Llowarch
        |
      Iddig
        |
      Iddon
        |
     Dyfnaint
        |
      Gwrdyr
     ____|_______________________________________________________________________________________________
     |                   |                        |       |                                  |          |
    Morgeneu Ynad    Philip o Fodfan (Llandwrog) Madog  Ednywain (sylfaenydd y Glynniaid) Cynddelw   Caswallon    
 
[5]

Mannau cysylltiedig

Er y credid gan y teulu fod stori Cilmin yn perthyn i gylch Yr Eifl, honnir gan rai mai yng nghylch Y Seler Ddu ger Bwlch Derwin y cafodd Cilmin hyd i'w drysor. Fodd bynnag, ceir nant o'r enw Nant Cilmin ar lethrau'r Eifl. Noda J.E. Griffith fod ffynnon o'r enw Ffynnon Cilmin ar dir Plas Newydd, Llandwrog a gerllaw, meddai, gellid gweld olion hen dŷ lle trigai Cilmin.[6]

Cyfeiriadau

  1. Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872). Mae un fersiwn o hanes Cilmin Droed-ddu yn honni mai yn y Seler Ddu y daeth o hyd i'r ffortiwn a oedd yn gychwyniad llewyrch Teulu Glynllifon, er i'r hanes fel rheol gael ei briodoli i lethrau'r Eifl; Evan Lloyd Jones (Dinorwig), Llên y Werin yn Sir Gaernarfon, ailargraffwyd yn Y Drych (21 Gorffennaf 1881), [1]
  2. Atgof personol o sgwrs y Dr Christie
  3. Debrett's Peerage, (Llundain, 1825), Cyf 2, t.1095
  4. Wicipedia, erthygl ar Merfyn Frych, [2], adalwyd, 23/07/2018.
  5. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.391
  6. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.266