George Farren: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''George Farren''' (1836-1901) yn reolwr [[Chwarel yr Eifl]], [[Trefor]]. Fe gafodd ei eni yn Llundain, yn fab hynaf bargyfreithiwr, yntau'n George Farren. Ar ôl derbyn hyfforddiant i fod yn bensaer, cafodd ei benodi gan gwmni adeiladu mawr Freeman, gan fod yn gyfrifol am y gwaith cerrig yn Nociau Surrey, ar oleudy Hanois ar Ynys Geurnsey, ac ar strwythurau ar Reilffordd Ymestynnol Gorllewin Llundain. O 1863 hyd 1867, cafodd waith fel rheolwr cyffredinol a pheiriannydd Cwmni Ithfaen Ynys Wair (Lundy).  
Roedd '''George Farren''' (1836-1901) yn reolwr [[Chwarel yr Eifl]], [[Trefor]]. Cafodd ei eni yn Llundain, yn fab hynaf bargyfreithiwr, yntau'n George Farren. Ar ôl derbyn hyfforddiant i fod yn bensaer, cafodd ei benodi gan gwmni adeiladu mawr Freeman, gan fod yn gyfrifol am y gwaith cerrig yn Nociau Surrey, goleudy Hanois ar Ynys Guernsey, a strwythurau ar Reilffordd Ymestynnol Gorllewin Llundain. O 1863 hyd 1867, cafodd waith fel rheolwr cyffredinol a pheiriannydd Cwmni Ithfaen Ynys Wair (Lundy).  


Ym 1868, cafodd swydd debyg gan y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] ac yn y man fe ddaeth yn Reolwr Gyfarwyddwr y cwmni hwnnw. Datblygodd chwareli'r cwmni ger [[Trefor]] yn gyflym dan ei reolaeth. Fo oedd yn gyfrifol am adeiladu [[Harbwr Trefor]] lle gellai llongau stêm o hyd at 500 tunelledd lwytho, am adeiladu system o 5 inclèin, ryw 1880 llath o hyd i gyd, a gweithdy i drwsio a chynnal peiriannau ac injans stem y cwmni. Datblygodd ymhellach y gwaith o adeiladu [[Pentref model Trefor|pentref Trefor]], yr oedd y cyn reolwr [[Trefor Jones]] wedi dechrau arno, ynghyd ag ysgol, a gosod traeniau effeithiol trwy'r pentref. Fo oedd symbylydd a phensaer [[Eglwys San Siôr, Trefor]], a godwyd 1879-81.<ref>Coflein: cofnod ar-lein am Eglwys Trefor [https://www.coflein.gov.uk/cy/site/43740/details/st-georges-church-trefor], cyrchwyd 20.20.2020 </ref>
Ym 1868, cafodd swydd debyg gan y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] ac yn y man fe ddaeth yn Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni hwnnw. Datblygodd Chwarel yr Eifl yn Nhrefor yn gyflym dan ei reolaeth. Ef fu'n gyfrifol am adeiladu [[Harbwr Trefor]] lle gellai llongau stêm o hyd at 500 tunelledd lwytho; system o 5 inclèin, rhyw 1880 llath o hyd i gyd, a gweithdy i drwsio a chynnal peiriannau ac injans stêm y cwmni. Datblygodd ymhellach y gwaith o adeiladu [[Pentref model Trefor|pentref Trefor]], a ddechreuwyd gan y rheolwr blaenorol, John Hutton a'i fforman [[Trefor Jones]], yr enwyd y pentref ar ei ôl. Farren hefyd a oedd tu ôl i adeiladu ysgol gynradd i Drefor, a agorwyd ym 1878, a gosod traeniau effeithiol trwy'r pentref. Ef, fel Eglwyswr blaenllaw, oedd symbylydd a phensaer [[Eglwys San Siôr, Trefor]], a godwyd 1879-81.<ref>Coflein: cofnod ar-lein am Eglwys Trefor [https://www.coflein.gov.uk/cy/site/43740/details/st-georges-church-trefor], cyrchwyd 20.20.2020 </ref>


Tua 1895, dyluniodd waith Chwarel y Gwylwyr (a oedd yn perthyn i'r un cwmni â Chwarel yr Eifl), yn cynnwys glanfa yn rhedeg i'r môr a thramffordd.
Tua 1895, cynlluniodd waith Chwarel y Gwylwyr yn Nant Gwrtheyrn (a oedd yn perthyn i'r un cwmni â Chwarel yr Eifl), yn cynnwys glanfa yn rhedeg i'r môr a thramffordd.


Dywedir iddo fod yn reolwr da ar ei ddynion, a chymerai ddiddordeb yn eu lles nhw a lles eu teuluoedd. Bu digon o anghydweld o ran trefniadau ac amgylchiadau gweithio rhyngddo fo a'r gweithlu, ond y gair oedd ei fod yn gallu dod i delerau gyda'i ddynion heb achosi drwgdeimlad ac anfodlonrwydd parhaus. Enwyd stryd yn Nhrefor, Stryd Farren, ar ei ôl.
Dywedir iddo fod yn rheolwr da ar ei ddynion, a chymerai ddiddordeb yn eu lles hwy a'u teuluoedd. Fodd bynnag, bu digon o anghydweld o ran trefniadau ac amgylchiadau gweithio rhyngddo ef a'r gweithlu, ond dywedid ei fod yn gallu dod i delerau gyda'i ddynion heb achosi drwgdeimlad ac anfodlonrwydd parhaol. Enwyd stryd yn Nhrefor, Farren Street, ar ei ôl - ond newidiwyd ei henw i Eifl Road (Ffordd yr Eifl erbyn hyn) ymhen amser.


Bu'n byw yn nhŷ [[Plas Trefor]] pan ddaeth i Ogledd Cymru, ond yn nes ymlaen symudodd i ardal Twtil o dref Caernarfon. Mae rhai ffynonellau'n hawlio nad oedd ganddo fo a'i wraig blant, ond mae Cyfrifiad 1901 yn dangos fod ganddo wraig iau o lawer na fo ei hun, sef Issabel, dynes o Iwerddon a aned ym 1868, a dau o blant William J G, a aned ym 1893 ym Mangor, a Reginald J a aned ym 1896 yng Nghaernarfon. Fe ddangosir y Cyfrifiad ym 1901 nad oedd neb o'r teulu'n gallu siarad Cymraeg.<ref>Cyfrifiad 1901, RG13/5272</ref>
Chwaraeodd hefyd ran gyhoeddus yn yr ardal ehangach. Bu'n aelod o Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon (yr oedd ei hawdurdod yn ymestyn ar hyd yr arfordir cyn belled â [[Clynnog Fawr|Chlynnog]]. Bu'n gynghorydd sir o'i gychwyn ym 1888 hyd ei farwolaeth, ac yn gadeirydd Pwyllgor Rheilffyrdd Ysgeifn y cyngor sir. Gwasanaethodd fel ynad heddwch am flynyddoedd lawer, gan orffen fel prif ynad y fainc. Ym 1899, fe'i codwyd yn Uchel Siryf [[Sir Gaernarfon]].  


Chwaraeodd hefyd ran gyhoeddus yn yr ardal ehangach. Bu'n aelod o Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon (yr oedd ei hawdurdod yn ymestyn ar hyd yr arfordir mor bell â [[Clynnog Fawr|Chlynnog]]. Roedd yn gynghorydd sir o'i gychwyn ym 1888 hyd ei farwolaeth, ac yn gadeirydd ar Pwyllgor Rheilffyrdd Ysgeifn y cyngor sir. Gwasanaethodd fel ynad heddwch am flynyddoedd lawer, gan orffen fel prif ynad y fainc. Ym 1899, fe'i godwyd yn Uchel Siryf [[Sir Gaernarfon]].
O ran gwleidyddiaeth, roedd yn Unoliaethwr Rhyddfrydol, a safodd yn erbyn [[John Bryn Roberts]] yn [[Etholaeth Eifion]] ym 1886, er iddo golli'n drwm.<ref>''Caernarvon & Denbigh Herald'', 12 Ebrill 1901, t.5</ref>


O ran gwleidyddiaeth, roedd yn Unoliaethwr Rhyddfrydol, a safodd yn erbyn [[J. Bryn Roberts]] yn [[Etholaeth Eifion]] ym 1886, er iddo golli'n drwm.<ref>''Caernarvon & Denbigh Herald'', 12 Ebrill 1901, t.5</ref>  
O ran difyrrwch, roedd yn aelod o'r Clwb Iotio Brenhinol Cymreig, ac roedd ganddo nifer o iotiau, yn cynnwys y ''Lady Belle'' a'r ''Lady Bessie''.<ref>Caernarvon & Denbigh Herald'', 12 Ebrill 1901, t.5</ref>  


Fe'i gydnabuwyd gan ei broffesiwn: roedd yn aelod o Gymdeithas Beirianyddol Lerpwl, ac yn gadeirydd ar honno ym 1897. Roedd yn aelod o'r Gymdeithas Ystadegol. Roedd yn aelod cysylltiol o Sefydliad y Peirianwyr Sifil o 1868 ymlaen, ac yn aelod llawn o 1896 ymlaen.
Fe'i cydnabuwyd gan ei broffesiwn: roedd yn aelod o Gymdeithas Beirianyddol Lerpwl, ac yn gadeirydd ar honno ym 1897. Roedd hefyd yn aelod o'r Gymdeithas Ystadegol. Bu'n aelod cysylltiol o Sefydliad y Peirianwyr Sifil o 1868 ymlaen, ac yn aelod llawn o 1896 ymlaen.


Erbyn ei farwolaeth ar 10 Ebrill 1901 o strôc, roedd yn byw yn Nhrefenai, Caernarfon.<ref>Prif ffynhonell yr erthygl hon yw ''Minutes of the Proceedings of the Institution of Civil Engineers'', (Cyf.144, 1901, rhan II), tt.314-15 [https://www.icevirtuallibrary.com/doi/pdf/10.1680/imotp.1901.18850] cyrchwyd 20.02.2020</ref> Fe'i ddilynwyd yn chwareli Trefor a Nefyn gan [[Augustus Henry Wheeler|A.H. Wheeler]].<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 24 Awst 1915</ref>
Bu'n byw yn nhŷ [[Plas Trefor]] pan ddaeth i Ogledd Cymru, ond erbyn ei farwolaeth ar 10 Ebrill 1901 yn dilyn strôc, roedd yn byw yn Nhrefenai, Caernarfon.<ref>Prif ffynhonell yr erthygl hon yw ''Minutes of the Proceedings of the Institution of Civil Engineers'', (Cyf.144, 1901, rhan II), tt.314-15 [https://www.icevirtuallibrary.com/doi/pdf/10.1680/imotp.1901.18850] cyrchwyd 20.02.2020</ref> Fe'i claddwyd ym mynwent Llanfair-isgaer. Ei olynydd fel rheolwr chwareli Trefor a Nefyn oedd [[Augustus Henry Wheeler|A.H. Wheeler]].<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 24 Awst 1915</ref>
 
Roedd ganddo frawd iau, [[William Farren]], a ddaeth i fyw i Gaernarfon, gan ymgartrefu yn "The Mount", Lôn Priestley gyda'i deulu. Erbyn i George Farren farw, roedd William wedi ymuno ag ef yn y cwmni.
 
Yn dilyn marwolaeth Farren penodwyd [[Augustus Henry Wheeler|A.H. Wheeler]] yn rheolwr ar chwareli Trefor a Nefyn.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 24 Awst 1915</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:44, 9 Mehefin 2022

Roedd George Farren (1836-1901) yn reolwr Chwarel yr Eifl, Trefor. Cafodd ei eni yn Llundain, yn fab hynaf bargyfreithiwr, yntau'n George Farren. Ar ôl derbyn hyfforddiant i fod yn bensaer, cafodd ei benodi gan gwmni adeiladu mawr Freeman, gan fod yn gyfrifol am y gwaith cerrig yn Nociau Surrey, goleudy Hanois ar Ynys Guernsey, a strwythurau ar Reilffordd Ymestynnol Gorllewin Llundain. O 1863 hyd 1867, cafodd waith fel rheolwr cyffredinol a pheiriannydd Cwmni Ithfaen Ynys Wair (Lundy).

Ym 1868, cafodd swydd debyg gan y Cwmni Ithfaen Cymreig ac yn y man fe ddaeth yn Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni hwnnw. Datblygodd Chwarel yr Eifl yn Nhrefor yn gyflym dan ei reolaeth. Ef fu'n gyfrifol am adeiladu Harbwr Trefor lle gellai llongau stêm o hyd at 500 tunelledd lwytho; system o 5 inclèin, rhyw 1880 llath o hyd i gyd, a gweithdy i drwsio a chynnal peiriannau ac injans stêm y cwmni. Datblygodd ymhellach y gwaith o adeiladu pentref Trefor, a ddechreuwyd gan y rheolwr blaenorol, John Hutton a'i fforman Trefor Jones, yr enwyd y pentref ar ei ôl. Farren hefyd a oedd tu ôl i adeiladu ysgol gynradd i Drefor, a agorwyd ym 1878, a gosod traeniau effeithiol trwy'r pentref. Ef, fel Eglwyswr blaenllaw, oedd symbylydd a phensaer Eglwys San Siôr, Trefor, a godwyd 1879-81.[1]

Tua 1895, cynlluniodd waith Chwarel y Gwylwyr yn Nant Gwrtheyrn (a oedd yn perthyn i'r un cwmni â Chwarel yr Eifl), yn cynnwys glanfa yn rhedeg i'r môr a thramffordd.

Dywedir iddo fod yn rheolwr da ar ei ddynion, a chymerai ddiddordeb yn eu lles hwy a'u teuluoedd. Fodd bynnag, bu digon o anghydweld o ran trefniadau ac amgylchiadau gweithio rhyngddo ef a'r gweithlu, ond dywedid ei fod yn gallu dod i delerau gyda'i ddynion heb achosi drwgdeimlad ac anfodlonrwydd parhaol. Enwyd stryd yn Nhrefor, Farren Street, ar ei ôl - ond newidiwyd ei henw i Eifl Road (Ffordd yr Eifl erbyn hyn) ymhen amser.

Chwaraeodd hefyd ran gyhoeddus yn yr ardal ehangach. Bu'n aelod o Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon (yr oedd ei hawdurdod yn ymestyn ar hyd yr arfordir cyn belled â Chlynnog. Bu'n gynghorydd sir o'i gychwyn ym 1888 hyd ei farwolaeth, ac yn gadeirydd Pwyllgor Rheilffyrdd Ysgeifn y cyngor sir. Gwasanaethodd fel ynad heddwch am flynyddoedd lawer, gan orffen fel prif ynad y fainc. Ym 1899, fe'i codwyd yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon.

O ran gwleidyddiaeth, roedd yn Unoliaethwr Rhyddfrydol, a safodd yn erbyn John Bryn Roberts yn Etholaeth Eifion ym 1886, er iddo golli'n drwm.[2]

O ran difyrrwch, roedd yn aelod o'r Clwb Iotio Brenhinol Cymreig, ac roedd ganddo nifer o iotiau, yn cynnwys y Lady Belle a'r Lady Bessie.[3]

Fe'i cydnabuwyd gan ei broffesiwn: roedd yn aelod o Gymdeithas Beirianyddol Lerpwl, ac yn gadeirydd ar honno ym 1897. Roedd hefyd yn aelod o'r Gymdeithas Ystadegol. Bu'n aelod cysylltiol o Sefydliad y Peirianwyr Sifil o 1868 ymlaen, ac yn aelod llawn o 1896 ymlaen.

Bu'n byw yn nhŷ Plas Trefor pan ddaeth i Ogledd Cymru, ond erbyn ei farwolaeth ar 10 Ebrill 1901 yn dilyn strôc, roedd yn byw yn Nhrefenai, Caernarfon.[4] Fe'i claddwyd ym mynwent Llanfair-isgaer. Ei olynydd fel rheolwr chwareli Trefor a Nefyn oedd A.H. Wheeler.[5]

Roedd ganddo frawd iau, William Farren, a ddaeth i fyw i Gaernarfon, gan ymgartrefu yn "The Mount", Lôn Priestley gyda'i deulu. Erbyn i George Farren farw, roedd William wedi ymuno ag ef yn y cwmni.

Yn dilyn marwolaeth Farren penodwyd A.H. Wheeler yn rheolwr ar chwareli Trefor a Nefyn.[6]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Coflein: cofnod ar-lein am Eglwys Trefor [1], cyrchwyd 20.20.2020
  2. Caernarvon & Denbigh Herald, 12 Ebrill 1901, t.5
  3. Caernarvon & Denbigh Herald, 12 Ebrill 1901, t.5
  4. Prif ffynhonell yr erthygl hon yw Minutes of the Proceedings of the Institution of Civil Engineers, (Cyf.144, 1901, rhan II), tt.314-15 [2] cyrchwyd 20.02.2020
  5. Yr Herald Cymraeg, 24 Awst 1915
  6. Yr Herald Cymraeg, 24 Awst 1915